a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2
Ⓗ 1994 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 5


ACT UN

GOLYGFA 5

Mae MARY a BETH yn siarad a'i gilydd, yn y "Great Escape".

Mary

Pam... pam... dere mlân... Pam?



Cyfyd MARY i adael.

Beth

Aros... plis.

Mary

Pam ddylen i. Os nad wyt ti'n egluro pam, os nad ydw i'n deall pam bo ti'n oeri dy din ar gornel stryd allai ddim o dy helpu di... Pam?

Beth

Allai ddim...

Mary

Elli di ddim be?

Beth

Allai ddim gweud 'tho chi... os na allai erbyn... tymor nesa.

Mary

Ffycin stiwdent arall.

Beth

Os na alla erbyn tymor nesa... (Mae'n torri.)

Mary

'Na ti bach paid llefen. (Cymer tissue allan o'i bag.) Na ti.

Beth

Sori.

Mary

Boche bach pert dy ti. Fel doli fach... Be ti'n galw dy hun?

Beth

Sori?

Mary

Beth yw dy enw di?

Beth

Bethan.

Mary

Ti di bennu'r drinc 'na nawr?

Beth

Do.

Mary

Ti ishe un arall?



Ysgwyd BETH ei phen. Tynna MARY claw hammer o'i bag.

Mary

Gwd, nawr grynda Bethan. Grynda fel se ti mewn ffycin darlith. Os ydw i neu un o'r merched yn dy weld di rownd y Pier, ar gornel stryd unrhyw le rownd y dre ma, fydd dim gwyneb ar ôl 'dy ti. Ti'n deall. Nele pîg y claw hammer 'ma na llafn cyllell yffarn o fes i 'r boche bach pert 'na. A siwd licet ti fynd nol i dy goleg, i dy fywyd parchus, yn gris cros o greithie. Nyge whare oboutu odw i Bethan. Nawr ffyc off mas o ma.



BETH yn symud yn araf i ffwrdd. Sŵn drilio.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2