a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2
Ⓗ 1994 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 2


ACT U...OLYGFA...ae MARY yn eistedd tu fewn i dafarn "The Great Escape", mae'n dal potel Pils i'w phen fel gwn.

Mary

Faint ma un swig yn lladd? O'r meddwl, o'r cof... P'un wi isie'i ladd anyway, cadw'r meddwl, canslo mas y cof? Parte ohono fe. Mae'n ffycin edrych 'to! Ond pwy sy'n feistr ar bwy, y meddwl ar y cof neu'r cof ar y meddwl. (MARY'n dal potel i'w phen eto.) Odi mae e'n edrych a jocan pido. All e ddim credo 'i lyged e. Reit boi bach. Fe sy'n cochi nyge fi. Mae e wedi bod yn Horizon View cwpwl o withe. Nyge fi gas y fraint. O'dd e moyn rhywun ifancach. Ffycin cheek. Ond fi agorodd y drws. A mae e'n cofio. Drycha, mae e fel ffycin bitwrten. O, Crist 'na pam... Honna sy'n dod o'r Ladies, draw at 'i ford e. 'I ffycin wraig e. Brilliant. Arllws gweddill 'i beint law i wddwg. Lawr 'i dwll pwdin. Bwldagu. Cerdded mas. Y missus – all hi ddim deall beth yw 'i hast e... Beth o'dd e'n feddwl fydden i'n neud? Cerdded lan a gweud bod Linda'n cofio ato fe, yn holi pryd o'dd e moyn 'i ffwc nesa...?



Mae BETH yn sefyll tu allan, ar gornel stryd ynghanol y dre yn agos i'r stesion. Mae hi'n rhynllyd o oer.

Sŵn glaw trwm.

Beth

Alle unrhyw un ddod hibo... for close behind there walks a fiend... Ripper. Rapist. Iesu Grist... ffyc off... meddwl am rwbeth arall... Antartica. Ma teips o algae yn tyfu o dan yr iâ, minus five point five selsius. Ma nhw di ffeindio peth algae yn dala'n fyw mewn tymheredd o minus eight... Shit, shit, shit. Ma bywyd yn gallu dod i arfer da amode ddyle fod yn amhosib, ymhell o dan yr ice floes, pan bo rheidrwydd a... O ffyc, ffyc, ffyc. Os daw rhywun ata i, os bydd rhaid... wy'n mynd i fod yn sych. Yn sownd o sych. Fydd e'n ffycin artaith. Fel ca'l dy repo... Alla i ddim neud e... Alla i ddim.

Mary

Un shot arall. Un hit cyn wynebu gatre. Se'n i'n dala'n ddigon ffresh a ifanc i witho'r hotels ma... Ma'i mor gynnes miwn fan hyn. Mor gyfforddus. Ma'r twll lle na sda ni fel ffycin ffridj. Synnu bod neb o'r bastards yn gallu ca'l cwnad, da'r chill factor sy'n clampo'u coce a'u ceillie nhw. Ti'n gwbod, hwn yw'r gaea oera wy'n cofio ers i fi fod ar y gêm. A ma 'ny yn amser hir. Jest ugen mlynedd. Coldest winter in Mary's working memory. Dyddie ffycin creulon. Yn bob ffycin ffordd. Iechyd. Ffyc... wedodd y twllpwdin wrth y manejyr. Tara... gadawest di dy bants di yn y bedrwm cariad... y rhai patrwm tartan... y wraig ddewisodd nhw ife, bach?

Beth

Ne walle dylen i fod wedi gwishgo'r sgyrt. I edrych y part. Sa'i moyn edrych y blydi part. Be se rhywun wy'n nabod yn paso... Siwr bod lot o'r merched yn mynd mas mewn jeans a jumpers. Bownd o fod. Ne nagy'n? O, ffyc. Sa'i hyd no'd wedi rhoi lot of fec-yp arno... Iesu. Ma hyn yn ofnadw. Deg munud arall, a wy'n rhoi give up. Mae e'n bendant yn edrych arno i. A'n gwbod bo fi'n edrych arno fe'n edrych. Mae e'n blydi oglo. Alla i neud hyn. Odw i fod i ymateb? Cerdded draw ato fe? Na, jyst aros ble wyt ti. Alla i neud hyn. Drycha ar dy watsh. Dala'i syllu. Jocan bo ti'n dishgwl cwrdd rhywun. Ond nid 'ny'r ffycin point ife? Ma rhaid i fi neud hyn. Gwena. Gw on. O, Crist – na... Beth yffarn odw i fod i neud? Mae e'n cerdded bant. Yn mynd. Shit... shit... shit.



Mae MARY wedi dod allan o'r dafarn. Mae hi'n tynnu ei chôt yn dynn amdani. Mae hi'n troi am ennyd wrth basio BETH.

Mary

Paid cadw dy gefn at neb bach. Busnes yn wael odi e bach?



BETH yn cogio nad yw wedi clywed.

Mary

Wyneb newydd? Ti'n gwbod ble wyt ti?... mute machine myn yffach i.



Mae BETH yn dal i beidio ag ateb nac edrych yn ôl.

Mary

Ti'n sefyll ar y ffin rhwng dou o'r beats. Cops canol dre a'r British Transport Police o'r stesion. Fan hyn ma'r ddou batsh yn cwrdd. Patrols bob cwpwl o orie. Lle dodji ar y diawl. Dim ateb. A winos off y stesion. Ma un o nhw wastod yn cario cyllell. Yr un mewn parka a hen drwser fflêrs, gwallt lawr at 'i sgwydde. Watsha'r diawl 'na... Fel arall, siwr gei di amser lyfli...

Beth

Gad fi fod, plis.

Mary

Tywydd ma ddim yn help chwaith. Dynnith y cops ti miwn ar noson fel hyn just i ga'l esgus i fynd nôl i'r cop shop am ddishgled a smôc. Rhai o'r cops lawr na'n real ffycin bastards fyd. Gropo dy dits di, dwylo lan rhwng dy goese di...

Beth

Ffyc off.



Mae'r ddwy yn rhewi.

Golau yn diffodd.

Cacoffoni o ffôns.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2