a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2
Ⓗ 1994 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 1

ACT DAU
GOLGYFA 1

Llais
Sai'n meddwl wela i byth mo'r haul yn codi 'to.
Sai'n meddwl goda i o fan hyn byth 'to.
Dan y nghefen i'n o'r da whys.
Trw'r nos fel clwtyn yn ca'l i wasgu'n glwme bach,
Ma pob ffycin gwely yn ffycin bedd.
Liverpool yn gwitho ar Hope Street, Llunden yn gwitho ar Brewer Street.
Wastod yn gwitho ar, byth yn byw yn....
Tynnu'r spync mas o'u prics nhw fel ca'l puss i sithu mas o bolleth. Ca'l gwagad.
Dim pleser. Felse dod yn boendod. Hen ysfa tu fiwn 'u penne a'u coce nhw.
Tuchan fel ffycin anifeilied.
Baglu miwn i ddillad, edrych yn grac, yn wyllt, ond byth i fyw yn llygad i.
A nôl mas i deimlo'n grac wrth y byd, i simro a ffrwtian nes i'r bolleth godi 'to.
Nes iddyn nhw yfed digon o hen gwrw brwnt i ddod a gwasgu 'u drewdod yn drwn.
Dros rhyw ferch arall a tasgu stribedi o hen ddolur llidus miwn i gorff menyw ddiarth.
Hope Street, Lime Street, Brewer Street, Poland Street, Eversholt Street, Berwick Street.
A popeth wy'n gofio am bob un yn gwmws run ffycin peth.
Pob un â pafin hir yn arwen at ffau yr anifel gwyllt.



Golau i fyny ar SCOOT, sy yn ei drôns a'i sanau yn paratoi i wisgo amdano ar gyfer cinio dynion busnes. Wrth wisgo mae e'n ymarfer araith gan edrych ar ei hunan yn y drych o bryd i'w gilydd.

Scoot

Gyfeillion – diwedd blwyddyn ond dechre'r dyfodol. Fel y'n ni gyd yn y cylch bach dethol ma o ffrindie busnes yn gwbod, ma na ochor arall, fwy creadigol i Sammy Scoot. Lico meddwl i fod e'n dipyn o brydydd yn ogystal ag yn broffiteer. I ni, y dynion busnes, ar ddiwedd blwyddyn arall:
Cyfnod caled, blwyddyn anodd, fuodd 'leni,
Ond dyma ni, yn dala'i wenu,
Tra'n gneud ein rhan dros well yfory,
In our hands yn mae'r dadeni.


Ond o ddifir nawr gyfeillion, pan ddewisoch chi fi i weud gair bach ar ôl y'n cino Nadolig ni – achlysur anffurfiol yn arwen at lased ne ddou mwy anffurfiol byth – pan ddewisoch chi fi, o'n i yn nerfus. Nid nerfus o siarad – ma llwyfan a top table yn ail natur i fi erbyn hyn - ond nerfus o bwy nodyn o obeth ne optimistieth allen i weu mewn i'r truth bach ma... Siwt galle fe, Sammy Scoot, sy wedi ca'l y flwyddyn fwya anodd erio'd yn hanes i fentre busnes niferus, siwt y gall e weud bod yr haul yn dringo'n uwch ar y cynfas glas, bod petale'r rhosod eiddil yn graddol agor ar ôl yr hirlwm. Siwt, medde chi. Wel, medde fi – mi alla i. O, galla. Ac achos y dathliad yw y'n bod ni yn dala ma. Dala ma i godi y'n gwydre heddi, i agor presante da'n gwragedd a'n plantos fory. Ni'n dala ma, nid yn unig yn "leaner and fitter", ond yn fighting fi hefyd os ca'i weud. Ma erill wedi mynd dan y don. Unigolion, busnesi, carfanne cyfan o gymdeithas. Do'n nhw ddim ddigon cryf. Mi ydyn ni. A 'na pam y'n ni yn dala ma.

Wrth ddod trw eiriasder y tân yn yr efel ma'r harn yn caledi. Wrth fynd trw'r wal o boen ma'r rhedwr marathon yn ennill y ras, ffrindie. A ni sy wedi mynd trwy'r ddaeargryn ond wedi cadw'n penne uwchben y tonne, ni sy'n mynd i fedi'r cynhaeaf mowr pan fydd melin yr economi yn dechre llifo eto. Wy'n teimlo y galla i weud gyda'r emynydd ffrindie. "Tomorrow belongs to me."

Motto y nhad o'dd trechaf tresied, gwannaf gwaedded. Erbyn heddi dy'n ni ddim yn lico mynd mor bell â hynny – y'n ni yn lico mynd ymhellach... Gadwch i ni ddathlu mai ni yw y trechaf yn y gymdeithas sy ohoni. Ni yw pen y pyramid. Ag o ben y pyramid ni sy'n gweld y dyfodol gliria. I can see the promised land, ys gwedodd Kennedy. Dyn mowr... A dewch i ni fwynhau'r yfory llewyrchus, bras, sy ar ddod. Achos ni'n i haeddu e. Every top dog will have his day, gyfeillion. Diolch yn fowr. A ffrindie – Hasta la vista.



Mae SCOOT erbyn hyn yn ei drowsus, crys a tei-bo. Mae'n cynnig llwnc-destun i'w gynulleid fa ddychmygol. Golau i lawr.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2