a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2
Ⓗ 1994 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 3


ACT UN

GOLYGFA 3

Sŵn cacoffoni o ffôns.

Yr un pryd mae SCOOT bob hyn a hyn yn treio cael gafael ar rywun ar ei Vodaphone. Mae'n cael ateb ond mae'r ffôn yn ei ddiffodd ei hun.

Scoot

Ffyc.



Mae'n rhoi'r ffôn o'r neilltu.

Scoot

Wy'n dihuno'n y bore a wy'n diolch i'r yffarn taw ddim bildyr odw i. Sdim ffycin tast da bildyrs. Drychwch ar 'u tai nhw'n hunen. 'Ny'r gwahaniaeth rhwng bildyrs a ni'r landlords. Ma bildyr yn gallu neud ty pawb arall i edrych fel palas ond tŷ 'i hunan fel crap – ma landlord yn neud tŷ pawb arall i edrych fel twlc ond tŷ fe'i hunan fel ffycin Versailles.



Cacoffoni ffôn.

Scoot

Brian... Helo. Brian?... Ffyc.



Rhy'r ffôn i lawr. Chi'n foto i'r diawled... Clampdown on crime. A be chi'n ga'l? Hyn. Mae'n dal dolen drws pres.

Scoot

Dorrodd rhyw fastards miwn ma nithwr. Le ffwc odd y ffycin slags na law stârs. Duw a ŵyr. God only knows. Nhw sy'n cwyno bo nhw'n brin o arian. Nhw sy'n hefyd yn cloco bant am y dydd cyn pump yr hwyr. Bant i'r dafarn am 'u top-yp o anasthetic siwr fod. Se'n i wedi bod ma. Mean male on his territory. Fydden i wedi darnladd y ffycyrs. Gnoies i dop clust boi bant unweth. Hanch deidi, ac odd rhimyn o golifflower ear fel ail gymshield rhynt y ngyms i a ngwefle i. Lawr ym mherfeddion ryc, a felse centipede o studs yn wurlitzo dros y nghefen i. Run pryd roiodd rywun droiad i mhwrs i. Es i'n ffycin seico. Dries i fyta'n ffordd mas i ole dydd. Se'n i wedi dala'r bastards. Fydde nhw wedi colli mwy na tope'u blydi cluste. Fydde'n i wedi craco'u pengloge nhw. Wedyn'u sbaddu nhw... Haws na galw'r cops, nenwedig i rwle fel hyn. Come on punk, make my day!



Ffôn yn canu. Helo... Helo... Brian... Ffyc.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2