ACT UN GOLYGFA 8 Daw y golau nôl fyny ar SCOOT, sy rhywle oddi allan i'r parlwr cefn. |
|
Scoot |
Pennill i'r Tŷ Hwn, Cnocaf gannoedd o hoelenni, Mewn i ddege o baredi, Nos a dydd rwy yn aberthu, I baratoi fy nhŷ i'w werthu. |
Mae Vodaphone SCOOT yn canu. |
|
Scoot |
Helo... Helo? Wel helo, Buster bach... Ie Dadi... Na ma Dadi yn fishi cariad. Ie, yn neud lot o arian i brynu pethe neis i ti a Emma Jane a Mami. Ie... Walkman newydd, ie, a crys rygbi Cotton Traders. Ie a crys Man. U., ail liwie away, a Reeboks y Kill for These Model. Ie grynda bach... ie a'r Goalie Gloves welon ni yn y precinct Sadwrn ddwetha... Kieron, grynda nawr... ti ddim fod i ffono'r rhif ma wyt ti cariad... Ie crwtyn pwy wyt ti? Crwytyn Dadi? Yeah buddy, high fives... Beth? |
Ond mae'r ffôn yn diffodd yn ddirybudd eto. |
|
Scoot |
Helo... Helo... Ffyc. Dead locks newydd, ffrynt a bac. Ma lladrade'n troi'n bla a'r Nadolig ar ddod. Bastard cryts ifanc anystywallt ma, au bastard rhieni, i gyd isie arian extra i hala ar bresante. Dwgyd wrth ddinasyddion onest a diflino fel fi dalu am y rhialtwch. Winne wedyn yn gorffod hala mwy fyth o arian yn atgyfnerthu drwse a adnewyddu cloion. |
Mae MARY yn y parlwr cefn. |
|
Mary |
A tithe wedyn yn mynd i godi'n rent ni? |
Scoot |
Sdim pwynt i ni drafod y rent nes bo i'n gwbod os ych chi'n ca'l aros mlân. A ma hynny, gwd girl, yn sub judice. Pan fydda i wedi bennu'r ffycin repars ma... Ma'r flwyddyn newydd yn amser o gymryd stoc... Os ffindia i brynwr fydd y lle ma'n mynd i'r highest bidder. |
Mae SCOOT yn rhoi ei offer o'r neilltu, yn sychu'r chwys oddi ar ei dalcen ac yn agor can o gwrw. |
|
Scoot |
Pennill i'r Highest Bidder Hwnnw sy a'r boced ddwfna, Hwnnw sy a'r wallet lawna, Hwnnw gaiff... Hwnnw fydd... |
Nid yw SCOOT yn gallu gorffen ei bennill. Cymer swig arall o'i gan cwrw. Mae SCOOT yn edrych ar LINDA'n hanner cwsg ar y soffa. Mae'n estyn cic ati a'i droed. |
|
Scoot |
A hon. Hon mas hyn. Mae'n ganol prynhawn – ma hi jyst a paso mas. |
Linda |
Nadw i ddim. |
Mary |
Gad llonydd iddi. |
Scoot |
Be sy'n bod arni gwedwch. Yr ast surbwch. Mwstra. |
Linda |
Ffyc off. |
Scoot |
Ffyc off dy hunan. Bitsh bacward. |
Mary |
Ca'l dipyn bach o drafferth dygymod â'r gorffennol ma hi heddi, na'i gyd. |
Scoot |
Gorffennol – ffyc y gorffennol. |
Mary |
New millennium man, siwr bo dim gorffennol da ti. Wedi cael dy greu mas o gelloedd plastig a dafne o wa'd o'r... |
Scoot |
Saer odd dadcu. Grosyr odd Nhad. A dipyn bach o fardd, a boi steddfode. Landlord ydw i. Boi busnes, ond â blas a bethe gore bywyd. Celf – a capital. Upward curve, Mary. 'Ny beth yw gwerth y gorffennol – rwbeth i edrych nol arno fe... Hwnnw sydd a'r boced ddwfna, Hwnnw sydd a'r wallet lawna, Hwnnw gaiff – y jam a'r bara, Hasta la vista – ffyc you baby. |
Mae SCOOT yn dechrau cerdded allan ond mae LINDA yn ei stopio. |
|
Linda |
A pwy yw'r highest bidder? |
Scoot |
Amser a ddengys. Fe ddaw rhywun – a fe fydd e, pan ddaw e, yn cynnig rhofeidi o arian. Rhaeadr o readies... |
Linda |
Am y lle ma? |
Scoot |
Sda chi ddim idea o werth dim byd o's e... Am y brics a'r mortar. Am y grilles newydd ar y ffenestri, am y deadlocks newydd ar y drwse, am y cafne newydd dan y bondo a'r slabs mas fanna ar y patio... |
Mary |
Wedyn? |
Scoot |
Wedyn, bingo. I fi. Capwt i chi... Hyd no'd os yw hi'n dala i rewi'n gorn, yn minus twenty mas 'na, mas 'na fyddwch chi ar ych tine ar y pafin. Pam ddylech chi fecso? Ca'l ych symud mlân yw'ch hanes chi a'ch teip. Un start newydd o blith dege yn ych bywyde chi... Ga'i wared pob ôl ohonoch chi o'r lle ma. Eith popeth ar y goelcerth. (Mae SCOOT yn gwenu ar y epa.) Heblaw y ti. Gei di aros. Yn y teulu fuest ti erio'd, ers cyn y'n amser i. Mi dy gadwa i di, yr hen fwnc. |
Mary |
Mas ar y'n tine? Fory nesa falle. Wyt ti o ddifri yn dwyt ti, Scoot? |
Scoot |
Odw, odw, odw. Cyn fory nesa se'n i'n gallu. Hasta la vista. Allai'm aros i'ch ca'l chi, y carthion truan ag, ych chi, y llysnafedd lawr U-Bend y'n landlordieth i, mas o'r lle ma, mas oddar y ffiltir sgwâr. |
Linda |
Ti di bod yn ddigon balch o'n ca'l ni dros y flwyddyn ddwetha ma. |
Scoot |
Falch o'ch rent chi. Dros gyfnod pan odd y lle ma'n cwmpo'n bishis o lechen i lechen ac o astell, pan nad oedd e'n le ffit i denantied parchus i fyw. Ond ma gwawr newydd a safone newydd ar ddod i Fifteen Horizon View. Alla i ddachre neud elw mowr o'r lle ma 'to, a'ch ca'l ych gwared chi run pryd. Double whammy i Sammy Scoot. |
Mae SCOOT yn drachtio gweddillion ei gwrw a thaflu'r can gwag ar lawr. Wrth iddo gerdded allan mae cloch drws y ffrynt yn canu. Mae SCOOT yn oedi. |
|
Mary |
Ei di 'to Lind? |
Linda |
No way. |
Mary |
Sai'n barod. |
Linda |
Wy'n siwps. Ishe cysgu. Ishe molchi. |
Mary |
Linda – ffycin cer. Cyn i ni golli busnes. |
Scoot |
Duw helpo'r dyn druan sy'n mynd i gyfnewid i ginioge prin am i ffwc da honna... |
Mary |
Gad llonydd iddi'r diawl. Bygwth yn twlu ni mas, wedyn y'n gwawdio ni... Bastard. |
Mae LINDA'n mynd mas i ateb y drws. |
|
Mary |
Ble ma dy gydwybod di, Scoot? Ble ma dy deimlade di? |
Scoot |
Yn y wallet yn 'u trefen. Cydwybod – yn dilyn y Barclaycard... Teimlad yn dilyn y Switch Card. |
Mary |
Bastard brwnt Mr. Scoot. |
Mae MARY'n camu mas o'r stafell. Gadewir SCOOT yno ar ei ben 'i hunan. Clywir y ghetto blaster yn dechrau yn y stafell goch drws nesa. Mae SCOOT yn mynd at cyrtens pipo. Rhy ei law yn ei boced, a dechrau chwarae â'i hunan. |