a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2
Ⓗ 1994 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 7


ACT UN

GOLYGFA 7

Gwelwn MARY ar domen o wast.

Mary

Wthnos ddwetha ges i alwad ffôn, bwco fisit. O'dd y boi'n thalidomide. O'dd e angen menyw yn uffernol. Alli di ddim wanco os nag o's breiche da ti. O'dd e – Graham o'dd i enw fe – newydd dderbyn furniture allowance blwyddyn. Saith cant punt. Benderfynodd e hala'r ffycin lot ar haws. Ofynnodd e i fi fynd i dŷ e am y noson pan o'dd 'i fam e bant. Blode yn y stafell wely. Champagne. A fi o'dd yr angel o ryw nefoedd bell wedi dod i ymweld ag e. Se'n i wedi dod a Crist i'r byd, ne tan wrth y duwie, fydden i ddim wedi ca'l mwy o ddiolch. O'dd e pallu stopo cusanu fi. Finne'n gadael iddo fe neud. O'dd e'n salw ti'n gwbod. Neb moyn twtch ag e medde fe. "Fydda i byth yn ddewis cynta i neb. Byth." Fi o'dd y cynta erio'd i roi ffwc iddo fe. A gas e fwy na jyst y ffwc. Gas e rwbeth fydde'n aros yn dwym yn i gof e am byth. 'Nes i'n siwr o 'ny. Cwpwrt o drysore. Allor o atgofion le galle fe fynd i addoli am rest i fywyd bach unig e. Bitch soft... ti'n iawn Linda... rhy soft i'r dyddie ma.



Golau yn diffodd.

Swn stryd brysur.

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2