a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2
Ⓗ 1994 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2, Golygfa 2


ACT DAU

GOLYGFA 2

Golau i fyny ar y parlwr cefn.

Mae LINDA yn trio rhoi colur ar ei hwyneb a siarad â rhywun ar y ffôn yr un pryd.

Linda

Na, fydd neb ma fory. Amser i fod gatre da'r teulu yw Nadolig... Sdim un da chi... Wel tyff... A ni'n bennu heddi 'mhen rhyw hanner awr... Helo?



Mae LINDA'n ail gychwyn rhoi rouge ar ei bochau. Mae hi'n astudio'i hwyneb mewn drych llaw. Mae e chefn at y drws wrth i MARY ddod fewn â bocs o nwyddau.

Mary

Haia Lind. Eat, drink and be merry...



Mae MARY'n rhoi poteli o ddiod ar y bwrdd coffi. Mae ganddi hefyd gwpwl o gapiau Siôn Corn. Mae'n rhoi un am ben LINDA. Mae BETH yn rhoi un o'r capie Siôn Corn am ben yr epa. Erbyn hyn mae LINDA wedi gweld BETH yn ei drych llaw.

Linda

Ddim jest y booze es ti i nôl te.

Mary

Os y'n ni'n ca'l parti Nadolig bach, feddyles i bydde tair yn fwy o sbort na dwy.

Beth

Digwydd bwrw miwn i'n gilydd ar Princess Way nethon ni. O'n i ddim yn gwbod bo chi'n dala yn y lle ma.

Mary

Ddethon ni dros y broblem fach 'na'n deidi iawn. Rheswm arall gallwn ni ddathlu heddi...

Beth

O'n i'n mynd i ddod i whilo amdanoch chi – holi i ble o'ch chi di symud mlân.

Linda

Tro dwetha alwest ti ma ges ti lond twll o ofon. Wy'n gwbod. Ofon Scoot, ofon beth ma disgwl i ti neud yn y job ma. O'n i'n gallu gweld bo da ti ddim stumog at y gwaith.

Mary

Ma Beth di bod nôl yn gwitho'r min nose tu fas y Metropole.

Beth

Fydden i wedi dod nôl fan hyn, se'n i'n gwbod. Ond do, roies i drei arall arni.

Linda

Grito dy ddannedd, meddwl am y papure deg, y papure ugen...

Beth

Fi 'di ennill hanner yr arian sy angen arno i'n barod. Ond o'dd hi ddim yn rhwydd. O'n i mor nyrfys mas na...

Mary

Wthnos nesa, pan fyddwn ni'n ail ddachre, ar ôl Boxing Day, gei di ddod nôl fan hyn. I witho da ni.

Beth

Beth am y gyfreth?

Mary

Ffyc y gyfreth. Ma'r gyfreth, am y tro, yn troi llygad ddall. A ma Scoot yn sownd dan y 'mhawen i. Ma popeth yn dishgwl yn dwt, yn deidi. Yn dyw e Lind?

Linda

Popeth ond y ffordd wy'n edrych a teimlo heddi. (Wrth BETH.) Ti'n cario rouge da ti?

Beth

Pam?

Linda

Be ti'n ffycin feddwl, pam?

Mary

Sda hi ddim gwythienne mân yn lledu fel inc mewn dŵr dan gro'n i boche o's e Lind. Wrth gwrs bo merch fel hon ddim yw iwso rouge. Mae'n cymryd pymtheg mlynedd o biclo dy hunan mewn jin a gwin chep i ga'l boche felna. Y boche druta yn y ddinas ma.

Linda

Y ffycin oerni sy'n neud hyn. Ma'r bar gwilod ar y blydi tân letric so called newydd ma wedi conco mas yn llwyr nawr. A nine mewn Alaska o ganol gaea fan hyn. Dim syndod bod y nghro'n i fel mae e. Blwyddyn yn un o fyncyrs drewllyd Sammy Scoot, a ni'n dachre edrych fel rwbeth mas o Night of the Living Dead. Be ti'n staran? Whilo am y feins sy di torri dan y nghrô'n i ne beth?

Beth

Sori. Jest meddwl...

Linda

Ffycin charmed life. Amser i feddwl...

Mary

A brain cells ar ôl i neud 'ny.

Linda

Am beth ti'n feddwl then, Mastermind?

Beth

Bywyd yn rhannu oera'r blaned. Ma popeth sy'n byw ar wyneb yn iâ yn Antartica yn byw ar draul milodd o betha bach byw erill sy wedi cloi miwn yn y rhew...

Linda

Never...

Beth

Nid iâ solid yw'r polar ice floes chi'n gweld. Miliynne o grystals o rew a twneli bach bach trwyddyn nhw ble ma plankton a phethach yn ca'l 'u trapo a'u cau yn yr iâ... I gyd yn ffurfio disc anferth o rew a eira sy'n rhoi platfform i'r ffurfie uwch fel pengwins a morlai allu byw. Yr organisms bach symla'n ca'l 'u rhew i gynnal y species mwya datblygiedig...

Linda

Ffycin riveting. Paid gweud taw biology ti'n studio'n y coleg 'na.

Beth

Ym – actually –... ie.



Mae LINDA'n chwerthin. BETH yn codi i roi tinsel lan.)

Beth

Beth sy wedi digwydd ynglŷn â'r darlithydd, MacPherson?

Mary

Dim byd. 'To. Heno.

Beth

Ffindies ti mas beth yn union mae e wedi neud?

Mary

Wel, do a naddo. Nygyw'r cops yn siwr os yw e wedi neud dim. Gyda kids. Ond ma nhw wedi bod yn agor i bost e dros y miso'dd dwetha...

Beth

'Na ni – achos bod e'n activist gwleidyddol. Wedes i...

Mary

A ma nhw wedi ffindio lists porn yn rhestru Lolita Sex, a cwpwl o videos mae e wedi ordro yn ddangos merched dan o'd...

Beth

Plant?

Mary

Sai'n gwbod. Merched ifanc iawn anyway. Fforna mae e'n ca'l i gics siwr fod. A ma 'na'n ddigon i'r cops drio'i hamro fe nawr...

Beth

Ond heb dystiolaeth bod e di neud dim, na bod e'n beryglus...

Linda

Ma ffycin drŵlo dros lunie o ferched bach, wanco wrth droi'r pages ne whare'r play button, ti'n abuso nhw yn dy ben yn dwyt ti? Ffycin mochyn yw e, haeddu pob peth all y cops dowlu ato fe.

Beth

O.K.... Ma 'ny'n sic... ond ma'n swno fel se'r cops yn seto fel lan da trosedd bydde fe'i hunan ddim yn trio'i gyflawni. Ddim heb i ti gynnig merch ifanc ar blât iddo fe, Mary. Entrapment yw 'na...

Mary

Pwy wanieth i fi os yw'r hen foi'n mynd lawr am stretch. Da rest y nonces ar Rule Forty Three. Sa i'n becso. Anyway, sdim lot o ddewis da fi.

Linda

Ti'n gweld, cariad bach, 'na pam y'n ni'n dala ma a to uwch yn penne. Achos bod Mary wedi bodloni co-opereto.

Mary

Pan o'dd Sammy Scoot yn meddwl bod e wedi ca'l yn gwared ni, wedes i wrtho fe, "Fine Mr. Scoot, ond wy'n mynd i ballu helpu D.S. Bibby a'r Vice Squad, ma nhwythe wedyn yn mynd i roi fi a Lindi Lw fan hyn yn y cwrt a fynd 15 Horizon View yn ca'l i enwi yn y cês. Nelen i'n siwr o 'ny."

Linda

Walle gele Mr. Samuel Scoot i enwi fyd. A ble bydde 'ny'n gadel i Nadolig teuluol joli fe, ble bydde 'ny'n gadel yr highest bidder bras sy â'u lluged ar y lle ma. So, ni'n dala ma.

Mary

A 'na pam ma rhaid i fi gadw'n ochor i o'r fargen. Wy'n mynd i finalizo'r trefniade a Bibby nawr, ffono'r MacPherson ma i weld os yw e'n cymryd y bait, wedyn y bait yn troi'n jailbait a heno â i a'r dwtsen fach lan i gwrdd ag e. Piece of piss gobitho.

Beth

A walle bydd dyn canol o'd, a tamed bach o wendid, rhyw ffantasi preifat ych a fi, yn hala blynyddoedd mewn jâl yn ca'l bwno a'i terroriso o achos rwbeth fydde fe byth wedi new onibai amdano ti a frame up y polis.

Mary

Wy'n gwbod pam bo fi'n neud hyn. Pam bo rhaid i fi. A ddim jest i droi'r sgriw ar Scoot i adel ni aros ma. Am reswm arall fyd. Er mwyn rhywun arall.

Beth

Gobitho gelli di gysgu'n dawel, Mary. Gadel nhw iwso ti fel hyn.

Mary

Ma pawb yn iwso ni ta pun. All part of the service. Ac os o's rhaid i ryw ffycin darlithydd politically right on ga'l i fywyd wedi ddistriwo am fod meddwl mochedd da fe... os yw 'ny'n mynd i bywyd yn haws am sbel i fi a'r ferch fach druenus na sy'n gorwedd gatre yn dibynnu arno i... gnâf, mi gysga i'n dawel heno, diolch yn fowr... (Ennyd) O ie. Un peth arall ffindes i mas am y MacPherson ma – odd taw darlithydd yn y adarn Biology yw e. Dysgu ti falle?

Beth

Un ddarlith yr wythnos... 'ny siwd wy'n gwbod dipyn amdano fe.

Mary

Rhoi marce teidi i ti? Sai'n beio ti am ymladd i helpu fe, beth bynnag yw dy fotive di. Ond paid ti pregethu wrtho i am pwy sy'n iwso pwy, Bethan fach.



Mae MARY yn mynd allan. Saib.

Linda

'Na ffycin weud 'tho ti. Mastermind.



Mae LINDA'n twrio i fewn i'r bocs cardboard. Yn hwn mae gwahonol drimins Nadolig, gan gynnwys rhai "paper-chain" lle mae rhaid gludo'r cylchoedd bach gwahonol liwiau at ei gilydd. Dechreua LINDA ychwanegu mwy o'r cylchoedd at y gadwyn.

Beth

Ma nhw'n dala i neud rhain te. Wy'n lico gweld parhad pethe fel hyn. Sai 'di gweld rhain ers pan o'n i'n fach... Cof plenty.

Linda

Ffindio nhw mewn bocs nes i yn y cwpwrt cefen.

Beth

Walle bo nhw wedi bod na ers blynyddoedd.

Linda

Walle taw'r rhain yw'r rhai dwetha ar y ffycin planet. Well ti neud yn fowr o'u llio nhw.

Beth

Rhan bwysig o bob Nadolig yn tŷ ni. Arwydd bod y prysurdeb mawr yn dechre. Dad a Mam a fi a'n whâr...

Linda

Whâr o'dd da ti? Dim brodyr? Ffycin llwy arian – a whâr.

Beth

Y ddwy o ni'n neud cadwyni mas o'r rhein, ac o'dd da ni rhyw drimins o'dd yn troi ar 'u hunen fel nadro'dd pob lliw. Hongian rheiny da drawing pins ar y railing bren, a rheseidi o gardie Nadolig... Ar hyd y silff ben tân, ar ben y teledu a'r dresser, ar gortyne ar wal y gegin. Mwy a mwy yn cyrradd bod dydd.

Linda

O ie – o'n ninne'n ca'l absolutely canno'dd.

Beth

Ar gannoedd.

Linda

A coeden Nadolig seis Canadian redwood...

Beth

I lyged plentyn, odd y goeden i weld mor fowr. Cofio un odd yn cyrradd...

Linda

... bron yr holl ffordd lan at y seilin.

Beth

A'r angel ar 'i phen hi'n edrych lawr arnon ni o bell...

Linda

Archangel odd da ni ar y'n coeden. Milltiroedd o dinsel, clwstwre o baubles...

Beth

A wedyn y cino. Y twrci tew.

Linda

Twrci a gŵydd yn y tŷ ni. A bacon joint maint beachball. A beef wrth gwrs. Popeth. O'dd yn ford ni fel cownter delicatessen. Pyramids o vej, a stwffin a sosus... O'n ni'n byta a byta, fi a mrodyr, nes bo ni jest a bosto. Wedyn y pwdin a'r logs chocolet a'r mins peis a'r gacen Nadolig a'r ffycin cnau a'r ffycin tangerines a'r ffycin dates... wedyn o'n ni'n byta'r ffycin celyn a'r berries a'r ffycin mistletoe... nes bo ni ffaelu symud, jest ishte na'n whwdu'n gyts dros y lle, nes bo'n perfedd ni'n hongian mas o'n penne ni, yn un ffycin teulu hapus, y teulu ffycin hapusa yn hanes y ffycin iwnifyrs...



Mae LINDA'n lluchio'r trimmings ar lawr.

Linda

'Ny ddiddorol bo ti a fi'n arfer ca'l Nadolige mor debyg yntefe.

Beth

Ti ddim yn lico Nadolig rhyw lawer, wyt ti Linda.



Mae LINDA'n newid yn sydyn. Nawr mae hi'n gwenu.

Linda

Dim byd yn bod ar Nadolig. Amser i roi, amser i rannu, fel popeth arall mewn bywyd, mae e'n dibynnu ar bwy sy gyda ti'n rhannu'r peth. Ma Nadolig yn gallu bod yn brill.

Beth

Fi sy'n dy ypseto di?

Linda

Ti a dy deip. Y ffaith bod wastod dewis da chi. Hyd nos y dewis i fforso'ch hunan i neud rwbeth fel hyn... Posh bitches.

Beth

Wedes ti bod Mary o gefndir posh. Addysg breifat a pethe.

Linda

O'dd. Ond gas hi 'i thowlu mas o'r ysgol merched, a cyn bo hir o'dd hi wedi cyfnewid y llwy arian am bigyn nodwydd syringe. Ddâth hi off 'ny – ond ffindodd hi byth i ffordd mas o'r bywyd ma. A nawr ma'i merch hi wedi mynd run ffordd. Sdim lot yn gyffredin rhyntot ti a Mary a'i merch, allai garantio 'ny i ti.

Beth

Fydden i byth wedi dychmygu y gallen i fynd trw wthnose fel hyn yn y dachre.

Linda

I ti, ma wythnose fel hyn yn ffyc ol. Darling. Ti'n gwbod i bwy ma wthnose fel hyn yn dachre – a byth yn stopo? Yn troi'n ffycin brain damage. Pwy sy heb ffycin dewis o gwbl?

Beth

Wy'n gwbod Linda, mewn ffordd bo fi'n freintiedig. Ond ma rhaid i ti gofio, wel, yn y gymdeithas sy da ni, bo hyd yn oed myfyrwyr breintiedig...

Linda

Ffyc you a dy ffycin eirie mowr. Cont smyg, weda i 'tho ti pwy. Sy neb ddewis o gwbl. Merched bach, unarddeg, douddeg, mwy a mwy o nhw mas ar y strydodd 'na. Gwerthu'u contie bach lawr y stesion ne ar bwys y pier shelter fan hyn. Ma milodd ohonyn nhw trw'r ffycin wlad heno. Yn ca'l sarnu, 'u heintio, achos bod ych ochor chi o'r ffycin ffens yn pallu edrych draw arnon ni, darling. Paid becso amdano i. Becsa am y ffycin to nesa sy mynd i fod yn siwps ar Red Rock, yn rhacs ar crac cocaine, wedi dala Aids, cyn bo nhw'r oedran o't ti yn ca'l dy GCSEs... darling.

Beth

So be ti moyn i fi neud... boddi'n hunan mewn potel fel ti. Fydd da fi greithie, hefyd...

Linda

Ffycin creithie! Am bob craith a clais sda fi ar y tu fas (dangos breichie a choese) ma dege o rai gwath tu fiwn. Ffycin map o greithie se ti'n codi clawr y pen ma. Paid ffycin insylto fi trw jocan bo ti'n deall y bywyd ma. Darling.

Beth

Fydda i methu gweud wrth neb bo fi actually wedi neud hyn.

Linda

Wel am ffycin groes i gario, ma 'nghalon i'n gwaedu drosto ti. Gorffod mynd trw fywyd heb allu sôn am y gwir brwnt wrth sharo after eights a'r liqueurs da dy ffrindie posh ar ôl soiree. Bw ffycin hw. (Ennyd.) Wy'n mynd i adel anyway. Fan hyn. Dachre flwyddyn nesa.

Beth

Y ddwy o' chi?

Linda

Sa'i di gweud wrthi hi. Hi sy moyn gwbod popeth, trenu bywyde pawb, achub pawb wrth 'u tynged...

Beth

Ble ei di?

Linda

Paid ffycin gofyn 'na. Missie. Paid ti dechre holi, dechre interffiyro.

Beth

Sai yn ffycin interffiyro.

Linda

Ble bynnag â'i, mond barnu nelet ti. Cynghori bod gwell i ga'l. Edrych lawr dy ffycin drwyn. Ma popeth yn gwitho ar sliding scale nawr. Chi'n gejo ble ych chi mewn bywyd, pwy mor hapus ych chi ar ych chi mewn bywyd, pwy mor hapus ych chi ar ych byd wrth weld faint o bobol sy'n ish lawr na chi, neith byth ddala lan. Yn hynny o beth wyt ti a ffycin Scoot yn gwmws run peth. Coleg da ti, capital dag e, yn ych rhoi chi gwpwl o ryngs yn uwch lan na'r pryfed sy'n sownd yn 'u pridd wrth wilod yr ysgol. (Ennyd.) Ges i garden Nadolig. Bore ma. Drycha ar y postmark ar yr envelope ma... {Ma hi'n edrych yn ei bag. Mae'n tynnu carden allan.} Wy di gadel yr envelope nôl yn y bedsit. O Rwsia dâth hi.

Beth

Wrtho fe. Dy...

Linda

Y nghariad i. Sigi. A mae e'n dala'n gariad i fi. Ma hon yn profi 'ny. 'Ny'r neges.

Beth

Ga i weld.

Linda

So nhw'n gwerthu Christmas cards mas fanna. So halodd e garden gyffredin ti'n gweld. Fel nâth e llynedd, a'r flwyddyn cyn 'ny...

Beth

Plis..



Mae BETH yn cymryd y garden.

Linda

Llun cath ti'n gweld. Kutchka. Gan taw fe brynodd y gath fach i fi, a ninne'n galw hi'n Kutchka... Be sy'n bod?

Beth

Best wishes. Mae'n blanc. Sdim neges, dim enw...

Linda

Wel wrth gwrs nago's e. Ti'n gwbod beth yw'r gosb am fod yn deserter mas 'na? Walle bod y wlad newid ond dyw'r military ddim. Se nhw'n i ffindio fe alle fe ga'l oes yn Siberia. A gwâth. Ma Sigi yn ddyn sy ar ffo wrth y byd...

Beth

Ond wedest ti bo nhw wedi mynd ag e nôl, ar ôl i ffindio fe fan hyn.

Linda

Do. 'Ny siwd golles i fe. 'Na pam wy ddim yn briod nawr, a plant a pets a tŷ neis a fe'n edrych ar y'n hôl ni. Ethon nhw ag e bant, a nine ar ganol trefnu priodi a symud i'r wlad... Ond nôl yn Rwsia, ddihangodd e 'to...

Beth

A ti'n gwbod ble mae e nawr?

Linda

Yn byw fel fugitive mas 'na. Aros am gyfle i ddod nôl i'r wlad ma. Safio arian i brynu ffordd mas. All gymryd blwyddyn ne ddwy. A fi fan hyn yn lladd amser, llusgo byw yn aros iddo fe ddod nôl i edrych ar y'n ôl i ... Ma'r garden a'r gath yn arwydd bod e'n dala'n rhydd, dala i aros i gyfle... a dala i 'ngharu i.



Mae MARY yn camu i fewn o'r drws, lle bu'n gwrando ar ran o sgwrs LINDA.

Mary

Ffycin celwydd. Pob gair yn gelwydd Linda.



Mae MARY'n cymryd y garden.

Mary

Ti brynodd hon yntefe Linda. Cadw i'n dy fag i ddangos i rywrai yn y pyb lawr stryd, i ambell berson fel Beth sy'n dangos diddordeb yn dy hanes di. Wedodd hi am yr postmark ar yr envelope, ond bod yr envelope ddim yn digwydd bod da hi... Wedodd hi am y garden ga's hi Nadolig dwetha, a diwrnode 'i phenblwydd, pob un a llun cath a diawl o ddim tu fiwn...

Linda

Ffycin bitsh... Ffycin bitsh!

Beth

O'n i'n credu hi!

Mary

Ffycin stori tylwyth teg yw hi. A ti ddim yn nabod Lindi Lw.



Mae MARY'n taflu'r garden nôl at LINDA.

Mary

Ged y gwir wrthi, Lind.

Linda

Wy wedi gweud y ffycin gwir wrthi. Bob ffycin gair.

Mary

Gwed e 'to. (Eiliad.) Gwed y gwir wrthi i, Lind.

Linda

O'dd da fi gariad o'r enw Sigi, reit...

Mary

Gwed y gwir.

Linda

Russian o'dd e, a mae e nôl yn Rwsia, reit...

Mary

Y gwir Lind.

Linda

Ac o'dd da ni gath fach yn y fflat. Kutchka o'dd i enw hi, reit....

Mary

Lind, gwed y gwir wrthi.

Linda

Ac o'n i'n caru Sigi... O'n i really yn. A o'dd Kutchka'n cysgu rhynto ni bob nos, yn snyglo lan, canu grwndi, pawenne bach yn pobi, pelen dwym o gariad... A 'na'r gwir. Reit?

Mary

Ddim y gwir i gyd. Ife Lind?

Linda

O'n i'n caru fe. Allen i garu fe 'to.

Beth

Be sy o'i le ar 'ny?

Mary

Weda i'r gwir wrthi, Linda. Y gwir i gyd.

Linda

Ffycin bitsh.

Mary

Morwr o Rwsia. Wedi aros mlân ar ôl i long e adel. Dim arian, dim ffycin contacts. Ffindio hon. Wanglo'i ffordd miwn i fflat hi, i bywyd hi...

Linda

O'dd amser, o'n i'n garu e, fe'n y ngharu i...

Mary

O'dd e'n gallu byw ar yr elw o'dd hon yn neud mas o werthu i hunan...

Linda

Ac o'dd da'n ni'r gath fach berta welest ti. Ti di gweld y llunie, Mary. Ti di gweld nhw.

Mary

Do. Ohono fe. O gath. Dim llunie o gariad. Na dyfodol. O'dd e'n alc. Yn iwso hi. Hala 'i mas bob tywydd. Wy wedi clywed yr hanes i gyd. Ddim wrth hon wrth gwrs. O'dd hi'n gleisie a'n gwte bob nos odd hi'n dod mas i witho. Clients mwy choosy ddim ishe hi erbyn 'ny. Gorffod gwitho'r tafarne lawr y docs. Derbyn rhywun. A Sigi'n meddwi'n gachu bob nos, ar i harian hi, ac erbyn 'ny o'dd nol Sigi ddim ishe ffwc wrthi. Wellta fe fenwod erill...

Linda

Ffycin bitsh.

Mary

Rhywun i ddod a'r arian miwn, rhywun i ga'l i cholbo a'i chico bob nos pan o'dd Sigi'n feddw gachu...

Linda

Gad fi fod Mary. Gad fi fod.

Mary

'Na ti'r cariad, na ti'r dyfodol aur o'i blân hi Beth.



Erbyn hyn mae LINDA'n tuchan crio.

Linda

Gad fi fod. Gad fi fod... y bitsh.

Mary

A do, mi âth e nôl i Rwsia. Nawr bo honno'n wlad ble ma gangsters a pimps a racketeers yn rhemp. Wedi mynd yn ôl i neud i ffortiwn mae e. Gyda'i Sysneg carbwl a'i siwtces yn llawn sterling a dollars. Fydd e'n ddyn mowr yn Rwsia erbyn hyn. Merched yn gwitho'r bars a'r hotels iddo fe, dod miwn a currency tramor. British Sigi a'i chain gang o ferched tlawd – pob un yn Linda arall a'r un creithie a'r un ffycin natur llyweth, a'r un marce ffiedd dros 'u cnawd nhw tra bo nhw'n byta cachu i helpu Sigi ddod yn dollar millionaire. Paid ti sôn am y cariad rhamantus a'r briodas o'dd ar ddigwydd. Ti'n y'n ffycin clwed i Linda? Wy di blino arnot ti a'r ffycin celwydde ffycin twp ma.

Linda

Ti wrth dy fodd, y bitsh. Yn gallu dangos siwd o'dd y mywyd i'n mynd yn rhacs. Heb 'ny allet ti ddim whare dy rôl, whare'r ffycin angel. Ti wrth dy fodd bod y dewis da ti i helpu fi ne gadel i fi ffycin bwdru.

Mary

Ti ddim di dechre deall 'to. Walle nei di byth..

Linda

Ond sdim dewis da fi. Ddim hyd nod o beth wy'n ca'l cadw tu fiwn y mhen, a beth wy'n ca'l cau mas. So ti hyd no'd yn gadel i fi anghofio...

Mary

Ma dewis da ti Linda...

Linda

A wy'n dewis bloto'r ffycin cwbwl, ffycin pawb mas. Wy moyn bod mor ffycin feddw bob awr wy ar ddihun bo fi ddim yn cofio pan ddihuna i nesa beth sy di ffycin digwydd i fi. A bydd dim ffycin ots da fi chwaith. Se'n i'n marw mas fanna ar y pafin, cyn belled â bo fi ddim yn rejistro beth sy'n digwydd fydden i'n ffycin canu wrth ffycin snyffo'i...



Mae hi'n mynd at BETH cyn troi am y drws.

Linda

O'n i'n caru Sigi reit... ag odd Sigi'n caru fi.

Beth

Wy'n gwbod... (Mae LINDA'n mynd.) Linda...

Mary

Gad hi fynd Beth.

Linda

Ie, gad hi fynd Beth. Nôl i'r ffycin gwter. I ganol yr hen Johnnies a'r cans gwag o Special Brew. Fan 'ny ma'i hapusa. Gwech chi glywed fi'n canu mas na nawr. Fel ffycin deryn bach pan ma'r wawr yn torri. Ac os na fydda i'n canu, fydda i'n cysgu. Cwsg mor dwym a melys â cwsg cath fach yn yr haul...



Ac mae hi wedi mynd, gan ddal i gario'r botel win. Saib.

Beth

Ti yn ffycin bitsh hefyd.

Mary

Nôl daw hi. A wy'n gwbod beth wy'n neud, cred ti fi. Gas hi magu da'i thad a'i dou frawd. Ac o'dd y tri yn i abiwso hi o'r amser o'dd hi'n groten fach. With mae'n cwtsho lan ato i a sôn am 'ny. Gofyn am help i wynebu beth ddigwyddodd. Dro arall ma'i fel gwelest ti ddi nawr...

Beth

Pwy ddrwg yw e bod hi'n cofio bod mewn cariad.

Mary

Fel croten fach yn cwato'i phen dan y dillad, pallu codi..

Beth

Mae'n braf neud withe...

Mary

Ond ma Linda'n mynd o un sefyllfa i'r llall ble ma dynon yn 'i chamdrin hi. Fel se hi'n gwahodd 'ny. Buodd y Russian na jest a'i lladd hi, fwy nag unweth...

Beth

Ddylet ti ddim fod wedi sarhau hi o 'mlân i.

Mary

Ffantasi arall ma hi'n dianc iddo fe yw treulio'r hafe ar ffarm i wnwcl pan o'dd hi'n fach. Whare yn y haul, gorwedd yn y gwair twym. O'dd y gwair ble o'dd Linda'n blentyn yn llawn nadrodd. I thad hi'n pasio mlân i'r wnwcl i hwnnw ymosod yn rhywiol arni hefyd...

Beth

Alla i weld pam bod rhaid iddi ddianc wrth y gwir 'ny withe.

Mary

Fi sy wedi cymryd hi miwn, a fi sy wedi cytuno i ballu gadel hi fyw celwydd. Ma bargen da ni beth. A dyw e ddim o busnes di.

Beth

Da fi o'dd hi'n siarad. Fi o'dd yn moyn gryndo...

Mary

Ti'n neud mwy o ddrwg nag o les.

Beth

Wy'n mynd ar i hôl hi, i weld os yw hi'n olreit.

Mary

Nag wyt ti ffycin ddim. Gad hi fod mas na. Ti mond yn i annog hi i fyw y celwydd.

Beth

A beth ffyc yw ystyr celwydd a'r gwir i ti Mary?

Mary

Paid ti ffycin dechre arno i nawr. Bitsh anniolchgar. Be sy'n bod arnoch chi gyd heddi.

Beth

Weda'i 'tho ti be sy'n bod arna i. Y busnes ma o ti'n helpu'r polis i seto'r darlithydd ma lan. Seto celwydd lan. Ma'r celwydd o greu trap i MacPherson yn O.K. odi e? Ond ma'r celwydd sy'n helpu Linda i deimlo'n hapus yn rong? Ble ma dy ffycin safone di Mary? Ne wyt ti'n dewis'u dropo nhw fel mae'n siwto di... Creu rheole'r gêm felmae'n gyfleus ife? A beth yw'r gêm? Ca'l pŵer dros bobol erill. Achub nhw, neu damnio nhw, dibynnu ar dwlad y deis?

Mary

Nid pobl, Beth, dynon. Os y ti'n whilo am y cansyr, y gwenwyn.

Beth

Elli di ddim ca'l byd heb ddynon.

Mary

Nid byd fydde 'ny, ond nefodd.

Beth

Pam wyt ti'n clirio lan ar 'u hôl nhw Mary, taro bargeinion brwnt da nhw, rhofio'u cachu nhw...

Mary

Gwerthu dipyn o hunan barch fan hyn, prynu sleishen o ddyfodol ne gobeth fanco. I fi, iddi hi. Tredo natur yn erbyn y market forces. Wy'n trio rhoi pawb arall ar 'u trad ond sa i'n gwbod ble ffwc odw i'n hunan yn sefyll.

Beth

Sa' i dy ofon di, ddim erbyn hyn.

Mary

O't ti, y noson 'na ar y pafin, yn y storm.

Beth

Ofon dy forthwyl di. Dy brofiad di.

Mary

Trio dy helpu di o'n i pry'ny hefyd. Odd gas dy fi...

Beth

Doli fach bert, ond yn grace a staene i gyd. Ti'n meddwl bod Linda'n wreck? Be sda ti ar ôl?

Mary

Dim byd ma neb di rhoi o'i wirfodd.

Beth

Ma cornel y stryd yn fwy gonest na'r gêms wyt ti yn whare, ma'r stormydd a'r meddwon a'r prom yn llai pwdwr na ymerodreth Sammy Scoot fan hyn... Ddihunes i bore ma a sylweddoli bo fi wedi ffinsio'r ochor o'r o'n hunan.

Mary

Ma'r ochr na da ni gyd.

Beth

A wy di bod yn whilo, testo i weld pwy mor bell allen i grwydro mewn i'r oerni, i'r caledi 'na tu fiwn i mhen. A wy'n gallu. Pan bo rhaid. Ni gyd yn ymladd dros 'yn hunan yn y byd ma yn d'yn ni Mary. Wi di dysgu lot yn yr wythnos ddwetha 'ma.

Mary

Beth ti di bo yn neud? Studio Lind a fi fel ffycin spesimens ne beth?

Beth

Jyst dysgu. Fel ma rhaid i bawb neud dyddie hyn.

Mary

Fydde Linda ddim di sylwi wrth gwrs. Ddim hyn yn o'd se ti di pino hi ar ford mewn lab a'i agor hi lan...

Beth

Yr union fel ma'i yn y stafell goch... A i nôl i weithio ar y stryd... wy'n deall siwd i ddod ben a 'ny nawr.

Mary

Yn enwedig os taw mond am bythefnos arall fydd rhaid i ti neud.

Beth

Yn hollol... walle ddylen i weud diolch.

Mary

Na ddylet. Ti wedi ennill rhywbeth – profiad – deall, ond ti di colli ffycin peth wmbreth.

Beth

Wy di ca'l beth o'n i moyn. Y gallu i neud arian clou...

Mary

Os odw i'n colli y'n merch fach i, gweld hi'n cwmpo mas o mywyd i... yn diflannu... a'r ddiwedd yn dod... i gyd achos y gwenwyn ma cannodd o ddynon wedi pwmpo miwn i chorff bach eiddil hi. Os wy'n i cholli hi – be wyt ti'n golli? Ti'n colli dy hunan. Heb ishe – fyddi di fyth yr un peth.

Beth

Antartica.

Mary

Beth?

Beth

Wy di ffindo pegwn newydd. A dod trw'r siwrne yn fyw. Yn gryfach walle...

Mary

Jyst ffycin cer nei di.



Mae BETH yn edrych ar yr epa.

Beth

Hwnna. Nage o India fel o'dd Linda'n feddwl. Ma hi'n ca'l popeth yn rong yn dyw hi. Nid cenhadwr ddâth a hwn nôl. Duw a ŵyr pwy. O Brazil mae e. Marmoset. Hapale penicillate. Tipyn o ffordd o baradwys bell yr Emerald Forest i'r hovel ma o barlwr, yn dyw hi...



Mae hi'n cerdded allan.

Mary

Mi o't ti ti fel Debbie 'fyd. Pan weles i ti gynta. Fel odd Debbie, fel galle hi fod o hyd. Ond nawr. Sgerbwd a twlle. Menwod a twlle.



Mae'n edrych ar y mwnci.

Mary

Ti a fi yn y jyngl am byth. Ond ni'n gallach a neisach na'r ffycin lot o nhw.



Ymddengys SCOOT.

Scoot
Pennill i Kieron fy mab a'n etifedd:
Kieron bach, pan ti'n ffaelu cysgu,
Wy'n dodi fideo mlân i dy ddiddanu
A cei, mi gei di'r menyg gôli.
Fyddan nhw yn y sach wrth drôd dy wely
Pan ddaw Santa'i ymweld â'n tŷ ni.
Ond y rhodd felysa allai i roi i ti
Yw y llewyrch a'r llwyddiant yn dy yfory –
So dere mlân buddy, high fives da Dadi!



Daw MARY yn ymwybodol o SCOOT.

Mary

Mr. Scoot.



Trio SCOOT oddi wrth i blygio'r tân newydd i fewn i'w soced.

Scoot

Wel, wel, wel. Ding dong merrily on high. O deued pob Cristion. Adeste fideles... Present bach i'r parlwr cefen... Wy'n ddyn hapus, Mary. Heddi, mi ydw i yn ddyn hapus, Mary. Heddi, mi ydw i yn hapus.

Mary

A ti wedi meddwi. Wedi ca'l llond cratsh. Weden i.

Scoot

Yn haeddiannol. Roies i speech ar ôl cino'r Clwb Busnes – âth lawr mor felys â chaws di'i bobi da'r hen Ben Gunn ar i ynys bellennig, so to speak. O'n i yn hit, Mary fach. Yn ffycin hit. Yn llwyddiant mowr yn llyged y nghymrodyr – a'n seniors. Tomorrow belongs to me.

Mary

A lyncest ti'r ffycin dictionary!

Scoot

Arabedd Mary fach. Y majic carpet o eirie, sy'n dy gario di at node top emosiyne.

Mary

Am beth o't ti'n sôn te? Siwd i flingo'r crôn odd ar gefne tenantied i leino dy bocedi? Siwd i gachu ar y tlawd, a'u neud nhw'n dlotach i ypo dy broffits dy hunan?

Scoot

Rwbeth felna. Ond ma'r hyn sy'n anathema i rai ohonoch chi, yn modus operandi i fi a'n ffrindie. 'Na pam wyt ti'r ochor 'na i'r gagendor mowr yn edrych draw arno i ar yr ochor hyn. A pwy sy i weud Mary fach na fyddet ti a gweddill y great unwashed yn dwli cyfnewid llefydd, yn dwli blingo'r crôn odd ar gefne pawb arall a cachu ar y tlawd, se chi mond yn ca'l hanner y ffycin cyfle. Anifeiliaid o'r un arian y'n ni gyd, jest bo rhai o' chi'n gaeth trw'ch twpdra a'ch diffyg cyfle, a rhai o ni'n rhydd i hela a llarpio.

Mary

Da fi ne da'r mwnci ma wyt ti'n siarad nawr?

Scoot

O'dd ffrind i ti yn y clwb cino. Sarjant o'r Vice Squad.

Mary

Jack Bibby. Wedodd e'm byd 'tho i jyst nawr.

Scoot

Ie, adawodd e cyn diwedd y drincs i fynd i gwrdd â ti. Dâth e rownd fan hyn?

Mary

Y caff ar y gornel. Newydd ddod o 'na odw i nawr.

Scoot

Gwd girl. Ma da ti fwy o sens na lot o dy deip.

Mary

Bastard brwnt yw Bibby. Boi ciedd.

Scoot

Sdim gofyn i ti lico boi felna. Mond cadw ar yr ochor iawn iddo fe... Do, ges i brynhawn llwyddiannus i ryfeddu. Mi synnet, Mary fach.

Mary

Peth braf yw gallu bod mor blês ar dy fyd yntefe Scoot.

Scoot

Torri cyt gyda'n areth – torri trw ambell gwlwm Gordian trw setio cwpwl o ddels busnes uwchben port a brandy wedyn.

Mary

Ti'n hit da dy fets, Nadolig difyr o dy flân di. Llond sach o bresante siwr fod...

Scoot

Dyw sach ddim ddigon mowr i ddala mountain bike. 'Ny beth ma Kieron yn i ga'l leni. A camcorder i Emma Jane.

Mary

A beth ti'n roi i dy wraig te Scoot?

Scoot

Ar wahan i sicrwydd a statws? Cyrtens newydd i'r stafell ffrynt, a wy'n agor acownt Habitat iddi run pryd.

Mary

Yn dyw hi'n fenyw lwcus.

Scoot

Cyn i ti ddechre cymryd y pis – fydd hi wrth i ffycin bodd. O, bydd.

Mary

Menyw lwcus. A menyw bert. Hardd hyd no'd.

Scoot

Siwd ti'n blydi gwbod. Dyw Miriam ddim di bod ar gyfyl y lle ma.

Mary

Na. Fyddet ti ddim yn gadel hi'n agos aton ni fan hyn.

Scoot

Too bloody right fydden i ddim.

Mary

Pan wy'n syrfo tu ôl y bar yn y dre ar y penwthnose, wy'n gweld mas i'r precinct siopa.

Scoot

Bob prynhawn Sul wy'n mynd da Miriam i siopa am bethe bach dethol yn Marks a'r delicatessen. Wy'n lico rhoi un dwrnod yr wythnos yn gyfangwbwl iddi hi a'r plant. Y teulu bach. Part o ddyletswydd y family man yn y marn i.

Mary

Wrth gwrs.

Scoot

A ti'n meddwl bod hi'n hardd wyt ti – Miriam?

Mary

Fel pictiwr. Glased?

Scoot

S'il vous plait. Pasa'r botel. Ma digon yn sbâr da chi.



Cymer SCOOT wydr a photel o win. Mae MARY yn paratoi i agor poteled arall.

Mary

Cofia, wy wedi sylwi hefyd, er ych bod chi yn gwpwl mor giwt, ti a'r missus, Mr. Scoot...

Scoot

Mm?

Mary

Chi byth yn twtsiad, odych chi? Gafel dwylo, braich am ysgwydd, ambell gusan bach... dim byd felna.

Scoot

Nid cryts ar gornel stryd y'n ni. Dyw oedolio yn 'u ho'd a'u hamser ddim fel cŵn a cathod a'u trwyne lan tine'i gilydd trw'r amser.

Mary

Mond pan ma nhw da rhywun fel fi.



Mae SCOOT yn drachtio o'i wydr.

Scoot
The dogs they had a party
They came from near and far
And some dogs came by aeroplane
And some dogs came by car.
They came into the ballroom
And signed the visitor's book
Then each dog took his arsehole
And hung it on a hook.

The dogs they were assembled
Each Mother's son and sire
When a dirty little mongrel
Got up and shouted "fire"
The dogs were in a panic
They had not time to look
So each dog took an arsehole
From off the nearest hook

The dogs they were so angry
For it was very sore
To wear another's arsehole
You've never worn before.
And so that is the reason
Why a dog will leave its bone
To sniff another's arsehole
In the hope it is his own.

Mary

Lico'r cap Santa, Mr. Scoot?

Scoot

O – difyr iawn. Ym... Ddes ti i'r tŷ, i dy waith, felna?

Mary

Felna?

Scoot

Yn y ffriblen sgyrt 'na. Ti'n dangos popeth sy da ti ferch.

Mary

Ti ddim yn cwyno wyt ti Scoot?

Scoot

Licen i ddim i bobol dy weld ti'n dod i'r tŷ ma mewn siwd esgus o bilyn. Wy wedi gofyn i chi fod yn discreet – yn understated. So to speak.

Mary

Wy mor no'th o babi bach o dan y lleder ma.

Scoot

Y-hy?

Mary

Fel llaw fach binc mewn maneg dynn.

Scoot

Ife wir...

Mary

Ma'r lleder yn mwytho. A ma nghrôn i'n dwym, yn rhwyfus, yn fyw o deimlade. Ti'n gweld, ma'r dillad ma yn neud fi deimlo'n neis, ma nhw hefyd mor ymarferol. Fel gelli di ddychmygu.

Scoot

Ffyc me.

Mary

Costith 'ny i ti fel mae e'n costi i bawb arall. Hyd no'd i Sammy Scoot, y mishtir nowr.

Scoot

Paid cellwer da fi Mary. Ddes i draw i ga'l drinc bach cyn mynd gatre, a'i drafod cwpwl o bethe da chi. Cwpwl o ddatblygiade newydd.

Mary

Ma pâr o jeans da fi fanna. Allen i newid miwn i rheiny, os wy ti yn mynnu...

Scoot

Ym – mae'n olreit. Wyt ti miwn ma nawr. O olwg pipo'r cymdogion. Aros di fel wyt ti.



Mae e'n dal i lowcio gwin, a dal i fudr syllu arni.

Mary

A dyw'r missus, dyw Miriam, ddim yn gwbod amdanon ni. Bo na hwrs yn gwitho yn un o dy dai di?

Scoot

Wy'n cadw rhan fwya o fanylion y musnes i yn breifet. Felna dyle'i fod.

Mary

Beth arall ti'n gadw odd wrthi? Odi hi'n gwbod faint wyt ti'n joio bod rownd fan hyn, miwn a mas o'n palwr cefen bach ni?

Scoot

Paid siarad trw dy din. Wy'n neud lot o waith ar y tŷ ma. Lan stârs, mas y bac... Stopo grymodd natur rhag byta miwn i'r brics a'r mortar, rhag pwdru'r prenne...

Mary

Ymddangos fel se ti'n neud lot o waith. Riparo ambell ddrws, ambell ffenest. Ffidlan oboutu wyt ti gan fwya. Paid becso. Wy'n deall yn iawn.

Scoot

Trw dy ffycin din. Ast dwp. Hy!

Mary

Ni yw'r atyniad. Y magnet. Yntefe. Ni, a'r stafell goch.

Scoot

Sa i di twtsh yn yr un ohonoch chi. God forbid fenyw. Sa i di rhoi blân bys bach yn agos atoch chi. Ddim ti, na'r slag swrth 'na ti'n ddiodde'n bartner...



Mae SCOOT yn diosg ei siaced ddu ac yn dadwneud ei dei-bo.

Mary

Nid twtsh a ni. Ond edrych. Odi Miriam yn gwbod am 'ny? Amal i waith, wy di sefyll fanna, heb yn wbod i ti Scoot, yn edrych arnot ti a dy lyged wenci wedi hoelio at y twll pipo, dy law di, wastod y llaw dde 'na, yn ddwfwn yn y boced ma... Ti'n lico cyrtens pipo yn dwyt ti Scoot? Paid becso... ma da ni gyd y'n cyfrinache bach...

Scoot

Cywreinrwydd naturiol...

Mary

A blys naturiol. Whilo cyffro, fel plant drwg, mentro neud y pethe na ddylen nhw... A pwy sy'n dy weld di wrthi? Mond fi a'r hen fwnci mud. Yntefe Scoot...

Scoot

A sdim ots da ti. With Mary... ti'n gweld, wy ffaelu pido. Ma'r demtasiwn yn drech na fi t'weld. Ma hynny'n ddigon naturiol 'fyd...

Mary

Hollol naturiol. Rhan o'n natur ni gyd, y pethe bach cudd ma. A sdim dishgwl i ti sôn am bethe fel 'na wrth Miriam.

Scoot

Fydde hi ddim yn...

Mary

Lico...

Scoot

Gwerthfawrogi.

Mary

Deall. Na fydde. Ne walle bydde hi. On sdim dishgwl i chi siarad am bethe fel hyn os e Scoot? Cyfrinache bach fel hyn sy'n rhoi blas ar fyw, rhoi mîn ar brofiade dyn... Wy'n gwbod.

Scoot

Mary. Paid nawr.

Mary

Paid becso, bydd popeth yn iawn.



Mae SCOOT yn gwthio llaw Mary i ffwrdd oddi wrth poced ei drowsus. Mae e'n codi'n ffwndrus.

Scoot

Ma mhen i'n troi. Y gwin ma. Y gwres...

Mary

'Ny'r gwahaniaeth rhyngo i a Miriam yntefe Scoot. Hi yw'r dywysoges. Fi yw'r slag. Ti'n rhoi popeth iddi hi, yn i thrin hi fel y cheina druta ar y seld – gyda fi allu di'n ffieiddio i, u nhrin i fel baw – ond gyda fi allu di fod yn onest. Pan ddaw'r cwsmer nesa miwn, dere di at y twll pipo, Scoot. Gei di sioe sbesial. Gwed 'tho i beth licet ti weld? Be fydde'n dy gynhyrfu di fwya? Y sioe ma fydd dy wobr fach di, am ddod a'r tân newydd i dwymo'r hen le ma, am gadw to uwch y'n penne ni am sbel 'to...

Scoot

Na, Mary...

Mary

... Am roi lan da ni cyhŷd, diode hwrs yn gwitho yn un o dy dai di, Mr. Samuel Scoot... Licet ti ddod miwn aton ni – ymuno â ni? Dou ohonoch chi, dou ddyn mowr cyhyrog yn neud fel fynnoch chi â Mary fach...... y'n iwso i bob siâp...

Scoot

Na ddim hynny.

Mary

Be se ti'n ca'l dod miwn, reit lan at arffed y gwely, i staran, a gwynto mor agos a licet ti...

Scoot

Mary...

Mary

Tro cynta erio'd es i da dyn am arian, o'n i gyda ffrind o'r un ysgol... O'n i'n eighteen, a hithe yn fifteen, y ddwy o'n i'n mentro gyda'n gilydd, i weld siwd brofiad fydde fe, a odd y ddwy o'n i ishe arian. O'n i newydd adel cartre, gadel popeth... Boi canol o'd, sales rep, bigodd ni lan, yn 'i gar. O'dd e ishe watsho fi yn llio'i cont hi a'i twll tin hi. I wyneb e reit miwn na yn ymyl y'n wyneb i. A radio'r car mlân, rhyw World Cup... y Final, da Holland a West Germany. Y mhen i rhwng coese a boche tin y groten fach ma, a dyn tew yn tuchan a wanco a llais ar y radio yn sôn am total football. Sai hyd yn o'd yn cofio pwy enillodd... Ond alla i gofio'r tast yn y ngheg i hyd heddi... Rwbeth felny licet ti neud Scoot?

Scoot

Wellta fi edrych. Y watsho wy'n lico Mary...

Mary

A ma ny'n saffach hefyd yn dyw e. Ti wastod wedi lico edrych wyt ti, Scoot?

Scoot

Wastod. Ers pan odw i'n gallu cofio. Fel rhyw ysu sy wedi bod yn rhan ohono i erio'd Mary.

Mary

Edrych ar ferched bach? A whare da dy hunan?

Scoot

Ar mam, drwg gil drwse... Twll clo y bathroom..

Mary

Yn molchi? Yn neud pîpî....? A ti'n whare, a whare...?

Scoot

O'dd mam byth yn gafel yndo i Mary. Byth yn rhoi mwythe. Fi o'dd yn mwytho'n hunan Mary.

Mary

Cyffro a cysur run pryd. Wy'n deall yn iawn Scoot. Ti angen cysur yn dwyt ti, ti'n haeddu dy gyffro... Haeddu'r plesere ma ar y slei. O'dd gyda ti whâr hefyd yn do'dd e. O't ti'n pipo arni hi Scoot?

Scoot

Dishgwl lan i sgyrt hi. Pan o'dd hi'n ishte wrth ford y gegin, yn neud i gwaith catre. Pan o'dd hi'n smwddo, cyn mynd mas da'i ffrindie. O'n i'n dishgwl mlân siwd gyment at pan bydde hi'n rhoi'r ford smwddo i sefyll ynghanol y gegin...

Mary

A ble o't ti. Y bachgen bach... Sammy bach?

Scoot

Sammy bach ar y llawr. Yn jocan darllen. Neud jigsaw.

Mary

A hithe'n smwddo fan hyn...?

Scoot

A fydden i'n pwyso nôl...

Mary

A dy law yn dy boced Sammy...

Scoot

Sammy'n ca'l i ddala a'i law yn 'i boced. Yn pwyso nôl, edrych lan...

Mary

A whare...

Scoot

Ie.

Mary

Ti'n dala'n galed Sammy bach.

Scoot

Natur... sda fi mo'r help... allu di'm beio fi am...

Mary

Bywyd i hunan da coc, yn do's e Sammy.

Scoot
Peth melys a diflas yw
Claddu dyn a'i goc yn fyw
Mynd trw'r dre mewn arch o bren
A'r hen goc fach yn shiglo'i phen

Mary

Natur Sammy bach...

Scoot

Beth wyt ti'n mynd i neud da fi nawr Mary? Gwed wrtho i..

Mary

Dychmyga bo ti yn y stafell goch Sammy.

Scoot

Na.

Mary

Ti di bod na ganwaith, tu fiwn dy ben. Pan ti'n gorwedd yn y gwely...



Mae'n cynnu gole'r stafell goch.

Mary

Fel hyn y'n ni'n dachre ontefe.



Mae'n rhoi'r condom mlân gyda'i cheg ac yn codi i eistedd arno. Mae'n nhw'n dechrau cyplu.

Mary

Ti'n moyn i fi gario mlân...

Scoot

Allai ddim... neud.

Mary

Ti di watsho fi yn neud hyn ddege o withe, yn dwyt ti Sammy?

Scoot

Ti yw'r mishtir nawr Mary...

Mary

Ma'n gwmws be ti ishe yntefe Sammy. Am unwaith wyt ti ddim ishe ca'l y dewis. Ti wrth dy fodd yr esgus da ti... a nawr Sammy, ti ar dy gefen yn y stafell goch, a pwy odw i? Nid Miriam ife? Pwy odw i... Mary? Linda? Y Beth fach ifanc 'na? Dy whâr di? Dy ferch di? Am hyn ti'n breuddwydo yntefe Sammy. Pan ti'n gorwedd yn dy wely, yn ymyl dy wraig fach ddelicet... am hyn ti'n breuddwydo fel bachgen bach drwg a'i law yn nythu rhwng i goese... am hyn ych chi gyd yn breuddwydo.

Scoot

Ie, Mary...

Mary

Pob dyn, yn landlord, yn ficer, yn flaenor, yn sant... yn mwytho'u coce yn yr orie cudd, rhwng hanner nos a gole dydd.

Scoot

A'r hen goc fach yn shiglo'i phen.

Mary

Yn codi cornel carped y meddwl, yn agor drws y seler tywyll Sammy bach... Sammy?

Scoot

Mary...!

Mary

Dere nawr Sammy... Be ti moyn wrtho i Sammy?

Scoot

Citsha yndo'i Mary. Cara fi.

Mary

Wy yn dy garu di Sammy.

Scoot

'Na fi deimlo'n dwym, yn gryf...

Mary

Mor gryf, mor galed..

Scoot

Ie, Mary, ie.

Mary

Fel llaw mewn maneg dwym Sammy. Bachgen bach yng nghôl 'i fam. Fel hyn Sammy... Fel hyn?

Llais
A ma'r farwolaeth nawr
Tu fiwn i fi, gwitho'i ffordd trwyddo i,
O's rhaid i fi weud Mam?
Yn agosach, wedi gafel nawr,
Ddim trw goce'r diawled ond trw'r nodwydde.
Chi yn gwybod Mam, chi yn,
Yr hunlle chi di bod yn arswydo
Wedi dod gatre, i llofft Debs fach i glwydo...
Ma nhw wedi'n lladd i Mami!

Scoot

Mary...paid stopo... ddim nawr.



Mae SCOOT yn dod. Mae MARY'n codi a chamu oddi wrtho.

Mary

Drych arnot ti Sammy. Bob tro ti'n edrych yn y drych cofia hyn... Cofia'r noson hyn.

Scoot

Dad yn cerdded miwn. Ne mam. A'n gweld. Sammy'n whare. Mochyn bach.

Mary

Mochyn bach yw Sammy.

Scoot

Ach a fi. Sammy yr hen fochyn. Sammy'n whare. Ca'l i ddala. Ffaelu stopo... O Dduw mowr... Aros da fi. Citsha yndo i. Plis. Citsha yndo i...



Erbyn hyn mae SCOOT yn crio. Mae MARY'n penlinio tra'i fod yn dal i orwedd ar ei gefn ar lawr.

Mary

Beth wede Miriam, Sammy? A dy ffrindie di yn y clwb cinio?

Scoot

Mond ti a fi sy'n gwbod. A sdim ots da ti. Ti yn deall.

Mary

Wyn yn deall. Nid mochyn wyt ti Scoot – ond mwydyn. Yntefe?



Mae MARY'n araf yn arllwys y gwin o'r botel dros gorff a phen SCOOT, sy'n dal i duchan fel plentyn.

Mary

Drych Scoot, ti'n llipa. Mwydyn bach, yn siwps yn y glaw... Ti'n ddim Scoot. Heb yr arian yn dy gownt banc di, heb y gwenwyn yn dy galon di, ti'n ddim. Ti'n ddim byd.

Scoot

Bitsh... y ngorfodi i fynd trw hyn, bitsh ffiedd... bitsh greulon.

Mary

Ti'n neud dy arian di, dy ffortiwn mas o hofel fel hyn a menwod fel ni...

Scoot

Mi fyddet tithe o ga'l y ffycin cyfle. Er mwyn dy blentyn di. Alli di ddim y meio i am hyn. Nid bastard odw i. Ond tad, a gŵr...

Mary

A be se dy ferch fach di, pan dyfith hi, yn troi at hyn, yn dod aton ni fel stiwdent bach di-glem 'na? Beth ma'r byd yn ddysgu iddyn nhw Scoot? Beth wyt ti a fi yn gadel ar y'n hole iddyn nhw. Gwed.

Scoot

Y ffycin cont bitsh! Ma dy ddiwedd di nawr... yn fan hyn... yn y dre ma...

Mary

Cadw di dy broperty a dy barlwr. Dy dwlc. Cadw'r blydi lot.



Mae'n rhoi cusan iddo.

Gwaedd o'r galon.

Scoot

Mary... ffycin slags, whare gêms da fi. Ast. Cont.



Mae'n gafael yn y Vodaphone.

Scoot

Brian... wonderoso... Dere i gico nhw mas... ie. Hasta la vista baby.



Mae'n gweld y drych.

Cerddoriaeth gan Björk.

Golau i fyny ar rannau eraill o'r llwyfan.

Mae LINDA yn gorff ar bentwr o rwbel, a MARY yn cyrcydu drosti.

Mae BETH yn eistedd o flaen prosesydd geiriau' yn gweithio'n ddyfal, a'i hwyneb yn ddiemosiwn yn y golau melynwyrdd.

Diffoddir y golau'n araf, gan adael SCOOT a'r epa yn y parlwr, yn ddau silwêt di-symud.

Y DIWEDD

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2