a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2
Ⓗ 1994 Siôn Eirian
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 1, Golygfa 10


ACT UN

GOLYGFA 10

Golau i fyny ar y parlwr cefn. Mae MARY, LINDA a BETH yno.

Linda

Beth am y gyfreth? Y ffycin rheole?

Mary

Ers pryd y'n ni'n becso am y gyfreth?

Linda

Rhy ffycin amal. Heb dynnu trwbwl am y'n penne'n ddi-angen fel hyn.

Mary

Paid ti sôn am y gyfreth wrtho i.

Beth

Wy yn deall y sefyllfa gyfreithiol...

Linda

(Yn gwatwar.) "Wy yn deall y sefyllfa gyfreithiol."...

Beth

Fydde'n i'n torri'r gyfreth trw ddala i whilo busnes mas ar y stryd. Fydde'n i'n torri'r gyfreth trw hysbysebu ngwasanaeth yn gyhoeddus...

Linda

Nid ti y ffycin bat. Nid ti yn torri'r gyfreth. Y lle ma. Tair ohonon ni gyda'n gilydd.

Mary

Beth ma Linda'n weud yw bo ni'n torri cyfreth arall trw fod yn dair yn y tŷ ma.

Linda

Os yw'r tair ohono ni'n gwitho. Ma hawl da menyw witho mewn tŷ os yw hi ar 'i phen 'i hunan. Ma hawl da hi ga'l morwyn. Gyda Mary a fi ma, fel arfer, un ohono ni sy'n gwitho ar y tro. Se raid mi alle'r llall honni bod yn forwyn. Ond os o's tair menyw ma...

Beth

Wy'n deall.

Linda

Ma hi yn deall. Gyda tair, ni'n ormod. Ni ffaelu iwso'r loop-hole arferol odyn ni. Three into two won't go missie. Ma tair yn ormod. Wy ti ormod. Ti'n deall 'ny hefyd?

Mary

Tynna dy got Beth.

Linda

(Yn dynwared.) Tynna dy gôt Beth. Gad fi olchi dy dra'd di Beth a'u sychu nhw da ngwallt i Beth. Symud miwn i fyw da ni plis, Beth, bydd yn ferch i fi, Beth fach...



Mae MARY yn ei tharo.

Mary

Beth... tynna dy gôt. Wyt ti'n aros. Beth bynnag ma hon yn weud.



Mae MARY'n tynnu côt BETH, gan syllu ar LINDA. Mae LINDA'n taro wyneb MARY unwaith, ddwywaith, dair yn galed â chledr ei llaw. Nid yw MARY'n symud. Ar ôl ysbaid mae LINDA'n eistedd ar y soffa'n ymestyn am y botel win. Mae MARY'n troi nôl at BETH.

Mary

Johnnies fan hyn. A ma wastod cwpwl ar y silff uwchben y sinc yn y grotto – mewn fynna.

Beth

Dwi ddim yn siwr oboutu... dod ma i...

Linda

Wasto'n hamser ni... Peryglu'r holl fusnes ma...

Mary

Ma 'na rai pethe...

Linda

(Wrth MARY) Pam wyt ti'n ffycin helpu hon...

Mary

Ma 'na rai pethe na fydden i byth yn ystyried 'u neud.

Linda

Ma'i siwd angel fach ti'n gweld... Y cefndir posh, addysg breifat...

Mary

Rhai pethe ddylet ti 'u gwrthod, beth bynnag yw'r amgylchiade. A ma isie ti fod yn siwr o 'ny o'r dechre cynta. Ma rheole.

Linda

Rheol gynta yw pido peryglu'r busnes. Pido 'mradychu i.

Mary

Dim sugno na ffwcio heb johnnie. Ofon Aids yw un o'r pethe gore sy wedi digwydd o'n safbwynt ni. Sneb yn pallu gwisgo un o'r rhein nawr. Dim ffwcio lan dy din o gwbwl, am unrhyw arian. A'n bwysicach na dim byd arall – dim cusanu. Allu di olchi dy geg a dy gont mas, ond gyda cusan ti'n rhannu rhwbeth mwy, cymryd rhan ohonyn nhw miwn i dy ben di. A gei di'm gwared blas 'ny am hydoedd.

Linda

A gna'n siwr bod y bastards yn talu gynta, cyn dim byd arall.

Mary

O, ma hi, y bitsh surbwch ma, yn folon rhannu cyngor â ti nawr. 'Na ti fraint.

Linda

Ishe ca'l y'n ffycin arian Mary. Os yw hon yn mynd i neud ambell job ma, sa i ishe bod ar y 'ngholled. Ni'n rhannu'r kitty – ac os yw'r dogooder ma'n cymryd ti dan 'i haden well i ti dalu dy ffycin ffordd, ti'n deall.



Mae cloch y drws ffrynt yn canu.

Mae BETH yn edrych ar y ddwy arall, yn ofnus yn sydyn.

Mary

Ti'm di meddwl am bethe fel enw gwaith?

Beth

Groesodd e meddwl i do, ond...



Y gloch yn canu eto.

Mary

Sdim rhaid i ti gymryd hwn, os na ti moyn.

Linda

Sdim rhaid ti aros ma o gwbwl.

Mary

Cymer ddrinc. Mi ddangosith Linda i ti le bach mor hapus yw parlwr cefen y menwod.



Mae MARY'n mynd allan i ateb y drws.

Linda

Wna i ffyc.



Mae BETH yn dechrau edrych o gwmpas y stafell. Mae hi'n amlwg anghysyrus. Yna mae hi'n sylwi ar y cryndod yn nwylo LINDA wrth i honno drio rholio joint newydd.

Beth

Ga i.



Dyw LINDA ddim yn cydsynio, ond nid yw'n rhwystro BETH rhag cymryd y skins a'r baco o'i dwylo. Mae BETH yn rholio'r joint.

Linda

Ma nhw'n dysgu rwbeth o werth i chi yn y coleg 'na te.



Mae BETH yn amneidio i gyfeiriad yr epa sy wedi'i stwffio.

Beth

Beth yw hwnna?

Linda

Ffycin mwnci. Ffycin ape.

Beth

Epa? Yr holl ffordd o'r trofanne?

Linda

Yr holl ffordd o un o dai eraill Mr. Scoot... landlord y lle ma... real bastard bach... Sammy Scoot.

Beth

Ond pam? Pam bod e fan hyn?

Linda

Ma e ma – achos bod e ma. Lot o bethe heb esboniad yn y byd ma. Cwbwl wy'n wbod yw taw Mr. Scoot sy bia fe. A fydd e ma tra bo Mr. Scoot bia'r lle ma.

Beth

Mae e'n dod â... lliw i'r lle.



Mae LINDA'n edrych arni.

Beth

Mae'n stafell... ddiddorol. Yn 'i ffordd 'i hunan.

Linda

Lle bach mor hapus yw parlwr cefen y menwod. Mae e withe. Mi ydw i. Withe. Mi o'n i. Ti'n meddwl bo dim hawl da rhywun fel fi fod yn hapus. Ny beth ti'n ffycin feddwl. Wel mi o'n i. A chei di na neb arall ddwgyd 'ny wrtho i. Ffycin hapus fel top. Ti'n deall?



Saib. Mae LINDA'n yfed mwy o win.

Linda

Pan o'n i'n byw da 'nghariad. Russian. Sigi. Jest ni'n dou, a'n cath fach Kutchka. O'dd Sigi wedi dianc off un o longe'r Soviet navy. Roies i le iddo fe i gwato, i aros. Fuon ni da'n gilydd am gwpwl o flynyddo'dd. Mynd i briodi, ca'l plant... Wedyn ffindio nhw fe. O'dd rhaid 'ddo fe fynd nôl...

Beth

Nôl yn amser y Cold War ife?

Linda

A o'dd rhaid i finne fynd nôl i neud hyn. Mond fi a Kutchka y gath fach, a'r holl atgofion... dim byd arall ar ôl.

Beth

'Na pryd o't ti hapusa...

Linda

Pry'ny, a pan o'n i'n groten fach. Yn blentyn.

Beth

Ma plant mor lwcus 'u byd.

Linda
Cystal â tywysoges. O'n i'n siarad â Iesu Grist bob nos. I ddiolch iddo fe. O'dd Dad a Mam wedi nysgu i siwt i weddio. A o'dd e'n gryndo arno i bob nos, neud yn siwr bod e'n edrych ar y'n ôl i...
Rho fy mhen bach lawr i gysgu,
Rho fy ngofal bach i'r Iesu,
Os bydda i farw cyn y bore,
Duw dderbynio f'enaid inne.



Mae hi'n codi'n sydyn, ac yn troi ar BETH, yn sarrug unwaith eto.

Linda

Ddes i weld taw lot o gachu odd y part hynny. Crap a celwydd. O, wy'n dala i drio gweddio with, pan ma'r duwch yn cau miwn a 'ngwasgu i'n ddim, pan ma' meddwl i'n sgrech tu fiwn y caetsh o ffaelu cysgu... wy'n gweddio. Ond sneb yn ffycin ateb. Sneb hyd no'd yn ffycin gryndo. O's e!



Mae BETH yn symud – yn ansicr – i roi ei breichie rownd sgwydde LINDA. Mae LINDA'n torri'n rhydd. Cymer ddracht hir o'r gwin yn ei mwg. Mae'n troi i syllu ar y mwnci. Mae hi'n rhoi chwerthiniad.

Linda

Wy yn meddwl yn amal. Am hwnna. Agor y llall 'na nei di. Wy'n meddwl bod hanes i hwnna. A bod e rwbeth i neud â cyfrinach yn hanes Mr. Scoot... Ti di clywed miwsic yn dod o'r stafell goch?

Beth

Na.



Mae LINDA'n croesi at y twll sbïo eto.

Linda

Ffycin weirdo. Dala i ffycin siarad. Y ddou yn dala'n 'u dillad... (Gan edrych ar y epa) Hwn a Scoot. Wy'n credo bo nhw'n perthyn...

Beth

Rwle yng nghadwyn bywyd y cread...

Linda

Bat. Dipyn yn nes na 'ny. Cenhedleth ne ddwy.

Beth

O?

Linda

Ddarllenes i am ddigwyddiad, ble odd achos llys fod ca'l i gynnal, amser ffycin Victoria, y fenyw ma wedi ca'l 'i impregneto da babŵn. O'dd hi wedi rhoi genedigeth i rwbeth stillborn, hanner hiwman hanner ffycin mwnci. Ethon nhw ddim a'r achos i'r cwrt am bo' nhw'n meddwl bydde achos felny – Regina versus woman fucked by monkey – yn creu gormod o sgandal, yn ypseto'r Frenhines. O'dd Victoria ddim yn byw yn y byd real. See no evil, hear no evil, do no evil. Ond dim un o'r three wise monkeys o'dd y babŵn shaftodd y fenyw 'na. Rhyw sbesimen o syrcas, gyda potency rhywiol rhyfeddol yn ôl y stori ddarllenes i. A ma hynny'n dod a ni at y'n theory i oboutu hwn a Mr. Scoot.

Beth

Nid babŵn yw hwn. Alla i weud gymint â hynny.

Linda

Wy'n blydi gwbod 'ny. Ond ma stori'r cês Regina versus Baboon and Lady friend, yn profi bo mwnci, trw fenyw, yn gallu planta. A walle bo hwn yn enghraifft arall. Wy'n credu taw hwn yw tad Scoot. Ma'r tebygrwydd yn glir. O'dd hen wnwcl Scoot yn genhadwr. Wy di clywed Scoot yn sôn amdano fe. Gwerthu Beible a phethe... Dâth e a hwn nôl dag e.

Beth

Yn fyw?

Linda

Sai'n siwr. Ond os o'dd e'n fyw alle fe fod wedi rhannu aelwyd y Scoots am sbel, alle fe fod wedi neud y busnes da'r hen Mrs. Scoot, a rhoi bywyd i'r ffycin miwtant 'na sy'n landlord ar y lle ma.

Beth

Ti ddim o ddifri?

Linda

Wrth gwrs bo fi ddim. Beth arall sy neud trw'r ffycin dydd ond ishte fan hyn yn breuddwydo a neud pethe lan. (Ennyd.) Dyw'r lle ma ddim yn le hapus. Sa i rio'd di bod yn hapus ma. Pawb yn talu amdanon ni, neb yn mo'yn deall ni. Pawb yn ffwcio ni, neb yn moyn nabod ni.

Beth

Wy isie'ch nabod chi... 'Ny pam 'wy ma.

Linda

Bollocks. A wedyn – anghofio ni. Dwyt ti ddim yn un ohono ni. A fyddi di byth... byth. Y bitsh lwcus.



Daw MARY nôl i fewn i'r ystafell. Mae hi'n gweld LINDA'n cymryd y joint nôl wrth BETH.

Mary

Chi'ch dwy yn dechre dod mlân yn well...

Linda

Ffyc off. Jest siarad o'dd y boi 'na moyn ife? Odi e'n dala 'na.

Mary

Newydd fynd. Ie – mond siarad.

Beth

Wy wedi darllen taw'r therapi ma rhai dynon...

Linda

Wedi darllen... Cia dy ffycin ben. Ti'n deall dim.

Mary

Mond ishe siarad o'dd e achos taw ffycin cop o'dd e. Plainclothes, o'r Vice Squad.

Beth

Fan hyn?

Mary

Jack Bibby. Ddâth e i 'ngweld i llynedd, i ofyn cwpwl o ffafre erill.

Linda

Beth o'dd e moyn tro hyn?

Mary

Mae e'n mynd i'n bysto ni. Reido'r lle ma...

Beth

My God. Pryd?

Linda

Tweld, (wrth BETH) dy fai di yw hyn. Ti newydd lando ma, ma hyn yn digwydd. Odd popeth yn hynci dori cyn i ti ddod. Ges di dy ddilyn. (Wrth MARY) Mae'n gwitho dy nhw yr ast dwp.

Mary

Dyw e ddim byd i neud â hi Lind. Fi odd e moyn. Neud ffafar.

Linda

Ffafar?

Mary

Helpu nhw i ddala boi. Rhyw lecturer. (Wrth BETH) Dy goleg di siwr o fod. Ar'u list paedophiles nhw. Cownsilyr lleol 'fyd.

Linda

Ffycin mochyn. A siwd ti fod helpu ddala fe.

Mary

Rhan o'r bait ma nhw'n seto lan.

Linda

Bait? Ti'm edrych fel croten dan o'd. Ddim hyd no'd mewn power cut ar noson ddi-leuad.

Mary

Cua dy dwll. Wy fod i gysylltu ag e, trw gontact, a cynnig merch fach iddo fe.

Beth

Merch fach?

Mary

Ma tair, peder ohonyn nhw boutu thirteen ne fourteen, yn gwitho'r stesion bob prynhawn. Mynd a'r ferch lan ato fe. Neud y transaction. Gadael y gweddill i bois y Vice.

Linda

Be se fe'n neud newid i'r ferch cyn i'r cops fynd miwn?

Mary

Neith e ddim. Unwaith ma nhw gyda merch fach ma hen ddynon fel na yn troi'n heli. Fydd y groten yn olreit.

Linda

Wel, gobitho bo ti'n ffycin siwr o 'ny. Ac os wyt ti'n rhoi'r help 'ny iddyn nhw, y'n ni fan hyn yn saff?

Mary

Am sbel 'to. Ti'm gwbod fel ma'r cops. Cyfnewid ffafre bach am gyfnode o ceasefire. Sa i wedi ca'l yn llusgo o fla'n llys ers tair blynedd nawr. Achos bo fi wedi dysgu siwt ma whare'r gêm yn y ddinas ma.

Beth

Beth yw i enw fe? Y darlithydd?

Mary

Macpherson. Ti'm yn nabod e?

Beth

Gwbod amdano fe. Mae e'n weithfar iawn da grwps gwleidyddol. Wedi rhoi tystiolaeth yn y llys yn erbyn yr heddlu fwy nag unweth...

Linda

Molester plant yw molester plant. Pob un yn fastard.

Beth

(Wrth MARY) Ti'n siwr nagyw'r cops yn dy iwso di i bardduo'r boi. I fframo fe?

Mary

O's dewis da fi?

Linda

O's ffycin ots? Hen ddynon brwnt...

Mary

O leia gewn ni Nadolig a blwyddyn newydd yn y lle ma heb orffod becso. Cownto'r takings a cysgu'n dawel...



Llais SCOOT yn bloeddio o dywyllwch y limbo.

Scoot

Welest ti, y ffycin ast. Yn i adel e mas trw'r drws ffrynt. O'n i'n gweld o'r llofft, a un arall yn aros amdano fe mewn car yn y stryd. Enterteinio blydi polis fan hyn! Ti'n anghofio bo fi'n rhwbio sgwydde da pileri'r sefydliad yn y ddinas ma. A wy wedi gweld hwnna – Detective Sergeant yw e – mewn mwy nag un function. A nawr mae e'n gwbod am y lle ma. Amdano chi. Ma'r caead wedi sleido odd ar geg y pydew. Ma drewdod y merddwr mochedd a'r pryfed pwdwr yn codi i ffroeni pobol barchus. Ding dong bell. Pussy's down the well.

Linda

Be sy'n ffycin bod arnot ti Scoot. Ti'n gwbod beth ni'n neud ma. Ma'r polis yn gwbod beth ni'n neud ma. A ma'r polis siwr fod yn gwbod bo tithe'n gwbod...

Scoot

Ond ma rheole'r gêm yn ca'l 'u torri nawr. A 'na pam y'ch chi mas. Y ddwy ohonoch chi. A hon, pwy bynnag yw hi.

Linda

Hon. Gewn i wared hon Mr. Scoot. O'n i ddim moyn hi ma o'n i Mary. O'n i'n gweud taw pac o drwbwl fydde dod a him ma, yn do'n i, Mary. Ga i wared hon.

Scoot

Alli di addo 'ny Linda?

Linda

Galla. Beth bynnag ma Mary'n meddwl – dwla i'r bitch ma mas nawr.

Scoot

A se'n i'n towlu Mary mas gyda'i...

Linda

Beth? Heddi? Jest cyn Nadolig?

Mary

Fydde hwn wedi gwrthod llety'r anifel i Mair a Joseff.

Scoot

Se i'n ca'l gwared Mary hefyd.

Linda

Hi yw'r troublemaker Mr. Scoot.

Scoot

Aroset ti yn gnelet ti Linda.

Linda

A ffindien i rywun arall i witho ma dy fi. Rhywun newydd.

Scoot

Pertach, ifancach... jest y ddwy ohonoch chi.

Linda

Ie! A fydde'r fargen yn dala i sefyll, Mr. Scoot?

Scoot

Linda fach... beth alla i weud. Cystal ti drio byta dy gachu dy hunan. Achos sdim ffycin bargen i ga'l bellach, Linda fach. Pam na nes i hyn fishodd nôl, Duw a ŵyr. Glanhau'r tŷ ma mas, glanhau 'nwylo o hyn...



SCOOT ar ei ffordd allan.

Scoot

O leia alla i gysgu'r Nadolig ma a nghydwybod i'n dawel.



Exit SCOOT

Mary

Ie, joia dy Nadolig Scoot. Ti a dy deulu bach hapus a dy gydwybod tawel.

Linda

'Na gyd sda ti i weud 'tho fe? A ble byddwn ni nos fory? Nôl mas ar y stryd?

Mary

Ca di dy ffycin dwll ar ôl y sioe fach 'na o ffycin solidarity.

Beth

Ma well i fi fynd.

Mary

Neith e ddim o'n towlu ni mas. Pwy yffarn symude miwn ma?

Linda

Rhywrai alle dalu mwy o rent na ni, na pwy.

Mary

Fan hyn? Mas fanna yn y bac ma'r 'whyn yn tyfu trw'r patio paving slabs driodd rhoi lawr mish dwetha. Slats yn dod off y to, a fynte newydd i riparo fe medde fe... Glaw yn dala i ddod miwn lan loft a'r gwyntoedd o'r môr mas fanna yn shiglo bob ffenest yn 'i fframyn... A'r elfenne yn sgubo trwy'r llofftydd. Mae'n bwrw eira.



Mae'n codi'r mwg gwin.

Mary

Nadolig llawen i ni'n tair. (Wrth yr epa.) A tithe'r hen fwnc.



Swn carol Americanaidd "Ding Dong Merrily on High".

a1, g1a1, g2a1, g3a1, g4a1, g5a1, g6a1, g7a1, g8a1, g9a1, g10a2, g1a2, g2