ACT II Y TWMPATH —CARTREF TOMOS A BARBARA BARTLEY. Pedair cadair a bord gron. —Mainc grydd a man ddodrefn. Golygfa 1 —Barbara yn y ty. —Tomos yn sefyll wrth & fainc weiihao. |
|
Tomos |
Wyddost ti, Barbara, fod Rhys a Mari Lewis yn dod yma heno? Mae'n arw gen i o nghalon dros Mari Lewis,—wn i ddim ar affaeth hon y ddaear sut mae gwraig mor dda yn cael cymaint o drwbwl. Claddu Bob yn gap ar y cyfan! Faint ydi hi o'r gloch, Barbara? |
Barbara |
Saith, Tomos. |
Tomos |
Wel, mi ddôn gyda hyn. Dyma nhw ar y gair. Wel, dowch i mewn. |
Enter MARI LEWIS a RHYS. |
|
Tomos |
Wel, dyma chi o'r diwedd. Tynnwch y'ch pethe, Mari, a mi neiff Barbara baned i ni yn union deg, yn newch chi, Barbara? |
Barbara |
(yn nodio) Gwnaf siwr, Tomos bach. |
Tomos |
Mari, ydach chi'n meddwl fod Bob erbyn hyn wedi deyd wrth Seth fod Barbara a finne wedi dwad i'r Seiat? Hynny ydi, os daru o drawo arno fo, achos mae yno gymin o honyn nhw i fyny ene, onid oes? |
Barbara yn paratoi te. |
|
Mari |
Am wn i, hwyrach i fod o, Tomos. |
Tomos |
Wel, 'does bosib na thrawan nhw ar 'u gilydd ryw dro. Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd, mae nhw'n deyd (swn moch). Mari, dyma'r moch gore fu gen i 'rioed am ddwad yn 'u blaene. |
Mari |
Mae nhw yn edrach yn farus iawn, Tomos. |
Tomos |
Rown i 'run ffig am fochyn os na fydde fo yn farus. Mi fyte rhein y cafn bydae nhw ddim yn cael 'u pryd yn 'i amser. Hwn-ene heb yr un gynffon ydi mistar y cafn. Mi fydda i'n wastad yn magu dau, achos mae nhw yn dwad yn 'u blaene yn well o lawer. Fydda i byth yn rhoi India Mel iddyn nhw, welwch chi, achos mae'r bacyn pan rowch chi o o flaen y tân, yn mynd yn llymed cyn bod yn ddigon. Tatws a blawd haidd ydi'r stwff gore i besgi mochyn, os ydach chi am facyn da; a berwi dipyn o ddanal poethion weithie iddyn nhw. 'Does dim byd gwell i fochyn pan fydd o wedi colli 'i stumog na berwi penogyn coch yn 'i fwyd o. Pa faeth sydd mewn soeg i fochyn? Dim yt ol! Wyddoch chi be, Mari, fytwn i byth facyn bydae raid i mi brynnu bacyn y 'Merica ene. |
Barbara |
Ewch a bwyd i'r ieir, Tomos. |
Ceiliog yn canu. Dynwareder ef. |
|
Tomos |
Hylo, cobyn! wyt ti ene? Dacw chi geiliog, Mari; bydase'r bluen wen acw heb fod yn 'i gynffon o, mi fydde yn pure giam! Mi weles yr amser cyn i mi ddwad i'r seiat, y baswn i'n torri'i grib o. Tydw i ddim yn ffeindio fod yr ieir giam yma yn rhyw helynt o ddydwrs, ond just bod 'u wye nhw'n fwy rich. Ydi'r bwyd yn barod, Barbara? |
Barbara |
Ydi, dowch at y bwrdd. |
Tomos |
(wedi eistedd wrth y bwrdd) Ho! pethe yn talu yn riol ydi fowls, Mari, os can nhw 'u ffidio yn dda. A welsoch chi 'rioed mor ffond yr ydach chi'n mynd o honyn nhw. Ma nhw yn edrach mor gysetlyd wrth droi 'u penne yn gam. |
Mari |
Mae'ch ffowls chi yn edrach yn dda, beth bynnag. |
Barbara |
Dowch, tipyn o'r ham a'r wye 'ma, Mari Lewis. |
Tomos |
Ia, wir! Wn i ddim sut yr ydach chi yn teimlo, ond rydw i'n teimlo y medrwn i fyta penne pryfed. |
Mari |
Mae'r ham yma yn dda iawn, Tomos. |
Tomos |
Bwyd cry' anwedd ydi ham a wye, os cewch chi'r quality. Wn i ddim sut y mae pobol y trefydd yma yn mentro byta wye. Wyddoch chi be glywes i Ned 'y nghefnder yn deyd, welodd o a'i lygaid 'i hun un tro mewn ty reit spectol yn Llundain? |
Mari |
Na wn i. |
Tomos |
Wel, ar amser brecwast, mi fydde'r forwyn yn dwad a chryn ddwsin o wye wedi 'u berwi ar ddesgil, ac yn 'u gosod nhw ar y bwrdd, a denne lle bydde'r teulu yn 'u torri nhw un ar ol y llall, ac yn 'u hogle nhw; a'r forwyn yn 'u cario nhw yn 'u hole ffastied y medre hi; ac o'r diwedd hwyrach y caen nhw ddau neu dri allan o'r dwsin yn ffit i'w byta. A dene oedd yn od, 'doeddan nhw'n meddwl dim byd at y peth,— roeddan nhw yn gneyd hynny bob dydd! Wel, wfft i'w c'lonne nhw, meddwn inne. |
Ymgom gyffredin. |
|
Mari |
Bobol bach! mae hi yn amser y capel! |
Tomos |
Wel ydi, tawn i byth o'r fan yma. Rhaid i ni hastio; rhaid iti adel y llestri, Barbara. |
Tomos yn codi. CURTAIN |