Yr un, mhen dwyawr, sef ar awr y machlud. Cyfyd y llen mewn disiawrwydd ar Meffiboseth wedi syrthio i gysgu ar y fainc yn ei ddagrau, a'i glog drosto. Mae yn y cysgod braidd gan fod yr haul ar oledd yn taflu pwll o oleuni oraens trwy Borth yr Ardd, a bydd hwnnw'n graddol droi yn bwll lliw gwaed ar drothwy'r neuadd. Rhuthra Absalom i'r neuadd trwy Borth yr Ardd mewn llawn arfogaeth, a'i gleddyf noeth yn estynedig. Fe'i dilynir gan Ahitoffel, wedi ymarfogi yntau, yn dwyn lluman Absalom yn ei law chwith a chleddyf estynedig yn ei law dde. Edrychant o'u cwmpas yn ochelgar. Gwelant y cwpanau gwin hyd lawr a phob argoel fod Dafydd a'i Lys wedi ffoi yn frysiog. Rhed Absalom i ystafelloedd dirgel y Brenin tra saif Ahitoffel i warchod Porth yr Ardd. Dychwel Absalom trwy Borth y Brenin. |
|
Absalom |
(Yn gweinio'i gledd.) Dim enaid byw! Mae'r adar wedi ffoi O gyrraedd ein cleddyfau. |
Ahitoffel |
(Mewn angerdd.) Ond nid o gyrraedd Cleddyf yr Arglwydd am eu drwg weithredoedd. Yn Llys y Brenin planner baner Barn! (Gan blannu lluman Absalom yn y soced lle y buasai lluman Dafydd.) Edrych! Mae un ar ôl... Rhy feddw'n siŵr Pan ffodd y lleill o ganol gwledd a gwin. |
Rhed Ahitoffel ato i fyny'r esgynlawr a'i ysgwyd i'w ddeffro, gan ei droi ar wastad ei gefn. Deil flaen ei gledd wrth ei wddf. |
|
Ahitoffel |
Deffro, y meddwyn swrth! |
Meffiboseth |
(Yn deffro a gweled y cleddyf a sylweddoli'r sefyllfa.) O! lleddwch fi! Paham y byddaf byw i weld eich gwarth, Y bradwyr? Lleddwch fi wrth orsedd Dafydd. |
Absalom |
(Wrth Ahitoffel.) Atal dy law!... Llais Meffiboseth yw. (Gan ddod at Meffiboseth a'i godi ar ei eistedd.) Cyfod mewn heddwch. Nid oes gennyf gweryl  thi fy mrawd-dywysog. |
Meffiboseth |
O! paham Y rhoddaist glust, fy mrawd, i'r dyn drwg hwn? |
Ahitoffel |
Dy frawd, ai e?... Penlinia i Frenin Israel. |
Meffiboseth |
Ni allaf i benlinio; a phe gallwn Ni phlygwn namyn i Eneiniog Duw. (Cyfyd Ahitoffel ei gleddyf bygythiol eto.) |
Absalom |
Gad iddo, arglwydd. (Fe eistedd gerllaw Meffiboseth ar y fainc â'i fraich am ei ysgwyddau.) Gwrando Meffiboseth, Yr wyf mor hoff o'm tad ag yr ydwyt tithau. Ond llawn o dwyll a dichell yw'r Frenhines. |
Meffiboseth |
Hi a fu'n pledio drosof. |
Ahitoffel |
Rhagor o'i dichell, Er cael cefnogaeth gan Dŷ Saul i'w mab. |
Meffiboseth |
O mor ddaionus ydoedd trigo o frodyr Ynghŷd yn Llys y Brenin. |
Absalom |
Yr wyt ti'n Rhy ifanc i wleidyddiaeth; ac ni wyddost Mor enbyd cyflwr Israel. |
Meffiboseth |
Mi wn hyn, Mai Dafydd yw fy mrenin i, a'm tad. |
Absalom |
Ac ni niweidiwn innau ef er dim; Fe ddown i ddealltwriaeth.—Amdanat ti, Nac ofna ddim. Ni ddaw i tithau niwed. Cei aros yma'n Ddistain Llys y Brenin. A wyt-ti'n fodlon? |
Meffiboseth |
Nes dychwelo ef. |
Absalom |
O'r gorau... Ple mae'r goron... Wyddost ti? |
Meffiboseth |
(Yn troi at yr orsedd i'w cheisio.) Yr oedd hi yma cyn imi syrthio i gysgu. |
Ahitoffel |
(Yn gafael yn ei fraich a'i throi.) 'Nawr, dim o'th gelwydd! Ple mae Coron Israel? |
Meffiboseth |
(Yn eofn.) Nid oes dim celwydd ynof, fel tydi: Yr oedd hi yma cyn imi syrthio i gysgu, Ac fe ddiflannodd. |
Absalom |
Wyddost ti ddim mwy? |
Meffiboseth |
Dim mwy. Mi gerfiais gist o dderw i'w chadw. Diflannodd hi a'r gist; ond sut ni wn. |
Absalom |
Na phoena ragor. Fe ddown ni o hyd i'r goron. Ond edrych—gwna gymwynas â mi, 'wnei-di? |
Meffiboseth |
Os yw'n fy ngallu, heb wneud drwg i'r Brenin. |
Absalom |
Llychlyd y ffordd wrth deithio yma o Hebron, A'r haul yn danbaid arnom. |
Meffiboseth |
(Yn codi costrel a ffiol.) Fynni-di win? |
Ahitoffel |
Na! Paid â'i yfed... Dichon bod gwenwyn ynddo. |
Meffiboseth |
(Yn ddirmygus.) Nid ydyw gwenwyn yn un o arfau Dafydd. Edrychwch. (Fe yf o'r ffiol ei hun.) |
Absalom |
Na, nid wy'n ofni gwenwyn Gan Meffiboseth, ond ni ddeisyfaf win. Mae 'ngenau'n gras,—syched am ffrwyth sydd arnaf O'r ardd frenhinol wedi'n hymdaith boeth. Grawnsypiau pêr ac aur-afalau'r brenin, Y rhain ymrithiai o'm blaen o Hebron yma. A ei-di i gasglu rhai? |
Meffiboseth |
(Gan gymryd basged fechan a myned ŵ'r ardd.) Mi af, wrth gwrs. Ni fynnai'n Tad fod croeso'i fab yn brin. |
Ahitoffel |
Sut yr wyt ti'n ei oddef? |
Absalom |
Does dim twyll Yn agos iddo. Y mae'n werth ei ennill O blaid fy hawl,—yr olaf o Dŷ Saul. Eistedd, Ahitoffel, mae mwy i'w drafod. Na phrepian Meffiboseth. |
Ahitoffel |
Eistedd di, Fy Mrenin, yn gyntaf ar Orseddfainc Israel. |
Absalom |
(Wedi symud y fantell liwus a adawsid gan Dafydd ar yr orsedd, ac yna sylweddoli'n sydyn mai mantell ei dad ydyw a'i hanwesu'n dyner wrth ei rudd heb i Ahitoffel weled, cyn ei gollwng ar lawr ag ochenaid.) O! nid fel hyn bûm i'n dyfalu'r foment Cawn eistedd yn fy nhro ar Orsedd Dafydd. Yr oedd y Llys yn llawn; ac â llef utgyrn Y rhoddai 'nhad y goron ar fy mhen, Wedi i Sadoc fy eneinio i I gyd-deyrnasu â'm tad; a phawb yn bloeddio "Duw gadwo Absalom!" a "Duw gadwo Dafydd!" |
Ahitoffel |
Petai ein byddin heddiw wedi cyrraedd Caersalem yn ddi-rybudd, felly y buasai. Naw wfft i'r gwyliwr dwl yn Ninas Hebron A dybiodd fod Cŵsi ar dy neges di! Cawsant ddwy awr o rybudd. |
Absalom |
Nid heb waed Y dof yn frenin bellach. |
Bloedd llais unigol o'r stryd yn y pellter: Byw fyth fo'r Brenin Absalom! Tyrfa o'r dinasyddion yn ymateb: Hosanna! |
|
Ahitoffel |
'Rwyt-ti'n frenin. Eisoes yn serch Caersalem. Gwrando arnynt! |
Bloedd unigol arall: Gwyn fyd yr hwn sy'n dyfod yn enw'r Arglwydd. Y Dyrfa'n ymateb: Hosanna i Absalom! Hosanna i fab Dafydd! |
|
Absalom |
(Yn wawdlyd.) Tyrfa Caersalem! Oriog fel y gwynt Yw honno byth. Heddiw yn frwd "Hosanna," Yfory'n bloeddio "Ymaith." |
Ahitoffel |
Gwrando 'nghyngor, Mae gennyf ffordd i droi eu ffydd yn ffaith. Camp fawr tywysog yw marchogaeth teimlad Y dyrfa. |
Saif Hŵsai ym mhorth yr ardd ac ymgrymu tua'r orsedd. |
|
Hŵsai |
Henffych well i'n brenin mwy. |
Absalom ac Ahitoffel |
Hŵsai! |
Absalom |
Pa fodd nad aethost tithau heddiw Gyda dy gyfaill Dafydd?... Ai dyma'r tâl Am ei holl garedigrwydd iti? |
Hŵsai |
Na, Yr hwn sydd wrth Arch Duw yw 'mrenin i. Yr hwn sy'n trigo yma'n Frenin Seion, I hwnnw mae fy llw. |
Ahitoffel |
Fy arglwydd frenin Pan oeddit mewn alltudiaeth yn Gesŵr, Mentrodd fy arglwydd Hŵsai lid y brenin Trwy ei gynghori i'th alw adre'n ôl. |
Absalom |
Do, nid anghofiais hynny, Ahitoffel. Mwyn yw dy eiriau, Hŵsai. A daethost yma Yn gyntaf o'r dinaswyr i'm croesawu, 'Rwy'n gwerthfawrogi'r weithred. |
Hŵsai |
Frenin Seion, Rhoddais fy nghyngor pwyllog i'th dad Dafydd, A phwy a wasanaethwn ond y mab Sydd ar ei orsedd? Megis y bûm i'th dad, Gad imi fod i'r Brenin Absalom. |
Deil Absalom ei law ato. Fe esgyn yntau at yr orsedd a phenlinio i'w chusanu. |
|
Absalom |
Croeso i'n plith, Gynghorwr. Eistedd yma. Rho imi fantais dy brofiadol farn. (Eistedd Hŵsai ar y chwith i'r orsedd ac Ahitoffel ar y dde.) F'arglwydd Ahitoffel, trafod yr oeddit Ffordd i droi oriog ffydd y dyrfa'n ffaith. |
Ahitoffel |
Dangos dy hun yn berchen eiddo Dafydd. Gwisg ei frenhinol glog. (Gan ei rhoi dros ei ysgwyddau.) Tor i'w drysorfa. Dos heno i mewn i dŷ ei ordderch wragedd. (Gan bwyntio'r porth.) Yna, pan glywo'r dyrfa dy fod yn ffiaidd Yng ngolwg Dafydd, a'th her yn her derfynol, Ymrestrant oll o dan dy faner di. |
Hŵsai |
Cyngor cyrhaeddbell. Sicr o gael y dorf. |
Ahitoffel |
Un peth ymhellach. Dyro i minnau gatrawd O filwyr Hebron. Mi erlidiaf heno Hyd wersyll Dafydd... Ni ddisgwyliant hynny. Fe'u trawaf hwynt, yn gysglyd a lluddedig, Fe ffŷ ei osgordd wedi ei syfrdanu; Ac nid rhaid inni ladd neb ond y brenin. |
Absalom |
(Yn delwi.) Chytunais i erioed i ladd fy nhad. |
Ahitoffel |
Gad hynny imi. Bellach nid oes ffordd arall I ennill heddwch, a'th goroni di Heb unrhyw wrthblaid. Fe oroesodd Dafydd Ei ddefnyddioldeb... Gwêl, mae'i haul ar fachlud Mewn pwll o waed. (Gan gyfeirio at y machlud sy'n dwysáu ei liw, o oraens i goch, ym mhorth yr ardd.) |
Absalom |
(Yn galed arno, a than ei anadl.) Na! Na!... Fy arglwydd Hŵsai, Beth yw dy gyngor di? |
Hŵsai |
Nid da yw cyngor Y doeth Ahitoffel i ni'r waith hon. Ti wyddost am dy dad, mai glewion grymus Yw gwŷr ei osgordd. Nid ar chwarae bach Y tarfir hwy gan ruthr gwyllt liw nos. (Yn wawdlyd.) Atolwg sut mae lladd "neb ond y brenin?" Capten profiadol ydyw. Mewn rhyw ogof Bydd ef a'i deulu'n cysgu'n gwbwl ddiogel, A'r Cedyrn yn eu gwarchod. Hyd y llethrau Bydd gwyliwr wedi ei osod ar bob craig O gylch y gwersyll gan gyfrwyster Joab. |
Ahitoffel |
Gad hynny imi. Fe dduwn ein hwynebau A disgyn ar bob gwyliwr yn ddi-sŵn. |
Hŵsai |
Methwch ag un, a deffry hwnnw'r gwersyll; A Duw a'ch helpo rhag llid Cedyrn Dafydd! F'arglwydd, mi fûm i'n un o fintai helwyr Yn fy ieuenctid, ar ôl cenawon arth. Gwelsom ddau genau'n sleifio i mewn i ogof. Dringasom ar eu hôl â deg o gŵn A gwaywffyn. Gollwng dau gi i'r ogof I'w troi nhw allan. Ond clywsom ffyrnig ru Y fam, tu fewn, yn boddi sgrech y cŵn Wrth iddi eu rhwygo. Toc hi ddaeth i'r porth. Safodd, a'i rhu fel taran hyd y bryn A'i llygaid fel y mellt. Y peth ffyrnicaf A welais ar ddau droed. Ie, wyth o helgwn A adawsom wedi eu darnio o flaen y porth. A llithro bendramwnwgl i lawr y bryn Heb ennill cenau... Un peth ffyrnicach sydd Nag arthes ym mhorth ogof lle mae'i chywion,— Ei Gedyrn ym mhorth ogof lle mae Dafydd. |
Ahitoffel |
Pa gyngor gwell a roddai arglwydd Hŵsai? |
Hŵsai |
Os methiant fydd dy gyrch,—ar ôl y lladdfa Liw nos ar dy ddilynwyr, torri calon A wnâi gwŷr Hebron, a llithro adre'n ôl A gadael ein Tywysog heb amddiffyn. Gormod o fenter! |
Ahitoffel |
Menter yw pob rhyfel. |
Hŵsai |
Eto mae'r pwyllog yn mantoli ei siawns; A dyma 'nghyngor,—tario yng Nghaersalem; Arddangos yma holl ragorfraint brenin, Oni lwyr-gesglir llwythau Israel atom O Dan hyd Beerseba. Megis tywod Y môr y bydd ein llu... Wedyn, Dywysog Dos, ledia hwy dy hun i'w brwydyr gyntaf, A bydd dy frwydyr gynta'n fuddugoliaeth. |
Ahitoffel |
(Yn ddirmygus.) A ph'le bydd byddin Dafydd? |
Hŵsai |
Wedi encilio Rhwng muriau rhyw hen ddinas. Ond fe'i tynnwn, Megis â rhaff, i'r afon â'n llu mawr. Arswydant rhag ein nifer. A'n telerau Fydd rhoi ohonynt Ddafydd inni'n fyw. Ac os ymwâd â'r goron,—ef a Solomon— Cânt winllan ar y ffin, i'w thrin a'i throi. |
Absalom |
Hŵsai a roes y cyngor gorau heddiw. |
Ahitoffel |
Mae'n gyngor ynfyd! Rhaid eu taro heno Yn sydyn yn eu blinder. Bydd yn rhy hwyr Erbyn yfory. Ni ddaw siawns fel hwn Byth eto i ladd y brenin. |
Absalom |
Pam "ei ladd"? |
Ahitoffel |
Am na chei heddwch fyth ac yntau'n fyw. Gŵr gwaedlyd yw; gŵr sy'n dwyn barn ar Israel, Newyn, a phlâu, a dwys ofidiau fyrdd; Gŵr sydd â'i ddwylo'n goch gan waed Ureias, Gad imi ei daro heno â chleddyf barn. |
Absalom |
Yr un hen stori.—Oni ddwedais wrthyt Dalu ohono'n ddrud mewn edifeirwch? Tosturiodd Duw, a hyd yn oed Nathan Broffwyd. Paham y deli i sôn o hyd am ladd? |
Ahitoffel |
Fy Mrenin Absalom, offeryn dial A fuost tithau unwaith yn Llaw Dduw, Pan blennaist gyllell hir yng nghalon Amnon Am dreisio dy hoff chwaer. Arhosaist awr Y dial mewn amynedd; ond, pan ddaeth, A glywaist ti orfoledd fel llif ffrydiol Gwaed poeth y treisiwr dros dy law a'th gyllell? Dyro i minnau'r un gorfoledd heno. |
Absalom |
(Yn troi ato'n bendant.) 'Chei-di mo'i ladd! |
Ahitoffel |
Wyt ti'n ynfydu, lencyn? Rhaid imi ei ladd-o heno! |
Absalom |
(Yn codi.) Dyna ddigon A chofia 'mod i'n fab i Ddafydd Frenin. |
Ahitoffel |
(Yn derfysglyd.) O'r gorau! Mab i minnau oedd Ureias! |
Absalom |
Beth? Mab i ti? |
Ahitoffel |
Fy mab... Nid mab cyfreithlon: Llances o Hethiad oedd ei fam; ond Duw A ŵyr fy nghariad at fy machgen dewr. Yn ifanc daeth yn Gapten... Mewn sawl brwydyr Y chwarddodd am ben Angau â Llanciau Joab? Ac yna fe'i gadawsant; fe'i gadawsant Ar ganol arwain cyrch tros Frenin Israel; Ar amnaid eu Cadfridog fe'i gadawsant O fwriad, fel y cwympai o flaen y gelyn, A rifai ddeg am un; ac fel y caffai Y Brenin gysgu'n esmwyth gyda'i wraig. |
Absalom |
Mae deunaw mlynedd er y trosedd hwn. |
Ahitoffel |
Beth yw blynyddoedd wrth ddialedd tad? Anghofiodd pawb;—anghofiodd Nathan Broffwyd! Ond nid anghofiais i. |
Hŵsai |
'Fentret-ti ffawd Achos dy Frenin er dial llid personol? |
Ahitoffel |
Mae mwy o berygl yn dy gynllun di,— Ymbwyllo! Oedi! Heno y mae taro Ag ergyd barn y nef yn nerthu'n cyrch. Edrychwch! Arwydd sicir!—Machlud haul Fel pwll o waed wrth borth y llofrudd Dafydd! (Yn bloeddio a dyrchafu ei gledd.) Cleddyf yr Arglwydd ac Ahitoffel! |
Absalom |
(Yn bloeddio'n ôl i'w wyneb.) Yr wyt ti'n wallgof! |
Ahitoffel |
(Yn bloeddio'n fygythiol a'r cleddyf yn dal yn ddyrchafedig.} Gwallgof wyt dy hun! Rhaid iti roi i mewn i'm cyngor heno. |
Absalom |
(Yn ail-eistedd yn urddasol ar yr orseddfainc ac yn llefaru mewn llais tawel, oer, haearnaidd.) 'Wyt-ti'n fy mygwth? Wyt-ti'n codi'r cledd Yn f'erbyn innau, fel yn erbyn Dafydd? |
Ahitoffel |
(Yn cywilyddio a disgyn ar ei lin, gan newid ei dôn yn llwyr.) Maddau fy nhymer wyllt, O Frenin grasol, Anghofia ngeiriau byrbwyll. |
Absalom |
Cofiaf y lleill, "Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll, Digon fydd cau o'i gwmpas i'w ddirymu..." Dilynaf gyngor Hŵsai. |
Ahitoffel |
(Yn codi'n drist a distaw.) Mae'r chwarae trosodd, A minnau'n golwr... Esgusodwch fi... Mae'n oerach yn yr ardd... |
Ymgryma Absalom ei ben mewn caniatâd. Ymgryma Ahitoffel iddo yntau ar y trothwy. Yna try ar ei sawdl a myned allan. |
|
Absalom |
(Wrth Hŵsai, wedi saib.) Ffrind, tywallt win. (Hŵsai'n bwyllog yn cyrchu'r gwin a'r cwpan a'i estyn iddo, ac yna'n hamddenol yn tywallt cwpanaid iddo'i hun.) |
Hŵsai |
Ateb arafaidd—hwnnw a ddetry lid. Diffoddodd dy air tawel ei gynddaredd. Mae'n cywilyddio eisoes yn yr ardd. 'Rwy'n yfed i'th ddoethineb. (Yf eto.) |
Absalom |
Llwydd i tithau! (Yf eto.) A diolch am aeddfedrwydd barn a phwyll Yn lle gwylltineb gwallgo. (Yfant ill dau eto. Clywir un donc yn unig ar y Gloch Larwm.) Beth oedd hyn'na? (Gwrandawant ill dau, ond ni chlywir na thinc na thonc wedyn.) |
Hŵsai |
Un donc ar y gloch?... Y gwynt oedd yn ei siglo, (Cyd-yfant eto heb ragor o sylw iddi.) Cynghorwr gwerthfawr yw'r hen ffrind, ond weithiau Y mae'n lled fyrbwyll. Pan ddaw at ei goed, Fe fydd yn llwyr gytuno â ni. |
Absalom |
'Wyddwn i ddim Hyd heddiw fod Ureias yn fab iddo. |
Hŵsai |
Mi wyddwn i. Ond nid yw gwleidydd doeth Yn gadael i'w deimladau ŵyrdroi'i farn. Am les y wlad, yn lle defnyddio'i ben. |
Absalom |
Megis y gwnaethost ti, trwy ddyfod ataf A'th gyngor, er dy gariad tuag at Dafydd Fy nhad. |
Hŵsai |
'Rwy'n gyfaill iddo o hyd. Ond rhaid Oedd rhoi'r llywodraeth ar dy ysgwydd gref Er mwyn y wlad, ac er lles Dafydd ei hun. Byth ni niweidiwn dy frenhinol dad. |
Absalom |
Na minnau byth. Ac O! mi allwn wylo Wrth gofio'i groeso... Nid i'w erbyn ef Y codais i wrthryfel, ond Bathseba. Hi sy'n rheoli; a pha wir dywysog A adai i hon ladrata'i etifeddiaeth I'w phlentyn siawns? |
Hŵsai |
Tybed, a fyddai modd Cyn dechrau brwydro, anfon at dy dad Amodau heddwch? Gan ein bod ni'n gryfach, Cawn osod amod caeth yn diogelu Yr orsedd hon i ti. |
Absalom |
Byth ni chytunai Tan orfod rhyfel. Ni adai balchder iddo. |
Hŵsai |
Dwys A dyrys ydyw problem tad a mab Ym mhob cenhedlaeth;—y gwrthdaro anorfod; A'r naill yn caru'r llall yn nwfn y galon Oni bai falchder... Tybed na fyddai modd Cynnig amodau i Dafydd? |
Absalom |
Hollol ofer! Dychwelai hwy â sen. Ni chyfamodai Joab nac yntau â rhyw haid o fradwyr. Minnau, ni siomwn wŷr a fentrodd bopeth Er mwyn unioni cam â min y cledd. Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch Ymlaen i fuddugoliaeth neu i fedd. |
Clywir ysgrech arswydus gan Meffiboseth ger Porth yr Ardd a rhuthra'r bachgen i mewn ar ei faglau trwy bwll coch y machlud, gan lefain eto, wedi ei ddychryn o'i synhwyrau bron. Fe ddisgyn â'i fasged ar risiau'r esgynlawr â'i wyneb mewn parlys o ofn. |
|
Hŵsai |
(Yn myned ato i'w gysuro ac eistedd gerllaw iddo ar y grisiau.) Be' sydd, fy machgen annwyl-i, be' sydd? |
Absalom |
Ai un o'm milwyr i...? |
Meffiboseth |
Acw...yn yr ardd... Rhedais i'w erbyn... 'Roedd yr haul wrth fachlud Yn dallu fy llygaid... Rhedais i'w erbyn... O! |
Cyfyd Hiŵsai, ac o ystlysbost nesaf Porth yr Ardd fe edrych allan a gwêl yr hyn a ddychrynodd Meffiboseth. Delwir yntau dro, ac yna llefara. |
|
Hŵsai |
Nac edrych, arglwydd... Mae Ahitoffel Wedi ymgrogi wrth raff y Gloch Alarwm. |
Rhuthra Absalom i ystlysbost pellaf y porth ac edrych allan, a'r machlud gwaedlyd yn lliwio'i wedd. Am ennyd mae yntau'n fud. Yna llefara'n ddwys. |
|
Absalom |
"Mae'r chwarae trosodd," meddai, "a minnau'n gollwr." |
Bloeddiadau'r dyrfa eto o bellter y stryd: Hosanna i Absalom! Hosanna i Fab Dafydd! |
|
Absalom |
(Yn ymgaledu.) Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch Ymlaen, i fuddugoliaeth neu i fedd. |
LLEN |