ACT III YMWELIAD TOMOS BARTLEY A'R BALA. Golygfa 1 —Llety Rhys. —TOMOS wedi cyd-deithio â'r students o Gorwen i'r Bala.—taro ar MR. WILLIAMS, cyd-letywr Rhys. —RHYS yn dychwelyd o's gyhoeddiad, ac yn synnu wrth gyfarfod Tomos. —Trawsfynydd. —Hanes Morgan Llwyd. —Tomos yn dweyd ei farn am y Bala, ac yn mynd am dro. —WILLIAMS eisieu ei smyglo i'r class ŷr Coleg. —RHYS LEWIS yn derbyn dau lythyr pwysig. Enter WILLIAMS a TOMOS, a'i goler a's umbrella mawr, a'i barseli. |
|
Williams |
Wel, dyma ni o'r diwedd, Mr. Bartley. |
Tomos |
Tw bi shwar! Ond lle mae Rhys? |
Williams |
O, mi ddaw yn y munud. 'Steddwch i lawr. |
Tomos yn dal y parseli. Enter y LETYWRAIG. |
|
Williams |
Dyma Mrs. Jones, gwraig y ty lodging. |
Tomos |
Sut yr ydach chi, etc? |
Williams |
Gwnewch fwyd i Mr. Bartley—— |
Tomos |
O na, yn siwr; mi fytes i'r bara, a'r golwyth bacyn oedd Barbara wedi roi yn y mhoced i cyn cychwyn. Mi ges champion o bryd. Stwff wedi 'i besgi ar datws a blawd haidd, welwch chi. |
Y LETYWRAIG yn ceisio cymeryd y parseli, TOMOS yn ei hatal. Exit LLETYWRAIG. |
|
Tomos |
A dene wraig y ty? Un glen anwedd ydi hi'n edrach. Mi glywes i James Pwlffordd yn deyd englyn i'r Bala o waith Robin Ddu: Y Bala aeth, a'r Bala aiff, A Llanfor eiff yn llyn. ne rywbeth tebyg i hynne,—hwyrach y'ch bod wedi glywad o, Mr. Williams? |
Williams |
Do, neno dyn. (yn edrych drwy'r ffenestr) Dyma Rhys yn dwad. |
Enter Rhys. |
|
Tomos |
Wel, fachgen? Sut yr wyt ti ers cantoedd â miloedd? |
Rhys |
Reit iach, Tomos. Pwy yn y byd mawr fase yn disgwyl y'ch gweld chi yn y Bala? |
Tomos |
Tw bi shwar! Ond chwech o'r gloch bore heddyw, wel di, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn, mi gymes ffit yn y mhen y down i edrach am danat ti. Ond ddylies i 'rioed fod y Bala mor bell. Wyst ti be', mae ene gryn step oddacw yma; a roeddwn i'n meddwl fod ene dren ar hyd y ffordd; ond erbyn dallt, Corwen ydi'r stesion ola. Ond welest ti 'rioed mor lwcus fum i. Yng Nghorwen, mi ddaru Mr. Williams fy 'nabod i, ond mae'n myddangos fod o wedi ngweld i yn y stesion acw, pan oeddat ti'n mynd i ffwrdd. A mi ges ride efo lot o stiwdents, a mi gawsom mygom reit difyr, ond do, Mr. Williams? |
Williams |
Campus. |
Tomos |
Tw bi shwar! Bechgyn clen ryfeddol yden nhw; ond 'rydech chi'n debyg i'ch gilydd,—yn od felly. Lle buost ti cy'd, dwad? Lle 'roeddat ti wrthi ddoe? |
Rhys |
Trawsfynydd. |
Tomos |
Trawsfynydd? Wel, aros di, nid un oddiyno oedd Morgan Llwyd? |
Rhys |
Ië. |
Tomos |
Tw bi shwar! 'Roeddwn inne'n meddwl. Un garw ydi Morgan Llwyd. Mi fydda i'n wastad yn deyd, ydawn i'n hapno mynd i ryw drwbwl, mai Morgan Llwyd gymerwn. Glywsoch chi am y tro hwnnw yn Rhuthyn, Mr. Williams? |
w |
Naddo wir, Mr. Bartley. |
Tomos |
Naddo? Wel, mi ddeyda fo i chi,—mae o cyn wired a'r pader. Wel i chi, 'roedd ene ddyn,—adeg y Seisus oedd hi,—yn cael 'i dreial am ddwyn bacyn,—bacyn, dalltwch,—a 'roedd pawb yn ofni y cawse fo 'i dransportio. 'Roedd y siopwr ag yr oedd y dyn wedi dwyn y bacyn oddi arno,—bacyn, cofiwch,—wedi pluo Macintaiar i brosiciwtio; a'r dyn, druan, wedi pluo Morgan Llwyd i 'myddiffyn o. Wel i chi, 'roedd Macintaiar yn dal ac yn gollwng yn ryfeddol, a 'roedd achos y dyn yn edrach yn ddu anwedd. Ond yn y man, mi ddoth tyrn Morgan Llwyd,—a dene fo ati! Mi alwodd ymlaen gigydd, a mi ofynnodd iddo,—"Be' oedd o'n feddwl wrth facyn?" A 'be'r cigydd, "Bacyn ydi 'nhorob,—neu mochyn wedi 'i halltu a sychu,." "Tw bi shwar," ebe Morgan Llwyd; a mi alwodd y siopwr ymlaen, a mi 'fynnodd iddo fo, "Oedd y cig yr ydach chi'n deyd fod y dyn yma wedi ddwyn,—a oedd o wedi halltu a sychu?" "Nag oedd," 'be'r siopwr. "Ffals deitment," 'be Morgan Llwyd; a mi 'nillodd y case yn syth! Un garw ydi Morgan Llwyd. Dywed i mi, oes ene rai o'i deulu o yn byw yn Trawsfynydd 'rwan? |
Rhys |
Oes y mae, Tomos. |
Tomos |
Bydase gen i amser, mi faswn yn mynd yno 'u gweld nhw, bydawn i byth o'r fan 'ma! Wyddoch chi be', fechgyn, mae hi'n glos ryfeddol yma; agor y ffenest yne, Rhys. Dydi o ryfedd yn y byd fod chi'ch dau yn edrach mor llwyd,—does yma lwchyn o wynt. Waeth i chi fyw mewn bambocs nag mewn room fechan fel hon, ar drws wedi'i gau, a dim ar affeth hon y ddaear yn'i, 'blaw bwrdd a chadeirie a llyfre,— rydach chi'n bound o golli'ch iechyd! Bydawn i mewn lle fel hyn am ddau ddiwrnod, mî fyddwn farw ar y spot. Wel, Rhys, sut mae hi'n dwad ymlaen? Wyt ti'n leicio dy le? Wyt ti'n cael digon o brofisiwns yma, dywed? |
Rhys |
Mae hi yn dwad ymlaen yn eitha da hyd yn hyn, Tomos. Sut mae Barbara, a sut na fase hi efo chi? |
Tomos |
Wel, rhw ddigon bethma ydi Barbara, yn siwr i ti. Mae hi'n cael ei thrwblo yn anwedd gan y riwmatis, a phoen yn 'i lode, a mi ges scyffyl ryfeddol i gael dwad yma heddyw. Mae hi yn cofio atat ti yn ods. Wyst ti be, fum i ddim oddicartre o'r blaen er's pum mlynedd ar hugain. |
Rhys |
Beth ydych chi yn 'i feddwl o'r Bala, Tomos? |
Tomos |
Tydw i wedi gweld fawr ohoni eto, ond yn ol hynny weles hi, mae hi'n edrach yn debyg iawn,—yn ol y meddwl i,—i dre wedi 'i bildio ar ganol cae. Sut ar affeth hon y ddaear na thorren nhw'r coed ene? Ydi'r brain ddim yn drwblus weithie, dwed? Weles i 'rioed o'r blaen res o goed mawr fel coed y Plas ar ganol stryt. Ond 'ddyliwn nad oes gynnoch chi 'run Local Board yma? |
Williams |
Mae pobol y Bala yn meddwl llawer iawn o'r coed, Mr. Bartley. |
Tomos |
Erbyn meddwl, wir, Mr. Williams, synnwn i ddim nad ydyn nhw yn ddigon handi ar ddiwrnod ffair i rwymo catel. Ond mi ddaru nhw yn nharo i yn od pan weles i nhw. Ond dyma ti, Rhys, wyt ti am 'y nghymyd i dipyn o gwmpas i weld y dre? Does gen i fawr o amser, a mi fydd acw dy ar ffyrch nes a i 'nol. Oes gynnat ti amser? |
Rhys |
Oes debyg. Mi ddanghosaf gymaint ag allaf. Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi cael bwyd. |
Tomos |
Do, neno dyn; mi roth Barbara olwyth o facyn a bara i mi fyta ar y ffordd, a mi nes yn champion, syffiasiant i un-dyn. |
Rhys |
Well i mi 'molchi. |
Tomos |
'Molchi! I be wyt ti isio molchi? Ond wyt ti fel pin mewn papur! Does yna yr un specyn arnat ti. Wyt ti'n mynd dipyn yn gysetlyd yma, dywed? |
Rhys |
Fydda i 'run dau funud. (Ymneillduo am funud.) |
Tomos |
Aros di, Rhys, weles i monat ti yn cymeryd dim byd at dy ben er pan ydw i yma. Ches di ddim bwyd? |
Rhys |
Do, Tomos, mi ges fwyd yn Rhyd-y-fen. |
Tomos |
Rhyd-y-fen? Lle mae fan honno, dywed? Ydi hi'n daith? |
Rhys |
Na, ty tafarn ydi Rhyd-y-fen,—hanner y ffordd rhwng y Bala a Ffestiniog. |
Tomos |
Be, be? Ydyn nhw'n lowio i brygethwrs fynd i dyfarne yn y wlad ucha yma? Ond 'does dim harm yn y peth-ynddo'i hun, yn ol y meddwl i; a mi fyddwn yn wastad yn deyd fod Abel Hughes yn rhy strict efo hynny. |
Tomos yn tynnu y fowl a'r bacyn i Rhys. |
|
Rhys |
Diolch yn fawr i chwi, Tomos; a diolchwch i Barbara. |
Tomos |
Mae i ti groeso, machgen i. (yn tanio ei getyn) Mi gychwynna i, fechgyn. |
Rhys |
Hwyrach mai gwell fydda i chi beidio smocio yn y dre, Tomos. |
Tomos |
Oes drwg am hynny? Ne ai pobol go gysetlyd sydd yn y Bala? |
Rhys |
'Does dim drwg yn y peth, am wn i, Tomos; ond nid oes neb parchus yn gwneyd hynny yma. |
Williams |
Na, smociwch eich gore, Mr. Bartley. Mae Rhys yn hynod o gysetlyd. |
Tomos |
Hy-hy! a finne'n clwad mai rhai garw oeddach chi am smocio; ond bid a fynno am hynny, chwedl y dyn hwnnw o'r South, dowch i ni fynd i edrach be welwn ni. Mae gen i eisio gweld tri pheth,—Green y Bala, y Llyn, a'r Gloch. Rydw i 'n cychwyn. |
Exit Touos. Plant yn chwerthin oddi allan, a Tomos i'w glywed yn dweyd, "Welsoch chi erioed ddyn o'r blaen, blant?" |
|
Williams |
(Wedi ymlâdd yn chwerthin.) Rhys anwyl, dyma'r original mwya weles i 'rioed â'm llygaid. Mae'r bechgyn wedi cael gwerth punt o sport hefo fo o Gorwen i'r Bala, a mae nhw wedi fy siarsio i ddeyd wrthat ti am 'i gadw fo yma cyd ag y medri di. Fedren ni mo'i smyglo fo i'r class, dywed? Mi fydde yn perfect treat. |
Rhys |
Fydde hynny ddim quite y peth. Mae o yn dipyn o brofedigaeth i mi, achos mi fydd raid i mi fynd ag o o gwmpas. Bydase'r creadur wedi gadael y goler fawr yna gartre, mi fase yn dda iawn gen i. Mi fydd pawb yn edrach ar y'n hola ni. |
Williams |
Paid a chyboli! Fase fo ddim chwarter cystal heb y goler. Mae'r goler yn werth can punt. Ga i ddod hefo chi? Os cai, mi geiff y mathematics am heddyw'r prydnawn fynd i Jerico. |
Rhys |
Gei di, wir! Yr oeddwn ar fedr cynnyg pum swllt i ti am ddwad i gymeryd peth o'r cywilydd. |
Y LETYWRAIG yn estyn dau lythyr. Williams yn eu cymeryd. |
|
Williams |
Rhys Lewis sydd ar y ddau. Hwde, Rhys, dau fil, mi wn. |
Rhys yn darllen un dan wenu. |
|
Williams |
Pa newydd oddiwrth Mary Jane? Ydi hi'n iach? |
Rhys |
Paid a lolian, Williams. Edrych, beth ddyliet ti yw hwn? Gwahoddiad oddiwrth fy hen eglwys, Bethel, i fynd yn weinidog arni. |
Williams |
Llongyfarchiadau lond gwlad. Unpeth eto, Rhys. |
Rhys |
Beth ydi hwnnw, Williams? |
Williams |
Gwraig reit dda. |
Rhys yn darllen y llythyr arall ac yn gwelwi. |
|
Williams |
Pam mae dy wedd yn newid,—pa newydd drwg? |
Rhys |
Dyma lythyr o garchar Birmingham, yn dweyd fod yno berthynas i mi ar ei wely angeu, ac fod yn rhaid i mi fynd yno ar unwaith i'w weld. |
Tomos |
(oddiallan) Ydach chi ddim yn dwad, fechgyn? 'Rydach chi'n hir iawn. |
CURTAIN |