a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3
Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.

Act 3, Golygfa 2


YSTAFELL YN Y COLEG

Golygfa 2
—Map.
—Blackboard.
—Myfyrwyr yn eistedd ynghyd.
—Ymweliad TOMOS BARTLEY.
—Lle mae y myfyrwyr yn croesawu TOMOS, ac yntau ar gais taer y PRIFATHRAW, yn eu hannerch.


Enter TOMOS, WILLIAMS, a RHYS. Cheers.

Williams

(wrth y myfyrwyr) Mr. Tomos Bartley, foneddigion, cyfaill Mr. Rhys Lewis. (TOMOS rhwng WILLIAMS a RMYS.) Mae Mr. Bartley wedi dwad i'r Bala i ymweled a——

Tomos

Wyst ti be? Mae 'ma lot ryfeddol o honoch chi, a 'rydach chi'n debyg iawn i'ch gilydd, 'blaw y dyn acw a'r trwyn cam. Ydi o yn biwpyl techar?



Enter yr ATHRAW.

Athraw

Where did we leave off?

Williams

The first paragraph on page 10, sir.

Athraw

Mr. Evans of Denbigh, will you read?

Rhys

He is not here, sir.

Athraw

Where is he? I must mark him absent. We shall begin here.



Un o'r myfyrwyr yn darllen tra y graddol gysga TOMOS.

Athraw

'That is very good, and you are a great credit to the schoolmaster who taught you to read. Perhaps we had better leave off here. You see that Mr. Lewis, with my permission, has brought a friend with him to the class this evening. This is an unusual thing, and must not be looked upon as establishing a precedent. But I thought that Mr. Lewis' friend might give you, as preachers, a word of advice. Words of wisdom are not to be despised, from whatever quarter they come. Yr oeddwn i yn dweyd, Mr. Bartley——

Tomos

(hanner cysgu) Ie, syr. Maddeuwch i mi, ond mae gwynt y Bala yma 'n gryf iawn. Mae arna i eisieu cysgu anwedd.

Athraw

Yr oeddwn i yn dweyd wrth y dynion ieuainc y gallai fod gennych air o gyngor iddynt. Dywedwch air, Mr. Bartley. Mae eisieu dweyd llawer y dyddiau hyn wrth ein dynion ieuainc.

Tomos

Welsoch chi 'rioed fy salach i am ddeyd rhywbath, syr; ond fydda i byth yn leicio bod yn od ac anufudd. Mi glywes lawer o son am y Bala, syr, a phan ddoth Rhys yma atoch chi, 'roedd i fam o a finne yn ffrindie mawr,—y hi ddaru nwyn i at grefydd, a doeddwn i yn gwybod dim nes iddi hi 'sponio i mi, a gwraig ryfeddol oedd hi. Mi ddeydis wrthi lawer gwaith, bydase hi yn hapno bod yn perthyn i'r Ranters, y byse hi'n gneyd champion o brygethwr. (cheers) Hoswch chi, be oeddwn i'n mynd i ddeyd. O ie, pan ddoth Rhys atoch chi, mi bendrafynnes y down i i weld y Bala rwdro, a heddyw'r bore, pan oeddwn i ar ganol rhoi bwyd i'r mochyn,—(cheers),—'befi,—Heddyw am dani. O Gorwen i'r Bala, mi ges ride efo lot o'r prygethwrs ifinc yma, a mi ges fy synnu yn fawr ynyn nhw, syr. Roeddwn i'n wastad yn meddwl am y students mai rhw bethe a'u penne yn 'u plu oeddan nhw,—wedi hannar dorri'u clonne, ac yn darn lwgu 'u hunen; ond weles i 'rioed fechgyn cleniach,— doeddan nhw ddim yn debyg i brygethwrs, achos 'roeddan nhw'n od o ddifyr. Wyddoch chi be, syr? Roedd Mr. Williams,—(gan roddi ei law ar ei ysgwydd),—yn medryd y'ch actio chi i'r blewyn; bydaswn i yn cau fy llygaid, faswn i ddim yn gwybod nad y chi oedd o. Ond rhaid i mi ddeyd y gwir yn 'u gwynebe nhw, syr,—dydw i ddim yn 'u gweld nhw mor glyfar wrth brygethu. Mi na i gyfadde mod i'n ddwl, achos yr oeddwn i yn hen yn dwad at grefydd. A mi na i gyfadde mai ychydig o honyn nhw glywes i yn prygethu, a hwyrach nad oedd y rheiny y rhai gore. Pan fyddwch chi yn prygethu, syr, yr ydw i yn y'th dallt chi'n champion. Ond, a deyd y gwir yn onest, fedrwn i neyd na rhawn na bwgan o'r stiwdents fu acw, a fedre Barbara neyd dim ar chwyneb y ddaear o honyn nhw. Wrth bygethu yn Gymraeg ma'r bechgyn yma yn disgwyl ennill i byfoliaeth, ond ma' Rhys yma yn dweyd wrtha i nad ydach chi ddim yn dysgu Cymraeg yn y Coleg. Most y piti ydi hynny! achos waeth iddi nhw heb ddysgu ieithodd pobol wedi marw ers cantodd, os na fedra nhw bygethu mewn iaith y medrai pobol i dallt nhw. Wrach y mod i yn misio hefyd, achos dydw i ddim yn llawer o slaig, tw bi shwar. A fedra i ddim ond ryw grap ar y llythrena, welwch chi. Yr ydw i'n synnu mai mewn ty gwâg yr ydach chi'n cadw'r ysgol, a ma'n dda gen i, ar ol i mi y'ch gweld chi, y mod i wedi rhoi hanner sofren i'r dyn bychan hwnnw fu'n casglu at i chi gael ysgol newydd. Dene un o'r dynion noblia, syr, weles i 'rioed â'm llygad,—faswn i byth yn blino gwrando arno fo. Roedd o'n deyd mai o'r Bala 'roeddan ni yn cael ceiliogod i ganu, a fydda i byth yn clywed y ceiliogod ifinc acw yn canu ar y buarth heb gofio am 'i air o. Os ddaru chi sylwi, syr, rhw nâd ddigon rhyfedd fydd y ceiliogod ifinc yn 'i neyd am gryn bedwar mis, yn enwedig os na fydd ene hen geiliog i roi patrwm iddyn nhw. Ond waeth i chi prun, mae nhw yn dwad bob yn dipyn i diwnio yn nobyl. Yr ydwi yn cymyd dipyn o interest mewn fowls, syr, —mae Rhys yn gwybod,—(cheers),—a'r cywion casa gen i ydi rheiny na wyddoch chi prun ai iâr ai ceiliog ydyn nhw. Os na fyddan nhw yn dangos yn o fuan be ydyn nhw, mi fydda yn torri'u penne nhw. (cheers) Wel, mae yn dda gen i o nghalon ych gweld chi mor gyfforddus, a gobeithio y gwnewch chi fadde i mi am gymyd cymin o'ch hamser chi. (cheers) (wrth WILLIAMS) Be ydi menin y cheers yma, Mr. Williams? Ddaru mi siarad yn o deidi?

Williams

Campus.

Athraw

Wel, Mr. Bartley, yr ydw i'n gobeithio yn fawr y bydd i'r dynion ieuainc ddal ar eich cynghorion gwerthfawr, a'ch sylwadau pwrpasol. Y troion nesaf y bydd y students yn pregethu acw, cymerwch sylw manwl ohonynt, —a ydynt yn gwella. Os na fyddant yn dangos yn eglur pa un ai iâr neu geiliog ydynt, gadewch i ni gael gwybod, Mr. Bartley, er mwyn i ni gael torri eu penne nhw.

Tomos

Tw bi shwar, syr. Roeddwn i wedi meddwl cael gweld yr ysgol pan oeddach chi wrthi. Mae cystal gen i a choron mod i wedi cael caniatad i ddod yma,—mi fydd gen i gymin mwy i ddeyd wrth Barbara pan a i adref. Diolch yn fawr iawn i chwi, syr, a ph'nawn da 'rwan.



Exit TOMOS, RHYS, a WILLIAMS,— TOMOS yn troi yn ol.

Tomos

Begio'ch pardwn, syr, oes gynnoch chi ddim ffasiwn beth a matsien yn y'ch poced? Wn i ddim sut y dois i oddi cartre heb yr un.



Athraw yn chwilio yn ei logell am un, gan fwynhau'r cymeriad gwreiddiol.

CURTAIN

a1, g1a1, g2a2, g1a2, g2a2, g3a2, g4a3, g1a3, g2a4, g1a4, g2a4, g3