a1a2a3a4

Yr Wylan (1952)

Anton Tsiechoff [Антон Чехов]
cyf. Thomas Hudson-Williams, gol. Samuel Jones

Ⓗ 1952 Thomas Hudson-Williams
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 3


Ystafell ginio yn nhŷ Sorin. Drws ar y dde, drws ar y chwith, side-board, cwpwrdd a photeli ffisig etc. Bwrdd ar ganol y llawr, cist a bagiau, a'r holl le ar gychwyn. Trigorin wrth y bwrdd yn bwyta, a Masia yn sefyll wrth ei ymyl.

Masia

'Rwy'n deud hyn i gyd wrthoch chi fel llenor, gellwch neud defnydd ohono rywbryd. Dyma'r gwir noeth ichi: pe gwyddwn i fod ei friwiau o'n beryglus, roswn i ddim munud mwy yn y byd, ac mi fedra i ddiodde llawer hefyd cofiwch! 'R ydw i wedi penderfynu un peth: mi dynna i'r cariad ma allan o nghalon i, gnaf, i'r bôn, a'r gwraidd gydag o.

Trigorin

Sut y gnewch chi hynny?

Masia

Trwy briodi, trwy briodi Simeon Medfedenco.

Trigorin

Yr athro?

Masia

Ie.

Trigorin

Wela i mo'r angen.

Masia

Caru heb obaith, byw am flynyddoedd yn disgwyl i rywbeth ddigwydd – na! Ac wedi imi briodi fydd na ddim amser i garu, bydd digon o ofalon newydd yn llyncu'r hen; mi ga newid bywyd, beth bynnag, gawn ni lasiad arall?

Trigorin

Fydd hynny ddim yn ormod?

Masia

Twt, twt! (Yn tywallt llond dau wydr.) Peidiwch ag edrych arna i fel yna. Mae merched yn diota yn amlach nag yr ydych chi yn ei feddwl, ond ychydig ohonyn nhw sy'n yfed yn gyhoeddus fel fi, yn y dirgel y bydd y rhan fwya ohonyn yn hel diod. Brandi ne wisci i mi! (Yn taro gwydrau.) Iechyd da! Dyn clên ydych chi, mae'n ddrwg gin i eich bod chi'n mynd.



Yfant.

Trigorin

'D oes arna i ddim isio mynd.

Masia

Gofynnwch iddi aros, ta.

Trigorin

Na, rosith hi ddim rwan. Mae'r mab mor wirion. Dyna fo'n trio saethu ei hun, ac wedyn, meddan nhw, yn mynd i roi sialens i mi. Ac am ba reswm? Mae o'n chwythu ac yn chwyrnu ac yn pregethu efengyl ffurfiau newydd - ond neno'r annwyl, mae digon o le i'r hen a'r newydd, 'does dim gofyn ffrae, dybiwn i.

Masia

Ie, ie, ond gwenwyn sydd yn y gwraidd. Ond nid musnes i ydi hynny.



Distawrwydd; daw Iago o'r chwith i'r dde yn cludo cist. Daw Nina i mewn a sefyll wrth y ffenestr.) 'Does gin f'athro i fawr yn ei ben, ond y mae'n ddyn da ac yn glawd, ac yn fy ngharu'n ddwys. Mae biti gin i drosto fo a'r hen wreigan gin i fam o hefyd. Wel, pob llwyddiant i chi! Peidiwch â'm hanghofio i. (Yn gwasgu ei law yn dyn.) Diolch yn fawr ichi am eich caredigrwydd. Anfonwch eich llyfrau imi, a chofiwch daro'ch henw arnynt. Peidiwch â deud 'i'r hoff foneddiges fwyn' ond 'Marie na ŵyr o ba le y daeth, na phaham y mae yn y byd yma?' Da y boch chi! (Â allan.)

Nina

(Wedi cau ei dwrn, yn estyn ei braich.) Un ta dwy?

Trigorin

Dwy.

Nina

(Ag ochenaid.) Na, un bysen sy gin i. 'R'on i'n trio cael gwbod a ddylwn i fynd ar y stage ai peidio. Mae arna i isio cyngor.

Trigorin

Fedr neb roi cyngor ichi.



Distawrwydd.

Nina

Dyma ni'n mynd bawb ei ffordd ei hun. Welwn ni mo'n gilydd eto, mae'n debyg. A fyddwch chi cystal â chymyd y fedal bach yma i gofio amdana i? Mae nhw wedi torri'ch enw arni ar un ochor ac ar yr ochor arall mae teitl eich llyfr chi 'Nos a Dydd.'

Trigorin

Mae hi'n neis. (Cusana'r fedal.)

Nina

Meddyliwch amdana i weithiau.

Trigorin

Mi fydde i'n siwr o neud, mi feddylia i amdanoch fel yr oeddech chi ar y diwrnod heulog hwnnw, ydych chi'n cofio, 'r wythnos dwaetha, mewn ffrog wen – mi gawsom sgwrs – a'r wylan wen ar y fainc.

Nina

(Yn feddylgar.) Ie, yr wylan.



Distawrwydd.

Nina

Ond dyna ben ar ein sgwrs ni, mae nhw'n dŵad – ga i ddau funud bach gynnoch chi cyn ichi fynd i ffwrdd, peidiwch â gwrthod.



 allan ar y chwith, ac ar yr un pryd daw Arcadina i mewn ar y dde, Sorin ac wedyn Iago â'r gist etc.

Arcadina

Rhoswch gartre, 'r hen fachgen. Fedrwch chi ddim mynd i rodio â'r cricymala na. (Wrth Trigorin.) Pwy aeth allan rŵan? Nina?

Trigorin

Ie.

Arcadina

Mae'n wir ddrwg gin i, fynnwn i er dim dorri ar draws eich sgwrs. (Yn eistedd.) Dyna fi wedi pacio popeth, rw i wedi hario.

Trigorin

(Yn darllen ar y fedal.) 'Nos a dydd, tudalen 121, llinell 11 a 12.'

Iago

(Yn clirio'r bwrdd.) Ga i roi'r taclau pysgota i mewn?

Trigorin

Cewch, bydd gofyn amdanyn nhw rywbryd, ond d'oes dim isio'r llyfrau.

Iago

O'r gorau, syr.

Trigorin

(Yn ddistaw bach.) Tudalen 121, llinell 11 a 12. Be sy yn y llinellau yna? (Wrth Arcadina.) Ydi fy llyfrau i yn y tŷ?

Arcadina

Ydyn, yn y stydi, yn y cwpwrdd congol.

Trigorin

Tudalen 121. (Â allan.)

Arcadina

Yn wir, Piotr bach, mi ddylech aros gartre.

Sorin

Wedi i chi fynd, mi fydd yn annifyr iawn arna i yma.

Arcadina

Faint gwell fydd hi yn y dre?

Sorin

'Does na ddim neilltuol yno; ond eto, mi fyddan yn gosod carreg sylfaen y Neuadd bentre newydd ac felly yn y blaen, cawn i ond dingyd am awr neu ddwy o'r hen dwll ma, 'r wy'n teimlo fel hen getyn wedi torri a'i daflu ar y domen. 'Rwy i wedi deud wrthyn nhw am gael y cerbyd yn barod ac mi awn o ma gyda'n gilydd.

Arcadina

(Ar ôl ysbaid byr.) Rhoswch yma, peidiwch â bod yn ddigalon, a chofiwch beidio cael annwyd. Cymwch ofal o Constantin. Cadwch eich llygad arno. Rhowch gyngor iddo rwan ac yn y man. Dyma fi'n mynd heb wbod eto pam y triodd o ladd ei hun. 'Rwy'n credu mai cenfigen oedd y rheswm penna, a gorau po gynta y gwêl gynffon Trigorin.

Sorin

Sut y medra i ddeud wrthoch chi? Mae na resymau erill. Welwch chi, gŵr ifanc ydi o, debyg iawn, yn byw yn y wlad, ym mhen draw'r byd, heb arian, heb safle, heb ragolygon o gwbl. Mae'n segur ac mae arno gwilydd o'i segurdod. 'Rwy'n hoff iawn ohono, ac y mae o'n ddigon hoff ohonof innau hefyd, ond y mae o'n tybied, mewn gair, nad oes ar neb ei isio fo, dda gynno ddim byw ar fywyd pobol erill heb ennill ei damaid ei hun, hunan-barch, debyg iawn.

Arcadina

Mae'n biti gin i drosto fo. (Yn feddylgar.) Tae o'n cael swydd...

Sorin

(Yn chwibanu, ac wedyn braidd yn swil.) Mi greda i... mai'r peth... gorau... fel pe tae... fyddai ichi roi tipyn o arian iddo. I ddechrau mi ddylai wisgo yn debycach i Gristion ac felly yn y blaen. Styriwch y peth, yr un hen gôt sy gynno fo ers tair blynedd, a d'oes gynno fo ddim top côt ar ei elw. (Chwardd.) Eitha peth hefyd fyddai iddo fo fynd i weld tipyn ar y byd, i wlad bell, chostiai hyna fawr ichi.

Arcadina

Wel, mi fedra i fforddio prynu dillad iddo fo, ond am fynd i wlad bell... Na, ar hyn o bryd feda i ddim prynu dillad iddo chwaith. 'D oes gin i ddim arian. (Yn benderfynol) 'Does gin i ddim arian.



Chwardd Sorin.

Arcadina

Nag oes.

Sorin

(Yn chwibanu.) Wel, wel, peidiwch â digio. Mi goelia i hynny. Gwraig ardderchog, nobl ydych chi.

Arcadina

(Yn ddagrau i gyd.) 'Does gin i ddim arian.

Sorin

Tae gin i arian, wrth gwrs, mi cai nhw, ond 'r ydw i ar y clwt, 'does gin i ddim ffadan. Mae pob dimai o mhensiwn yn mynd i'r stiward i'w sgwandro ar drin y tir, magu anifeiliaid a gwenyn, a dim o gwbl yn dŵad i mewn. Mae'r gwenyn yn marw, y gwartheg yn marw, a cha i ddim ceffylau gynnyn nhw.

Arcadina

Oes, ma gin i arian, ond artist ydw i, cofiwch hyna, rhaid imi wario ffortsiwn ar fy nillad.

Sorin

Gwraig annwyl, dda, ydych chi, 'r wy'n eich parchu chi'n fawr, ydw... o... mae o'n dŵad trosto i eto... mae mhen i'n ysgafn. (Yn cydio yn y bwrdd.) 'Rwy'n teimlo'n sal ac felly yn y blaen.

Arcadina

(Wedi dychryn.) Piotr bach. (Yn ceisio ei ddal i fyny.) Piotr annwyl, aur. (Yn gweiddi.) Help, help!



Daw Treplieff i mewn â rhwymyn am ei ben, a Medfedenco.

Arcadina

Mae o'n wael.

Sorin

Dim byd, dim byd. (Yn gwenu ac yn yfed dŵr.) Mae o wedi mynd heibio rŵan, ac felly yn y blaen.

Treplieff

(Wrth ei fam.) Peidiwch â dychryn, mam, 'd oes dim perig. Mi fydd f'ewyrth fel yna yn aml iawn. (Wrth Sorin.) Rhaid ichi fynd i orwedd, f'ewyrth bach.

Sorin

Rhaid, am funud neu ddau, ond 'r ydw i am fynd i'r dre wedi gorwedd tipyn bach, debyg iawn. (Cychwyn allan a'i bwys ar ei ffon.)

Medfedenco

(Yn gafael yn ei fraich.) Dyma ichi bos: yn y bore ar bedwar troed, ganol dydd ar ddau droed, yn yr hwyr ar dri throed...

Sorin

(Yn chwerthin.) Felly'n union, ac yn y nos ar wastad ei gefn. Diolch yn fawr ichi, ond mi fedra i gerdded fy hun.

Medfedenco

Dowch, dowch, dim lol! (Â'r ddau allan.)

Arcadina

Mi ges i fraw!

Treplieff

'D ydi byw yn y wlad yn gneud dim lles iddo fo. Mae'n poeni. Be pe taech chi'n hael am unwaith, mam, ac yn rhoi benthyg cant a hanner iddo; mi allai fyw'n braf yn y dre am flwyddyn gron.

Arcadina

'Does gin i ddim arian, actres ydw i, nid banker.



Distawrwydd.

Treplieff

Mam, rhowch gadach arall ar y mhen i, mae'ch llaw chi mor dyner.

Arcadina

(Yn agor y cwpwrdd ac yn estyn iodofform a bocs yn cynnwys rhwymau etc.) Mae'r doctor yn hwyr.

Treplieff

Mi addawodd fod yma erbyn deg, ond y mae rŵan yn hanner dydd.

Arcadina

Steddwch. (Tyn y cadach oddi am ei ben.) Mae o fel tyrban ar eich pen chi. 'R oedd na ŵr diarth yn y gegin ddoe yn gofyn i ba genedl 'r oeddech chi'n perthyn. Mae'r briw wedi cau, prin y mae wedi gadael ôl arnoch, newch chi ddim gneud bang-bang eto, newch chi?

Treplieff

Na, na i, mam, colli arna i fy hun ddaru mi mewn munud o anobaith. Na i byth eto. (Yn cusanu ei llaw hi.) Mae gynnoch chi ddulo annwyl. 'Rwy'n cofio pan oeddwn i'n hogyn bach, a chithau yn yr Imperial Theatre, bu ffrwgwd yn yr iard, ac mi gafodd y ddynes fyddai'n golchi inni y gurfa go hegar. Ydych chi'n cofio? Mi gafodd lewyg a dyma chithau'n trin y briw ac yn golchi ei phlant yn y cafn. Ydych chi ddim yn cofio?

Arcadina

Nag ydw i. (Yn rhoi cadach glan ar ei ben.)

Treplieff

'Roedd dwy ferch o'r ballet yn byw yn yr un tŷ â ni... ac yn dŵad atom ni am gwpanad o goffi.

Arcadina

'Rwy'n cofio hyna.

Treplieff

Merched crefyddol oeddyn nhw hefyd.



Distawrwydd.

Treplieff

Yn y dyddiau diwedda ma, 'r wy'n eich caru chi'n angerddol fel pan o'n i'n blentyn. 'D oes gin i neb rŵn ond chi, ond pam, o, 'r ydych chi dan fawd y dyn yna?

Arcadina

'D ydych chi ddim yn ei ddallt o, Constantin, dyn nobl ydi o.

Treplieff

Ond pan glywodd o mod i am roi sialens iddo, 'd oedd o ddim yn rhy nobl i'w heglu hi am ei einioes, yr hen gachgi!

Arcadina

Y fath lol! Ond fi ofynnodd iddo fo fynd.

Treplieff

Dyn nobl yn wir! Dyma ni bron wedi ffraeo amdano fo ac yntau yn y parlwr gorau, yn chwerthin yn braf am ein pen, yn datblygu Nina ac yn ceisio cael gynni hi gredu ei fod yn genius.

Arcadina

Yr ydych chi'n licio deud pethau cas wrtha i. Mi dw i'n parchu'r dyn yna ac yn gofyn ichi beidio a'i ddilorni o pan fydda i'n gwrando.

Treplieff

'D ydw i ddim yn ei barchu o. 'R ydych yn disgwyl imi gredu ei fod o'n genius. Fedra i ddim deud celwydd, mae ei lyfrau o yn codi cyfog arna i.

Arcadina

Gwenwyn pur! 'D oes gan bobol falch ddidalent ddim i'w wneud ond darnio'r bobol dalentog. Dyma'r unig gysur sy gynnyn nhw.

Treplieff

Talentog yn wir! (Yn llidiog.) Mae gin i fwy o dalent na phob un ohonoch. (Yn cipio'r cadach oddi am ei ben.) Chi a'ch routine yn mynnu cael bod yn ben ar bawb ym myd celfyddyd ac yn gwrthod cydnabod dim ond eich deddfau gneud, ac yn malu ac yn tagu pawb sydd tu allan i'ch cylch cul. D'ydw i ddim yn eich cydnabod chi na fo chwaith.

Arcadina

Wele'r llenor modern.

Treplieff

Ewch i'ch theatre i chwarae eich dramâu tila a thruenus.

Arcadina

Fu gin i rioed ran mewn drama druenus. Ewch i ffwrdd! 'D oes gynnoch chi ddim digon o dalent i gyfansoddi vaudeville y gweithiwr o Cieff sy'n byw ar fwyd arall!

Treplieff

Yr hen gybyddes!

Arcadina

Y cedsiwr.



Treplieff yn eistedd ac yn wylo'n ddistaw.

Arcadina

Y creadur diddim! (Yn cynhyrfu.) Peidiwch â chrio. 'D oes dim rhaid – mhlentyn bach annwyl, maddeuwch imi, maddeuwch i hen bechadures fel eich mam. 'R wy'n anhapus iawn.

Treplieff

(Yn ei chofleidio.) Taech chi'n gwbod! 'R w i wedi colli popeth. Tydi hi ddim yn fy ngharu i mwyach, fedra i ddim sgwennu mwyach, mae popeth ar ben.

Arcadina

Peidiwch â digaloni, mi ddaw popeth yn iawn. Wedi iddo fo fynd, mi fydd hithau yn eich caru chi eto. (Yn sychu ei dagrau.) Bydd, wir, dyna ni'n ffrindiau rŵan.

Treplieff

(Yn cusanu ei llaw.) Ydym, mam.

Arcadina

(Yn dyner.) Byddwch yn ffrindiau hefo fo hefyd. 'Does dim isio duel, does dim isio duel?

Treplieff

Nag oes, ond peidiwch â gofyn imi ei gyfarfod o. Mi fyddai hynny'n ormod imi. (Daw Trigorin i mewn.) O... 'r wy'n mynd. (Yn rhoi'r pethau'n ôl yn y cwpwrdd yn frysiog.) Mi geith y doctor roi'r cadach.

Trigorin

(Yn chwilota ymhlith y llyfrau.) Tudalen 121, llinell 11 a 12 – dyma fo. (Yn darllen.) 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd, tyrd, cymer ef.'



Treplieff yn clodi'r cadach oddi ar y llawr ac yn mynd allan.

Arcadina

(Yn edrych ar ei wats.) Bydd y cerbyd yma gyda hyn!

Trigorin

(Wrtho ei hun.) 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd, tyrd, cymer ef.'

Arcadina

Disgwyl fod popeth yn barod gynnoch chi.

Trigorin

(Yn groes.) O, ydi, ydi. (Yn fyfyriol.) Pam y mae gwaedd calon lân yn codi tristwch ac yn gneud nghalon i'n drwm? 'Os bydd arnat rywbryd eisiau fy mywyd i, tyrd, cymer ef.' (Wrth Arcadina.) Gadwch inni aros yma tan yfory.



Arcadina yn ysgwyd ei phen.

Trigorin

Gadwch inni aros.

Arcadina

Fy nghariad bach i, mi wn i be sy'n eich cadw yma, ond triwch ei goncro fo. 'R ydych wedi meddwi tipyn bach, mae'n bryd ichi sobri.

Trigorin

Triwch chithau hefyd sobri, triwch fod yn synhwyrol, 'r wy'n crefu arnoch, triwch ystyried y mater fel gwir ffrind imi. (Yn gwasgu ei llaw.) 'R ydych yn ddigon mawr i neud yr aberth, byddwch yn ffrind imi, rhowch fy rhyddid yn ôl imi.

Arcadina

(Yn bur gyffrous.) Ydi hi mor ddrwg â hyna arnoch chi?

Trigorin

Mae rhywbeth yn fy nhynnu ati, a dyna fy mhrif angen, feallai.

Arcadina

Cariad hogan o'r wlad. 'D ydych chi ddim yn hanner adnabod eich hun.

Trigorin

Bydd pobol weithiau yn cysgu ar eu traed, felly finnau, wrth siarad wrthoch chi, 'r wy'n cysgu ac yn ei gweld hi yn fy mreuddwyd. 'R ydw i dan hud breuddwydion melys, rhyfedd, gadwch imi fynd.

Arcadina

(Yn crynu.) Na, na! Dynes gyffredin ydw i, cheith neb siarad fel yna wrtha i, peidiwch â mhoeni i, 'r ydych yn fy nychryn i.

Trigorin

Os mynnwch, gellwch fod yn ddynes anghyffredin – Cariad ifanc, swynol, barddonol, yn fy nghodi i fyd gweledigaethau, 'd oes dim arall yn y byd a all roi'r fath wynfyd. Phrofais i rioed y fath gariad. Yn fy ienctid ni chefais ddim ond crwydro o offis i offis a chynffoni i bob golygydd a brwydro'n erbyn tlodi, rŵan dyma gariad wedi ymddangos o'r diwedd ac yn galw arnaf – pa synnwyr fyddai imi redeg oddi ar ei ffordd?

Arcadina

(Yn ddig.) 'R ydych chi o'ch co.

Trigorin

Gadwch imi fynd.

Arcadina

'R ydych i gyd yn f'erbyn i heddiw. (Yn wylo.)

Trigorin

(Â'i ddwylo ar ei ben.) 'D ydi hi ddim yn dallt, fyn hi ddim dallt.

Arcadina

Ydw i'n ddigon hen a hyll ichi feiddio siarad wrtha i am ferched erill? (Yn ei gofleidio a'i gusanu.) 'R ydych chi'n wallgo. Fy nghariad ardderchog, rhyfedd, tudalen ola fy mywyd i! (Yn mynd ar ei gliniau.) Llanwenydd fy ngalon, fy ymffrost, fy mharadwys. (Â'i breichiau am ei liniau.) Os ewch chi oddi wrtha i hyd yn oed am awr, fedra i ddim byw, mi a i o ngho, fy nghariad rhyfeddol, mawreddus, fy mrenin.

Trigorin

Mi all rhywyn ddŵad i mewn. (Yn ei chynorthwyo i godi.)

Arcadina

Gadwch iddyn nhw ddŵad, 'd oes arna i ddim cwilydd mod i'n eich caru chi. (Yn cusanu ei law.) Fy nhrysor, fy machgen gwyllt i; mae arnoch chi flys bod yn rhyfygus, ond fynna i ddim, chewch chi ddim gin i. (Yn chwerthin.) F'eiddo i ydych chi, fi piau chi, fi piau'r talcen yma a'r llygaid yma. Fi piau'r gwallt clws, sidanog yma, fi piau bob mymryn ohonoch. Fy nghariad talentog, gwybodus, llenor mwya'r oes, unig obaith Rwsia; 'r ydych mor ddi-dwyll, mor syml, â'ch hiwmor ffres iach. Mi ellwch roi cnwllyn popeth mewn un frawddeg fer, ac mae'ch cymeriadau chi yn rhodio fel dynion byw. Fedr neb ddarllen gair o'ch gwaith heb lamu mewn gorfolodd. Ydych chi'n meddwl mai ffalsio 'r ydw i? Edrychwych yn myw fy llygaid i, ai llygaid gwraig gelwyddog ydi rhain? Welwch chi, 'd oes neb ond fi a ŵyr eich gwerth chi! Dyna'r gwir syml ichi, newch chi mo ngadael i, newch chi?

Trigorin

Mae fy wyllys i wedi darfod, fu gin i rioed wyllys rydd – llipa, meddal, ufudd, dyna fy hanes i; sut y gall unrhyw ferch garu'r fath ddyn? Ewch â fi gyda chi, peidiwch â gollwng eich gafael am hanner cam.

Arcadina

(Wrth ei hun.) Dyma fi wedi ei ddal o. (Yn ddidaro fel pe tae ddim wedi digwydd.) O ran hynny, rhoswch, os ydi'n well gynnoch chi. Mi a i ffwrdd fy hun, ac mi gewch chithau ddŵad rwybryd eto, mhen yr wythnos, deudwch, neno'r annwyl, 'd oes ddim brys.

Trigorin

Na, mi awn i ffwrdd gyda'n gilydd.

Arcadina

Fel y mynnwch chi, am hynny, awn gyda'n gilydd, ta.



Distawrwydd. Trigorin yn taro nodyn yn ei lyfr.

Arcadina

Be 'dych chi'n neud?

Trigorin

Mi glywais enw da'r bore ma, 'Llwyn y Forwyn', mi geith le mewn llyfr rywbryd. (Yn ymestyn.) Mynd amdani hi, te? Mi gawn weld y trên unwaith eto, a'r stesions a'r refreshment rooms a mutton chops a digon o sgwario.

Shamraieff

(Yn dyfod i mewn.) Mae gennyf yr anrhydedd o hysbysu, gyda gofid, fod y cerbydau yn barod! Mae'n bryd ichi gychwyn, foneddiges barchus; bydd y tren i mewn bum munud wedi dau. A newch chi gymwynas â mi? Peidiwch ag anghofio gadael inni wbod ble mae'r actor Swsdatseff. Ydi o'n fyw ac iach? Mi fyddem yn cael glasiad hefo'n gilydd ers talwm. 'Doedd na neb tebyg iddo am actio yn 'Rhaib y Post.' 'R wy'n cofio'r tragedian enwog Ismailoff yn actio gydag o yn Elisofetgrad. 'D oes dim brys, foneddiges barchus, mae gynnoch chi bum munud eto. 'Roedd y ddau yn cymyd rhan dau fradwr mewn melodrama rywbryd, a phan ddatguddiwyd y brad, dyma Ismailoff yn lle deud 'Dyma ni yn y ddalfa' yn deud 'Dyma ni yn yr helfa'. (Yn chwerthin.) 'Yn yr helfa.'



Ar draws sgwrs Shamraieff: daw Iago i mewn gyda'r gist, a morwyn yn cario het Arcadina a'i mantell, parasol a menyg; pawb yn helpu Arcadina i wisgo. O'r chwith dyma'r cogydd, braidd yn nerfus. Daw Polina, Andreiefna, ac wedyn Sorin a Medfedenco.

Polina

(Â basged yn ei llaw.) Dyma ichi ychydig o eirin melys ar gyfer y siwrnai; disgwyl y cewch chi flas arnyn nhw.

Arcadina

Diolch yn fawr ichi, Polina Andrefna.

Polina

Da y boch chi, maddeuwch inni os cawsoch rywbeth allan o'i le. (Yn wylio.)

Arcadina

(Yn ei chofleidio.) Na, na 'r oedd popeth yn union fel y dylai fod. 'D oes dim gofyn ichi grio.

Polina

Mae'r amser yn mynd mor gyflym.

Arcadina

Wel, felna y mae hi i fod.

Sorin

(Mewn côt a choler ffyr, ffon yn ei law, yn dyfod i mewn ar y chwith, ac yn cerdded ar draws yr ystafell.) Irina annwyl, rhaid inni beidio bod yn hwyr. Mi a i i eistedd am funud neu ddau. (Â allan.)

Medfedenco

Mi gerdda innau i'r stesion, i'ch gweld yn cychwyn. 'D oes na fawr o ffordd. (Â allan.)

Arcadina

Da y boch chi, gyfeillion – os byddwn ni'n fyw ac iach, mi gawn weld ein gilydd yr ha nesa. (Y forwyn, Iago a'r cogydd yn cusanu ei llaw.) Peidiwch â'm hanghofio. (Yn rhoi pisyn deuswllt i'r cogydd.) Dyna ichi ddeuswllt rhwng y tri ohonoch.

Cogydd

Diolch yn fawr ichi, mym. Siwrnai dda ichi. 'R ydym ni'n bur ddiolchgar ichi.

Iago

Bendith yr Arglwydd ar eich pen!

Shamraieff

Mi fyddai'n dda gynno ni gael pwt o lythyr. Da y boch, Boris Alecsiefits!

Arcadina

Ble mae Constantin? Deudwch wrtho mod i'n mynd. Wel, cofiwch amdana i, bawb. (Wrth Iago.) Rhois ddeuswllt iddo fo. (Gan gyfeirio at y cogydd.) Rhwng y tri ohonoch, cofiwch.



 pawb allan ar y dde. Mae'r llwyfan yn wag. Clywir sŵn traed, olwynion yn rhygnu etc. Daw'r forwyn yn ôl. Cymer y fasged eirin oddi ar y bwrdd ac â allan.

Trigorin

(Yn dychwelyd.) Mi anghofiais fy ffon. Mae hi ar y terrace, mae'n debyg. (Ar ei ffordd allan cyferfydd â Nina yn dyfod i mewn trwy'r drws ar y chwith.) Chi sy na? 'R ydym ni ar fin cychwyn.

Nina

'R o'n i'n gwbod ein bod am gael gweld ein gilydd. (Yn benderfynol.) Boris Alecsiefits, 'r ydw i'n mynd ar y stage. Welir mona i yma fory, 'r wy'n gadael fy nhad a phopeth ac yn dechrau byw o'r newydd. Fel chi, 'r wyf innau'n mynd i Mosco. Mi gawn weld ein gilydd yno.

Trigorin

Ewch i aros yn y Slafiansci Bazâr, a gadwch imi wbod ar unwaith; 'moltsianoffca, Grocholsci,' dyna'r drecswin. Rhaid imi frysio.



Distawrwydd.

Nina

Hanner munud.

Trigorin

(Yn gostwng ei lais.) 'R ydych chi mor glws. Mae'n hyfryd meddwl y cawn ni weld ein gilydd yn fuan! (Nina yn gosod ei phen ar ei fynwes.) Mi ga i weld y llygaid disglair yma unwaith eto, a'r wên dyner, hardd a glendid angylaidd eich wynepryd na all undyn byw fyth eu disgrifio. Fy nghariad annwyl i! (Cusanu a chusanu.)



Llen

a1a2a3a4