Mae testun y ddrama yn archifau Prifysgol Bangor.
Samuel Jones (2019). 'Nid trwy sbectol y Sais y dylai Cymro edrych ar wlad ddieithr': Astudiaeth o gyfieithiadau T Hudson-Williams o’r Rwseg i’r Gymraeg.
Mae’r astudiaeth hon yn canolbwyntio ar fywyd a gwaith T. Hudson-Williams (1873-1961), a fu’n Athro Groeg ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1904 a 1940. Canolbwyntir ar ei gyfieithiadau Cymraeg o lenyddiaeth Rwseg, yn arbennig y ddau gyfieithiad canlynol: Yr Wylan, cyfieithiad o’r ddrama Чайка (Seagull) gan Anton Tshechoff ac Y Tadau a’r Plant, cyfieithiad o’r nofel Отцы и дети (Fathers and Sons) gan Ifan Twrgenieff.