a1a2a3a4

Yr Wylan (1952)

Anton Tsiechoff [Антон Чехов]
cyf. Thomas Hudson-Williams, gol. Samuel Jones

Ⓗ 1952 Thomas Hudson-Williams
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 4


Dwy flynedd ar ôl terfyn Act III.

Parlwr yn nhŷ Sorin, wedi ei drefnu yn stydi i Constantin Treplieff. Drysau ar y dde ac ar y chwith yn arwain i ystafelloedd eraill. Drws gwydr i'r teras. Heblaw dodrefn arferol parlwr ceir desg yn y gongl dde, soffa wrth y drws ar y chwith; cwpwrdd llyfrau; llyfrau ar y ffenestri a'r cadeiriau, gyda'r hwyr, lamp â chap arni a'r golau'n wan. Clywir y coed yn suo a sŵn y gwynt yn y simnai. Y gwyliwr yn curo ar ei styllen oddi allan. Daw Medfedenco a Masia i mewn.)

Masia

(Yn galw.) Constantin Gafrilofits. Constantin Gafrilofits. 'Does neb yma. Mae'r hen ŵr yn holi am Costia bob munud, fedr o ddim byw hebddo fo.

Medfedenco

Mae arno ofn bod yn unig. (Yn gwrando.) Y fath dywydd ofnadwy, ac wedi para am ddeuddydd hefyd.

Masia

Mae tonnau fel mynyddoedd ar y llyn.

Medfedenco

Mae'n dywyll yn yr ardd. Rhaid deud wrthyn nhw am dynnu'r stage 'cw i lawr; mae hi'n llwm a hagr fel skeleton a'r llen yn fflapio yn y gwynt. Pan ddois i heibio neithiwr, 'roedd fel tae rhywun yn crio yno.

Masia

Felly wir.

Medfedenco

Gadwch inni fynd adre, Masia.

Masia

Na, 'rydw i am fwrw'r nos yma.

Medfedenco

(Yn erfyn.) Dowch Masia. Meddyliwch am yr hogyn bach, mae arno isio bywyd feallai.

Masia

Lol i gyd. Gall Matriona ei fwydo fo.

Medfedenco

Mae'n biti gin i drosto fo, am dair noson heb ei fami.

Masia

'Rydych chi wedi mynd yn ddiflas. Athronyddu y byddoch chi ers talwm, ond "yr hogyn bach, mynd adre, yr hogyn bach, mynd adre", cheir dim ond hyna gynnoch chi rwan.

Medfedenco

Dowch adre, Masia.

Masia

Ewch adre'ch hun.

Medfedenco

Ond cha i ddim ceffylau gin eich tad chi.

Masia

Cewch, mi gewch, ond ichi ofyn.

Medfedenco

Wel mi ofynna iddo fo, ac mi ddowch chithau fory?

Masia

(Yn cymryd pinsiad o snisin.) O'r gorau, o'r gorau, mi ddo i fory, 'rydych chi'n ddigon i...



Treplieff a Polina yn dod i mewn.

Masia

Be di hyn mam?

Polina

Mae ar Piotr Nicolaiefits isio cysgu yn ystafell Costia.

Masia

Gadwch i mi, mi na i...

Polina

(Ag ochenaid.) Mae hen bobol fel plant.



Distawrwydd.

Medfedenco

Mi 'dwi'n mynd. Nos dawch, Masia. Nos dawch, mam. (Yn ceisio cusanu llaw ei fam yng nghyfraith.)

Polina

(Yn bigog.) Dyna ddigon, nos dawch ta.



Exit Medfedenco.

Polina

(Gan edrych ar bapurau Treplieff.) Pwy feddyliodd y byddech chi, Costia bach, yn llenor go iawn? A dyma chi, i Dduw y bo'r gogoniant, yn cael arian o'r papurau. Bachgen hardd ydych chi hefyd. Da chi, Costia annwyl, byddwch yn ffeindiach wrth fy Masia bach i.

Masia

(Yn trin y gwely.) Gadwch iddo fo, mam.

Polina

(Wrth Treplieff) Geneth ardderchog ydi hi; 'does ar ferch isio fawr, Costia, dim ond gwên rŵan ac yn y man. Mi wn i hynny trwy brofiad.



Treplieff yn mynd allan heb ddweud gair.

Masia

Dyna chi wedi digio fo, 'doedd dim gofyn ichi ei flino fo.

Polina

Ond mae biti gin i drostach chi, Masia.

Masia

'Dydi hynny fawr o help imi.

Polina

Ond mae nghalon i'n gwaedu drostoch chi. 'Rydw i'n gweld popeth ac yn dallt popeth.

Masia

Ffolineb noeth. Chewch chi mo'r fath beth â chatiad diobaith ond yn unig mewn nofelau. Lol botes. Does dim gofyn i neb ymollwng a disgwyl rhywbeth i ddigwydd fel dyn ar lan y môr yn disgwyl am wynt teg. Os ydi cariad wedi sleifio i'r galon, allan ag o! Mae nhw wedi addo symud y gŵr acw i ardal arall; ac wedi inni ymadael, mi anghofiaf bopeth, gnaf, mi dynna i'r hen gariad yma o'r gwraidd.



Sŵn miwsig trist yn dod o ystafell arall.

Polina

Dyna Costia yn canu'r piana, arwydd ei fod o'n ddigalon.

Masia

Mynd o'i olwg o, dyna'r peth mawr, mam. Os symudan nhw Simeon, mi fydda i wedi anghofio popeth cyn pen y mis – lol ydi'r cwbwl.



Drws yn agor. Dorn a Medfedenco yn dod i mewn a Sorin yn y gadair.

Medfedenco

Mae gin i chwech ohonyn nhw yn y tŷ, a phris y blawd wedi codi.

Dorn

Go gyfyng, yntê.

Medfedenco

Digon hawdd i chi fod yn ddireidus – mae gynnoch chi lond tŷ o arian.

Dorn

Arian wir! Wedi bod wrthi hi'n bustachu ddydd a nos am ddeng mlynedd ar hugain, mi grafais ddeugant, ac mi wariais bob dimai ohonyn nhw mewn gwlad bell. 'Does gin i ddim ar f'elw.

Masia

(Wrth ei gŵr.) Aethoch chi ddim eto?

Medfedenco

(Braidd yn euog.) Sut y medra i fynd heb gerbyd?

Masia

(Dan ei llais yn chwerw.) Mae'n ddrwg gin i mod i rioed wedi'ch gweld chi.

Dorn

Wel, mae yna dipyn o newid; mae'n nhw wedi troi'r parlwr yn stydi.

Masia

Mae'n fwy cyfleus i Constantin Gafrilits weithio yn y fan yma. Gall fynd allan i'r ardd, pan fyn, a myfyrio yno.



Sŵn y gwylwyr yn curo'r styllen.

Sorin

Ble mae fy chwaer?

Dorn

Mae hi wedi mynd i'r stesion i gwarfod Trigorin, mi fydd yma gyda hyn.

Sorin

Os oedd gofyn ichi anfon am fy chwaer, rhaid mod i'n ddifrifol o wael.



Distawrwydd.

Sorin

Dyma fel y mae hi, 'rwy'n ddifrifol o wael ac eto cha i ddim tropyn o ffisig gennyn nhw.

Dorn

Be liciech chi gael? Valerian drops, soda, quinine?

Sorin

Dyma chi'n dechrau bwrw drwyddi hi unwaith eto, rêl plâg. (Yn gweld y soffa.) I mi mae hwn?

Polina

Ie, i chi.

Sorin

'Rwy'n ddiolchgar iawn ichi.

Dorn

(Yn canu.) 'Mae'r lloer yn nofio'r nefoedd yn y nos.'

Sorin

Mae gin i destun stori i Costia: 'The Man Who Would.' Pan o'n i'n hogyn, breuddwydiwn am fod yn llenor; cheis i ddim bod yn llenor: breuddwydiwn am fod yn areithiwr huawdl, a dyma fi'n siarad fel y gog ar yr un hen nodyn ac felly yn y blaen, felly yn y blaen, mewn gair, mewn gair, ac yn chwys diferud bob tro y codaf ar fy nhraed; breuddwydiwn am briodi, a dyma fi'n hen lanc ar y silff, breuddwydiwn am fyw yn y dre a dyma fi'n pydru ym mherfedd y wlad ac felly yn y blaen.

Dorn

Breuddwydiwn am fod yn J.P. a dyma fi wedi llwyddo.

Sorin

(Yn chwerthin.) Ie, heb geisio, nelais i rioed at hynny.

Dorn

Cwyno a lladd ar fywyd, a chithau'n drigain oed. Dydi hyna ddim yn deg, ydi o?

Sorin

'Rydych chi'n ddyn styfnig. Mae arna i eisiau byw, cofiwch hyna.

Dorn

Peidiwch â bod mor wamal, yn ôl deddfau natur mae diwedd i fod ar bob bywyd.

Sorin

Digon hawdd i chi siarad, mi gawsoch chi lond eich bol, 'does ryfedd eich bod mor ddifater. Ond mi fydd arnoch chithau ofn marw.

Dorn

Anifail yn unig sydd yn ofn marw, rhaid i ddyn fod yn drech na'r ofn na. Ddylai neb rhesymol ofni marw ond y sawl sy'n credu fod byd arall, byd tragwyddol, ac yn teimlo ei fod yn bechadur euog: yn gyntaf, 'dydych chi ddim yn credu, yn ail, ble mae'ch pechodau chi? Buoch yn J.P. am bum mlynedd ar hugain, dyna'r cwbwl.

Sorin

(Yn chwerthin.) Wyth mlynedd ar hugain, os gwelwch chi'n dda.



Treplieff yn dod i mewn.

Dorn

Ond dyma ni'n rhwystr i Constantin ac yntau'n brysur.

Treplieff

Na, dim o'r fath beth.



Distawrwydd.

Medfedenco

Pa dre oedd yr orau gynnoch chi pan oeddech chi'n rhodio'r byd?

Dorn

Genoa.

Treplieff

Pam?

Dorn

Mae bywyd y stryd mor ardderchog yno. Ewch allan o'ch hotel gyda'r hwyr ac mae'r stryd yn llawn dop dyn o bobol a chithau'n stelcian ar hyd ac ar draws yn y dorf, igam ogam, ac yn teimlo eich bod yn rhan o'r dorf, yn llifo'n un â hi; ac yn dehrau credu fod y fath beth ag ysbryd y byd fel y clywsom pan oedd Nina Zaretsnaia yn actio'ch drama chi; gyda llaw, ble mae hi, ydi hi'n fyw?

Treplieff

Ydi, mae'n debyg, ac yn iach hefyd.

Dorn

Mi glywais nad oedd fawr o lun ar ei bywyd hi, wyddoch chi dipyn yn bethma; be sy'n bod?

Treplieff

Wel, doctor, stori go hir ydi honna.

Dorn

Gnewch chi stori fer ohoni.

Treplieff

Mi redodd i ffwrdd hefo Trigorin, mi wyddoch hynny?

Dorn

Gwn.

Treplieff

Mi anwyd plentyn; bu farw'r plentyn. Troes Trigorin hi heibio ac aeth yn ôl at ei hen gastiau fel y gellid disgwyl; o ran hynny, fu na ddim newid o gwbwl ar ei ffordd o fyw, y criadur digymeriad, ar ôl hon a'r llall fyth a hefyd. Cyn belled ag y gwela i, byd go ddrwg a gafodd Nina.

Dorn

Beth am ei bywyd ar y stage?

Treplieff

Gwaeth byth, mi dybiaf. Gnaeth ei debut rywle heb fod ymhell o Mosco, ac wedyn bu'n actio yn y taleithiau. Mi es ar ei hôl i bob man; lle'r oedd hi, yno yr oeddwn innau. Ceisiai actio rhannau pwysig, ond 'roedd yn rhy wyllt, yn rhy arw ac yn sgrechian yn ddi-chwaeth, a gormod o stumiau yn ei hactio hi. Ond ar adegau, gallai floeddio fel y dylid, a marw yn dalentog, ond nid yn amal.

Dorn

Ond mae gynni hi dalent, debyg?

Treplieff

Cwestiwn anodd ydi hwnna; oes, feallai fod gynni hi dalent. Gwelais hi, ond fynnai hi mo ngweld i a chawn i ddim mynd i mewn gan y forwyn. 'Ron i'n gweld o ble 'roedd y gwynt yn chwythu a wnes i ddim pwyso arni hi.



Distawrwydd.

Treplieff

'Does gin i ddim mwy o ddeud am hyna. Wedi imi ddwad yma, mi ges lythyrau oddi wrthi, llythyrau serchog, deallus a diddorol; 'doedd hi ddim yn cwyno, ond gallwn weld ei bod hi'n anhapus iawn; 'roedd rhyw gyffro afiach ym mhob brawddeg ac arwyddion bob rhyw goll arni hefyd. Yn lle "Nina" rhoes "Yr Wylan" ar ddiwedd pob llythyr. Ydych chi'n cofio'r melinydd yn nrama Pwshcin yn galw ei hun yn frân, felly mae hithau yn ei llythyrau yn galw ei hun yn wylan. Mae hi yma rŵan.

Dorn

Tewch â sôn, yma?

Treplieff

Ydi, yn y dre, yn yr hotel ers wythnos. Mi geisiais ei gweld hi, ac mi ddaru Masia hefyd, ond chai neb fynd i mewn. Mae Simeon Sinionofits yn deud ei fod wedi ei gweld hi neithiwr ar y cae, rhyw filltir a hanner o'r tŷ ma.

Medfedenco

Do, mi gwelais i hi, yn mynd tua'r dre. Mi dynnais fy het iddi a gofyn iddi pam na ddoi hi i edrych amdanom ni, ac mi ddeudodd hithau ei bod hi am ddwad.

Treplieff

Ddaw hi ddim.



Distawrwydd.

Treplieff

Mae ei thad a'i mam-yng-nghyfraith yn gwrthod ei derbyn hi, ac wedi rhoi'r gweision i wylio rhag iddi ddwad ar gyfyl y tŷ. (Â gyda'r doctor at y ddesg.) Digon hawdd bod yn athronydd, ar bapur, doctor, ond byw fel athronydd ydi'r gamp.

Sorin

Geneth ardderchog oedd hi.

Dorn

Be?

Sorin

Geneth ardderchog oedd hi. Bu Sorin Esgweiar, J.P. yn ei charu hi ers talwm.

Dorn

Yr Hen Ddon Juan!



Shamraieff yn chwerthin o'r tu allan.

Polina

Dyna nhw wedi dwad o'r stesion.

Treplieff

Ydyn, mi glywa i lais mam.



Daw Arcadina, Trigorin ac Shamraieff i mewn.

Shamraieff

(Wrth ddod i mewn.) 'Rydym ni i gyd wedi heneiddio ar ôl y gwynt a'r glaw arnom; ond 'rydych chi'n fengach na rioed, foneddiges fwyn, jecad olau, sioncrwydd pert... a... a...

Arcadina

Dyna chi wrthi hi'n ffalsio eto, yr hen ŵr atgas ichi.

Trigorin

(Wrth Sorin.) Sut yr ydych chi, Piotr Nicolaiefits? Yn wael eto? Mae'n wir ddrwg gin i. (Wedi canfod Masia: yn llawen.) Masia Ilinitsna!

Masia

Mae o'n nghofio i!

Trigorin

Wedi priodi?

Masia

Ydw, ers talwm.

Trigorin

Yn hapus? (Yn cyfarch Dorn a Medfedenco, ac wedyn yn cerdded braidd yn ansicr at Treplieff.) Mi ddeudodd Irina Nicolaiefna eich bod chi wedi anghofio'r hen gweryl a'ch dicter.



Treplieff yn estyn ei law iddo.

Arcadina

(Wrth ei mab.) Mae Boris Alecsifits wedi dwad â'r papur a'ch stori newydd ynddo.

Treplieff

(Yn cymryd y cylchgrawn: wrth Trigorin.) Diolch yn fawr ichi am eich caredigrwydd.

Trigorin

Mae'ch darllenwyr yn cofio atoch chi. Mae pawb yn Petersburg a Mosco yn teimlo diddordeb mawr yn eich gwaith ac yn holi amdanoch: 'Sut un ydi o; faint ydi ei oed o; pryd golau ai pryd tywyll sy gynno fo?' Mae pawb yn meddwl rywsut nad ydych chi ddim yn ifanc. Ŵyr neb mo'ch enw chi, am eich bod yn sgwennu dan ffugenw bob amser. Mae na ryw ddirgelwch ynglŷn â chi fel gŵr y mwgwd haearn.

Treplieff

Ydych chi am aros tipyn?

Trigorin

Na, 'rwy'n meddwl mynd i Mosco yfory. Rhaid imi orffen stori, ac mi dw i wedi addo rhywbeth at gasgliad o straeon hefyd. Mewn gair, yr un hen hanes.



Arcadina a Polina yn gosod bwrdd chwarae cardiau ar ganol y llawr ac yn ei agor.

Trigorin

Croeso drwg ges i gin y tywydd a'r gwynt creulon na. Os bydd hi'n braf, mi a i i bysgota ar lan y llyn yfory; gyda llaw, rhaid imi fynd i gael golwg ar y fan, ydych chi'n cofio, lle'r actiwyd eich drama chi. Mae gin i idea am stori, ond mae f'atgofion am y lle braidd yn gymylog.

Masia

(Wrth ei thad.) Tada, gadwch i Simeon gael ceffylau. Rhaid iddo fynd adre.

Shamraieff

(Yn ei dynwared.) O, ie, 'ceffylau, mynd adre' unwaith eto. (Yn chwyrn.) Gellwch farnu eich hun, mae'n nhw newydd fod yn y stesion; 'does dim modd eu gyrru nhw allan eto heno.

Masia

Ond mae gynnoch chi geffylau erill.



Distawrwydd.

Masia

'Does dim dichon eich trin chi.

Medfedenco

Mi gerdda i, Masia, wir...

Polina

(Ag ochenaid.) Cerdded ar noson mor fawr! (Yn eistedd wrth y bwrdd cardiau.) Dowch, gyfeillion.

Medfedenco

'Does na ddim ond pedair milltir. Nos dawch. (Yn cusanu llaw ei wraig.) Nos dawch, mam bach. Faswn i ddim yn aflonyddu ar neb oni bai am yr hogyn bach... Nos dawch, bawb ohonoch. (Exit.)

Shamraieff

Gadwch iddo gerdded, nid general ydi o.

Polina

(Yn curo'r bwrdd.) Dowch, os gwelwch chi'n dda. Rhaid inni beidio colli'n hamser neu mi fydd y gloch swper yn canu.

Arcadina

(Wrth Trigorin.) Pan fydd y gaea'n agos a'r dydd yn cwtogi, mi fyddwn ni'n chwarae cardiau gyda'r hwyr, chwarae hen ffasiwn, welwch chi; mi fydden ni'n chwarae fel hyn gyda mam druan pan oeddem ni'n blant bach. Cymwch ran yn y game tan amser swper. (Wedi eistedd.) Mae arna i ofn mai game go ddwl ydi hi ond wedi ichi arfer mae'n eitha difyr. (Yn rhoi tri o gardiau i bob un.)

Treplieff

(Yn agor y cylchgrawn.) Mi ddarllenodd ei stori o, ond thorrodd o'r un dudalen o'm stori i. (Yn rhoi'r cylchgrawn ar y ddesg.)

Arcadina

Beth amdanoch chi, Costia?

Treplieff

Diolch yn fawr, ond maen well gin i beidio.



Exit.

Arcadina

Rhodded pawb ei geiniog i lawr. Talwch chi drosta i, doctor.

Dorn

Gna, mym.

Masia

Ydi pawb wedi talu? O'r gorau, dyma fi'n dechrau, dau ar hugain.

Arcadina

Ie.

Masia

Tri!

Dorn

Ie.

Masia

Tri? Wyth! Un a phedwar ugain. Deg!

Shamraieff

Peidiwch bod ar gimint o frys.

Arcadina

Mi ges i'r fath dderbyniad yn Charcoff, nefoedd fawr, mae mhen i'n troi hyd y dydd hwn.

Masia

Pedwar ar ddeg ar hugain.



Clywir miwsig trist o stafell arall.

Arcadina

A'r ovation a ges i gin y students. Blodau, llond tair basged, a dwy goron. A be dych chi'n feddwl o hyn? (Yn dangos ei brooch iddynt.)

Shamraieff

Wel, dyna rywbeth yn wir.

Masia

Hanner cant.

Dorn

Hanner cant yn union?

Arcadina

A phe gwelsech chi fy nress i? Digon o ryfeddod, ac mi fydda i'n gwisgo yn o dda rŵan hefyd.

Polina

Dyna Costia yn canu piano, arwydd ei fod yn ddigalon.

Shamraieff

Mae o'n ei chael hi'n arw yn y papurau newydd.

Masia

Dau ar bymtheg a thrigain.

Arcadina

'Does dim isio iddo fo gymyd sylw ohonyn nhw.

Trigorin

'Dydi o'n gwneud fawr ohoni hi – mae'n methu taro'r cywair. Mae na rywbeth dieithr, annelwig yn ei waith, yn ymylu ar orffwylltra; dim un cymeriad byw!

Masia

Un ar ddeg!

Arcadina

Piotr, ydych chi wedi blino?



Distawrwydd. Mae'n cysgu.

Dorn

Mae'r J.P. yn cysgu.

Masia

Saith! Deg a phedwar ugain!

Trigorin

Tawn i'n byw yn y fath blas, wrth lan y llyn, ydych chi'n meddwl y baswn yn sgwennu? Mi fyddwn i'n drech na'r hen nwyd ma, nawn i ddim ond pysgota.

Masia

Wyth ar hugain.

Trigorin

A dal brithyll neu slywen, dyna chi nefoedd ar y ddaear!

Dorn

Mae gin i feddwl mawr o Constantin Gafrilits. Mae gynno fo ddawn, oes wir. Mae o'n meddwl mewn ffigurau, mae ei straeon o'n wych ac yn glir ac yn cyrraedd at fy nghalon. Ond gresyn nad oes gynno fo nod amlwg o'i flaen. Gall osod ei argraff ar y darllenwyr a dyna'r cwbwl, a dewch chi ddim ymhell heb rywbeth amgenach na hyna. Irina Nicolaiefna, ydych chi'n falch fod eich mab yn llenor?

Arcadina

Wyddoch chi be? Ddarllenais i'r un gair o'i waith o. Mae f'amser i'n brin.

Masia

Chwech ar hugain!

Shamraieff

(Wrth Trigorin.) Mae'ch bethma chi yma'n ddigon diogel.

Trigorin

Be dych chi'n feddwl?

Shamraieff

Wedi i Constantin Gafrilits saethu gwylan, mi ddaru'ch ofyn imi ei stwffio hi ichi.

Trigorin

'Dwy'n cofio dim am y peth. (Cais gofio.) Na, dim o gwbwl.

Masia

Chwech a thrigain! Un!

Treplieff

(Yn agor y ffenestr ac yn gwrando.) Ond tydi hi'n dywyll! Fedra i ddim dirnad pam yr ydw i mor anesmwyth.

Arcadina

Costia, caewch y ffenast na, mae na ddrafft.



Ffenestr yn cau.

Masia

Wyth a phedwar ugain!

Trigorin

Dyna fi wedi ennill, gyfeillion.

Arcadina

(Yn llon.) Bravo, bravo!

Shamraieff

Bravo!

Arcadina

Mae hwn yn sgubo popeth o'i flaen ym mhobman. (Yn codi.) Awn am damaid o fwyd, chafodd y gŵr mawr mo'i ginio heddiw. Cawn chwarae eto ar ôl swper. (Wrth ei mab.) Costia, rhowch eich papurau o'r neilltu a dowch at eich swper.

Treplieff

'Does arna i ddim isio bwyd, mam.

Arcadina

Wel, chi sy'n gwybod. (Yn deffro Sorin.) Piotr bach, mae'n amser swper. (Wrth Shamraieff.) Rhaid imi gael deud yr hanes am fy nerbyniad yn Charcoff.



Pawb yn mynd allan ond Treplieff.

Treplieff

(Yn darllen ei ysgrif cyn ychwanegu ati.) Wedi imi sôn cymaint am ffurfiau newydd, dyma fi'n mynd yn ystrydebol fy hun: 'Cyhoeddai'r hysbysiad ar y palis – wyneb llwyd mewn ffrâm o wallt tywyll.' 'Cyhoeddai... mewn ffrâm,' gwael iawn yn wir. (Yn dileu'r geiriau.) Rhaid imi ail-ddechrau a'r sŵn glaw yn deffro'r arwr a bwrw heibio'r rest. Mae'r disgrifiad o'r noson leuad yn drwm ac yn rhy faith. Mi ŵyr Trigorin sut i fynd o'i chwmpas hi. Mae gynno fo ei gynllun arbennig a phopeth yn rhedeg yn rhwydd; er enghraifft: 'yr oedd gwddf hen botel ddrylliog yn disgleirio ar y cob ac olwyn y felin yn bwrw cysgod du' a dyna nos loergan olau yn barod; ond mae gin i 'olau'n crynu a phefriad mwyn y sêr a sain piano yn y pellter megis yn llesmeirio dan arogl balmaidd yr awel.' Ych! Mae'n ddigon i dorri calon dyn.



Distawrwydd.

Treplieff

'Rwy'n dod i gredu'n gadarnach bob dydd nad oes dim a wnelo ffurfiau hen a newydd â'r mater o gwbwl, ac y dylai dyn ysgrifennu'n rhydd fel y llifa'r ffrwd o'i galon – heb feddwl am ffurfiau.



Clywir rhywun yn curo'r ffenestr.

Treplieff

Be di hyna? (Yn edrych allan drwy'r ffenestr.) Wela i neb. (Egyr y drws ac â allan.) Mi redodd rhywun i lawr y grisiau. (Yn galw.) Pwy sy 'na?



Yn mynd allan ac yn rhedeg ar hyd y teras. Yn dod yn ei ôl.

Treplieff

Nina! Nina!



Nina yn crio. Dan deimlad dwys.

Treplieff

Nina! Nina! Chi sy ma... chi... 'roedd rhywbeth yn deud wrtha i, 'roedd rhyw bigyn ofnadwy yn fy nghalon i drwy'r dydd. Mae hi wedi dŵad, fy nhrysor annwyl aur i! Peidiwch â chrio, peidiwch â chrio.

Nina

Mae rhywun yma.

Treplieff

Nag oes, neb.

Nina

Rhowch glo ar y drws, neu mi ddaw rhywun.

Treplieff

Ddaw neb i mewn.

Nina

Mi wn fod Irina Nicolaiefna yma. Rhowch glo ar y drws.



Sŵn cloi drws.

Treplieff

'Does na ddim clo ar y drws arall. Mi ro'i gadair i'w ddal o. Peidiwch ag ofni, ddaw neb i mewn.

Nina

Gadwch imi gael golwg arnoch chi. Mae'n braf ac yn gynnes neis. Yma 'roedd y parlwr gorau. Ydw i wedi newid yn arw?

Treplieff

Ydych, 'rydych chi wedi teneuo ac y mae'ch llygaid yn fwy. Mae'n dda gin i'ch gweld chi, Nina. Pam na chawn i'ch gweld chi o'r blaen? Pam na ddaethoch chi yma'n gynt? Mi wn eich bod yn y gymdogaeth ers wythnos bron. Mi fûm i acw bob dydd yn sefyll dan eich ffenast fel cardotyn.

Nina

'Roedd arna i ofn eich bod yn fy nghasau i; mi fyddwn yn breuddwydio bob nos eich bod yn sbio arna i ac yn gwrthod fy nabod. Taech chi'n gwybod! 'Rydw i wedi bod yma bob dydd – wrth y llyn, ac wrth y tŷ ma hefyd lawer gwaith; ond feiddiwn i ddim dŵad i mewn. Gadwch inni eistedd a sgwrsio, sgwrsio. Mae hi'n glyd ac yn gynnes braf yma. Glywch chi'r gwynt? Mae Twrgenieff yn deud yn rhywle "gwyn ei fyd y gŵr sydd ganddo dŷ a tho ac aelwyd gynnes ar noson fel hon". Gwylan ydw i – na, thâl hyna ddim. Lle'r oeddwn i hefyd? O, ie, Twrgenieff: 'A'r Arglwydd a ofala am bob crwydryn heb le i roi ei ben i lawr' – Waeth befo... (Yn beichio.)

Treplieff

Nina, dyna chi'n crio eto, Nina bach!

Nina

Waeth befo, mi neith les imi. Chriais i ddim ers dwy flynedd. Mi es i'r ardd neithiwr i weld a oedd ein theatr ni yno, ac yno y mae hi hefyd. Mi griais i am y tro cynta ers dwy flynedd ac 'ro'n i'n teimlo'n sgafnach wedyn, a llai o bwys ar y nghalon i. Welwch chi, 'dwy ddim yn crio rŵan. A dyma chi'n llenor, chi'n llenor a finnau actores, yn mynd gyda'r lli ein dau. 'Roeddwn i mor hapus ers talwm, yn canu fel plentyn ben bore, yn breuddwydio am glod, a rŵan – rhaid imi fynd i Ielets yfory, third class gyda'r gweithwyr, ac mi fydd siopwyr diwylliedig y dre yn fy nghanlyn i ac yn dechrau caru a hel lol. Bywyd isel yntê?

Treplieff

Pam y mae rhaid ichi fynd i Ielets?

Nina

Mae gin i engagement yno am y gaea, ond mae'n bryd imi fynd.

Treplieff

Nina, melltithiais chi, caseais chi, rhwygais eich llythyrau a'ch llun chi, ond mi wyddwn i bob munud fod fy nghalon yn glynu wrthoch am byth. Fedrwn i mo'ch anghofio chi, Nina, 'doedd gin i mo'r nerth. Wedi imi eich colli chi a gweld fy ngwaith mewn print, mae bywyd yn annioddefol imi, mae'r loes yn fy llethu, cipiwyd fy ieuenctid oddi wrthyf ac 'rwy'n teimlo fel pe bawn i wedi byw am ddeng mlynedd a phedwar ugain yn y byd. Byddaf yn galw arnoch, yn cusanu'r pridd y bu eich troed arno; lle bynnag yr edrychaf, gwelaf eich gwyneb a'r wên dyner a oleuodd flynyddoedd gorau fy mywyd.

Nina

(Wedi cynhyrfu.) Pam y mae o'n siarad fel hyn, pam y mae o'n siarad fel hyn?

Treplieff

'Rwyf yn unig, heb neb yn fy ngharu, 'rwyf yn oer, ac megis yn byw mewn seler dywyll, afiach, a bydd popeth a sgrifennaf yn dywyll ac yn sych fel hen grystyn. Rhoswch yma, Nina, 'rwyn crefu arnoch neu gadwch inni fynd i ffwrdd gyda'n gilydd... Nina, oes raid ichi fynd? Yn enw Duw, Nina?



Distawrwydd.

Nina

Mae'r cerbyd wrth y giât. Peidiwch â dŵad gyda mi, mi a i fy hun. (Yn wylo.) Ga i lymaid o ddŵr?

Treplieff

(Yn tywallt dŵr.) I ble'r ydych chi'n mynd?

Nina

I'r dre. Ydi Irina Nicolaiefna yma?

Treplieff

Ydi. 'Roedd f'ewyrth yn waeth ddydd Iau ac mi ddaru ni yrru teligram yn ei galw adre.

Nina

Pam y deudsoch chi y byddwch yn cusanu'r pridd y bu fy nhraed arno? Mi ddylid fy lladd i. O! 'rydw i wedi blino. Gawn i orffwys... gorffwys. Gwylan ydw i – nage actres ydw i.



Arcadina a Trigorin yn chwerthin y tu allan.

Nina

O! Mae o yma. Wel, waeth befo... Doedd o ddim yn credu yn y theatr a byddai'n chwerthin am ben fy mreuddwydion, ac o dipyn i beth mi gollais innau fy ffydd a thorrais fy nghalon – a gofalon serch, cenfigen, a phryder am yr hogyn bach yn fy mlino ddydd a nos – a minnau'n isel ysbryd, a'r actio'n druenus ac ynfyd, wyddwn i ddim sut i ddal fy nwylo, fedrwn i ddim sefyll yn iawn ar y stage, 'doedd gin i ddim meistrolaeth ar fy llais chwaith. Gwylan ydw i – na, thâl hyna ddim – ydych chi'n cofio saethu'r wylan? Daeth dyn heibio ar ddamwain, a'i gweld hi am nad oedd ganddo ddim gwell i'w wneud – ei difa hi. Testun stori fer. Na, thâl hyna ddim. Lle'r oeddwn i hefyd? O, ie, yn sôn am y stage. Ond 'rydw i wedi newid erbyn hyn. 'Rwyf yn wir actres, yn cael blas ar actio, yn llawn gorfoledd, wedi meddwi ar y stage ac yn teimlo fy mod yn gampus. Ac er pan ddois yma, 'rwyf yn cerdded o gwmpas ac yn myfyrio ac yn teimlo fod nerthoedd f'enaid yn tyfu bob dydd. 'Rwyf wedi dysgu gwers, Costia, yn ein gwaith ni ar y stage neu wrth y ddesg, nid clod, nid rhwysg llwyddiant, nid yr hyn y byddem gynt yn breuddwydio amdano sy'n bwysig, ond y gallu i ddioddef. Dysg godi'r groes a chredu. Mae gennyf ffydd, ac felly mae'r loes yn llai, a phan feddyliaf am fy ngalwad, nid oes arnaf ofn byw.

Treplieff

(Yn drist.) Ond mae'ch llwybyr chi'n glir, mi wyddoch chi i ble'r ydych yn mynd, ond 'rydw i'n ymbalfalu yng ngwyll breuddwydion a ffurfiau, heb wybod a oes gwerth o gwbl yn fy llafur, heb ffydd i'm cynnal, heb alwad yn y byd.

Nina

(Yn gwrando.) Sh!... 'Rydw i'n mynd. Nos dawch. Pan fydda i'n actres enwog, dowch i ngweld i – ydych chi'n addo dŵad? Ond hyd hynny... Mae hi'n hwyr. Prin y medra i sefyll 'rydw i wedi blino, mae arna i isio bwyd.

Treplieff

Ond rhoswch, mi a i i nôl tipyn o swper ichi.

Nina

Na, na! Peidiwch â dŵad hefo mi chwaith. 'Dydi'r cerbyd ddim ymhell. Mae hi wedi dŵad â fo yma felly? Wel, waeth gin i. Pan welwch chi Trigorin, peidiwch â deud dim wrtho fo – 'rydw i'n ei garu o, yn ei garu o'n fwy nag erioed. Testun stori fer... 'Rydw i'n ei garu o'n wyllt, yn angerddol. 'Roedd hi mor ddifyr yma ers talwm, ydych chi'n cofio Costia? Bywyd golau, cynnes, llon. A'r fath deimladau! Teimladau fel blodau, tyner, gwych, ydych chi'n cofio. (Yn adrodd.)

'Mae dynion, llewod, eryrod, a phetris, ceirw corniog, gwyddau, pryfed copyn, pysgod mud, sêr, y môr ac ymlusgiaid na all y llygad eu canfod, mewn gair, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd, pob ffurf ar fywyd wedi cyflawni eu cylch truenus, ac wedi diffodd. Aeth weithian filoedd o oesau heibio a'r ddaear heb greadur byw yn trigo arni, a hithau'r lloer, druan, yn cynnau ei llusern yn ofer. Ni chlywir mwyach ysgrech garan yn deffro ar y weirglodd na'r chwilod mân yn sio ar ddail y waglwyf.'



Exit.

Treplieff

Fynnwn ni er dim i neb ei chyfarfod yn yr ardd a deud wrth mam a pheri iddi gynhyrfu.



Yn rhwygo ei holl lawysgrifau a'u lluchio dan y bwrdd: yn datgloi y drws ac yn mynd allan.

Dorn

(Yn cesio agor y drws.) Peth rhyfedd! Mae'r drws yn cau agor. (Yn rhoi'r gadair yn ôl yn ei lle.) Obstacle race!



Arcadina, Polina, Iago, Masia, Shamraieff a Trigorn yn dod i mewn.

Arcadina

Rhowch y gwin coch a'r cwrw ar gyfer Boris Alecsiefits inni gael yfed a chwarae ar yr un pryd. Steddwch, gyfeillion.

Polina

(Wrth Iago.) Dowch â'r tê i mewn rŵan.



Yng ngolau'r canhwyllau ac yn eistedd wrth y bwrdd cardiau.

Shamraieff

(Yn mynd â Trigorin at y cwpwrdd.) Dyma'r beth-ma hwnnw o'n i'n sôn amdano. (Yn estyn yr wylan wedi ei stwffio o'r cwpwrdd.) Chi ofynnodd i mi.

Trigorin

(Yn edrych ar yr wylan.) 'D wy'n cofio dim. (Wedi meddwl tipyn yn chwaneg.) 'D 'wy'n cofio dim!



Clywir ergyd ar y dde rywle tu allan i'r tŷ nes peri i bawb grynu.

Arcadina

(Yn frawychus.) Beth oedd hyna?

Dorn

Dim o bwys, rhywbeth wedi ffrwydro yn fy mag doctor debyg. Peidiwch â bod yn anesmwyth. (Â allan trwy'r drws ar y dde a daw'n ôl ym mhen hanner munud.) Ie, potel o ether wedi ffrwydro. (Yn canu.) 'Fe'm hudwyd eto ger dy fron.'

Arcadina

(Yn eistedd wrth y bwrdd.) Wff, mi ges i fraw. Mi naeth hyna imi gofio fel ─ (Yn rhoi ei dwylo ar ei hwyneb.) Aeth popeth yn dywyll o flaen fy llygaid i...

Dorn

(Megis yn chwilio am yr ysgrif mewn cylchgrawn, wrth Trigorin ac yn ei arwain tua'r gynulleidfa.) Mi wn eich bod yn teimlo diddordeb yn y cwestiwn. (Wedyn yn sibrwd.) Ewch ag Irina Nicolaiefna i rywle o'r ffordd... mae Constantin Gafrilofits wedi saethu ei hun.



Llen

a1a2a3a4