| |
---|
Duw
|
(I'w ganfod yn eistedd ar & orsedd.) Diau, ni ellir goddef hyn yn hwy; mae pob creadur yn caledu ei galon i'm herbyn yn ddrygionus, nid ofnant rhagof ddim, a byw y maent yn waeth nag anifeiliaid. Dallwyd eu llygaid ysbrydol ym meddwdod pechod, dyna'r modd y maent, ac nid adwaenant monof i fel eu Duw; ar bethau daearol yn unig y mae eu bryd, a'r peth a fo uwchlaw hynny, ni bydd ond dirmyg ganddynt; a phan edrychwyf arnynt weithion, llwyr angof ganddynt y Cyfamod a wneuthum â hwynt, fel y rhoddais fy ngwaed erddynt ar y Groes, a'm crogi innau ar bren y dioddef fel yr enillent hwy fywyd. Tynnais y pigau drain o'u traed, a'u dwyn ar fy mhen fy hun fel coron; gwneuthum y cwbl a allwn, ac eto gwael fy mharch ganddynt. Am hynny, â chyfiawn frys, dygaf ddydd brawd arnynt, a barnu Pobun yn ôl ei haeddiant. Pa le yr wyt ti, Angau, fy nghennad rymus? Dyred ger fy mron.
|
Angau
|
Hollalluog Arglwydd, wele fi yma, wrth dy ewyllys yr af fel dy gennad.
|
Duw
|
Dos di at Bobun a dywed wrtho yn fy enw i mai rhaid iddo gychwyn ar bererindod ar yr awr a'r dydd hwn, ac nad gwiw iddo ei ysgôi. A phar iddo ddwyn gydag ef ei lyfr cyfrif, ac na cheisied nac oedi na phetruso.
|
Angau
|
Arglwydd, af drwy'r holl fyd ac ymwelaf â hwy, fawr a mân, y sawl nid adwaeno gyfraith Dduw ac a syrthiodd yn is na'r bwystfilod. Y sawl a droes ei galon at bethau daearol, mi a roddaf iddo ergyd fel y pylo ei lygaid ac na chaffo hyd i borth y Nef, oni bo elusen a thosturi o'i du ac yn barod i'w gymorth.
|