Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14

Pobun (1933)

Hugo von Hofmannsthal
cyf. T Gwynn Jones

Ⓗ 1933 T Gwynn Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 2
Pobun

(Yn dyfod allan o'i dŷ, a gwas yn ei ganlyn.) Dos yn ebrwydd i geisio goruchwyliwr y tŷ; rhaid i mi roi gorchymyniddo.



Mynd ymaith o'r gwas.

Pobun

Ys gwir, y mae golwg da ar fy nhŷ. Saif yma yn urddasol, yn wych a chyfoethog. Nid oes yn y dref un tebyg iddo. Y mae ynddo liaws o ddodrefn drud, cistiau lawer, cypyrddau lawer, gweinidogion lawer, heblaw hynny, trysor teg o aur pur, ac o flaen y porth digon o lawntiau. Plasdy yn y wlad hefyd, tyddyn llawn o wartheg a defaid a'r rheiny'n dwyn elw i mi, fel yn wir y gallaf fyw'n llawen o ddydd i ddydd.



Dyfod o'r goruchwyliwr.

Pobun

Swyddog, dos i ymofyn côd lawn o aur i mi—fe anghofiais ei dodi yn fy ngwregys. Dal sylw ar hyn hefydy fory, rhaid paratôi gwledd o'r pethau gorau oll—bydd perthynasau a gwahoddedigion dieithr yn dyfod. Rhaid bod wedi trwsio'r bwrdd yn wych. Gyrr y Cogydd yma, dos dithau ynghylch yr aur.



Mynd o'r Goruchwyliwr, dyfod o'r Cogydd.

Pobun

Y mae arnaf eisiau gwledd gostfawr erbyn yfory.

Cogydd

O'r gorau. A gaf i ynteu baratoi pob cwrs o'r newydd?

Pobun

Crynu'r cryd arnat! O'r newydd? Dim ysborion ar fy mwrdd i!

Cogydd

Yr oedd dros ben ddoe ddigon o leiaf at ddau gwrs oer.

Pobun

Yr asyn! A wyt ti'n meddwl mai cinio cardotyn a fynnwn i?



Ymaith â'r Cogydd. Dyfod o'r Goruchwyliwr a chod ganddo. Cymryd o BOBUN y god.

Pobun

Cadw di olwg ar forwyn a gwas, nid ynt yn rhyngu mo'm bodd ym mhopeth.



Gwelir y Cymydog Tlawd yn dynesu. Cydymaith Da Pobun hefyd yn dyfod ar frys.

Pobun

(Wrth y Goruchwyliwr.) Dyna pam yr wyt ti'n ben swyddog yma, er mwyn i ti—O, dyma'r cydymaith!



Mynd o'r Goruchwyliwr i'r tŷ.

Pobun

(Wrth y Cydymaith.) Yr oeddwn eisoes yn disgwyl amdanat. Awn yn awr at borth y dref i edrych y darn tir, gael i ni weld a dalo at wneud gardd bleser.

Cydymaith

Y mae aur y Tylwyth Teg yn dy law di, felly bydd popeth yn iawn, fe gei'r peth a fynni—fydd dyn ddim yn hir cyn cwpla'r peth fo wrth ei fodd. Y mae'r moddion gennyt, felly dyna ben.

Cymydog Tlawd

Dyma dŷ'r gŵr goludog, Pobun. O, f'arglwydd, yr wyf yn crefu arnat, dyro i mi gymorth o'th dosturi, a bydd drugarog at dlawd.

Cydymaith

(gan gyfarch Pobun.) le, fel y dywedwyd, rhaid i ni frysio, nid gwiw i ni oedi'n hwy.

Cymydog Tlawd

(Gan godi ei law yn erfyngar.) O, fy meistr, Pobun, tosturia wrthyf.

Cydymaith

(Yn cyfarch Pobun.) A adwaenost ti'r creadur yna?

Pobun

Myfi? Pwy yw, tybed?

Cymydog Tlawd

O, fy meistr Pobun, atat ti yr wyf yn dal fy llaw. Gwelais innau well dyddiau gynt. Unwaith bûm gymydog i ti, dŷ wrth dŷ, ond bu raid i mi ymadael.

Pobun

(Gan gynnig dernyn iddo o'r pwrs.) O'r gorau!

Cymydog Tlawd

(Heb ei gymryd.) Rhodd fach yw honyna.

Pobun

Aie? Gwaed Duw! Dyro hi'n ôl i mi, ynteu.

Cymydog Tlawd

(Gan bwyntio at y god.) Honyna, pe cawn fy rhan fel brawd o gymydog o honyna, byddwn eto'n iach a dedwydd.

Pobun

O honyna?

Cymydog Tlawd

Am hynny yr wyf yn penlino o'th flaen. Rhan y pwrs yna â mi, dim ond hynny.

Pobun

(Gan chwerthin.) Dim ond hynny?

Cydymaith

Mae'r gŵr drwg yn ei groen! Byddai miloedd o fegeriaid ar dy warthaf di—beth, miloedd? Cannoedd o filoedd!

Cymydog Tlawd

Yr wyt ti'n gyfoethog dros fesur. Pe rhennit y god yn gyfartal â mi, byddai cistiau ddigon gennyt wedyn, a'r rhenti a'r llogau yn llifo i mewn iddynt.

Pobun

Aros! Pwy roes gennad i ti sôn am fy nghistiau, fy rhenti a'm llogau i?

Cydymaith

O'm rhan fy hun, byddai'n gywilydd gennyf ofyn y fath beth!

Pobun

(wrth y Cydymaith.) Gad iddo! (Wrth y Cymydog.) Weli di, yr wyt yn methu'n arw wrth feddwl y gallwn i rhag blaen rannu'r hyn sydd yn y pwrs â thi. Erbyn hyn, nid eiddof i mo'r arian, yn un peth—rhaid i mi eu talu heddiw fel pris gardd bleser. Rhoddais fy ngair i'r gwerthwr, ac nid erys hwnnw ddim yn hwy am yr arian.

Cymydog Tlawd

Os yw'r arian hyn i fynd am yr ardd, nid rhaid i ti ond amneidio—yn lle un pwrs y mae deg ar dy helw. Galw am un araÌl rhag blaen, a rhan â mi, os wyt ti'n Gristion.

Pobun

Pe dygid y nesaf yma, ni byddai hwnnw chwaith ddim yn rhydd. Rhaid i'm harian i dreiglo a gweithio, ymryson ag angau ac â'r diawl ei hun, rhedeg ymhell a gorwedd ar lôg, er mwyn i minnau gael yr eiddof fy hun. Heblaw hynny, cyst fy nhai lawer i mi; cadw meirch, bytheiaid a gweinidogion, a'r pethau eraill sy'n perthyn i'r busnes, gerddi, pysgodlynnoedd, tir hela mwy o ofal am bethau felly nag am blentyn bach! [Rhaid eu cadw mewn trefn a'u gwella o hyd, cost fawr i ddechrau a chost wedyn o hyd.] Hawdd iawn dywedyd "Gŵr cyfoethog," eto llawer trafferth y sydd, a galw arnom o bob cyfeiriad, peth na ddaeth i'th ben di erioed. Dônt yma o bell ac agos, pob un a'i hawl a phob un a'i angen; [ni chymerai dyn mo'r tricham oddi yma at y wal acw heb fod o hyd a'i law'n agored.] Purion, ond rhaid cael rheswm a chyfraith hefyd, ac i bawb ofalu am yr hyn a berthyn iddo. Rwyt ti'n methu yn y fan yma eto. Pe cyfrifid f'arian a'm heiddo i gyd, a'u rhannu rhwng pob Cristion y byddai arno angen elusen, ni ddeuai mwy i ti na'r swllt hwn, yn sicr. Am hynny, cymer ef rhag dy flaen, canys dyma dy gyfiawn ran.



Cymer yntau ac â ymaith.

Cydymaith

Diau, fe roddaist iddo synnwyr noeth. Wir Dduw! a fo goludog a fydd doeth!

Pobun

Bellach, ni awn, y mae hi'n hwyrhau.



Dyledwr yn dyfod rhwng dau swyddog, ei wraig a'i blant ar ei ôl, mewn carpiau.

Cydymaith

Beth yw'r creadur hwn o ddyn sy ganddynt, a'i ddwylo wedi eu rhwymo'n groes? Mynd ag ef i garchar am ei ddyled, ond odid. Buasai well iddo edrych ati'n amgenach. Rhaid iddo bellach feddwl am fara a dŵr, neu ymgrogi wrth ryw hoel neu gilydd. Ie, was, 'r wyt ti'n rhigymu enwau fel y bydd plant—Sioni poni, Siani pani, a rhyw chwarae felly—mae echwyn ac achwyn yn clymu'n burion!

Dyledwr

Pe bai llyfr echwyn ambell un yn agored, fe welid bod ynddo lawer peth drwg.

Pobun

I bwy y mae'r ergyd yna?

Dyledwr

I'r sawl sy'n holi.

Pobun

Nid wyf yn deall monot. Ni wn i ddim am bwy yr wyt ti'n fy nghymryd.

Dyledwr

Byddai'n gywilydd gennyf fod yn dy groen.

Pobun

Dyna air caled i mi heb achos. Os drwg dy sut wyt ti, beth a allaf i wrth hynny?

Cydymaith

Beth?

Dyledwr

Gair digon ysgafn am ergyd drom.

Cydymaith

Beth!

Pobun

Pwy roes ergyd i ti?

Dyledwr

Ti dy hun, ac un drom.

Pobun

[Nid adwaen i monot wrth d'olwg.]

Dyledwr

[Eto dy droed ti sy'n pwyso arnaf.]

Pobun

Peth rhyfedd fyddai fy mod yn gwneud hynny ac heb wybod dim am y peth. Beth?

Cydymaith

Beth!

Dyledwr

Mae d'enw di wrth amod sy'n fy mwrw i i garchar.

Pobun

[Ar fy ngair, pa beth yw hynny i mi?]

Dyledwr

[Tydi, Pobun wrth d'enw, yw'r gŵr y doed â'r gŵyn yn f'erbyn i yn ei enw ac ar ei gais! Drwy d'orchymyn di yn unig y'm dygir i i'r carchar.]

Pobun

'Rwy'n golchi fy nwylo mewn diniweidrwydd, fel un na ŵyr ddim am y peth.

Dyledwr

[Gweision dy weision, efallai, sy'n rhoi trais arnaf, gorff a meddwl. Ond ti dy hun yw'r gŵr sy tu cefn i'r peth, a bydd yn warth arnat yn awr ac am byth.]

Pobun

[Pwy a barodd iti fenthyg arian ar lôg? Bellach, dyma'r cyfiawn dâl i ti. Ni ŵyr f'arian i ddim amdanat ti na minnau, ac ni dderbyniant wyneb neb. Amser wedi mynd heibio, dydd wedi darfod—dwg dy gŵyn yn eu herbyn hwy.]

Dyledwr

[Dyma fo'n dirmygu ac yn gwawdio f'angenoctyd i. Dyna ŵr cyfoethog i chwi. Ni ŵyr ei galon ddim am orchymyn Duw. Mil o lythyrau coel yn ei goffrau, ac yntau'n ein gado ni dlodion mewn angen a phoen.]

Gwraig y Dyledwr

Oni elli di drugarhau' wrthym, rhwygo'r darn papur melltigedig, yn lle bwrw tad fy mhlant i yng ngharchar, un nad achosodd ddrwg iti erioed! Oni feddi di nag anrhydedd na chydwybod, ai difater gennyt felltith yr amddifaid, ac onid cof gennyt am dy lyfr dyledion di dy hun, y bydd raid iti ei ddwyn gerbron y Barnwr pan ddêl hi at y pedwar peth diweddaf?

Pobun

Aros, wraig, drwg yr wyt ti'n deall y peth a ddywedi; nid o ddrwg ewyllys yn erbyn dy ŵr y bu hyn; ystyriwyd y cwbl yn llawn ac yn deg cyn rhoi cyfraith arno. Arian, fel pob masnach arall, y mae arian dan gytundeb a thegwch.

Cydymaith

Byddai'n warth o beth pe bai'n amgen.

Gwraig y Dyledwr

Arian, ceiniog yw arian a rydd dyn yn fenthyg i'w gymydog er mwyn trugaredd Dduw.

Dyledwr

Arian? Nid yw arian fel pob masnach arall; peth melltigedig a llawn hudoliaeth yw; y neb a estynno'i law tuag ato, i'w enaid ei hun y bydd niwed a gwarth nad arbedir ef byth rhagddynt, canys nid oes ar rwyd Satan yn y byd amgen enw nag arian.

Pobun

Yr wyt yn cablu fel ynfytyn noeth! Ni wn i pam yr wyf yn aros yma. Dywed paham y mae dy barch i arian mor brin pryd y byddai yntau'n beth mor ddwyfol i ti! Wrth fwrw dirmyg arno cyffelyb wyt i'r cadno a'r grawn surion; a'r sawl a ddifenwo unpeth yn ei gefn, ni chaiff hwnnw neb a'i credo ar ei air.

Dyledwr

[O'm helbul mi enillais rywbeth, sef bod wedi dysgu adnabod magl y diawl, a rhyddhau f'enaid rhag melltith arian.]

Cydymaith

[Gwahanwyd rhwng arian â thithau ers tro—am hynny y mae dy le yng ngharchar.]

Pobun

Cymer y ddysg hon gennyf i—gŵr doeth a dyrchafedig oedd y sawl a ddyfeisiodd arian i ni, oherwydd drwy hynny, yn lle rhyw gyfnewid pethau a rhyw fan-werthu salw, daeth ein byd ni i gyd i gyflwr uwch, a dyfod pob dyn yn ei gylch ei hun yn ddioed yn debyg i ryw Dduw bychan, [fel y gallo yn ei ffordd gynhyrchu ac achosi llawer o bethau]. Daw i feddu llawer iawn drwy hyn, ac heb na thynnu sylw na chodi sŵn, i reoli llawer mil o ddwylaw, a bod mewn gwirionedd yn llywodraethwr. Ni bydd dim yn rhy uchel na rhy ddiogel na ellir ei brynu am arian. Ti elli brynu'r tir a'r gwas ynghyd, a hyd yn oed awdurdod ysgrifenedig y brenin, peth amhrisiadwy bob amser, a pheth a gysegrwyd gan Iesu Grist ei hun; a hyd yn oed o hynny oll, ymhobman, bob amser, ti elli am arian brynu rhan. Ac ni wn i am un awdurdod tros ben honno; o'i blaen hi bydd raid i bawb blygu, a thalu parch i'r petb sydd yn fy llaw i yma.

Gwraig y Dyledwr

Nid gwael wyt ti am ganmol diawl—mae'r peth fel pregeth ar dy dafod, a thalu parch yr wyt i god y Mamon, fel pe bai barch i'r cysegr ei hun.

Pobun

Myfi, rhoi parch yr wyf i lle'r haeddir parch, ac nid cablu lle bynnag y gwelwyf fod gallu.

Dyledwr

(A'r swyddogion yn ei lusgo ymaith.) Pa beth a dâl dy ddagrau, fy ngwraig druan? Dyma fi yng nghrafanc Mamon. Paham yr ymroddais innau iddo erioed? Bellach, dyma ben ar y bywyd hwnnw.

Gwraig y Dyledwr

A elli di edrych ar hyn oll cyn oered â'r garreg? Pa le y caf wely i'm plant heno?



A ar ôl eì gŵr.

Pobun

(wrth y Cydymaith.) Er fy mwyn i, dos ar eu holau, ac edrych yn ddistaw at y peth. Aed y gŵr i'r carchar, ni thâl poeni dim erddo ef; am y wraig, mi atebaf am gysgod iddi, ac am y peth a fo rhaid iddi at fyw, a'r plant i'w chanlyn, mi a'i rhof iddynt. Caiff y goruchwyliwr ofalu drosof am hynny, a gwneud ystafell yn barod iddynt; eto, mynnwn fod heb glywed eu llefain na gwybod eu hangen na'u cwyn. Y mae hyn yn beth blin ddireswm—dyn yn byw'n dawel iddo'i hun, heb un amcan drwg yn wir yn ei feddwl, ac yn sydyn ar y dydd brafiaf fu erioed, ei lusgo fel hyn heb yn wybod iddo sut, i ganol ymryson, chwerwder a chwynfan, a'i fwrw allan o'i dawelwch. 'Rwy'n gofyn i ti, pam y dylwn i ddyfod i mewn i beth fel hyn? Pa beth sydd a wnelwyf i â helynt y taeog? 'Tynnu ei hun i'r drwbl, ac yna dyfod yma i gwyno ac ochain, hynny oll, wrth gwrs, fel y daw'r naill droed ar ôl y llall. Codi bwthyn ag arian benthyg; pwy bynnag a fynn dŷ felly, yr un fath y bydd hi arno. [Dyna'r hanes er dyddiau Adda, nid rhywbeth newydd ddyfod yw. Ac i ddibennu, mynnai fy ngosod i yn ei esgidiau, ac yntau yn fy nyled am dwr o arian, a bydd cost y chwarae'n disgyn ar hirymaros ac amynedd y gŵr trugarog nad oedd, yn ei olwg ef, ond diawl noeth!] Ond bellach, a dywedyd y gwir yn blaen, nid oes arnaf i ryw lawer o awydd mynd i weled un ardd bleser, ac y mae hi eisoes yn tywyllu. Gwna gymwynas eto â mi, fy nghydymaith, ar ôl iti orffen y llall,—dwg y tâl hwn i'r sawl piau, rhag bod i mi flinder oblegid esgeuluso. Mi rof yr ardd bleser a'r tŷ pleser ynddi yn rhodd i'm meistres ar ben eì blwydd eto.

Cydymaith

Honno y caf i dy weled gyda hi heno? Mi ddof â'r dangosiad am y tâl iti yno, wedi ei gwpla yn ôl d'ewyllys.

Pobun

Llawer o ddiolch i ti, gydymaith da, mae awydd arnaf am brysuro yno—dyna'r unig fan yn y byd na bydd ynddo ddim yn andwyo fy mhleser; rhyw wynfyd cwbl baradwysaidd yw'r croeso parod a gaf ganddi hi. Am hynny, f'ewyllys yw bod pa beth bynnag a ddygaf yn rhodd iddi hi yn dangos fy niolchgarwch iddi megis mewn drych.

Cydymaith

Pa fodd y gwnei di hyn, ym mha ryw ddull?

Pobun

Trefnais yr ardd gyda gofal, a bod tŷ pleser i fod yn ei chanol, a'r gwaith yn union wrth fy mryd fy hun, megis llwyfan agored, a cholofnau teg o faen yno, a dwfr yn neidio i'r awyr a delwau pres na bont yn ôl am un addurn; ac yno hefyd, gosod y gwelâu fel y bo arogleuon blodau o lawer math yn llenwi awel y bore a'r hwyr, lilîau, rhosynnau a lafant. [Hefyd, mynnais drefnu bod yno lwybrau i bob cyfeiriad, a bwâu wedi eu plethu o fân geinciau'r coed a'r rheiny mor dewion fel y caffo dyn gysgod rhag y gwres a hyfrydwch yno ar ganol y dydd tecaf, lle ni wywo dim rhag y tes.] At hynny, mewn rhyw lannerch gudd, megis gwely y ryw dduwies, mi fynnaf gael ystafell o faen llyfn caboledig, a bâdd ynddi.

Cydymaith

Gardd fach odidog yn sicr, ac nid hawdd taro ar ei thebyg.

Pobun

Mi roddaf honno i'm hanwylyd, a'i harwain hithau yno gerfydd ei dwy law, fel y gwelo hi yn yr ardd fach werthfawr hon ei llun ei hunan megis mewn drych; [lle fydd hwn fydd yn fy llawn foddhau i bob amser, a thes a chysgod hyfryd yn fy llonni, a gardd fach dawel megis hon fydd dedwyddwch a golud y garddwr].

Cydymaith

Mi welaf dy fam yn dyfod draw. Afynni di gyfarfod â hi yma?

Pobun

Ni fynnwn ei hysgói hi, ond yn wir nid oes imi ond ychydig amser. Dos di a dwg i mi'r dangosiad cymwys am yr arian, tra bwyf innau yn ei chyfarch hi.

Rhagymadroddg1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14