GOLYGFA 5 |
|
Croesawydd |
Da iawn. Pawb yma? Reit. Dechreuwn ni. Croeso i chi gyd yma, i'ch cyfarfod cyntaf yma yn Siambr y Cyngor. A'r peth cyntaf sydd raid i mi wneud yw eich llongyfarch. Llongyfarchiadau i chi un ac oll ar gael eich hethol i fod yn gynghorwyr. Cynghorwyr newydd sir Ceredigion. Ac os ga'i ddweud, dwi'n credu mai chi yw'r cynulliad... (yn chwilio am y gair mwyaf priodol)...y...harddaf o gynghorwyr newydd dwi wedi cael y fraint o'u croesawu yma erioed. (Slipo i Hughie Green am eiliad.) And I mean that most sincerely, folks! Ie'n wir. Nawrte, gan gofio gymaint o fraint yw bod yn gynghorydd, dwi'n siwr nad oes angen i fi ddweud wrthoch chi mor bwysig yw eich gwaith. A'n gwaith ni – swyddogion proffesiynol y cyngor – yw eich galluogi chi – i wneud popeth gallwn ni – i'ch helpu i sefyll lan dros eich hetholwyr. I gynrychioli buddiannau eich hetholaethau. A gwneud hynny i'r eithaf. Felly te, i'n helpu ni i'ch helpu chi, mae 'na ryw gwpwl o bethe bach sydd angen i chi ddysgu. A'r peth mwyaf pwysig i gyd yw: siwt ma pleidleisio. (Ffug chwerthin.) Na – nid 'pa ffordd ma pleidleisio. Eich dewis rhydd chi – a chi yn unig – yw hynny, wrth gwrs. Na, yr hyn mae 'nghyfaill i yn y fan hon yn mynd i ddysgu i chi nawr yw siwt ma pleidleisio. Siwt ma bwrw eich pleidlais gan ddefnyddio'r botymau o'ch blaen. Gyfaill... |
Hyfforddwr yn cyfarwyddo pawb i... - Godi'r fraich dde yn uchel i'r awyr. - Ffurfio pwynt â'r bys pwyntio. - Gan gadw'r fraich a'r llaw a'r bys yn yr awyr, symud y llygaid i sicrhau pa botwm yw'r targed priodol. - Gynnu anadl ddofn ac yna... - Gwyro'r fraich a'r llaw a'r frys mewn hanner cylch tuag at y botwm. - Wedi cyffwrdd yn gadarn (ond ddim yn rhy gadarn) â'r botwm, cyfrif un-dau-tri (er mwyn sicrhau bod y bleidlais yn cael ei chofnodi). Yna... - Rhyddhau, gan ddychwelyd y fraich a'r llaw a'r bys i'w gorweddfan arferol. |
|
Hyfforddwr |
Ymarfer da y mae'r cyngor yn ei gymeradwyo – arfer pleidleisio â'r llaw chwith hefyd rhag ofn (1) byddwch yn cael damwain ac yn methu defnyddio'r llaw dde, a (2) ar gyfer y diwrnodau hynny y mae llawer o bleidleisio i'w wneud. Ar ddiwrnodau tebyg mi fydd pleidleisio â'r llaw chwith yn eich harbed rhag RVI (repetitive voting injury) / AAB (anaf aml-bleidleisio). |
Ar ddiwedd yr ymarfer... |
|
Hyfforddwr |
Unrhyw gwestiynau? |
Cynghorydd Newydd |
O's rhaid codi'r fraich a'r llaw a'r bys mor uchel? |
Hyfforddwr |
Y... Oes. |
Cynghorydd Newydd |
O diar. Ma da fi fraich dost, chi'n gweld. Athritis. |
Swyddog |
Mm. Wna'i edrych i weld a oes modd rhoi hoist yn y siambr i'ch helpu. |
Cynghorydd Newydd 2 |
Sai'n gweld bod ise ny. Sai'n gweld bod ise'r seiens ma o gwbwl, â phob parch. Dim ond gwasgu sy' ise i ni neud, er mwyn popeth. Beth yw pwynt y Lan-yn-yr-Awyr busnes ma i gyd? |
Swyddog |
Ie, wel... â phob parch atoch chithau hefyd, gan gofio eich bod yn newydd, ynte, y pwynt yw: cadw'ch harweinydd grŵp – y'ch plaid – yn hapus. |
Cynghorydd Newydd 2 |
Beth? Siwt? |
Swyddog |
Wel, mae'n amlwg, ond-yw-hi. Iddyn nhw fedru gweld pa ffordd y'ch chi'n pleidleisio. |
Cynghorydd Newydd 3 |
Hy. Bydd hynny'n becso dim arna' i. Dwi'n annibynnol. |
Swyddog |
(Yn trio peidio chwerthin gormod.) Doniol iawn. 'Annibynnol'. Doniol iawn. (Troi at yr hyyfforddwr.) Diolch, gyfaill. Ymlaen at y wers nesaf. Siwt mae swyddogion y cyngor yn gallu eich helpu i ddod i benderfyniad. Nawrte, mae llawer o waith y cyngor yn gymhleth iawn. Mor gymhleth, mae rhai ohonom ni – y staff broffesiynol – ambell waith – ambell-ambell waith – yn cael trafferth deall y materion ry' ni'n eu trafod. Wel, os y'n ni – y staff broffesiynol – yn cael trafferth, pa ddisgwyl i chi – gynrychiolwyr rhan amser – i ddeall. Dyna pam, cyn pob pleidlais fawr mi fydd Swyddogion – Uwch-Swyddogion a Chyfarwyddwyr – y cyngor yn rhoi braslun o'r dewis ger eich bron a chyngor parthed y llwybrau cywir i'w dilyn. |
Cynghorydd 4 |
Gwych. |
Cynghorydd 5 |
Gwd thing. Ma' nhw'n deall y pethe ma. |
Cynghorydd 3 |
Ie. Gwd. A os y'n ni ddim yn cytuno â beth sda nhw i weud fyddai'n gallu cwestiynu nhw wedyn. |
Swyddog |
Sori. Beth oedd y gair defnyddioch chi fyn'na nawr? |
Cynghorydd 3 |
Y... 'cwestiynu'? |
Swyddog |
W! Cystal i fi eich rhybuddio nawr, dyw hwnna ddim yn air i'w ddefnyddio yn y siambr hon – yn sicr ddim o flaen Swyddogion. |
Cynghorydd 3 |
(Yn dechrau twymo.) Beth? Be chi'n trio gweud? Sdim hawl da ni gofyn cwestiwn i swyddog? |
Ar draws y swyddog, cyn iddo ateb. |
|
Cyfreithiwr y Sir |
Mr Swyddog, gai'ch hatgoffa chi fod dim rheidrwydd arnoch chi i ateb cwestiwn y cynghorydd. |
Swyddog |
Ie, wi'n gwbod, ond... |
Cyfreithiwr y Sir |
(At y cynghorydd.) Ac ma rhaid i mi bwysleisio wrthoch chi, syr/madam – yn gwbl ddi-flewyn ar dafod – dyma'r tro olaf y byddwch yn gofyn cwestiwn o swyddog yn y siambr hon, ydych chi'n deall. |
Cynghorydd |
Ie, ond beth os o's swyddog yn y'n camarwain? Yn gweud pethe sydd ddim yn wir. |
Cyfreithiwr y Sir |
Ddim yn...! Ydych chi, gynghorydd, yn ystyried yr hyn y'ch chi newydd ei ensynio. Ei bod hi'n bosib i Swyddog o'r cyngor sefyll yn y siambr hon â'r bwriad i gam-arwain aelodau etholedig? |
Swyddog |
Mr/Mrs Cyfreithiwr – cyn i'r drafodaeth hon fynd gam ymhellach, dwi'n credu fod angen i fi ymddiheuro i bawb. Dwi'n rhyw feddwl, falle, fod cam pwysig yn y broses hon o'ch cyflwyno at y gwaith o fod yn gynghorwyr newydd heb ddigwydd. Yn y pecyn gawsoch cyn dod yma heddi a oedd 'na becyn tabledi ynddo – debyg i hwn? |
Ateb negyddol gan bawb. |
|
Swyddog |
Mm. O'n i'n meddwl falle. Nawrte, cyn i chi fynd o 'ma heddi, ma na becyn i bob yr un ohonoch. Y cyfan sydd raid i chi gofio yw cymryd un bob bore – cyn agor eich i-pad cyngor, os yn bosib. |
Cynghorydd |
Beth yw'r tabledi. Os enw arnyn nhw? |
Swyddog |
Oes. Protocol. Llyncwch un dos o Protocol bob dydd ac ymhen fawr o dro mi fyddwch yn gynghorwyr hapus ac esmwyth a braf eich byd. Dim problemau pwysau gwaed na stress na dim. Ac yn awr, ar gyfer y wers olaf heddi... |
Hyfforddwr yn dychwelyd ac yn holi pawb i sefyll. Pawb i gymryd llinyn sydd ar eu stôl. Rhoi rhif i bawb yn y siambr. Gofyn i gynghorwyr 1, 3, 5 etc i droi eu cefnau at 2, 4, 6 etc Cyfarwyddo cynghorwyr 2, 4, 6 etc i glymu dwylo 1, 3, 5 etc. |
|
Swyddog |
Da iawn. Ry' chi ar y ffordd i fod yn gynghorwyr hyfryd iawn. Ar y ffordd mas mi fydd rolyn o dâp i bob yr un ohonoch i roi dros eich cegau. Ond nawr, cyn i ni orffen, gawn ni gyd blygu pen a dweud gyda'n gilydd y geiriau cysegredig... Mae'n ddrwg gen i, ond sdim byd i neud. Gyda'n gilydd? |
Pawb |
Mae'n ddrwg gen' i, ond sdim byd i neud. |
Swyddog |
A-men. |