ACT UN GOLYGFA 5 Mae MARY a BETH yn siarad a'i gilydd, yn y "Great Escape". |
|
Mary |
Pam... pam... dere mlân... Pam? |
Cyfyd MARY i adael. |
|
Beth |
Aros... plis. |
Mary |
Pam ddylen i. Os nad wyt ti'n egluro pam, os nad ydw i'n deall pam bo ti'n oeri dy din ar gornel stryd allai ddim o dy helpu di... Pam? |
Beth |
Allai ddim... |
Mary |
Elli di ddim be? |
Beth |
Allai ddim gweud 'tho chi... os na allai erbyn... tymor nesa. |
Mary |
Ffycin stiwdent arall. |
Beth |
Os na alla erbyn tymor nesa... (Mae'n torri.) |
Mary |
'Na ti bach paid llefen. (Cymer tissue allan o'i bag.) Na ti. |
Beth |
Sori. |
Mary |
Boche bach pert dy ti. Fel doli fach... Be ti'n galw dy hun? |
Beth |
Sori? |
Mary |
Beth yw dy enw di? |
Beth |
Bethan. |
Mary |
Ti di bennu'r drinc 'na nawr? |
Beth |
Do. |
Mary |
Ti ishe un arall? |
Ysgwyd BETH ei phen. Tynna MARY claw hammer o'i bag. |
|
Mary |
Gwd, nawr grynda Bethan. Grynda fel se ti mewn ffycin darlith. Os ydw i neu un o'r merched yn dy weld di rownd y Pier, ar gornel stryd unrhyw le rownd y dre ma, fydd dim gwyneb ar ôl 'dy ti. Ti'n deall. Nele pîg y claw hammer 'ma na llafn cyllell yffarn o fes i 'r boche bach pert 'na. A siwd licet ti fynd nol i dy goleg, i dy fywyd parchus, yn gris cros o greithie. Nyge whare oboutu odw i Bethan. Nawr ffyc off mas o ma. |
BETH yn symud yn araf i ffwrdd. Sŵn drilio. |