a1a2a3a4

Yr Wylan (1952)

Anton Tsiechoff [Антон Чехов]
cyf. Thomas Hudson-Williams, gol. Samuel Jones

Ⓗ 1952 Thomas Hudson-Williams
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Act 2


Clwt sgwâr o welltglas llyfn yn y pen draw ar y dde a theras mawr; ar y chwith ceir golwg o'r llyn a'r haul yn tywynnu arno. Gardd flodau. Hanner dydd, gwres mawr. Ar ochr y clwt glas, yng nghysgod hwn waglwyfen, Arcadina, Dorn a Masia yn eistedd ar fainc. Llyfr agored ar lin Dorn.

Arcadina

(Wrth Masia.) Codwch a sefwch wrth f'ymyl i. 'Rydych chi'n ddwy ar hugain a finnau bron yn ddwbwl hynny. Iefgeni Sergiefits, prun ohonom ni ydi'r fenga?

Dorn

Chi, debyg iawn.

Arcadina

Welwch chi, ac mi ddeuda i pam. Am fy mod i yn gweithio, yn teimlo, a bob amser ar gychwyn, a chithau yn eistedd yn eich unman, heb fyw o gwbwl. Mae gin i reol: peidio byth ag edrych ymlaen. Fydda i byth yn meddwl am henaint a'r bedd, ond rhaid eu cymyd nhw pan ddôn nhw, debyg.

Masia

Ond 'rydw i yn teimlo fel pe bawn i wedi ngeni filoedd o flynyddoedd yn ôl, a rydw i'n llusgo fy mywyd ar f'ôl fel cynffon ffrog laes. Weithiau fydd arna i ddim isio byw o gwbwl. (Yn eistedd.) Lol ydi hyna, wrth gwrs, rhaid imi styrio a bwrw peth felna heibio.

Dorn

(Yn canu'n ddistaw.) 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.'

Arcadina

Ac 'rydw i mor fisi ag unrhyw Saesnes, bob amser yn dwt a ngwallt yn stylish. Fydda i byth yn mynd allan o'r tŷ, hyd yn oed i'r ardd, mewn blows a heb drin fy ngwallt. Mi fydda i bob amser yn ddel, nid wedi mollwng fel rhai. (Cerdd yn dalog ar y gwelltglas.) Welwch chi, 'rydw i'n sionc fel cyw iâr. Gallwn actio geneth bymtheg oed.

Dorn

Ie, ond beth am y llyfr yma? 'Roedden ni'n darllen am y masnachwr a'r llygod mawr.

Arcadina

A'r llygod ffringig. Ewch ymlaen. Na, rhowch y llyfr i mi, fi sydd i ddarllen rwan. (Cymer y llyfr a chwilio am y lle.) A'r llygod... dyma fo 'ac wrth gwrs, pan fo pobl y byd ffasiynol yn difetha llenorion ac yn eu gwadd i'w tai, mae hynny mor beryglus ag i werthwr ŷd fagu llygod ffringig yn ei sgubor. Maent yn eu caru hefyd. Ac wedi i wraig ddewis ei llenor, bydd yn ceisio ei ddal trwy fwrw cawod o eiriau mwyn ar ei ben.' Digon gwir am ferched Ffrainc, ond nid dyna brogram merched Rwsia. Cyn dechrau canlyn y llenor, byddwn ni dros ein pen a'n clustiau mewn cariad, nid ni sydd yn dewis. Raid ichi ddim mynd ymhell i gael enghraifft, cymwch fi a Trigorin.



Sorin yn dod i mewn ar bwys ei ffon a Nina gydag ef: Medfedenco yn gwthio cadair freichiau ar eu hôl.

Sorin

(Megis wrth blentyn.) Wel? Ydan ni'n hapus? 'Rydan wrth yn bodd heddiw 'n tydan ni? (Wrth ei chwaer.) Mae ar ben ei ddigon. Ein tad, a mam-yng-nghyfraith wedi mynd i rodio a ninnau'n rhydd am dri diwrnod cyfa.

Nina

(Yn eistedd wrth ymyl Arcadina a'i chofleidio.) 'Rydw i mor hapus, 'rydw i'n un ohonoch chi rwan.

Sorin

(Yn eistedd yn ei gadair freichiau.) Mae hi'n glysach na rioed heddiw.

Arcadina

A dillad da amdani, ac yn edrych yn ddiddorol. (Yn ei chusanu.) Go lew, chi! Ond rhai peidio canmol gormod, rhag i'r gŵr drwg – wyddoch chi. Ble mae Boris Alecsiefits?

Nina

Wrth y llyn yn pysgota.

Arcadina

Sut medr o? Stumog, 'n tê?

Nina

Be sy gynnoch chi fanna?

Arcadina

'Ar y Dŵr' gan Guy de Maupassant, nghariad i. (Wedi darllen tudalen neu ddwy.) Mae o wedi colli ei flas, tydi o ddim yn deud y gwir chwaith. (Yn cau'r llyfr.) Mi 'dw i'n anesmwyth. Pam mae Constantin mor bigog ac isel ysbryd? Bydd yn crwydro am ddyddiau lawer hyd y llyn a phrin y ca i weld o o gwbl.

Masia

Mae o'n bur ddigalon. (Yn wylaidd wrth Nina.) Adroddwch rywbeth o'i ddrama o, os gwelwch chi'n dda.

Nina

Beth, ond 'tydi hi mor ddwl.

Masia

(Yn ceisio cuddio ei theimlad.) Pan fydd o'n darllen rhywbeth, bydd tân yn ei lygad a'i wyneb fel y galchen. Mae gynno fo lais swynol a thrist, ac y mae'n edrych fel bardd bob modfedd ohono.



Sorin yn chwyrnu.

Dorn

Nos dawch.

Arcadina

Piotr bach!

Sorin

Y?

Arcadina

Ydych chi'n cysgu?

Sorin

Dim o'r fath beth.



Distawrwydd.

Arcadina

Thâl hyn ddim, rhaid ichi gymyd ffisig.

Sorin

Mi 'dw i'n ddigon parod i gymyd ffisig, ond cha i ddim gin y doctor.

Dorn

Ffisig, wir, a chithau'n drigain oed!

Sorin

Ond mae ar ddyn trigain oed eisiau byw.

Dorn

(Yn sur.) O'r gorau ta, cymwch Valerian drops.

Arcadina

Mi ddylech fynd am fis i lan y môr, mi nae les ichi, yn y marn i.

Dorn

Mi all fynd, mi all beidio.

Arcadina

'Dydw i ddim yn dallt hyna.

Dorn

'Does dim eisiau dallt, mae'r peth yn rhy blaen.



Distawrwydd.

Medfedenco

Mi ddylai Piotr Nicolaiefits roi gorau i smocio.

Sorin

Lol.

Dorn

Na, nid lol, mae'r ddiod a baco yn lladd personoliaeth dyn. Wedi smocio sigar neu yfed glasiad o frandi, nid Piotr Nicolaiefits ydych chi mwyach, ond Piotr Nicolaiefits plus rhywun arall. Ma na rwyg yn eich personoliaeth, yn eich fi chi, ac mae yna ddau ohonoch chi, chi a rhywun arall.

Sorin

(Yn chwerthin.) Digon hawdd i chi ymresymu, mi gawsoch chi fyw 'n do? Ond beth amdana i? Bûm mewn offis am wyth mlynedd ar hugain heb ddechrau byw, heb brofi dim, wrth gwrs, ac mae arna i eisiau byw, debyg iawn. 'Rydych chi wedi cael eich gwala ac felly yn ddi-daro; dyna pam 'rydych chi mor hoff o athronyddu; ac mae arna i isio byw; dyna pam y bydda i'n yfed glasiad o sieri amser cinio ac yn smocio sigar ac felly yn y blaen.

Dorn

Rhaid edrych ar fywyd yn fwy difrifol, a gwamalrwydd rhonc ydi cymyd ffisig a chithau'n drigain oed, a chwyno am na chawsoch fwy o hwyl pan oeddych yn ŵr ifanc.

Masia

(Yn codi.) Rhaid ei bod hi'n amser cinio bellach. (Cerdd yn simsan.) Mae nghoes i wedi cyffio.



Exit.

Dorn

Mi eith hi i lyncu dau lasiad o frandi cyn cinio.

Sorin

Fydd yr eneth druan yn cael fawr o bleser yn y byd ma.

Dorn

Lol botas, anrhydeddus syr.

Sorin

'Rydych chi'n barnu fel dyn wedi cael digon o bethau da'r byd ma.

Arcadina

Ych, beth a all fod yn fwy diflas na diflastod byw yn y wlad? Mae hi'n boeth yma, mae hi'n ddistaw, pawb yn segur, pawb yn athronyddu. Mae'n dda cael bod yma gyda chi, gyfeillion ac yn ddigon difyr gwrando ar eich sgwrs; ond eistedd yn fy stafell yn y dre a dysgu ngwers cyn actio, dyna ichi nefoedd ar y ddaear!

Nina

(Yn frwdfrydig.) Ardderchog, 'rwy'n eich dallt chi.

Sorin

Wrth gwrs, mae'n well byw yn y dre. Eistedd yn eich stydi, deud wrth y gwas am beidio â gadael neb ddwad i mewn heb ofyn caniatâd, teliffon, cerbydau yn y stryd, ac felly yn y blaen.

Dorn

(Yn canu.) 'O, fy mlodau, dwedwch wrthi.'



Shamraieff a Polina yn dod i mewn.

Shamraieff

Dyma nhw. Bore da. (Yn cusanu llaw Arcadina a Nina.) Mae'n dda gin i eich gweld i gyd yn iach. (Wrth Arcadina.) Mae'r wraig acw yn deud eich bod chi'n meddwl mynd i'r dre gyda'ch gilydd, ydi hyna'n wir?

Arcadina

Ydi, 'rydym yn meddwl mynd.

Shamraieff

H-m-m. Rhagorol iawn, ond sut yr ewch chi yno, foneddiges barchus? Mae nhw'n cario'r ŷd heddiw a'r gweision i gyd yn gweithio, a lle cewch chi geffylau, os ca i fod mor hy â gofyn?

Arcadina

Sut y gwn i?

Sorin

Ond y mae gynnoch chi geffylau cerbyd.

Shamraieff

(Yn gyffrous.) Ceffylau cerbyd, yn wir! Ond, ble ca i goleri iddyn nhw, ble ca i goleri, 'rwy'n gofyn ichi. Mae peth fel hyn yn an-ni-odd-ef-ol. 'Rwy'n barod i fynd ar fy ngliniau gerbron eich talentau chi, foneddiges barchus; ac i aberthu deng mlynedd o mywyd er eich mwyn, ond fedra i ddim rhoi ceffylau ichi.

Arcadina

Ond mae rhaid imi fynd, welais i rioed y fath beth.

Shamraieff

Foneddiges barchus, wyddoch chi ddim am ofalon ffarmwr.

Arcadina

(Yn wyllt.) Yr un hen stori! Mi â i yn ôl i Fosco heddiw. Deudwch wrthyn nhw am logi ceffylau yn y pentre, neu mi gerdda i bob cam i'r stesion.

Shamraieff

(Yn wyllt.) Dyma fi'n mynd heddiw, chwiliwch am rywun arall yn stiward ichi.



Exit.

Arcadina

'Run fath bob ha, yn cael f'insyltio yma bob ha! Ddo i byth yma eto.



Exit.

Sorin

(Yn wyllt.) Y fath hyfdra digywilydd, a'u cipio nhw! 'Rydw i wedi laru, ac felly yn y blaen. Dowch â'r ceffylau y munud ma!

Nina

(Wrth Polina.) Gwrthod Irina Nicolaiefna, yr actres enwog! Mae'n anodd credu'r fath beth. Ond tydi pob chwiw o'i heiddo hi yn bwysicach o lawer nag unrhyw waith ffarm.

Polina

(Yn dorcalonnus.) Ond be fedra i neud? Rhowch eich hunan yn fy lle i. Be fedra i neud?

Sorin

(Wrth Nina.) Awn at fy chwaer a chrefwn arni beidio â mynd. Yntê? Fedra i ddim diodde'r dyn, rhaid iddo gael bod yn fistar ar bawb.

Nina

(Yn ei ddal i lawr.) Steddwch, steddwch. Mi awn ni â chi yno. (Yn gwthio'r gadair.) Dychrynllyd, dychrynllyd!

Sorin

Ie, wir, dychrynllyd iawn, ond eith o ddim i ffwrdd, mi â i ato fo rwan am sgwrs.



Exit.

Dorn

Ond tydi pobol yn ddiflas, mi ddylid cicio'ch gŵr o'r tŷ; ond mi fydd yr hen frechdan na Piotr Nicolaiefits a'i chwaer yn crefu arno faddau iddyn nhw, mi gewch chi weld.

Polina

Mae o wedi gyrru'r ceffylau gorau i'r caeau; a rhyw ffrae newydd bob dydd. O, taech chi'n gwbod mor galed y mae arna i! Mae'n fy ngneud i'n sâl, welwch chi fel 'rydw i'n crynu? Fedra i ddal dim mwy, mae o mor gas. (Yn erfyn.) Iefgeni, nghariad i, cannwyll fy llygaid i, ewch â fi gyda chi i rywle. Mae'r amser yn mynd, 'dydym ni ddim mor ifanc ag y buom, gadwch inni fynd i ymguddio am flwyddyn neu ddwy cyn mynd o'r byd ma, a rhoi taw ar yr holl dwyll a'r clwyddau ma.



Distawrwydd.

Dorn

'Rydw i'n bymtheg a deugain, mae'n rhy hwyr imi newid fy ffordd o fyw.

Polina

Na, nid dyna'r rheswm, mi wn i'n eitha da. Mae na ddigon o ferched heblaw fi o fewn eich cyrraedd, ac wrth gwrs, fedrwch chi mo'u cymyd nhw i gyd i'ch tŷ. 'Rwy'n dallt. Maddeuwch imi am eich blino chi.

Dorn

Na, mae popeth yn iawn.

Polina

Mae arna i wenwyn, wrth gwrs, doctor. Fedrwch chi ddim peidio mynd ar ôl y merched, mi wn i hynny. Mi 'dw i'n dallt...

Dorn

(Wrth Nina.) Sut y maen nhw draw acw?

Nina

(Yn dod i mewn.) Mae Irina Nicolaiefna yn crio a brest Piotr Nicolaiefits yn gwichian.

Dorn

(Yn codi.) Rhaid imi roi Valerian drops i'r ddau.

Nina

(Yn cynnig y blodau iddo.) Cymwch nhw.

Dorn

Thank you very much.

Polina

(Yn cerdded wrth ei ymyl.) O'r blodau annwyl! Rhowch nhw i mi, rhowch nhw i mi.



Yn eu rhwygo a'u taflu. Exit.

Nina

(Ar ei phen ei hun.) Mae'n syn gin i weld actres yn crio ac am beth mor ddibwys hefyd, a'r llenor enwog poblogaidd â'i enw yn y papur newydd a'i lun yn ffenestri'r siopau a'i lyfrau wedi eu cyfieithu mewn ieithoedd diarth, ac yntau'n pysgota o fore tan nos, ac ar ei ben ei ddigon os medr o ddal un neu ddau o silod mân. 'Ro'n i'n meddwl fod pobol enwog yn falch, yn cadw draw o'r byd, yn dirmygu'r dorf ac yn cymyd mantais o'u clod a'u henwogrwydd i ddial ar y dorf am ei bod yn gosod bonedd a chyfoeth yn uwch na phopeth arall yn y byd; ond dyma nhw'n crio, yn pysgota, yn chwarae cardiau; yn chwerthin a gwylltio fel pawb arall.

Treplieff

(Yn dyfod i mewn.) Oes ma neb ond chi?

Nina

Nag oes. Be di ystyr hyn?

Treplieff

Bûm mor ffôl â saethu'r wylan ma. Dyma hi wrth eich traed.

Nina

Be sy arnoch chi?

Treplieff

(Ar ôl ennyd.) 'Rydw i am ladd fy hun yn yr un modd cyn pen hir.

Nina

'Dydw i ddim yn eich nabod chi heddiw.

Treplieff

'Dydw innau ddim yn eich nabod chithau chwaith. 'Rydych chi wedi newid, mae'ch llygad chi'n oer, ac 'rydw i'n rhwystr ichi.

Nina

'Rydych chi wedi mynd yn bigog ac yn siarad mewn damhegion, a dameg ydi'r wylan ma hefyd, mae'n debyg; peidiwch â digio, ond 'dydw i ddim yn dallt, 'rydw i'n rhy ddwl i ddallt.

Treplieff

Mi ddechreuodd hyn i gyd y noson yr aeth fy nrama druan i'r clawdd. Fydd merched byth yn maddau i'r dyn a fethodd. 'Rydw i wedi llosgi pob cynhinyn ohoni. Mae'ch oerni yn ofnadwy, prin y medra i ei goelio fo. 'Rwy'n teimlo fel pe tae'r llyn wedi sychu a'i lyncu yn y ddaear. Deudsoch eich bod yn rhy ddwl i ddallt, ond mae'r peth yn ddigon clir, cyn gynted ag y cafodd fy nrama godwm, dyma chi'n dirmygu f'ysbrydoliaeth ac yn f'ystyried yn ddyn cyffredin, diddim, pymtheg yn y dwsin. (Yn curo'r llawr â'i droed.) O, 'rwy'n dallt yn rhy dda! 'Rwy'n teimlo hoelen yn brathu f'ymenydd i; melltith arno fo a'r uchelgais balch sydd yn sugno fy ngwaed i fel sarff. Wele'r gwirioneddol dalent; yn rhodio fel Hamlet gyda'i lyfr. (Yn dynwared.) 'Geiriau, geiriau, geiriau.' Hyd yn oed cyn i'r haul gyrraedd hyd atoch mae eich llygad wedi toddi yn ei belydr. Peidiwch â gadael i mi fod yn rhwystr ichi. (Exit yn gyflym.)

Nina

Bore da, Boris Alecsiefits.

Trigorin

Bore da ichi, mae'n ymddangos fod rhaid inni fynd i ffwrdd heddiw. Mae'n ddrwg gin i am hynny, prin y cefais i olwg arnoch chi. Nid bob dydd y ceith dyn gyfle i gyfarfod â merched ifainc diddorol, mi dw i wedi anghofio sut y byddwn i'n teimlo pan oeddwn i'n ddeunaw oed, ac felly fedra i ddim rhoi darlun cywir o ferched ifainc yn fy straeon. Mi liciwn fod yn eich sgidiau chi am awr fechan i gael gwbod sut y byddwch yn edrych ar y byd a sut un ydych chi'n gyffredinol.

Nina

Mi garwn innau fod yn eich sgidiau chithau.

Trigorin

Pam?

Nina

Imi gael gwbod sut y bydd llenor enwog a thalentog yn teimlo. Sut ydych chi'n teimlo yn eich enwogrwydd?

Trigorin

Sut? Fydda i'n teimlo dim, mi gredaf, feddyliais i rioed am y peth. Rhaid eich bod chi'n fy ngosod yn rhy uchel neu ynte d'oes gan f'enwogrwydd ddim effaith o gwbwl ar fy nheimlad.

Nina

Ond pan fyddwch yn gweld eich enw yn y papur?

Trigorin

Os byddan nhw'n canmol, mi fyddaf wrth fy modd; os bydden nhw'n lladd arna i, byddaf yn ddrwg fy hwyl am ddiwrnod neu ddau.

Nina

Lle rhyfedd ydi'r byd ma. Taech chi'n gwbod fel y mae arna i wenwyn, a'r fath wahaniaeth ym myd pobol! Un yn pydru'n ddinod mewn rhyw gongol dywyll, lle y mae pawb fel ei gilydd a phawb yn anhapus, a'r lleill, chi er enghraifft, un o filiwn ydych chi, yn cael byw yn y golau – bywyd diddorol a phawb yn sylwi arnoch. Yr ydych chi'n hapus.

Trigorin

Fi? Mmm! Digon hawdd ichi siarad am enwogrwydd, a dedwyddwch a bywyd disglair, diddorol, ond i mi 'dydi hyna i gyd ddim ond geiriau teg, mor ddibwys â jam cwsberins, a fydda i byth yn bwyta hwnnw. 'Rydych chi'n ifanc ac yn garedig iawn.

Nina

Ond y mae'ch bywyd chi'n ardderchog.

Trigorin

Wela i ddim ardderchog yno fo fy hun. (Edrych ar ei wats.) Rhaid imi fynd i sgwennu. Maddeuwch i mi, mae f'amser yn brin. (Chwardd.) Ond dyna chi wedi rhoi'ch bys ar fy nolur a minnau'n dechrau cynhyrfu a cholli nhymer. Wel, rhaid imi gael bwrw drwyddi hi. Cymwch fy mywyd ardderchog, disglair – o ble cawn ni ddechrau? (Yn ystyried tipyn.) Meddyliwch am ddyn a chwilen yn ei ben, yn meddwl am y lleuad, deudwch, bob munud awr o'r dydd a nos; mae gennyf innau fy lleuad a'r un hen chwilen yn fy nghosi ddydd a nos; rhaid imi sgwennu, rhaid imi sgwennu, oes, rhaid. Prin y bydda i wedi gorffen un stori, ac am ryw reswm neu'i gilydd rhaid imi ddechrau ar un arall, ac un arall ar ei hôl hithau ac un arall ar ôl honno. Rhaid imi sgwennu ar garlam yn ddi-dor, fedra i ddim peidio. Be sy'n ardderchog yn hyn, 'rwy'n gofyn ichi, bywyd gwyllt a rhyfedd. Dyma fi, welwch chi, wedi cynhyrfu, eisoes, ac eto'n cofio bob munud awr fod stori heb ei gorffen ar fy nesg yn y tŷ. Dyma fi'n gweld cwmwl tebyg i biana, a bydd raid imi beidio ag anghofio sôn mewn stori am gwmwl tebyg i biana yn hwylio drwy'r awyr. Clywaf oglau blodau'r erwain, i lawr ag o yn y llyfr na: 'oglau melys masw', ar gyfer disgrifiad o noswaith haf. 'Rwy'n dal ar bob brawddeg o'ch genau ac o'm genau innau hefyd, yn sylwi ar bob gair ac yn eu cloi yn fy nghadw-mi-gei llenyddol, gall lenwi bwlch ryw ddydd. Wedi cadw noswyl, byddaf yn rhedeg i'r theatr neu'n mynd i bysgota, gan ddisgwyl cael gorffwys ac anghofio popeth – yn hollol ofer; wele destun newydd yn troi yn fy mhen fel pelen haearn drom, ac yn fy llusgo yn ôl at y ddesg i'r hen gaethiwed blin, i sgwennu, sgwennu, sgwennu. Cha i byth lonydd, 'rwy'n teimlo mod i'n ysu fy mywyd yn hel mêl o flodau gorau f'oes, yn ei wastraffu ar rywun yn y pellter, yn rhwygo'r blodau eu hunain ac yn sathru eu gwreiddiau dan fy nhraed. Tybed mod i'n wallgof? A fydd fy nghyfeillion gorau yn fy nhrin i fel dyn iach? 'Be sy gynnoch chi ar y gweill? Be gawn ni gynnoch chi nesa?' Yr un hen botas fyth a hefyd. Mi fydda i'n meddwl weithiau mai twyll ydi eu holl sylw nhw, a'u canmoliaeth a'u brwdfrydedd, ac mi fydd arna i ofn weithiau iddyn nhw afael yn fy ngwegil i'n sydyn a mynd a mi i'r gwallgofdy. Ac yn nyddiau f'ieuenctid, dyddiau gorau fy mywyd, 'roedd camau cynta fy ngyrfa fel llenor yn un boen hir ac annioddefol; mae llenor ifanc aflwyddiannus yn teimlo'n drwsgl, yn chwithig, ac megis ar ffordd pawb, yn anniddig a'i nerfau'n wan, ond serch hynny fedr o ddim peidio â chanlyn gwŷr y wasg, llenorion ac artistiaid o bob math, a neb yn sylwi arno, nac yn ei gydnabod, ac yntau'n rhy swil i edrych ym myw llygad neb, fel gambler heb geiniog yn ei boced. Welais i rioed mo'm darllenwyr, ond rywsut mi fyddwn yn tybied eu bod yn elynion imi ac yn f'amau. Mi fyddai arnaf ofn y gynulleidfa yn y theatr a phan berfformir drama newydd o'm heiddo, byddwn yn meddwl bob tro fod y bobol â phryd golau yn elyniaethol a'r rhai pryd tywyll yn oer a didaro, O! 'Roedd yn ddychrynllyd, yn arteithiol.

Nina

Ydyn, mae sgwennu'n beth difyr; ac y mae darllen y proflenni'n ddifyr hefyd; ond pan fydd fy ngwaith mewn print tu hwnt i'm cyrraedd, byddaf yn canfod brychau, yn ei gondemnio fel methiant, yn credu mai camgymeriad dybryd oedd cyfansoddi'r fath druth, ac yn ddrwg fy hwyl, wedi laru ar bopeth. (Chwardd.) A phan ddarllenir fy llyfr, dyma glywch chi, 'Ie, clws iawn, yn wir, mae yna dalent hefyd, ond mae "Tadau a Phlant" Twrgenieff yn well' a cheir dim ond 'clws a thalentog, clws a thalentog' nes pwyo'r hoelen ola ar gaead f'arch, a bydd fy nghyfeillion wrth fynd heibio fy medd yn deud: "yma y gorwedd Trigorin, llenor da, ond fedra fo ddim sgwennu fel Twrgenieff.' Choelia i mo hyna, llwyddiant sydd wedi'ch difetha chi.

Trigorin

Ond sut llwyddiant? Fûm i rioed yn fodlon ar fy ngwaith, 'rwy'n ffieiddio fy hun fel llenor. Byddaf megis mewn llewyg wrth ysgrifennu ac yn methu deall fy ngeiriau fy hun. 'Rwy'n caru'r llyn yma, a'r coed a'r awyr las, ac yn teimlo cyfaredd natur i'r byw. Mae'n peri imi gynhyrfu fel na fedraf beidio ag ysgrifennu. Ond 'rwyf yn rhywbeth amgen na disgrifiwr natur, 'rwyf yn ddinesydd yn caru fy ngwlad a'r werin ac yn teimlo fod rhaid imi sôn am y werin a'i dioddefiadau, am hawliau dyn a'i dynged, am wyddoniaeth a phethau cyffelyb. Rhaid imi siarad am bopeth, ac y mae'r byd yn drech na mi, a minnau'n troi ac yn trosi fel llwynog yng nghanol y cŵn. Mae bywyd a gwyddoniaeth yn mynd rhagddynt yn rhy gyflym i mi eu dal, ac yr wyf bob amser ar ôl fel hogyn o'r wlad wedi colli'r trên, ac yn teimlo o'r diwedd mai am natur yn unig y gallaf ysgrifennu ac nad yw pob gair arall o'm heiddo ond hoced, ffalster a thwyll.

Nina

'Rydych chi'n gweithio'n rhy ddwys ac nid oes gennych amser nac ewyllys i werthfawrogi'ch gwaith. Pa waeth os ydych yn anfodlon arno? I eraill mae'n wych a mawreddog. Pe tawn i'n llenor fel chi, mi gyflwynwn fy holl fywyd i'r werin, ac mi gai'r werin deimlo mai esgyn hyd ataf i yw ei hunig obaith am wynfyd, ac mi'm llusgai mewn cerbyd yn ei gorfoledd.

Trigorin

Ie, mewn cerbyd, fel Agamemnon i'r lladdfa.

Nina

Ond imi gael bod yn llenores neu'n actres, mi aberthwn bopeth; 'rwy'n barod i oddef adfyd, a chasineb, ac angau a siom, ac i fyw ar fara sych mewn twll dan y to, a chydnabod holl ddiffygion ac amherffeithrwydd fy ngwaith, os caf glod, clod gwirioneddol yn taraddu... Mae'n bendro arna i... ych!

Llais Arcadina

(O'r tŷ.) Boris Alecsiefits!

Trigorin

Dacw nhw'n galw. Rhaid imi bacio, mae'n debyg. 'Does arna i ddim eisiau mynd. (Yn edrych ar y llyn.) Y fath wynfa!

Nina

Welwch chi'r tŷ ar ardd cw ar y lan?

Trigorin

Gwelaf.

Nina

Dyna dŷ fy mam druan. Yna y'm ganwyd i, ac 'rydw i'n nabod pob ynys arno.

Trigorin

Mae hi'n braf arnoch chi yma. (Gwêl yr wylan.) Be di hwn?

Nina

Gwylan a saethodd Constantin Gafrilits.

Trigorin

Deryn braf, yn wir, 'does arna i ddim isio mynd. Triwch gael gynni hi aros. (Yn taro nodyn yn ei lyfr.)

Nina

Be dych chi'n neud?

Trigorin

O, dim ond nodyn, awgrym testun stori fer ddaeth i mhen i. (Yn cadw'r llyfr.) Geneth yn byw ar lan llyn, geneth ifanc fel chi, mae hi'n caru'r llyn fel yr wylan, ac yn ddedwydd a rhydd fel yr wylan. Dyma ŵr yn digwydd dŵad heibio, ac am nad oes ganddo ddim gwell i'w neud yn ei difa hi fel yr wylan yma.



Distawrwydd.

Arcadina

(O'r ffenestr.) Boris Alecsiefits, lle'r ydych chi?

Trigorin

Yn dŵad rwan.

Arcadina

'Rydym ni'n aros.



Exit Trigorin.

Nina

(Wedi ystyried tipyn.) Breuddwyd gwag!

a1a2a3a4