Yr un,—bythefnos yn ddiweddarach. Yn hwyr brynhawn. Cadwyni o flodau lliwus a gerlantau yn addurno'r neuadd. Gyfyd y llen ym miwsig a llonder dawns ddwyreiniol synhwyrus, ac y mae llawr y neuadd wedi ei glirio ar gyfer y Ddawns hon gan y Gordderchau o flaen y Brenin a'i westeion. O'r deg Gordderch, bydd rhai yn eistedd ar risiau'r esgynlawr tan ganu eu hoffer cerdd a'r gweddill yn dawnsio. Gyfodwyd y fainc hir i fyny ar yr esgynlawr, ar osgo, i'r dde o'r orseddfainc, a'r fainc fer i'r chwith. Fe eistedd y Brenin ar yr Orseddfainc; ac ar ei dde fe eistedd yn y drefn hon: Bathseba, Solomon, Meffiboseth a Hŵsai. Ar chwith ar y droedfainc Abisêg (gyda'r delyn); ac ar y fanc fer, Joab. Gerlantau am bennau pawb ond y Brenin. Ffiolau a chostrelau gwin gan y cwmni, a chaethferch yn gweini arnynt gan weled nad erys ffiol neb yn wag. Pawb yn eu dillad gŵyl. Y Brenin yn gwisgo mantell ysgafn liwus. Coron o flodau am ben Abisâg. Joab, wedi diosg ei lurig a'i helm, a'i gleddyf yng nghornel y neuadd, er ymlacio mewn gloddesi a gwin. Efallai ei fod ef a Hŵsai eisioes braidd "dan ddylanwad"; nid yn feddw ond bod eu gerlaniau wedi disgyn braidd ar osgo! Pawb o'r cwmni llawen yn cymeradwyo'n frwd ar derfyn y ddawns,—a'r dawns-wragedd yn encilio trwy Borth y Gwragedd. (Dyna'r agoriad delfrydol, ond oni cheir digon o adnoddau yn y cwmni i gyflwyno'r ddawns uchod, fe ellid cyflwyno rhan o ysbryd y peth gan un ddawnsreg yn unig i ganlyn record addas o fiwsig Dwyreiniol.) |
|
Hŵsai |
(Yn gweiddi'n frwd, er bod braidd yn floesg ei leferydd.) Dawnsio ardderchog! (Yn ceisio eto'n ddistawach, gan sylweddoli ei fod wedi gweiddi gormod yng ngŵydd y Brenin y tro cyntaf. Yn gyfrinachol megis:) Dawnsio ardderchog, f'arglwydd frenin, —cystal Â'th loyw win i lonni calon hen. (Gan edrych yn ddwys ac yn hir yng ngwaelod ei gwpan gwag, a'r lodes yn prysuro v'w lenwi.) |
Dafydd |
Mi fûm yn ifanc ac yr wyf yn hen; Gwelais sawl gwae a gwynfyd, ond ni welais Ffïol llawenydd yn fy myw mor llawn. |
Joab |
Am in gael byw i weld y dwthwn hwn I Dduw bo'r clod. |
Hŵsai |
(Yn dynwared esgyniad colofn fig â'i ddwylo.) Cael gweled mwg yr aberth O flaen yr Arch yn esgyn! |
Joab |
Cael clywed Sadoc, Offeiriad nef, heddiw ar ran ei frenin Yn codi ei lef mewn mawl i Dduw. |
Dafydd |
A chlywed Y bobol yn ymuno yn ein diolch Am gymod bythol rhwng y tad a'r mab. |
Joab |
Yfwch, gyfeillion, eto i lwydd y brenin, A phob rhwyddineb, i'w fab Absalom. Yn Ninas Hebron heddiw. (Cyd-yfant gan lefain.) Llwydd i'n Brenin! |
Hŵsai |
Ac Absalom ei fab! |
Yfant eto—ond nid Bathseba. Cuwch sydd ar ei hwyneb hi. |
|
Joab |
I goroni'n gwledd. Atolwg rhoed ein telynores fwyn Salm gyda'r tannau. |
Abisâg |
Yn llawen. Dyma salm A wnaeth y Brenin at y dwthwn hwn (Yn ei chanu gyda'r iannau.) Llonder y Brenin yn ddi-lyth, O Arglwydd, yw dy nerth; A'i holl hyfrydwch a fydd byth Preswylydd Mawr y Berth. Achubaist flaen ei weddi daer A hael rasusau'r nen; Gosodaist, megis coron aur, Lawenydd ar ei ben. Oherwydd iddo wneud ei nyth Yng nghysgod allor Duw, Y Brenin nid ysgogir byth... |
Yn ddisymwth torrir ar draws y salm gan lef gyffrous Cŵsi ynrhedeg drwy'r ardd tua'r neuadd. Fferrwyd y gân ar wefusau Abisâg a throes pawb tua'r porth. |
|
Cŵsi |
Brad! Brad!! Brad!!! (Rhed i mewn gan ddisgyn ar ei lin o flaen y Brenin, ac ymladd am anadl.) |
Joab |
(Ar ei draed.) Pa beth sy'n bod? Pa beth a wnaeth gwŷr Hebron? |
Cŵsi |
Cyhoeddi Absalom yn Frenin Jwda. |
Joab |
Yr wyt ti'n drysu. Ni chydsyniai byth. |
Cŵsi |
Mae Absalom eisoes yn teyrnasu yn Hebron, Calon gwŷr Jwda a aeth ar ei ôl. |
Dafydd |
Ai saff Ahitoffel, ein Prif Weinidog? |
Cŵsi |
Barn Duw a'i hyso! Ef yw tad y drwg. Bradwr! Rhagrithiwr! Cythraul o lwynog ffals! |
Hŵsai |
Onid yw am ddychwelyd i Gaersalem? |
Cŵsi |
O ydyw, F'arglwydd, mae'n dychwelyd heddiw. |
Hŵsai |
Caiff roddi cyfrif am ei oruchwyliaeth. |
Cŵsi |
Ar flaen eu byddin y daw Ahitoffel, Tan gario baner teyrn-fradwriaeth Absalom. (Cyffro mawr drwy'r Llys. Eistedd y Brenin yn syfrdan.) |
Joab |
(Yn sobri tipyn wrih glywed hyn, ac fel milwr profiadol yn meddwl am y cam ymarferol cyntaf yn wyneb y perygl.) Ar flaen eu byddin? A chyrhaeddant heddiw? |
Cŵsi |
Rhedais bob cam... Cyrhaeddant hwy 'mhen dwyawr. |
Cyffro mawr drwy'r Llys. Bathseba'n gafael am Solomon. Pawb ar eu traed ond y Brenin a Meffiboseth.} |
|
Joab |
Estyn fy arfau... Cân y Gloch Alarwm! Tyn wrth ei rhaff nes clywo'r ddinas gyfan! |
Cyfyd Gŵsi i ufuddhau. Teifl Joab ddwfr oer tros ei wyneb i lwyr sobri, ar ôl bwrw i'r llawr yn ddirmygus y gerlant flodau a oedd am ei ben, a'i sathru'n ddig). |
|
Dafydd |
(Yn syfrdan.) Byddin i'm herbyn tan fy mab fy hun, A baner brad yn llaw fy Mhrif Weinidog. Ni roes Duw ddarllen wyneb. |
Wedi estyn ei arfau o'r gornel i Joab, a gadael ar Abisâg ei arwisgo, rhuthra Cŵsi trwy Borth yr Ardd, ac yna o'r golwg tyn wrth raff y Gloch Alarwm—tinciadau cyflym, cyffrous, haearnaidd. Feu hatebir gan Utgorn Alarwm o dŷ y Gwŷr o Gard. O'r pellter clywir sŵn cyffro a llefau'r ymgynnull. Dychwel Cŵsi i Borth yr Ardd â'i gleddyf yn ei law. Rhuthra'r Gordderchau i Borth y Gwragedd yn frawychus i wybod achos yr alarwm a'r cyffro, a safant yno'n un twr ofnus. |
|
Dafydd |
(Yn codi trwy ymdrech.) Solomon, Cyrch di fy nghledd a'm helm a'm tarian imi. (Â Solomon i stafell y Brenin i'w cyrchu.) Bathseba, estyn dithau fantell gynnes. O dan y sêr y byddi'n cysgu heno. |
Gwna'r Gordderchau le iddi basio rhyngddynt i Dŷ'r Gwragedd i'w chyrchu). Ymddengys Beneia trwy Borth yr Ardd tan lawn arfogaeth. |
|
Beneia |
(Wedi saliwt â'i gleddyf.) Clywsom y Gloch Alarwm! Gelwais y Gard. Atolwg, fy Nghadfridog, be' sy'n bod? |
Joab |
Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron. A bydd ei fyddin yma ym mhen dwyawr. |
Beneia |
Y bradwr ffiaidd! (Gan boeri i'r llawr mewn dirmyg.) ... O! mi wyddwn i Er pan adferaist ef i ffafr y Brenin... Beth yw d'orchmynion? |
Joab |
Caeer holl byrth y ddinas. Brysied pob gwyliwr i'w le ar y mur. Wrth Borth y Glyn gosoder y Cerethiaid; A'r Gethiaid o dan Itai wrth Borth y Ffynnon; Fe gymer y Brenin a minnau Borth y Meirch A Thŵr y Ffyrnau. |
Dafydd |
(Â'r hen filwr ynddo'n ddeffro.) Nage, fy Nghadfridog, Nid yw Caersalem i'w dinistrio er dim. Ni allem ddianc mwy na blaidd mewn trap. |
Joab |
Beth yw dy gyngor? |
Dafydd |
Ffoi ar frys i'r anial, Nyni a'n gosgordd. Fel yn nyddiau Saul Awn eto ar herw i'r gwyllt. Yn y diffeithwch Fe ddichon dyrnaid ddal i herio llu. Ac yn y gwyllt bydd ffordd i atgyfnerthion Ein cyrraedd o holl Israel, nes cael byddin Fo'n ddigon mawr i drechu'r bradwyr hyn. Ymladd am amser 'rwyf. |
Joab |
(Yn llawn edmygedd.) Duw! Dyna'r tinc A hoffwn yn dy lais pan oeddit iengach. Ogof Adŵlam oedd dy blas bryd hynny, Ninnau, o'n cuddfan, yn dal i herio Saul; Ac myn y nef, gwych yw dy gynllun eto! Gapten Beneia, trefna'r llu. Ymdeithiwn Dros Afon Cedron, a llechwedd Bryn Olewydd, A chroesi Rhyd Iorddonen am y gwyllt. |
Beneia |
Purion, Gadfridog... Rhyw orchymyn pellach? |
Joab |
Oes. Mae pob milwr i drafaelu'n ysgafn. Dim ond ei arfau. Ymborthwn ar y wlad. |
Beneia |
Fy Arglwydd Frenin, trefnaf y llu i'ch disgwyl. |
Ac wedi'r saliwt try ymaith ar ei sawdl. Dwg Solomon helm a tharian a chleddyf ei dad, ac erbyn hyn bydd wedi gadael ei gerlant yn stafell y brenin. Diosg y brenin ei fantell ysgafn, liwus, a'i gollwng ar yr orsedd. Cynorthwya Abisâg Solomon i arwisgo'i dad. |
|
Dafydd |
(Wrth newid ei goron am yr helm, a'i gosod ar y fantell, liwus ar yr orsedd.) "Pob milwr i drafaelu'n ysgafn."—Hon Ni bu ond pwysau arnaf. Felly safed Fan yma i'r neb a fyddo'n Frenin Seion. Os Duw a'm dychwel, da... Ac onid e, Mae helm yn fwy o gysur i ffoadur, A chleddyf na theyrnwialen. (Tyn y llafn a rhed ei fawd ar hyd ei fin.) |
Hŵsai |
Duw a'm helpo! Ni chredais fyth y gwelwn Frenin Israel Yn ei hen ddyddiau eto'n trin y cledd. Rhowch gledd i minnau! |
Dafydd |
Na, hen gyfaill, gwrando. Yr wyt ti'n ddeg a thrigain; ac ar daith Trwy'r anial baich a fyddit arnom. |
Hŵsai |
Rhaid Im wasanaethu 'Mrenin yn awr y praw. |
Dafydd |
Ti gei fy ngwasanaethu... Aros yma A chymer arnat ochri Absalom. Felly y rhenni eu cyngor... Anfon allan Negesydd â'u cynlluniau hyd ein gwersyll. Gosod dy feddwl pwyllog i ddirymu Cyngor Ahitoffel. |
Joab |
Bydd awch dy feddwl Yn brwydro dros ein teyrn fel awch fy nghledd. |
Hŵsai |
(Yn cusanu ymyl gwisg y Brenin mewn ufudd-dod.) Rwy'n ufuddhau, fy Mrenin, ond goddefer Im ddod i'th hebrwng hyd at Afon Cedron. Ath adael yno â chusan gŵr di-frad. |
Gwasga'r Brenin ei ysgwydd mewn gwerthfawrogiad o'i ffyddlondeb. Daw Bathseba trwy Borth y Gwragedd tan ddwyn mentyll cynhesach i'r Brenin a Solomon a hithau. Syrth ei llygad mewn syndod ar y goron a adawyd ar yr orsedd. |
|
Dafydd |
Yn barod, fy Mrenhines? Doeth y gwnaethost Ddwyn mentyll gwlân i gysgu tan y gwlith. Encilied ein gordderchau i gadw'r tŷ (Gan eu hysgubo ymaith ag ystum gorchmynnol ei fraich.) Hyd ein dychweliad yma... (Enciliant yn ofnus.) Ac Abisâg, Doeth fyddai i tithau ffoi i dŷ dy dad. Yn Sŵnem. Mi anfonaf was i'th hebrwng. |
Abisâg |
Nac erfyn arnaf i ymado â thi, Fy Iôr a'm Brenin tirion. Oni ddwedais "Dy delynores ydwyf heddiw a byth?" Lle trig fy Mrenin, yno y trigaf i. |
Gorffwys llaw'r Brenin ar ei phen mewn bendith. Rhed Ahimâs i mewn trwy Borth yr Ardd a disgyn ar ei lin o flaen y Brenin. |
|
Ahimâs |
Cyfarch ffyddlonaf oddi wrth fy nhad Sadoc, Sydd newydd glywed. Archodd fi ar frys I redeg yma o'r Cysegr â'r neges hon: "Os myn y Brenin weled Arch yr Arglwydd Yn arwain allan heddiw ar flaen y llu I'r anial gyda'th osgordd, dweded y gair..." Mae chwech ohonom a'i cyfrifai'n fraint Cael rhoi ein hysgwydd tani, a chario'i bendith A bendith Sadoc gyda thi lle'r elych. |
Dafydd |
Fy niolch byth i Sadoc ac i'w fab, Ond nid ymedy'r Arch. Â dawns a chân Y cyrchais hi i'w gosod yng Nghaersalem, Ac yng Nghaersalem mae hi i aros byth. |
Ahimâs |
Mi a'th ganlynaf, pa le bynnag yr elych. |
Dafydd |
Mae gennyf amgen gwaith it, Ahimâs, Mwy enbyd hefyd. |
Ahimâs |
Dyro imi'r fraint. |
Dafydd |
Aros yn Seion fel rhedegwr Hŵsai. Bydd mab offeiriad uwchlaw pob drwgdybiaeth. Ar ôl i Hŵsai ddysgu eu cynllwynion Dwg di ei neges im, a chei ymrestru Yng ngosgordd Llanciau Joab ddydd y frwydyr. |
Ahimâs |
(Wedi sefyll a gogwyddo'i ben mewn gwerthfawrogiad o ymddiriedaeth fawr y Brenin.) Fy Mrenin grasol! |
Abisâg |
(Gan estyn ei deheulaw.) Ffarwel, Ahimâs. |
Croesa yntau ati a chymryd ei llaw gan syllu'n fud i'w llygaid. O'r pellter clywir eto'r Utgorn Alarwm. |
|
Joab |
Utgorn Beneia! Mae'r Gwŷr o Gard yn disgwyl. |
Dafydd |
(Gan ledio'r ffordd.) Deuwch, ffyddloniaid Dafydd... Tua'r anial! |
Fe gychwyn Meffiboseth gydag ef ar ei ffyn baglau. Saif Dafydd gan edrych arno'n syn a sychu deigryn o'i lygaid. |
|
Dafydd |
(Â'i law ar ei ysgwydd.) Na, na, fy machgen ffyddlon! Ni all cloff Fyth ganlyn gyda byddin.—Ar ffyn baglau! Aros sydd raid i ti. |
Meffiboseth |
(Mewn dagrau.) O, Frenin mawr a thirion, Pa beth a wnaf os collaf wedd dy wyneb? Heb wên y gŵr fu'n codi'r tlawd o'r llwch Syrthiodd yr haul o'r wybren. Beth a wnaf? |
Abisâg |
Dangos dy rodd i'r Brenin. |
Meffiboseth |
Mae'n rhy hwyr! |
Abisâg |
Bu'n cerfio cist, i'w Frenin gadw'r goron Ynddi bob nos; a'i fwriad oedd cyflwyno Ei waith yn anrheg heno wedi'r wledd. |
Dafydd |
Pa le y mae hi? |
Abisâg |
Cuddiodd hi tan y fainc Nes dod o'r awr. |
Meffiboseth |
(Mewn dagrau.) Taw! Bellach mae'n rhy hwyr. |
Dafydd |
(Yn dyner iawn, gan estyn ei ddwylo allan ato.) 'Roi-di mo'r anrheg imi, Meffiboseth? |
Estyn Meffiboseth gist fechan, gywrain, gerfiedig, oddi tan y fainc a'i rhoi yn nwylo Dafydd mewn distawrwydd. Mae'r dagrau'n treiglo i lawr gruddiau'r ddau. |
|
Dafydd |
Diolch, dywysog hoff... Rwy'n dweud "Nos da" Yn awr wrth Goron Israel. (Gan ei rhoi yn y gist a gosod honno ar yr orsedd, ar y fantell liwus.) Ond os daw bore Buddugol fy nychweliad, galwaf arnat: "Dwg im fy nghoron yn ei phrydferth gist"... (Gan gusanu ei rudd.) Ffarwel, Fab Jonathan! |
Meffiboseth |
(Yn torri i lawr yn llwyr.) Ffarwel, fy Nhad! |
Wedi i'r Brenin ei basio i gyfeiriad Porth yr Ardd, fe ddisgyn Meffiboseth ar ei wyneb ar hyd y fainc gan guddio'i wyneb yn ei freichiau mewn ymdrech i atal llefain allan. Er ei fod yn beichio wylo, a'i ysgwyddau'n tonni gan ing, ni chlywn ddim cri o'i enau, ond ambell igian dwys. Fe â pawb allan ond Meffiboseth, sy'n dal i wylo ar ei wyneb ar y fainc. Y Brenin a Joab ar y blaen: Bathseba, Solomon a Hŵsai'n dilyn. Wrth fynd drwy'r Porth cyfyd Joab faner Dafydd o'i soced ger y Porth, a'i chario allan yn ddyrchafedig. Ennyd ar eu holau, Abisâg yn cario'r delyn. Ahimâs yn ei hebrwng. Wrth basio heibio i Meffiboseth rhoes hi ei llaw'n dyner ar eí ysgwydd mewn cydymdeimlad; eithr ni chododd ef mo'i ben. |
|
Ahimâs |
(Yn dyner wrth Abisâg ger y Porth, wedi i'r lleill gilio.) Onid oes fantell gennyt erbyn heno? |
Abisâg |
(Tan wenu arno.) Ni fu dim siawns i'w chyrchu. |
Ahimâs |
(Yn diosg ei fantell fer ei hun a'i gosod o'r tu ôl yn dyner ar ei hysgwyddau hi.) Cymer hon, Mae min ar nos yr anial. |
Abisâg |
(Gŵyra hithau ei phen yn ôl ato'n serchus gan sibrwd yn fwyn iawn.) Ahimâs, Duw a'th warchodo nes cawn eto gwrdd. |
Yn dyner, ddiarwybod bron, am y tro cyntaf cusana yntau ei hwyneb estynedig tros ei hysgwydd. Dring ei llaw hithau mewn anwes al ei wallt. Yna try Ahimâs yr eneth â'i hwyneb ato. Yn ddisymwth gesyd hithau ei thelyn i lawr, ac y maent ym mreichiau ei gilydd mewn cusan hir. Gwahanant; cyfyd Abisâg y delyn ag ochenaid. Yna, mewn distawrwydd dwys, cerddant allan. law-yn-llaw fel plant. A'r llwyfan wedi bod yn wag am ennyd, oddieithr am Meffiboseth sy'n dal i wylo yn ddistaw ar ei wyneb ar y fainc, wedi ei lapio'i hun yn ei glog, dychwel Bathseba yn wyllt a llechwrus. Wedi, edrych o'i chwmpas yn ofnus, cerdda'n lledradaidd at yr orseddfainc heb i Meffiboseth ei chlywed; cifia gist y goron oddi yno, ac wedi ei chelu tan ei mantell llithra allan yn gyflym a distaw trwy'r ardd. Clywir Utgorn Beneia yn wan yn y pellter, yna wyla Meffiboseth ei ing allan fel un â'i galon bellach wedi torri. LLEN |