| |
---|
|
OTTO yn dychwelyd i'r guddfan a ANNE i'w gweld yn y cefndir yn gafael yn dynn yn ei dyddiadur.
|
Llais
|
Mae'n gwbl amhosibl i mi allu adeiladu fy mywyd ar sylfaen o ddryswch, dioddefaint a marwolaeth. Rydw i'n gweld y byd yn cael ei drawsnewid yn anialwch fesul tipyn, rydw i'n clywed y taranu agos sy'n mynd i'n dinistrio ninnau hefyd, ryw ddydd a ddaw, rydw i'n teimlo dioddefaint miliynau. Ac eto, pan fydda i'n edrych i fyny ar yr awyr, rydw i'n teimlo rywfodd y bydd popeth yn newid er gwell, y daw terfyn ar y creulondeb hwn hefyd, ac y bydd heddwch a thangnefedd yn dychwelyd i'r byd unwaith eto. Yn y cyfamser, mae'n rhaid i mi ddal gafael ar y fy ngobeithion.
|