g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 5


ANNE a MARGOT yn dawnsio o gwmpas y stafell. ANNE yn tynnu sbectol MARGOT ac yn ei 'thrawsnewid'.

Anne

Dal dy ben yn uwch! Fel ma! Cadwa dy gefn yn syth!

Margot

Fydda i byth gystal a ti!

Anne

Tyd!

Margot

Ara deg!



ANNE a MARGOT yn gafael yn ei gilydd ac yn ymgolli yn y canu a'r dawnsio. Embaras wrth gael eu dal gan PETER.

Margot

Peter!

Anne

Tyd i mewn!

Margot

Cael chydig o hwyl oeddan ni!

Peter

Wrach sa'n well mi ddod nol wedyn!

Anne

Sa croeso ti ddod i ddawnsio efo ni.

Peter

Na.

Anne

Dwi'n siwr sa ti'n cael gwell hwyl arni na Margot!

Margot

Anne!

Peter

Isio…

Anne

Ia…

Peter

Isio deud… Penblwydd Hapus o'n i.

Margot

Diolch!

Anne

Tyd i ista.

Peter

Dwi di deud be o'n i isio'i ddeud rwan.

Margot

Mi o'n i am ddod fyny i'r atig i nol coffi.

Peter

Ddo'i a fo lawr i ti.

Anne

Ia! Dyna sa ora!

Margot

Fydda i'n licio cael dod fyny!

Anne

Ond dy ddiwrnod di ydi heddiw! Ma isio i bawb redeg i ti!



Saib.

Anne

Da ni am drio gneud rw barti bach i Margot heno! Dos di i mi gael trafod y peth hefo Peter!

Margot

Does ddim angen Anne!

Anne

Da ni isio'i neud o'n sbesial. Dos rwan!



MARGOT yn gadael yn anfoddog. PETER a ANNE yn siarad yr un pryd.

Anne

Dos di.

Peter

Dwi di bod isio cael gair efo ti.

Anne

Do?

Peter

Isio dy help di…

Anne

Efo be?

Peter

Wel…

Anne

Paid a bod yn swil!

Peter

Efo'n… Ffrangeg!

Anne

(Siomedig.) O!

Peter

Meddwl o'n… y bysa ti'n gallu dod i fyny… ata i i'r atig i helpu.

Anne

Oddat ti wir!

Peter

'Si tu veut?'

Anne

(Yn cau ei llygaid.) Mmm! Neis! Duda wbath arall!

Peter

Je m'appelle Peter!

Anne

Oui!

Peter

J'ai seize ans!

Anne

Oui!

Peter

J'habite a …

Anne

Dos rwan.

Peter

Anne?

Llais

Dydd Gwener, Hydref 29 1943. Mae fy nerfau yn cael y gorau arna i, yn enwedig ar ddydd Sul; dyna pryd fydda i'n teimlo fwyaf digalon… Does na run aderyn i'w glywed tu allan… Ar adegau fel hyn, dydi Dad, Mam a Margot yn golygu dim i mi. Dwi'n crwydro o stafell i stafell, i fyny ac i lawr y grisiau, ac yn teimlo fel aderyn a'i adenydd wedi eu rhwygo ymaith… Mae llais y tu mewn i mi yn sgrechian, 'Gadewch fi allan lle mae awyr iach a chwerthin!' Fydda i ddim hyd yn oed yn trafferthu ateb bellach, dim ond gorwedd ar y gwely a chysgu er mwyn i'r amser, y tawelwch a'r arswyd dychrynllyd fynd heibio'n gynt, gan nad oes modd eu dileu.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17