g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 10


MARGOT a ANNE yn gafael yn nwylo ei gilydd. Holi yn digwydd y tu ol iddynt.

Milwr

Mi fydda hi'n haws i chi, ac yn llai o waith i mi, pe byddech chi'n deud pob dim rwan, a wedyn mi gewch chi fynd nol at eich teulu. Mi gewch chi ddychwelyd at eich dwy ferch ar ol cyflwyno'r wybodaeth briodol.

Tad

Lle mae ngwraig i?

Milwr

Dyna welliant! Mae hi'n dipyn haws cydweithredu tydi? Mae hi yma ond dydi hi ddim yn barod i'ch gweld chi eto.

Tad

Ydi'n iawn?

Milwr

Mae hynny'n dibynnu arnoch chi. Rwan eich bod chi'n barod i siarad, mi gawn ni gychwyn ar y broses. Ers pryd fuoch chi'n cuddio?

Tad

Bron i ddwy flynedd.

Milwr

Da iawn. A phwy arall oedd yna heblaw am eich teulu chi? Dewch rwan! Waeth i chi heb a mynd yn groes i'n dymuniadau ni. Iawn, mi nawn ni holi eich gwraig.

Tad

Mi oedd na un dyn arall.

Milwr

A'i enw fo?

Tad

Ym…

Milwr

Waeth i chi heb a meddwl ein twyllo ni chwaith achos mi ydan ni yn tueddu i ffeindio bod merched yn plygu'n haws i dipyn o berswad.



Saib.

Milwr

A'i enw fo?

Tad

Dussel.

Milwr

Enw cyntaf?

Tad

Albert.

Milwr

A phwy arall oedd yno?

Tad

Neb arall.

Milwr

Mi ydan ni'n gwbod be ydi enw'r hogyn. Hogyn gwan iawn. Mi fyddai ychydig o hyfforddiant milwrol yn help iddo fo. Mi ydach chi'n ddyn dipyn cryfach ar ol ymladd yn y rhyfel dwytha. Dallt sut mae'r pethau ma'n gweithio.



Saib.

Milwr

Ddown ni'n ol at hynny. Pwy oedd yn dod a chyflenwadau i chi?

Tad

Neb.

Milwr

Mi wnaethoch chi lwyddo i fyw am ddwy flynedd heb i neb ddod a bwyd i chi?

Tad

Mi fuon ni'n byw ar fwyd sych.

Milwr

Mae'r enwau'n ddigon. Mater bach ydi ffeindio lle mae'n nhw'n byw. Enwau!



Saib.

Milwr

Os na fel hyn mae ei dallt hi, mi fydd raid i ni alw eich gwraig.

Tad

Doedd na neb yn ein helpu ni!

Milwr

Celwydd.

Tad

Mi oeddan ni wedi bod yn hel y bwyd ers dros flwyddyn.

Milwr

Celwydd eto!



Chwipio.

Milwr

Mi ydan ni angen y gwir. Mi ddowch chi i ddallt yn diwedd.



TAD yn dychwelyd at ANNE a MARGOT.

Anne

Dad!

Margot

Be ddigwyddodd?

Anne

Dad?

Margot

Be naethon nhw?

Tad

Mi ga'i weld pwy ydw i'n nabod yma.

Margot

Lle ma Mam?

Anne

Oedd hi efo chi?

Margot

Dad, lle ma hi?

Tad

Ma raid i ni fod yn gry! Da chi'n dallt?



ANNE a MARGOT yn ysgwyd eu pennau'n ansicr.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17