g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17
Ⓗ 2013 Iola Ynyr
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 7


OTTO'n gwbwl aflonydd wrth iddo fod yn argyhoeddiedig fod swn yn y swyddfa islaw. ANNE yn aflonydd oherwydd y gwres.

Tad

Sh! Glywsoch chi o?

Margot

Swn allan oedd o Dad.

Tad

Gwranda eto! Glywis i wbath! Stedda Anne!

Anne

Ffrog ma sy'n dynn amdana i!

Tad

Sh! Na fo eto!

Anne

Dwi'n chwys doman!

Tad

Bendith Tad i ti, stedda'n llonydd!

Margot

Tyd oddi wrth y ffenast Anne!

Tad

Wyt ti isio i rywun dy weld di?

Anne

Pwy sa'n gweld trw gyrtan?

Margot

Tyd i ddarllan efo fi.



ANNE yn parhau i sefyll wrth y ffenestr.

Anne

Ga'i hagor hi'r mymryn lleia?

Tad

Sh!

Margot

Swn allan ydi o Dad!

Tad

Ma na rywun yma eto.

Margot

Bep sy'n dod a bwyd.

Tad

Ma hi'n rhy hwyr i hynny! Ista lawr Anne!

Margot

Does na'm byd yna Dad!

Tad

Symud bob dau funud! Sgin ti gynron? Neu trio ngwylltio fi wyt ti? Cwyno byth a beunydd!

Margot

Peidiwch!

Tad

Gneud ati o hyd! Trio ngwylltio i! Isio cal y gora arna i… Isio ngweld i'n torri… isio mi… isio'n lladd i! Ond ne'i di ddim! O na! Mi na'i dy ymladd di i'r pen! Bob un ohona chi! Da chi'n y ngweld i?

Margot

Sh! Shh!

Tad

Dyma fi… Dyma fi!

Margot

Sh Dad! Plis!



OTTO'n sylweddoli'n sydyn gymaint mae wedi dychryn y merched.

Tad

Ma ddrwg gynna i… Ddrwg gynna i Anne! Ti'n dallt dwyt? Ti di'n hogan fach i sdi. Geith neb dy frifo di… byth, y nghariad i. Nghalon aur i! Cariad Dad wyt ti bob tamad.

Llais

Dydd Sadwrn, Ionawr 22 1944. Pam y mae gan bobl cyn lleied o ffydd yn ei gilydd? Mi wn fod na reswm am hynny, ond mi fydda i'n meddwl weithiau ei fod o'n beth ofnadwy na elli di byth ymddiried yn neb, hyd yn oed y rhai agosaf atat ti.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17