s1s2s3s4s5s6s7s8s9s10s11s12s13s14s15s16s17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓒ 2018 Hefin Robinson
Permission is required before performing or recording any part of the play.

Scene 1


Fflat mewn dinas. Soffa, bwrdd coffi, laptop, teledu ac ati.

Ar y wal gefn, tafluniad mawr o gynnwys sgrin y laptop: dogfen newydd, wag ar brosesydd geiriau.

Nodir: Mae testun mewn ffont 'Courier' yn dynodi geiriau sydd yn ymddangos ar y sgrin pan mae ALUN yn teipio.

Mae ALUN yn eistedd mewn tawelwch, yn syllu ar sgrin y laptop. Jîns, crys-t, trainers. Dyma'r olygfa sydd yn croesawu'r gynulleidfa wrth iddynt gyrraedd ac ymgartrefu yn eu seddau.

DAEARGRYN.

Diffoddir y goleuadau nes bod dim ar ôl ond yr hyn sydd yn dod o sgrin y laptop.

Saib hir.

O'r diwedd, mae ALUN yn dechrau teipio.