g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 13


'Meddygfa.'

Han

Mae'r ystafell newydd ei pheintio, yr arogl yn frith, yn cymysgu gyda'r bleach a'r air freshener, blas ultrahylendid, gwledd y clinigol, tician y cloc o eiliad i eiliad yn canu rhythm bywyd y dyn sydd yn aros, yn gorfwyta ar baent a bleach ac air freshener, frenzy o Febreze, "take a seat," eistedd ac aros a chyfri'r eiliadau, meddyliau yn mynd i bellteroedd diethr fel trip ysgol Sul i gopa mynydd, yr eira yn blancedu, pobol yn rhewi, yn pydru, bacteria'n ymosod yn araf araf, amhosib, maggots, mould, yn araf, a'r bobol yn chwalu'n friwsion mân wrth i'r dyn neidio, dianc, byth yn glanio, yna'n eistedd yn ôl yn yr ystafell sydd newydd ei pheintio yn aros, maggots a mould a diflannu eto i gopa'r mynydd a'r bobol wedi mynd, neb yno ond y dyn yn neidio, a llais yn galw "you can go in now." Hi'n aros tu ôl i'w desg, fel mur yn amddiffyn, tu ôl i'r drws mawr, tu ôl i sgrin ei chyfrifiadur, yn ddiogel, yn edrych, aros i'r dyn i fynegi ei salwch: methu cysgu, methu bwyta, teimlo ofn, anobaith, euogrwydd, anfodlonrwydd, meddyliau hunanladdol, prinder o ddagrau, unigrwydd ond methu bod gyda phobol, "how can I help?" you tell me, does neb yn deall a neb eisiau deall, 'cheer up,' 'look on the bright side,' 'we're here for a good time not a long time,' yw hynny i fod i helpu? geiriau difeddwl yn gweiddi i wyneb y dyn, FREAK, yn gwneud iddo deimlo'n wan, WEAK, 'pull yourself together,' 'things will get better,' 'stop moping, it's not gonna help anyone,' nid yw hynny'n helpu chwaith, sut mae gwneud i bobol ddeall pan nad yw doctor yn deall? "you're having a bit of a blip, that's all, you'll be fine," beth yw diffiniad 'fine'? "come back in a fortnight if you still feel the same," a beth am y pythefnos hynny? parhau i fyw mewn cwmwl ar frig y mynydd ac eisiau neidio, eisiau teimlo'r cynnwrf, eisiau teimlo rhywbeth o gwbwl, "we can look at a course of medication," doctor sy'n deall dim ond tabledi, pawb a phopeth yn gemegion mewn tiwb arbrofi dan meicrosgop, tabledi, tabledi, tabledi mawr, tabledi bach, tabledi hir a phinc a glas, tabledi sydd yn mygu pob emosiwn, yn pylu personoliaeth, 'side effects: insomnia, anxiety, dizziness, paranoia, loss of appetite, loss of sex drive,' a neb yn deall, neb yn gweld y dyn yn boddi, yn diflannu, yn troi yn berson gwahanol, ysbryd, gyda phob llynciad o bob tabled diolch i'r dewin ddoctor a'i thric diflannu, dileu dyn a neb yn sylwi, neb yn gweld y trobwll enfawr dwfn yn chwyrlïo'n wyllt wyllt o'u blaenau a neb am achub y dyn, am ddeifio i'r dŵr a helpu, neb eisiau siarad am y peth, neb yn gwybod beth i'w wneud, a'r doctor yn golchi ei dwylo, 'out damned spot,' yn camu o'r car crash, yn pasio'r dyn ar hyd y conveyor belt i'r arbenigwr nesaf, i'r arbenigwr nesaf, i'r arbenigwr nesaf yn ffatri fawr y gwasanaeth iechyd. Ac yna golau, golau yn y ffatri fawr, 'mae hi'n wahanol i'r lleill,' "rydw i yma i helpu, i wrando," a'r llaw yn estyn i'r dyfnderoedd, yn tynnu'r dyn o'r dŵr, "rydw i am ddarganfod ffordd o helpu," heb dabledi? "heb dabledi," a'r dyn, araf araf, yn dechrau ymddangos eto, o'r cocoon, yn camu i lawr o'r mynydd allan o'r niwl, a'r pydru'n arafu, yn dod i ben, a'r pen yn clirio, yn dechrau gwella, y pwysau'n codi, y byd yn ailagor a'r side effects yn mynd, yn diflannu, yn gadael i boeni rhyw berson bach, FREAK, WEAK, arall.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17