g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 4


Dogfen wag ar y prosesydd geiriau.

Mae ALUN yn teipio ar y laptop.

Alun1

MONOLOG – rwy'n gobeithio dy fod ti'n ei hoffi?

ALUN: Rydw i'n boddi. Rydw i'n teimlo fel bod



Saib.

Alun

Rydw i'n teimlo fel bod...



Saib.

Alun

Fel bod...



Mae ALUN yn codi o'r ddesg ac yn mynd i flaen y llwyfan. Mae'n siarad gyda'r gynulleidfa.

Alun
Rydw i'n dychmygu fy hun mewn ffilm.
Rydw i'n dychmygu fy hun yn eistedd mewn sinema ac yn gwylio fy hun ar y sgrin fawr. Rydw i'n eistedd mewn sinema yn y ffilm yn gwylio ffilm arall ohona i ar y sgrin. Ffilm o fewn y ffilm.
Ac ar y sgrin, rydw i'n sefyll yn stond. Yn hollol lonydd. Ac mae'r byd yn parhau i symud o 'nghwmpas. Yn gyflym. Yr effaith o bopeth yn symud yn gyflym iawn a fi yn y canol yn llonydd ac yn syllu'n syth at y camera.
Fel petai popeth yn ormod i mi.
Overwhelming.
Fel petai'r fi ar y sgrin yn boddi ym mhrysurdeb y byd.
Yn diflannu.
Yn anweledig.
A'r byd yn parhau i droi.
A'r bobol yn parhau i fyw.
A fi yn methu deall hynny.
Yn methu deall sut mae'r byd yn parhau i droi a'r bobol yn parhau i fyw pan mae popeth i fi wedi newid.
Pan mae popeth wedi dod i ben a dim ffordd bosib o weld y byd eto yn yr un ffordd.



Mae ALUN yn teimlo'r ddaeargryn yn codi.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17