g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 6


Y gerddoriaeth yn uchel iawn.

Mae ALUN a HAN wedi meddwi. Mae gan HAN bentwr o wydrau shot plastig a photel o Tequila. Mae hi'n arllwys shot o Tequila yr un iddynt.

Han

Un, dau, tri...



Mae'r ddau yn yfed. Mae HAN ar fin arllwys eto.

Alun

Stop!

Han

Beth?

Alun

Stop.

Han

P... pam?

Alun

Achos.

Han

Achos?

Alun

Achos.

Han

Achos.

Alun

'Drych.



Mae ALUN yn cyfeirio at y gynulleidfa.

Alun

'Drych.



Mae HAN yn chwerthin.

Han

'Drycha arnyn nhw.

Alun

(I'r gynulleidfa.) Helooooo!

Han

Good looking!

Alun

Ti'n galw fi'n g... good looking?

Han

Nagw. Nagw. Na... nagw.

Alun

Strangely attractive, falle...

Han

(Yn cyfeirio at y gynulleidfa.) Na, nhw.

Alun

Nhw?

Han

Nhw.



Mae HAN yn chwerthin. Mae ALUN yn chwerthin.

Alun

Helooooo!

Han

Shots!

Alun

Nhw?

Han

Ie. I... ie.

Alun

Shots!



Mae ALUN yn cymryd y pentwr o wydrau shot ac yn dechrau eu dosbarthu i'r gynulleidfa. Mae HAN yn dilyn gyda'r botel o Tequila ac yn llanw'r gwydrau. Y ddau'n gofyn i'r aelodau o'r gynulleidfa sydd â shot i beidio ag yfed eto. Pan mae'r shots wedi'u dosbarthu, mae ALUN a HAN yn cymryd un hefyd.

Han

Reit. Reit. Shhhhh...



Mae hi'n cyfeirio at y rheolwr llwyfan i ddiffodd y gerddoriaeth. Y gerddoriaeth yn dod i ben.

Han

Ok. Ok. Ok.

Alun

Ok. Ma' hwn yn cool.

Han

Ok. Shhh. Shhh. Ok? Ar ôl tri.

Alun

Un, dau –

Han

Na, fi sy'n 'neud.

Alun

Na.

Han

Ie.

Alun

Ok.

Han

Exactly.

Alun

Exactly.

Han

Barod? Barod? Shhh. Barod?

Alun

Barod.

Han

Un, dau, tri... go!



Y ddau yn yfed. Y gynulleidfa'n yfed hefyd gobeithio – ALUN a HAN yn annog, efallai.

Han
(Yn gweiddi-canu.)
Lawr y lôn goch!
Lawr y lôn goch!

Alun

Hang on!

Han

Beth?

Alun

Hang on.

Han

Ie. Beth?

Alun

Rydw i...

Han

Ie...?

Alun

Rydw...

Han

Ie...?

Alun

Fi'n mynd i fod yn sick.

Han

Naaaa...



Mae ALUN yn chwydu. Mae HAN yn cwympo i'r llawr yn chwerthin.

Alun

Paid. Paid chwerthin.



Mae HAN, sydd yn dal i chwerthin, yn gafael mewn gwydraid o ddŵr.

Alun

Cau dy ben. Fi'n sâl. Fi'n –



Mae ALUN yn chwydu eto. Mae HAN yn rhoi'r gwydraid ar y bwrdd coffi.

Alun

Coaster! Rho fe ar y fucking coaster!



Mae HAN yn gwneud.

Alun
Beth sy'n anodd am roi drink ar coaster?
Seriously.
Na. Na. Seriously.
Beth sy'n anodd amdano fe?


Mae ALUN yn mynd at y bwrdd coffi.

Alun
Fi aleidalodd hwnna.
Fi al... alei... buildodd y bwrdd 'na.
Nornäs.
Ti'n deall?
Swedish.
Nornäs.
Mae'n meddwl 'beautiful'.

Han
Yw e?

Alun
Na.
Ond y point yw mai fi greodd y Nornäs 'na.
My own sweat and blood.
Ti'n gweld?
Felly mae angen parch.
"Respect the Nornäs.
Appreciate the Nornäs.
Use a coaster."
Ti'n deall?

Han

Ti'n really feddw.

Alun
Shut up.
Nawr gwed e.

Han

Dweud beth?

Alun

Dwi'n caru'r Nornäs.

Han

Dwi'n caru'r Nornäs.

Alun

Eto.

Han

Dwi'n caru'r Nornäs.

Alun

Yn uwch.

Han

Dwi'n caru'r Nornäs.

Alun

(I'r gynulleidfa.) Gwedwch e!



Mae ALUN yn parhau fel hyn nes bod y gynulleidfa'n ymateb.

Alun

Yn uwch!



Y gynulleidfa'n ymateb.

Alun

Uwch!



Y gynulleidfa'n ymateb.

Alun
Good!
So beth 'yn ni wedi dysgu?
Han?

Han

Love the Nornäs.

Alun

Ac os wyt ti'n caru'r Nornäs, beth wyt ti'n ddefnyddio?

Han

Coaster.

Alun

Eto.

Han

Coaster.

Alun

Good.



Mae ALUN yn cwympo i'r soffa.

Saib.

Han

Fi'n teimlo'n guilty.

Alun

Fel dylet ti.

Han

Na, ddim am y coaster.

Alun

O.

Han

Am Mam.

Alun

Mam?

Han

Achos bod ni'n mwynhau.

Alun

Yn euog?

Han

Am ein bod ni'n joio a Mam wedi mynd.

Alun

Mae'n teimlo'n annaturiol. Od.

Han

Ie.

Alun

Fel nad oes gan bobol sy'n galaru hawl i fwynhau.

Han

Er na fydde Mam ishe i ni fod yn ddiflas.

Alun

Gwir.

Han

Mi fydde Mam ishe i ni gario 'mlan.

Alun

Ie. Fi'n credu.

Han

Dim doubt. Ond fi'n dal i deimlo'n ofnadw' o euog.

Alun

Capel.

Han

Beth?

Alun

Capel sydd wedi gwneud i ni deimlo fel 'na. Magwraeth capel.

Han

Ti'n meddwl?

Alun

Ma' ysgol Sul yn magu euogrwydd.

Han

Beth?

Alun

Euogrwydd yw sail crefydd.

Han

Na.

Alun

Mae'n bwydo ar euogrwydd.

Han

Ti'n siarad nonsens.

Alun

Nac ydw.

Han

Wyt.

Alun

Falle.

Han

Yn bendant.

Alun

Ti'n meddwl?

Han

Y galar sy'n gwneud i ni deimlo'n euog.

Alun

Galaru?

Han

Ma'r galar yn diffodd rheswm.

Alun

Yr alcohol sy'n diffodd rheswm.

Han

Rationality. Ti'n gwbod?

Alun

Rationality.

Han

Does dim byd rational am farwolaeth. Ma' galaru yn dod ag emosiynau rhyfedd mas mewn pobol.

Alun

Ma' Tequila'n dod ag emosiynau rhyfedd allan mewn pobol hefyd.

Han

Serious. Gwranda.

Alun

Fi yn gwrando.

Han

Dyna'r rheswm dros yr euogrwydd. Mae'n anodd egluro achos dyw'r euogrwydd ddim yn rational.

Alun

Psych... ti fel psycho... whatever.

Han

Ni'n teimlo pethe' od. Pethe sy fel arfer yn annaturiol yn y sefyllfa.

Alun

Fi ishe watcho Jeremy Kyle.

Han

Gweld... annaturiol!

Alun

Hang on...



Mae ALUN mynd ati i droi'r teledu ymlaen.

Han

Sai'n credu bod Jeremy Kyle 'mlan nawr.

Alun

Repeats. Ma' nhw'n dangos repeats yn y nos.

Han

Pam wyt ti ishe gweld Jeremy Kyle, anyway?

Alun

Achos...

Han

Ie...?

Alun

Achos...

Han

Achos beth?

Alun

Dim syniad. Fi'n casáu Jeremy Kyle.

Han

Idiot.



Mae HAN yn ymddangos ar 'Skype'. Unwaith eto, mae ALUN wedi ei ddal rhwng yr HAN ar y llwyfan a'r HAN ar y sgrin.

Han

(Ar y sgrin.) Sai byth yn galw ti'n idiot. Pam rhoi hwnna mewn?

Alun

Ffuglen. Dyw e ddim yn real.

Han

Beth? Hwn?

Alun

Jeremy Kyle.

Han

(Ar y sgrin.) Ma'r olygfa meddwi ti 'di danfon draw yn bizarre hefyd...

Alun

Fi'n siŵr bod y Jeremy Kyle Show yn scripted. Drama wedi'i seilio ar ryw fath o realiti.

Han

(Ar y sgrin.) Yr holl beth.

Alun

Mae'r gwir yna yn rhywle, ond mae'n anodd gweld lle mae'r ffuglen a'r ffaith yn cwrdd.

Han

(Ar y sgrin.) Fi ddim yn hoffi'r audience interaction ar ddechrau'r olygfa chwaith. Mae'n teimlo'n forced. Alun... (Ar y sgrin.) Sai ishe bod yn negatif ond... Pam ydw i dal 'ma? (Ar y sgrin.) Constructive criticism.

Alun

(I'r gynulleidfa.) Pam mae hi dal yma?

Han

(Ar y sgrin.) Seriously, s'neb yn lico audience interaction. Yn enwedig cynulleidfaoedd Cymraeg. Bydd raid i ti gael gwared o'r stwff 'da'r alcohol.

Alun

Pam?

Han

(Ar y sgrin.) Sai'n credu bod neb yn mynd i yfed shots yn y theatr. Mae'n weird. Dim ond weirdos fydde'n 'neud e.

Alun

(I'r tun 'Quality Street'.) Pam mae hi'n dal i fod 'ma?

Han

(Ar y sgrin.) A'r tun. 'Da pwy wyt ti'n siarad? (Ar y sgrin.) Mae'n hen bryd i ti agor y tun. Alun? (Ar y sgrin.) Ti 'di cadw'r dirgelwch yn ddigon hir. 'Da pwy wyt ti'n siarad, Alun? Beth sydd yn y tun? (Ar y sgrin.) Pryd wyt ti'n mynd i ddatgelu cynnwys y tun?

Alun

Leia.

Han

Leia? (Ar y sgrin.) Ma'r gynulleidfa wedi aros digon. 'Da Leia wyt ti'n siarad? (Ar y sgrin.) Come on... Neu Leia sydd yn y tun? (Ar y sgrin.) Put them out of their misery. Ti'n gwrando? (Ar y sgrin.) Ti'n clywed?

Alun

Y ddau.

Han

Beth?

Alun

Rwy'n siarad â Leia. Leia sydd yn y tun.

Han

(Ar y sgrin.) Jyst agora fe. Sai'n deall.

Alun

Mae angen i mi egluro.

Han

(Ar y sgrin.) Agora fe. Egluro beth?

Alun

Mae'n gymhleth.

Han

(Ar y sgrin.) Agora fe.

Alun

Gad i fi –

Han

Alun... (Ar y sgrin.) Agora'r blydi tun!

Alun

Fine! Fine... ok...



Yn ofalus, mae ALUN yn codi'r caead oddi ar y tun. Mae HAN yn edrych i mewn.

Han

Beth yn y byd...?

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17