g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 3


Cerddoriaeth uchel.

Mae ALUN yn mynd ati i greu ei fflat. Wrth i'r ddrama fynd yn ei blaen, dylid teimlo fel petai byd y llwyfan yn tyfu, yn esblygu ac yn dirywio trwy ddwylo ALUN.

Mae ALUN yn gafael mewn tun mawr o 'Quality Street'. Y caead wedi ei gau'n dynn.

Y gerddoriaeth yn dod i ben.

Alun
(Yn siarad i'r tun o 'Quality Street'.)
Rydw i am dy roi di ar y bwrdd coffi fan hyn.
Ikea.
Y bwrdd coffi.
Nid bod angen i ti wybod hynny ond mae pobol yn gofyn weithiau.
'Is that a Nornäs?'
Why yes, it is. I assembled it myself. Now use that coaster or I'll shoot your stupid head off.
Fyddi di ddim yn ymwybodol o Ikea.
Y cysyniad o 'Ikea'.
Rydw i'n hoff iawn.
O'r cysyniad.
Popeth yn ei le a lle i bopeth. Aros y tu mewn i'r llinellau. Dilyn yr arwyddion ar hyd y daith er mwyn gweld a phrofi popeth sydd angen.
Dim surprises.
Pawb yn gwybod yn union beth i ddisgwyl.
Profiad effeithlon tu hwnt.
Polished.
Ac mae'r Swedish meatballs yn dda iawn hefyd.

Rydw i am gadw'r caead ar y tun os yw hynny'n iawn?
Mi fydd hi'n galw cyn bo hir. Dydw i ddim eisiau iddi dy weld di.
Ddim 'to.
Dyw hi ddim yn barod.
Mae'r ddynol ryw yn dueddol o fod yn gaeedig tuag at bethau newydd.
Pethau gwahanol.
Dyna sydd yn egluro llwyddiant Ikea.
Pobol yn hoffi'r cyfarwydd.
Hoffi gwybod beth i ddisgwyl.
Y rheswm dros ein hofn o farwolaeth, am wn i.
The unknown.
Pobol yn hoffi gwybod beth sy'n dod.
Predictability.
Yn hoffi pethau wedi'u gwneud mewn ffordd arbennig.
Roedd hen ffrind i fi yn bwyta'r union un frechdan ar yr union un diwrnod bob wythnos yn ysgol. Dydd Llun, ham. Dydd Mawrth, cheddar. Mercher, twrci Bernard Matthews. Iau, caws soft. Dydd Gwener, fish paste. Bob wythnos. Dim eithriadau.
Dim byd annisgwyl.
Well-oiled machine.
Mae gan ddynoliaeth bosibiliadau helaeth, ond mae'r rhan fwyaf ohonom yn cadw ein byd yn fach er mwyn gwneud pethau'n haws.
Dim sialens.



Mae HAN yn ymddangos ar y sgrin mewn sgwrs 'Skype'.

Han

(Ar y sgrin.) Wyt ti really'n mynd i agor drama yn wafflo am Ikea?



Erbyn hyn, mae ALUN yn eistedd o flaen y laptop.

Alun

(I'r sgrin.) Ti ddim yn meddwl bod e'n gweithio?

Han

(Ar y sgrin.) Sai'n gwbod... O'dd y bit am y meatballs yn eitha doniol.

Alun

Ma' pawb yn hoffi meatballs Ikea.

Han

(Ar y sgrin.) Heblaw vegetarians. A ma'n rhaid i ti gael gwared o'r bit 'da'r sandwiches. Mae'n mynd 'mlan a 'mlan. O'n i'n bored yn darllen e.

Alun

Dyna'r pwrpas. Routine. Dangos diflastod bywyd.

Han

(Ar y sgrin.) Am Owen o't ti'n siarad, ontefe?

Alun

Ie, Owen rhywbeth. Yr un hen frechdanau trwy ysgol gynradd i gyd.

Han

(Ar y sgrin.) A neb ishe eistedd drws nesa iddo fe bob dydd Gwener achos bod y fish paste yn drewi.

Alun/Han

Fish paste Fridays.



Daw HAN i'r llwyfan yn cario bag sy'n dal dwy croissant.

Han

Alun? Ti 'ma?

Alun

(I'r HAN ar sgrin y laptop.) Gwranda, fi'n gorfod mynd.

Han

(Ar y sgrin.) Nawr?

Alun

Siarada i gyda ti cyn bo hir.

Han

(Ar y sgrin.) Iawn. Ni'n mynd i'r traeth mewn munud.

Alun

Joiwch.

Han

(Ar y sgrin.) Ta-ra.



Daw'r sgwrs 'Skype' i ben.

Alun

Ges di'r croissants?

Han

Wel helo Hanna, sut wyt ti? Sut o'dd y siwrne?

Alun

Sori.



Mae HAN yn rhoi cwtsh i ALUN.

Han

Ti'n ok?

Alun

Iawn. Ti?

Han

Ges i'r croissants.

Alun

Diolch, Han.

Han

Wedes di ddim bod y bakery 'di cau.

Alun

Pa un?

Han

Yr un rownd y gornel.

Alun

Yw e?

Han

Siop wag arall ar y stryd 'na nawr.

Alun

Ble ges di'r croissants, 'te?

Han

Tesco Metro.

Alun

Y bakery 'di cau?

Han

Ciw ridiculous. O'dd y self checkout out of order.

Alun

Pam gaeodd e?

Han

Sai'n gwbod. Ffaelu cystadlu gyda'r siopau mwy?

Alun

Ddim yn cynnig Clubcard points.

Han

Yw'r tegell 'mlan 'da ti, neu –

Alun

O ie... Ie, wrth gwrs. Sori. Eistedda.



Mae ALUN yn mynd ati i wneud dau fwg o de.

Han

Ti brynodd rhain?

Alun

Beth?

Han

Y Quality Street.

Alun

Na. Hen dun, 'na'i gyd.

Han

Pam mae e ar y coffee table? Rhan o'r ffeng shui?

Alun

Wedi'i adael yna am funud.

Han

Beth sy mewn 'na?

Alun

Dim.

Han

Dim byd?

Alun

Dim byd o bwys.

Han

Ti'n od.

Alun

Mae e yn y genes.

Han

Speak for yourself. Fi ga'th y rhai da i gyd. Y plentyn cynta, ti'n gweld. Good looks. Hiwmor. Intelligence.



Mae ALUN yn chwerthin.

Han

Ok, ges di bach o'r brains hefyd.

Alun

Good save.

Han

Fi 'di dod â mwy o gardie i ti gael darllen.

Alun

Maen nhw'n dal i gyrraedd?

Han

Y tŷ'n llawn ohonyn nhw.

Alun

Card factory.

Han

Meddylia am yr holl goed!



Mae ALUN yn dod at y bwrdd coffi gyda'r dau fwg o de.

Alun

Coasters.

Han

Beth?

Alun

Y coasters.



Mae HAN yn gafael mewn dau fat ar gyfer y diodydd. Mae ALUN yn rhoi'r mygiau ar y matiau.

Alun

Hang on...



Mae ALUN yn gafael mewn dau blât.

Alun

Briwsion. Dydw i ddim eisiau croissant dros y llawr.

Han

Ti fel un o'r Stepford Wives.

Alun

Na. Trefnus. Taclus. Glân.

Han

Rydw i'n lân hefyd.

Alun

Ha!

Han

Ti sy'n anal, 'na'i gyd.

Alun

Gwell anal na banal.

Han

Banál.

Alun

Fi'n gwbod, ond –

Han

Pwy wedodd hwnna? Shakespeare?



Saib. Mae'r ddau yn bwyta eu croissants ac yn yfed eu te yn araf.

Alun

O le ga i fara nawr?

Han

Beth?

Alun

Nawr bod y bakery wedi cau?

Han

Tesco Metros.

Alun

Na. Mass-produced.

Han

Snob.

Alun

Fi'n siŵr bod tua chwe siop wag ar y stryd 'na nawr.

Han

Ma' Ladbrokes yn dod i un ohonyn nhw. Sign yn y ffenest. 'Coming soon'.

Alun

Siop fetio?

Han

What are the odds!



Saib. Bwyta. Yfed.

Han

(Yn betrus.) So sut wyt ti?

Alun

Iawn.

Han

Really?

Alun

Ie.

Han

Siŵr?

Alun

Ydw. Ti?

Han

Fine.

Alun

Good.



Saib.

Han

Mae'n teimlo'n od. Fi'n dal i deimlo'n... od.

Alun

A fi.

Han

Wir?

Alun

Dyw e ddim yn teimlo'n real.

Han

Fi'n gwbod.

Alun

Dal i ddisgwyl i bethau...

Han

Beth?

Alun

...

Han

Beth?

Alun

Na.

Han

Gwêd, Alun.

Alun

Disgwyl i bopeth fynd nôl i fel roedden nhw.

Han

Fi'n deall.

Alun

Disgwyl... dydw i ddim yn hollol siŵr. Mae'n teimlo fel ffantasi. Fel nad yw hyn mewn gwirionedd wedi digwydd. Methu credu. Methu derbyn.

Han

Ie...



Saib. Bwyta. Yfed.

Alun

Felly pryd mae'r cyfarfod?

Han

Pa gyfarfod?

Alun

Cyfarfod gwaith.

Han

Wedes i ddim bod cyfarfod gwaith.

Alun

Ma' 'na wastad gyfarfod. Pam arall dod yr holl ffordd lawr?

Han

I dy weld di.

Alun

Cau dy ben.

Han

Ma' 'da fi newyddion.



Tywyllwch.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17