g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 8


Mae ALUN wrth y laptop yn teipio.

Alun
Mae'r posibilrwydd o fywyd yn eithafol o fach.
Mewn termau ystadegol.
Dylai bywyd ddim bodoli.
Ond mae bywyd yn bodoli.
Paradox.

Paradox? – Han, ai dyna'r gair?

Pam, felly, cymryd bywyd yn ganiataol?
Os mai gwyrth yw bywyd?
Pam ydyn ni'n parhau i fyw bywydau trefnus, rheolaidd, caniataol?
Does dim byd routine am fywyd.
Mae bywyd yn anniben.
Dim... beth yw'r gair... predictability.
(I'r gynulleidfa.)
Beth yw 'predictability' yn Gymraeg?
Rhywun?
Ta beth.

Mae gan fywyd nifer o ochrau.
Onglau.
Nifer o rannau.
Dim rheolau.
Dim ffurf daclus.
Nid trip i Ikea.
Nid dyna yw bywyd.
Popeth ar unwaith ac yna dim byd o gwbl.
Fel daeargryn.
Dyna gyflwr byw.

Ac eto.
Er i ni gymryd bywyd yn ganiataol.
Rydym yn coroni marwolaeth.
Yn parchu.
Yn ofni.
Addoli.
Er mai marwolaeth yw'r un peth y gallwn ei ragweld.
Yr un peth sydd yn hollol ganiataol.

Datganiad...

Mae'r tebygolrwydd o farwolaeth ar y blaned hon yn gant y cant.
100%
I bawb.
Bob tro.

Rhaid agor ein llygaid.
Rhaid cofio byw.



Tywyllwch.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17