g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 5


'Incoming call' oddi wrth HAN ar Skype. Y dôn yn canu am amser hir. Mae'n dod i ben.

'Incoming call' eto. Y dôn yn canu. Yn y diwedd, mae ALUN yn ateb.

Mae ALUN yn eistedd wrth ei laptop.

Han

(Ar y sgrin.) Ble o't ti?

Alun

Pryd?

Han

(Ar y sgrin.) Nawr. Pam cymryd mor hir i ateb?

Alun

Yh...

Han

(Ar y sgrin.) O't ti yn y toilet?

Alun

Na.

Han

(Ar y sgrin.) O't ti ar y toilet, guaranteed.

Alun

Nag oeddwn.

Han

(Ar y sgrin.) Shit of the century.

Alun

Paid.

Han

(Ar y sgrin.) Sut ma' Leia?

Alun

Mae hi'n iawn.

Han

(Ar y sgrin.) Ma' hi'n dal i fod 'na, 'te?

Alun

Ydy.

Han

(Ar y sgrin.) O'n i'n meddwl 'i bod hi ar y ffordd mas? O'n i'n meddwl bod ti'n cael help.

Alun

Rydw i yn cael help.

Han

(Ar y sgrin.) Pam ma' hi dal 'na, 'te?

Alun

Mae'n cymryd amser.

Han

(Ar y sgrin.) Ti 'di cael amser.

Alun

Dwyt ti ddim yn deall.

Han

(Ar y sgrin.) Wrth gwrs 'y mod i'n deall.

Alun

Mae'r ysgrifennu'n helpu.

Han

(Ar y sgrin.) Ti heb ddanfon unrhyw beth i fi am sbel.

Alun

Mae'n breifat.

Han

(Ar y sgrin.) Fi ishe darllen dy stwff di, Alun.

Alun

Pam?

Han

(Ar y sgrin.) Mae e'n helpu fi i ddeall sut ti'n teimlo.

Alun

Wir?

Han

(Ar y sgrin.) Ie.

Alun

Ok... mi ddanfona i rywbeth i ti. Monolog.

Han

(Ar y sgrin.) Pryd?

Alun

Pryd?



Mae HAN yn ymddangos ar y llwyfan.

Han

Pryd?



Mae ALUN yn awr wedi ei ddal mewn sgwrs rhwng HAN ar Skype a HAN yn y fflat. Mae'n symud yn ôl ac ymlaen o'r laptop. Ei feddyliau'n cymysgu.

Alun

(I'r HAN ar y llwyfan.) Pryd wyt ti'n mynd?

Han

Ma' cwpwl o fisoedd eto. (Ar y sgrin.) Pryd, Alun?

Alun

(I'r HAN ar y sgrin.) Nes ymlaen. Mi ddanfona i'r monolog draw prynhawn 'ma.

Han

Fyddwn ni ddim yn mynd yn syth. (Ar y sgrin.) Diolch.

Alun

(I'r HAN ar y llwyfan.) Pam nawr?

Han

(Ar y sgrin.) Gwna'n siŵr dy fod ti.

Alun

Nid nawr yw'r amser i fynd i ochr arall y byd.

Han

Fi 'di bod yn meddwl am fynd ers amser.

Alun

A hwn yw'r tro cyntaf i fi glywed am y peth?

Han

(Ar y sgrin.) Ma' Luke wedi bod yn gofyn amdanat ti. Ni'n meddwl 'i fod e'n amser da i fynd.

Alun

Ni?

Han

Fi a Luke. (Ar y sgrin.) Mae e'n gofyn pryd ti'n dod i'n gweld ni.

Alun

Ti'n mynd gyda Luke?

Han

Wrth gwrs.

Alun

Dwyt ti a Luke ddim yn mynd i bara'.

Han

(Ar y sgrin.) A fi ishe i ti gwrdd â dy nith. Ddim yn mynd i bara'?

Alun

(I'r HAN ar y sgrin.) Fydden i'n dwlu dod i'ch gweld chi. Rydw i eisiau dod.

Han

Ti'n serious? (Ar y sgrin.) Dere, 'te.

Alun

(I'r HAN ar y llwyfan.) Na, dydw i ddim yn serious. Na, ond –

Han

(Ar y sgrin.) Dere.

Alun

(I'r HAN ar y sgrin.) Na...

(I'r HAN ar y llwyfan.) Na.

(I'r HAN ar y sgrin.) Na, mae'n ddrud. Alla i ddim fforddio flights i Australia.

Han

Sut wyt ti'n gwybod pa fath o berthynas sy 'da Luke a fi? (Ar y sgrin.) Fe dalwn ni.

Alun

(I'r HAN ar y llwyfan.) Sai'n gallu delio 'da hwn ar hyn o bryd.

Han

Fi'n gwbod bod e'n mynd i fod yn anodd, ond –

Alun

Paid. Paid mynd.

Han

(Ar y sgrin.) Alun?

Alun

Plîs.

Han

Fi'n gorfod mynd rhywbryd.

Alun

Beth ma' hwnna i fod i feddwl?

Han

(Ar y sgrin.) Ti'n clywed?

Alun

Paid rhedeg i ffwrdd nawr.

Han

(Ar y sgrin.) Rydw i'n hapus i dalu i ti ddod. Sai'n rhedeg i ffwrdd.

Alun

(I'r HAN ar y sgrin.) Dydw i ddim yn charity case.

(I'r HAN ar y llwyfan.) Wyt.

Han

Delio â phethe ydw i.

Alun

Wrth droi dy gefn ar bopeth sydd gen ti fan hyn?

Han

(Ar y sgrin.) Trio helpu ydw i, Alun. Troi fy nghefn ar beth? (Ar y sgrin.) Ti ffaelu troi dy gefn ar dy deulu. Beth sydd ar ôl i fi fan hyn? (Ar y sgrin.) Ni yw'r unig deulu sydd gen ti. Ma' Mam wedi mynd, Alun. Ma' hi 'di mynd.

Alun

Fi'n gwybod, ond –

Han

Fydda i ond galwad Skype i ffwrdd.

Alun

Ti yw'r unig un sydd yn yr un sefyllfa â fi. Pa linc sydd gen i â Mam os wyt ti'n mynd i ochr arall y blincin blaned?

Han

(Ar y sgrin.) Alun, gwranda... Gwranda, Alun... (Ar y sgrin.) Rydw i eisiau helpu. Dyw'r ffaith fy mod i'n symud i Awstralia ddim yn dileu Mam. Nid fi yw'r linc rhyngot ti a Mam. (Ar y sgrin.) Ti'n bwysig i fi, Alun... Ti... (Ar y sgrin.) Rydw i eisiau helpu. Ti yw'r linc rhyngot ti a Mam. Neb arall. Mae hi'n byw ynot ti.



Mae'r HAN ar y sgrin yn gwenu'n garedig.

Han

Yn dy atgofion. Mae hi'n parhau i fodoli yn dy bersonoliaeth. Yn y ffordd rwyt ti'n bihafio. Ti'n sensitif, Alun. Ti'n garedig. Jyst fel Mam. Mae hi 'na yn y ffordd rwyt ti'n siarad. Yn dy jôcs gwael.



Mae ALUN yn gwenu'n ysgafn.

Han

Fi'n gallu'i gweld hi yn dy wên. Gwên Mam yw honna. (Ar y sgrin.) Ti ddim ar dy ben dy hun. Fyddi di byth ar dy ben dy hun. (Ar y sgrin.) Rydw i yma... Fydda i yna. (Ar y sgrin.) Wastad. Bob tro.



Saib.

Mae ALUN yn edrych i'r HAN ar Skype, yna at HAN yn yr ystafell fyw.

Alun

Iawn.



Saib.

Mae HAN yn mynd at y tun o 'Quality Street' sydd ar y bwrdd coffi. Yr HAN ar y sgrin yn gwylio.

Han

Beth ma' hwn yn dal i 'neud 'ma?

Alun

Dim.

Han

Seriously, beth sy mewn 'na?



Mae HAN yn mynd at y tun.

Alun

Paid.

Han

Fi'n intrigued...



Mae hi'n mynd i agor y tun.

Alun

Paid.

Han

Jyst ishe pip bach.



Mae ALUN yn rhuthro'n grac at HAN ac yn ei thynnu o'r tun cyn iddi godi'r caead.

Alun

Paid.

Han

Alun... beth sy'n mynd 'mlan?



Tywyllwch.

Unwaith eto, mae ALUN yn teimlo'r ddaeargryn yn codi. Mae'n ymladd yn ei herbyn – yn gwthio'r ddaeargryn i lawr i'r dyfnderoedd, allan o'r ffordd.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17