g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 12


Llais yn y tywyllwch.

Alun
Daeargryn.


Saib.

Alun
Ar ddiwrnod yr angladd roedd daeargryn.
Nid yn San Francisco neu Indonesia.
Na.
Ar fy stryd i.
Ar y stryd gyda'r Tesco Metro a'r bakery sydd wedi cau a'r Ladbrokes 'coming soon'.
Earthquake yng Nghymru.
Ar ddiwrnod angladd Mam.
O bob diwrnod posib.
O bob diwrnod.
Ond peidiwch â gofidio.
Cyn i chi, ffrindiau, boeni gormod –
Rydw i'n gobeithio ein bod ni'n ffrindiau erbyn hyn.
Ydyn ni?
Yn ffrindiau?
Pa beth bynnag, cyn i chi ofidio, doedd hi ddim yn ddaeargryn fawr.
Dau pwynt tri ar y raddfa Richter.
Daeargryn gwan.
"A pensioner's fart" fel dywedodd rhywun ar Twitter.
Doedd dim anafiadau.
Cwympodd un shed mewn gardd ar stryd gyfagos.
A dyna ni.
Dyna aftermath y ddaeargryn.
Un shed fach.
Pathetic.
Ond mi wnaeth i mi feddwl...



Y golau'n codi yn araf iawn. Mae ALUN ar flaen y llwyfan yn siarad gyda'r gynulleidfa.

Alun
Roedd hi'n arwydd.
Yn symbol.
Fel bod y byd yn gwybod bod rhywbeth mawr yn digwydd.
Fel bod yr holl atomau o fewn ein planed a'r holl atomau o fewn ein solar system a'r holl atomau o fewn ein galaxy a'r holl atomau o fewn yr holl blanedau o fewn yr holl solar systems o fewn yr holl galaxies o fewn ein bydysawd – fel eu bod nhw i gyd yn symud mewn ffordd arbennig er mwyn creu'r ddaeargryn hon ar fy stryd i ar ddiwrnod yr angladd.
Roedd y bydysawd yn gwybod.
Pob darn o fywyd yn ymwybodol o arwyddocâd y diwrnod hwn.
Y foment hon.
Yn deall beth oedd yn digwydd.
Daeargryn ar y stryd yn cymysgu gyda'r ddaeargryn yn fy mhen er mwyn paratoi ar gyfer y foment enfawr, erchyll hon.
Y foment rydw i wedi bod yn aros amdani gydag arswyd.
Y foment nad ydw i am iddi ddigwydd.
Ac eto y bydysawd yn dweud ei fod am ddigwydd.
Yn gorfod digwydd.
Funeral Friday.
Y bydysawd yn fy ngwthio i'r angladd.
Yn rhoi cic yn fy mhen ôl ac yn dweud "gwranda gw'boi, os yw'r holl atomau o fewn y blaned a'r holl atomau o fewn y solar system a'r holl atomau o fewn y galaxy a'r holl atomau o fewn yr holl blanedau o fewn yr holl solar systems o fewn yr holl galaxies o fewn y bydysawd i gyd yn gallu dod at ei gilydd i greu daeargryn, wel, bloody hell, rwyt ti'n gallu mynd i angladd dy fam."
Dyna oedd y neges.
Dyna i fi oedd neges y bydysawd ar y diwrnod enfawr, erchyll hwnnw yn fy hanes.
Roedd y bydysawd wedi siarad.



Mae ALUN yn teimlo'r ddaeargryn yn adeiladu y tu mewn iddo. Unwaith eto, mae'n ceisio'i gwthio allan o'i ben ond yn methu. Mae'r ddaeargryn yn rhy gryf. Mae ALUN yn fanig, yn wyllt, yn gweiddi, sgrechian, ei egni'n ffrwydro mewn moment ffyrnig o unigrwydd ac anallu i gyfathrebu. Mae'n dinistrio'r byd y mae wedi'i greu ar y llwyfan wrth iddo geisio ymladd yn erbyn yr anochel.

Pan nad oes unrhyw egni ar ôl ganddo, mae ALUN yn cwympo i'r llawr.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17