Mae ALUN yn gafael mewn iogwrt. Mae'n tynnu'r caead oddi ar y potyn ac yn ei lyfu. Mae ALUN yn mynd ati i fwyta'r iogwrt o'r potyn. Yn araf. Myfyrgar. Holl bwysau'r byd ym mhob llwyaid o iogwrt. Y mae'n edrych yn unig, bregus yn y foment hon. |
|
Alun |
(I'r tun o 'Quality Street'.) Mae'n bosib rhannu pobol mewn i ddau grŵp. Y rhai sy'n llyfu caead iogwrt a'r rhai sydd ddim. Mae yna drydydd grŵp hefyd, sef y rhai sydd yn dewis peidio â bwyta iogwrt o gwbwl. Ond mae hynny'n difetha'r naratif. O'r ddau grŵp, felly, llyfwr ydw i. Rydyn ni'r llyfwyr yn gwneud y gorau o bethau. Yn tynnu popeth posib o'n profiadau. Pob diferyn bach o iogwrt. Dim gwastraff. Profi popeth i'r eithaf. Dyna'r llyfwyr. Dyna oedd Mam. Dyna ydw i. Oeddwn i. Rydw i'n dechrau meddwl bod pethau wedi newid. Ai llyfwr fydda i mewn blynyddoedd i ddod? Oes posib colli'r elfen lyfu neu ydy llyfu yn y genynnau? Rydw i'n dal i eistedd yn disgwyl iddi gerdded i mewn. Fel petai hi ar ei gwyliau ac ar fin dychwelyd. Ar fin cyrraedd adre. Rydw i'n meddwl am gael plant. Plant na fydd yn cwrdd â'u mamgu. Mamgu na fydd yn cwrdd â'i hwyrion. Rydw i'n meddwl am yr holl brofiadau oedd ganddi i ddod. Yr holl iogwrt ar yr holl gaeadau. Fy mhriodas. Fy mhriodas heb Mam. Yr holl benblwyddi. Nadoligau. A Mam ddim yno. Cadair wag. Rydw i'n poeni am anghofio. Anghofio Mam. Yn teimlo'n euog. Am fwynhau. Am dreulio diwrnod heb feddwl amdani. Am chwerthin. Am beidio crio. Ym mhob darn o hapusrwydd. Ym mhob darn o gyffro. Euogrwydd. Ac rydw i ofn. Ofn y newid. Ofn gweld dieithryn yn y drych. Y chwerthin. Y positifrwydd. Hynny'n dod i ben. A minnau'n anghofio llyfu. Anghofio llyfu caead bywyd. |
Mae HAN yn ymddangos ar 'Skype'. |
|
Han |
(Ar y sgrin.) Fucking hell, Alun. Monolog am bloody yogurt? O's shares 'da ti yn Müller neu rywbeth? |
Mae ALUN yn ôl o flaen ei laptop. |
|
Alun |
Beth sy'n bod 'da fe? |
Han |
(Ar y sgrin.) Mae'n self indulgent, Alun. Ma'r ddrama gyfan yn ofnadw' o self-indulgent. |
Alun |
Pwy wyt ti i feirniadu? Sut wyt ti'n gallu beirniadu fy ysgrifennu i? Ti ofynnodd i gael darllen hwn i gyd. |
Han |
(Ar y sgrin.) Sori. |
Alun |
Rydw i wedi rhannu pethau personol. Wedi ymddiried ynot ti. |
Han |
(Ar y sgrin.) Constructive criticism. O'n i'n trio helpu. Fi'n falch bod ti 'di rhannu. |
Alun |
Therapi. Dyna ddywedaist ti. Dyna ddywedon nhw. Dyna ddywedodd Leia. Ysgrifennu fy nheimladau i lawr. 'Get it all out.' Mae'n helpu. |
Han |
(Ar y sgrin.) Yw e? |
Alun |
Ydy. Rydw i wedi creu byd lle mae fy nheimladau'n gallu anadlu. |
Han |
(Ar y sgrin.) Fi'n falch am hynny. |
Alun |
Mae'n anniben, on'd yw e? |
Han |
(Ar y sgrin.) Dros y lle i gyd. |
Alun |
Ond mae'r galaru yn anniben. A heb ysgrifennu hwn i lawr, fydde' gen i ddim ffordd o'i fynegi. |
Han |
(Ar y sgrin.) Mae'n dda. Mae'n iach. |
Alun |
Mae'n anghyson. Mae'n gymysglyd. |
Han |
(Ar y sgrin.) Mae'n bwrpasol fel 'na. Mess dramatig. Fydd neb yn hollol siŵr be' sy'n real a beth sydd wedi'i greu. |
Mae'r signal 'Skype' yn dechrau gwanhau. |
|
Alun |
Byd o fewn byd o fewn byd. |
Han |
(Ar y sgrin.) Bydysawd. |
Alun |
Ehangu ar realiti. |
Han |
(Ar y sgrin.) A beth am Leia? |
Saib. |
|
Alun |
Beth amdani? |
Han |
(Ar y sgrin.) Ble mae hi? |
Alun |
Fydd hi yma tra 'mod i ei hangen hi. |
Han |
(Ar y sgrin.) Rwy'n gweld... A fi? |
Alun |
Ti? |
Han |
(Ar y sgrin.) Ie. |
Mae HAN yn diflannu am eiliad. |
|
Alun |
Rydw i'n barod i ti fynd. |
Han |
(Ar y sgrin.) Wyt ti? |
Alun |
Ydw. |
Han |
(Ar y sgrin.) Ma' hwn yn benderfyniad mawr. |
Alun |
Fi'n gwybod. |
Han |
(Ar y sgrin.) Ok... os 'na be' ti mo'yn. |
Mae ALUN yn nodio. |
|
Han |
(Ar y sgrin.) Grêt. |
Mae HAN yn diflannu am eiliad arall. |
|
Alun |
Han...? |
Han |
(Ar y sgrin.) Ie? |
Alun |
Fi ishe dweud diolch... |
Mae HAN yn gwenu. |
|
Alun |
Ti'n clywed? |
Mae HAN yn diflannu'n gyfangwbl. |
|
Alun |
Fi ishe diolch i ti am – |
Mae ALUN yn sylwi bod HAN wedi mynd. Mae'n syllu ar y sgrin. Yn syllu i'r gofod lle'r oedd HAN yn eistedd eiliadau ynghynt. Statig ar y sgrin. Tywyllwch. |