g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 10


Yn ofalus, mae ALUN yn codi LEIA yn ei law. Fel Hamlet â phenglog Yorick. Y mae'n aros fel hyn yn edrych arni.

Alun

Mae gen ti farc arnot ti. Dent bach.

Leia

Ymhle?

Alun

Fan hyn.

Leia

O ganlyniad i'r ergyd.

Alun

Ie?

Leia

Yr ergyd wrth lanio.

Alun

Wyt ti'n ei deimlo?

Leia

Nid yw pod fel hyn yn trosglwyddo teimladau ffisegol.

Alun

Rwy'n gweld.

Leia

Mae'n ymddangos nad yw'r anaf wedi effeithio ar weithrediad y pod. Rydw i'n ddiolchgar i ti am sylwi.

Alun

Beth am deimladau emosiynol?

Leia

Ym mha gyd-destun?

Alun

O ran trosglwyddo teimladau. Ydy'r pod yn gallu trosglwyddo teimladau emosiynol? Wyt ti'n gallu teimlo emosiwn?

Leia

Ydw.

Alun

Pob emosiwn?

Leia

O'r chwe emosiwn sylfaenol, rydw i'n medru teimlo pob un ohonynt.

Alun

Chwech?

Leia

Mae gan fodau datblygedig y gallu i deimlo emosiynau sydd yn dod dan chwe changen sylfaenol. Gellir dosbarthu pob emosiwn posib i'r chwe chategori hyn.

Alun

Am ffordd o symleiddio teimladau!

Leia

Ond mae'r canghennau sydd yn deillio o'r chwe emosiwn sylfaenol yn gymhleth tu hwnt. Yn ddiddiwedd.

Alun

Felly sut wyt ti'n gallu teimlo?

Leia

Sut wyt ti'n gallu teimlo?

Alun

Mae'n digwydd yn naturiol.

Leia

Dyna yn union sut yr wyf i'n teimlo hefyd, er mai geiriau yw fy unig ffordd i o fynegiant. Mae geiriau yn wyddonol, rhesymegol, ffeithiol.

Alun

Beth am chwerthin? Llefen?

Leia

Nid yw gweithredoedd ffisegol yn rhan o'n hunaniaeth.

Alun

Cwtsh. Allwch chi ddim cwtsho?

Leia

Mae fy nghronfa ddata yn egluro mai coflaid yw cwtsh. Nid yw cofleidio yn rhan o'n hunaniaeth.

Alun

Mae cwtsh yn fwy na coflaid. Mae cwtsh yn... special. Mae'n... mae'n anodd egluro.

Leia

Rydw i eisiau profi cwtsh.

Alun

Wyt ti?

Leia

Hoffwn deimlo cwtsh os gweli di'n dda.

Alun

Iawn...



Yn araf ac yn betrus, mae ALUN yn rhoi cwtsh hir i LEIA.

Saib.

Leia

Na.

Alun

Na?

Leia

Ni allaf deimlo un o'r emosiynau y soniaist amdanynt.

Alun

Dim byd?

Leia

Mae fy synwyryddion allanol yn darllen gwasgedd a gwres uchel.

Alun

Sori.

Leia

Pam wyt ti'n ymddiheuro?

Alun

Roeddwn i eisiau i ti deimlo cwtsh.

Leia

Nid yw fy iaith raglenni yn galluogi hynny.

Alun

Roeddwn i eisiau i ti deimlo'r hyn sydd yn digwydd rhwng dau berson. Rhwng pobl ar y blaned yma...

Leia

Rwyt ti eisiau cwtsh gan dy fam.



Saib.

Leia

Mae'r blaned hon yn teimlo ac yn mynegi cariad mewn ffordd arbennig. Gwahanol. Mae'n brydferth.

Alun

Wyt ti wedi teimlo cariad?

Leia

Nid ar lefel ddynol.

Alun

Mae'n unigryw, felly?

Leia

Ydy. Mae'r cariad ar draws y ddaear hon yn eithriadol. Y cysylltiad rhwng bodau dynol. Perthyn. Perthynas. Deuthum i'r blaned er mwyn gweld. Er mwyn deall beth sydd yma.

Alun

Ar dy ben dy hun?

Leia

Ar ôl colli. Er mwyn gwella mewn byd iach.

Alun

Dyw'r ddaear ddim yn iach.

Leia

Mae'n llawn lliw. Yn llythrennol ac yn emosiynol. Mae'n fyd lle mae emosiwn yn gyrru popeth. Mae hi'n fyd sydd yn wirioneddol fyw.

Alun

Ond mae emosiwn yn gyrru pethau negatif hefyd. Emosiwn yw'r rheswm dros ein dioddefaint. Dros y boen rydym yn ei deimlo mewn colled.

Leia

Mae'n rhaid dysgu i fyw gyda'r boen. Fydd e byth yn diflannu.

Alun

Sut, Leia? Helpa i fi ddeall.

Leia

Does dim i ddeall.

Alun

Plîs.

Leia

Mae'n rhan o fywyd. Yn y diwedd, mi fyddi di'n gweld... 'Per ardua ad astra'.

Alun

Lladin? Sut mae rhyw hen eiriau mewn Lladin i fod i helpu?

Leia

Cyfieithiad... "Through adversity to the stars."



Tywyllwch.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17