Fflat mewn dinas. Soffa, bwrdd coffi, laptop, teledu ac ati. Ar y wal gefn, tafluniad mawr o gynnwys sgrin y laptop: dogfen newydd, wag ar brosesydd geiriau. Nodir: Mae testun mewn ffont 'Courier' yn dynodi geiriau sydd yn ymddangos ar y sgrin pan mae ALUN yn teipio. Mae ALUN yn eistedd mewn tawelwch, yn syllu ar sgrin y laptop. Jîns, crys-t, trainers. Dyma'r olygfa sydd yn croesawu'r gynulleidfa wrth iddynt gyrraedd ac ymgartrefu yn eu seddau. DAEARGRYN. Diffoddir y goleuadau nes bod dim ar ôl ond yr hyn sydd yn dod o sgrin y laptop. Saib hir. O'r diwedd, mae ALUN yn dechrau teipio. |
|
Alun1 |
Dyn. Siwt, tei ac ati. Ugeiniau hwyr. |
Mae ALUN yn dileu "hwyr" ac yn teipio "canol" yn ei le. Mae'n parhau i deipio. |
|
Alun1 |
Hwn yw ALUN. Mae'n sefyll mewn tawelwch. Wrth ei draed, tun gwag. Saib. |
Saib. |
|
Alun2 |
Mae ALUN yn edrych at y drws. |
Mae ALUN yn edrych at y drws. Saib. Mae ALUN yn dileu popeth sydd wedi ei deipio hyd yn hyn. Mae'n cau'r laptop. Tywyllwch. |