Mae ALUN yn eistedd o flaen y laptop. Saib. Mae'n teipio. |
|
Alun1 |
Dweud ffarwél. |
Saib. Mae'n dileu'r cyfan ac yn teipio "Ffarwelio". |
|
Alun |
Un diwrnod. |
Mae ALUN yn dechrau newid ei ddillad: crys gwyn, tei du, trowsus du, belt ddu, siaced siwt ddu ac esgidiau du. Mae'n gadael ei ddillad gwreiddiol yn anniben dros y llawr. |
|
Alun |
(Wrth wisgo.) Un diwrnod swyddogol. Cyhoeddus. I ddweud – Parchus. I ddweud hwyl fawr. Ac yna mae'r galaru wedi gorffen. Popeth anodd wedi mynd. Yn ôl rhai. Wedi ei lusgo i'r tywyllwch. I fannau pella'r bydysawd. Pawb yn anghofio. Yn mynd yn ôl. Yn diflannu. Yn gadael y galarwyr i alaru. Yn dawel. Diolwg. Preifat. A'r fish paste Fridays yn parhau. Fel petai dim wedi newid. Fel petai neb wedi mynd. Golchi'r tristwch lawr y sinc. Cario 'mlaen cyn sychu'r inc. Neb yn deall. Neb yn cofio. Oriau'n pasio. Cloc yn ticio. Ysgrifennu lawr fy mhroblem. Rhyddhau enaid. Creu fy anthem. Darllen. 'Sgwennu. Ysgrifennu. Therapi i'r creadigol. Inbox. Detox emosiynol. Creu. Byd. Creu. Gair. Creu. Drama. Creu. Chwaer. Dyma gân i'r bobol unig. Rhai di-lais a chatatonig. Carcharorion yn eu byd, hyd a lled yr haen atomig. Creaf hwn i'r rhai sy'n wylo. Dwylo clwm a cwlwm glwyfau. Rhai sy'n byw mewn holl-dywyllwch. Eraill llwm yn nyfnder düwch. Pryder. Poenus. Pwysau'n palu. Pili pala'n methu hedfan. Methu deall. Methu coelio. Methu byw ar sail anghofio. Dyn yn crio. Dyn yn tagu. Atgof. Adlais. Mam yn magu. Dyn yn boddi mewn trafferthion. Cyfansoddi 'Ode i'r Estron'. |
Saib. DAEARGRYN. Y sain yn atseinio ar draws y bydysawd, yna'n setlo. Tawelwch ar ôl y twrw. Mae'r bydysawd wedi siarad – y ddaeargryn yn arwydd i ALUN ei fod yn gorfod wynebu'r angladd. |
|
Alun |
(I'r tun 'Quality Street'.) Mae'n amser, Leia. On'd yw e? |
Mae'n agor y tun ac yn darganfod ei fod yn wag. Mae LEIA wedi mynd. Mae ALUN yn gollwng y tun ar y llawr. Mae geiriau yn ymddangos ar y sgrin: Dyn. Siwt, tei ac ati. Ugeiniau canol. Hwn yw ALUN. Mae'n sefyll mewn tawelwch. Wrth ei draed, tun gwag. Saib. Mae ALUN yn edrych at y drws. Yn araf, mae'n cerdded ato. Saib. Mae ALUN yn agor y drws ac yn gadael y llwyfan. |