g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 7


Sŵn bywyd a'r bydysawd.

Leia

(Llais.) Datganiad...

Ar y blaned hon, mae'r tebygolrwydd o fywyd dynol yn agos at ddim.

Mae'r tebygolrwydd bod dyn a menyw yn cwrdd, yn teimlo atyniad, yn aros gyda'i gilydd ac yn penderfynu ceisio am blentyn yn un mewn pedwar deg miliwn.

O ganlyniad, mae'r tebygolrwydd bod un o wyau'r fenyw yn dod i gysylltiad gydag un o sbermau'r dyn yn un mewn pedwar can cwadriliwn.

Mae tebygolrwydd bywyd y dyn a'r fenyw yn dibynnu ar bob un o'r cenedlaethau cynt yn atgenhedlu ac yn cael plentyn hefyd – can pum deg mil o genedlaethau o'u blaenau, ac un wy yn dod i gysylltiad gydag un sberm bob tro nes iddyn nhw greu ein menyw a'n dyn ni.

Mae'r tebygolrwydd o fodolaeth, felly, i bob person ar y ddaear heddiw yn un mewn deg i'r pŵer o ddwy filiwn, chwe chant ac wythdeg pum mil.

Sydd, mewn termau cyffredinol, yn zero.

A dyw hynny'n ddim o'i gymharu â thebygolrwydd y blaned ei hun o gynnal bywyd yn y lle cyntaf dros bedwar pwynt pump biliwn o flynyddoedd yn ôl.

Alun1

Ni ddylai bywyd fodoli.

Leia

Mae bywyd yn wyrthiol.

Yn werthfawr tu hwnt i ddealltwriaeth.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17