g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 2


Sŵn y byd, y bydysawd a phopeth sydd ynddo. Popeth sydd wedi bod a phopeth sydd i ddod.

Trwy'r tywyllwch, daw llais.

Leia

(Llais.) Mae'r byd – y ddaear – yn bodoli o fewn cysawd yr haul – un o biliynau o systemau solar sydd yn bodoli yng ngalaeth y Milky Way – sydd yn un o biliynau o galaxies sydd yn bodoli o fewn ein bydysawd.

Mae'r tebygolrwydd o fywyd yn y bydysawd hwn yn finiscwl.

Ni ddylai bywyd fodoli.

Er bod bron dim siawns ystadegol o unrhyw fywyd yma o gwbl, mae'r bydysawd yn llawn bywyd. Bywyd yn ffynnu ar ddaear y solar system hon, ac ar blanedau eraill ar hyd y biliynau o solar systems o fewn y biliynau o galaxies yn ein bydysawd.

Mae'r bydysawd yn fyw, a phob un darn o fywyd yn werthfawr tu hwnt i ddealltwriaeth.

Pob un bod dynol.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17