g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 9


Y gerddoriaeth yn uchel iawn.

Mae ALUN yn codi'r caead oddi ar y tun 'Quality Street' yn araf a pharchus. Yn yr un ffordd, mae'n codi'r eitem sydd y tu mewn i'r tun: sffêr wen. Dyma LEIA. Mae ALUN yn codi LEIA i'r awyr yn ddefodol, cyn ei rhoi i orffwys ar y bwrdd coffi.

Y gerddoriaeth yn diffodd.

Han

Alien?

Alun

Ie.

Han

Really?

Alun

O fath.

Han

Fel E.T.?

Alun

Ddim fel E.T.

Han

Sai'n deall.

Alun

Deall beth?

Han

Alien...

Alun

Ie.

Han

Alien?

Alun

Alien.

Han

Alien yw hwnna?

Alun

Sawl gwaith wyt ti eisiau dweud 'alien'?

Han

Ond...

Alun

Ond?

Han

Pêl. Pêl yw hwnna.

Alun

Nage.

Han

Iege.

Alun

Dyw iege ddim yn air.

Han

Dyw aliens ddim yn bodoli.

Alun

Ydyn.

Han

Nadyn.

Alun

Unwaith eto, does dim shwd air â nadyn.

Han

Unwaith eto, does dim shwd beth ag aliens.

Alun

Beth, 'te?

Han

Pêl.

Alun

Pa fath o bêl? Wyt ti wedi gweld pêl fel hyn o'r blaen?

Han

Na.

Alun

Wel dyna ni.

Han

O le ges di fe?

Alun

Hi.

Han

Beth?

Alun

Hi. 'Hi' yw'r bêl.

Han

Pêl!

Alun

Na. Na, Alien. 'Hi' yw'r alien.

Han

Sut wyt ti'n gwbod? Ble ma'r vagina?

Alun

Oh my god.

Han

Beth yw e really, Alun?

Alun

Rydw i wedi dweud –

Han

Come on. Bydda'n onest.

Alun

Jyst gwranda –

Han

Rhyw weird sex toy?

Alun

Pod.

Han

Pod?

Alun

O'n i'n cerdded trwy'r parc pan ddes i o hyd iddi.

Han

Na.

Alun

Ie.

Han

Felly wnes di godi'r peth 'ma o'r llawr?

Alun

Curiosity.

Han

Beth os yw e'n beryglus?

Alun

Hi. Dyw hi ddim yn beryglus.

Han

Sut wyt ti'n gwbod?

Alun

Rydw i'n gwybod.

Han

Falle taw bomb yw e.

Alun

Hi. Wyt ti wedi gweld bomb fel hyn o'r blaen?

Han

Pwy sy'n gwbod pa fath o shit 'ma Isis yn iwso dyddie 'ma.

Alun

Nid bomb yw hi.

Han

Nid 'hi' yw hi. Peth. Gwrthrych.

Alun

Na, mae hi'n fyw.

Han

Sut yn union wyt ti'n gwbod bod y bêl 'ma'n fyw?

Alun

Rydw i'n gwybod.

Han

Ac yn gwbod hefyd mai 'hi' yw'r peth 'ma? Sut wyt ti'n gwbod hyn i gyd?

Alun

Hi ddywedodd.



Saib.

Han

Hi... ddywedodd?

Alun

Ie.

Han

Mae hi'n siarad 'da ti?

Alun

Eglurodd Leia bopeth.

Han

Leia. Dyna'i henw hi? Really?

Alun

Fi roddodd yr enw iddi. Doedd ganddi ddim enw dynol –

Han

Wilson syndrome.

Alun

Wilson beth?

Han

Y bêl. Yn y ffilm Castaway. Wyt ti 'di tynnu llun gwyneb ar yr ochr arall?

Alun

Sai 'di gweld Castaway.

Han

Fi'n gwbod bod ti'n unig, Alun, ond –

Alun

Unig? Sut wyt ti'n gwybod os ydw i'n unig?

Han

Ti 'di treulio dyddie'n begio i mi beidio â symud.

Alun

Na.

Han

Wyt.

Alun

Pam wyt ti'n dal i fod 'ma, 'te?

Han

Gwed ti.

Alun

Cer nôl at Luke.

Han

Danfona fi nôl at Luke.

Alun

Beth?

Han

Ti sy'n ysgrifennu hwn, ontefe?

Alun

Sai'n deall.

Han

Ffuglen. Cymeriadau yn dy ddrama.

Alun

Na, ma' Leia'n real. Mae hyn i gyd yn real.

Han

Profa fe.

Alun

Profi beth?

Han

Profa fod Leia'n real. Deffra hi. Ife 'na beth ti'n 'neud? Deffro'r alien?

Alun

Pod. Pod gyfathrebu.

Han

O le?

Alun

Ochr arall y bydysawd.

Han

Bangor?

Alun

Solar system arall ar ochr draw'r bydysawd.

Han

Gad i fi a hi sgwrsio.

Alun

Fydd hi ddim yn siarad â ti.

Han

Pam?

Alun

Achos bod ti'n grac.

Han

Fi ddim.

Alun

Ti'n aggresive iawn ar hyn o bryd.

Han

Nadw.

Alun

Wyt.

Han

Na.

Alun

Wyt.

Han

Fi ddim yn fucking aggresive!



Saib.

Han

Plîs, Alun. Beth sy'n mynd 'mlan?

Alun

Rydw i'n ceisio egluro.

Han

Na. Mewn gwirionedd.

Alun

O'n i'n gwybod na fyddet ti'n credu...

Han

Ti'n creu stwff, Alun. Ma' dy ddychymyg di'n mynd yn wyllt.

Alun

Doeddet ti ddim yn barod.

Han

Barod am beth?

Alun

Am y gwir. Mae'r dynol ryw yn dueddol o fod yn gaeedig –

Han

Dynol ryw? Shut up, Alun.

Alun

Fi ond yn dweud y gwir.

Han

Mae angen help...

Alun

Mae ein byd ni'n fach. Mae yna gymaint sydd eto i'w ddarganfod...

Han

O'n i ddim yn sylweddoli bod ti fel hyn.

Alun

Gymaint allan yn y bydysawd.

Han

Mi ffonia i'r doctor yn y bore. Trefnu therapist neu rywbeth.

Alun

Does dim angen.

Han

Sori...

Alun

Beth?

Han

Fi'n sori.

Alun

Am beth?

Han

Ma' marwolaeth Mam wedi bwrw ti'n galetach nag o'n i'n meddwl. Dim ond nawr fi'n sylweddoli.

Alun

Does gan hyn ddim i wneud â Mam.

Han

Seriously, Alun...

Alun

Paid dod â Mam mewn i hyn.

Han

Alun...

Alun

Ti fel pawb arall. Neb yn deall. Neb yn stopio i ddeall a gwrando. Jyst barnu. Beirniadu. Mae'n hawdd i feirniadu, on'd yw e, Hanna? Yn haws na gorfod gwrando a trio deall a trio helpu. Rwyt ti'n union fel pawb arall. Yn union fel yr idiots eraill sy'n nodio a gwenu a beirniadu a ddim yn becso damn amdana i.



Mae HAN yn mynd i adael.

Alun

Ble wyt ti'n mynd?

Han

Mas.

Alun

I le?

Han

I glirio 'mhen.

Alun

Ble?

Han

Tesco Metros. Ma' ishe lla'th.

Alun

Beth am Leia?

Han

Ffonia i rywun yn y bore.

Alun

Na, nid dyna –



Mae HAN wedi gadael.

Saib.

Alun
(I LEIA.)
Mi ddywedais i.
Doedd hi ddim yn barod.


Saib.

Alun
Wyt ti'n clywed?


Saib.

Alun
Gormod o wybodaeth newydd ar unwaith.
Dyna'n union beth ddychmygais i fyddai'n digwydd.
Does dim angen llaeth.
Esgus i fynd allan.
'Na'i gyd.
Mae semi skimmed milk yn fwy o atyniad na bywyd o blaned arall.
Familiarity.
Dyna'n union ddywedais i, ontefe?

Wyt ti yna?


Saib.

Alun
Mae hi wedi mynd nawr.
Mae hi wedi ffoi.


Saib.

Alun
Wyt ti'n grac?
Wyt ti'n grac gyda fi am dy ddangos di i Han?
Dwed.
Dwed wrtha i os wyt ti.


Saib.

Alun
Gwranda...

Wyt ti yna?


Saib.

Alun
Wyt ti yna, Leia?

Leia
Rydw i yma, Alun.



Tywyllwch.

Cerddoriaeth.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17