g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17

Estron (2018)

Hefin Robinson

Ⓗ 2018 Hefin Robinson
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 15


Sŵn bywyd a'r bydysawd.

Leia

(Llais.) O eni'r blaned pedwar pwynt pump biliwn o flynyddoedd yn ôl, rwyt ti wedi bod yno. O'r dechrau. Rwyt ti yma. Rwyt ti wedi byw'r daith ac wedi goroesi.

Rwyt ti wedi dysgu i siarad. I ymladd. I garu. Galaru.

Rwyt ti wedi newid. Rwyt ti wedi esblygu. Fyddi di'n berson gwahanol ar ôl hwn, ac mae hynny'n iawn. Mae'n naturiol. Rhaid derbyn y newid a symud ymlaen. Derbyn y person yr wyt ti nawr gan gofio'r person oedd yno ddoe. Peidio anghofio. Paid byth ag anghofio. Bydd hynny'n aros gyda ti am oes.

Y profiadau hyn sydd wedi ein llunio dros miloedd ar filoedd ar filiynau ar biliynau o flynyddoedd. Y profiadau hyn fydd yn parhau i dy lunio di yfory...



Y llais yn diflannu'n araf, fel petai'n teithio'n bellach...

Leia

Ac yfory...



...ac yn bellach i ffwrdd...

Leia

Ac ymlaen i'r sêr.



...i fannau pella'r bydysawd.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17