| |
---|
|
GOLYGFA 11 CLADDU CALCHAS, Groeg Cresyd yn galaru, mewn dillad du. Diomedes yn gwylio hi, hithau yn gweld ei bresenoldeb. Gweddi Canol Oesol / Emynau i Apolo (neu cyfuniad o'r ddau). Lludw yn cael ei wasgaru, yr angladd yn dod i ben. Awyrgylch thrist a sombr yn cael ei dorri ar draws gan gerddoriaeth a dawnsio gwledd Brenin Sarpedon yn Troea. GWLEDD BRENIN SARPEDON, Troea Dawns y Gwledd. Mae merch yn canu i Troelus, sy'n gwneud iddo ddychmygu beth mae Cresyd yn gwneud yn y foment hon. Pandar yn trio llawenhau Troelus. Mewn hwyliau isel mae'n gadael y gwledd i fynd at ty Cresyd (mae'r drysau wedi cloi, ffenestri wedi bordio i fyny), mae'n galaru.
|