g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 7

GOLYGFA 7

Rhagddoedydd
Tydi loywbryd arglwyddes, unferch Diana y'th farned,
dy un mab dall asgellog, Syr Cipwid gwrandawed,
chwithau'r Chwiorydd naw sy'n aros yn Helicon
yn Mynydd Parnasus, clywch chwithau f'achwynion.
Fe ddarfu i chwi hyd yma fy nghyfarwyddo cyn belled -
onis cyfarwyddwch fi'r owran, yn bellach nis medraf fyned,
i ddangos a ddigwyddodd i Troelus o'i wasanaeth,
sydd bellach o hyn allan yn myned waethwaeth.
Tithau Mars, rhyfelwr creulon a thad Quireinus,
moes dy help i orffen o Cresyd a Troelus.

Diomedes, ar hyn yn fyned wrth y Troeaid - at Priaf yn eistedd wrth ei senedd - ac yn doedyd fel hyn:

Diomedes
Anrhydeddus Briaf, mae'n dy annerch Agamemnon:
mae'n deisyf amser i gladdu a meddyginiaethu ei ddynion.
Mae hefyd yn fodlon am Antenor ei gyfnewid
am unferch arglwydd Calchas, hon ydyw Cresyd.
Os bodlon i'r heddwch
yr owran dywedwch
ac i'r gyfnewid -
am Antenor rhoi Cresyd.

Hector
Diomedes, mae'n rhyfedd gennyf eich dymuniad,
am Antenor rhoi Cresyd yn gyfnewidiad.
Carcharwr yw Antenor - carcharwr a gewch amdano.
Rhydd yw Cresyd - nid iawn mo'r gyfnewid honno.
Camgymryd eich cynhaeaf -
nid arfer Groeg sydd yma.
Yn nhref Troea nis gwelwyd
erioed werthu merched.

Paris
Peidiwch, Hector, na sefwch yn hyn yn ddibrys,
i wrthod marchog gwrol, cynghorus
yn gyfnewid am wirion forwyn ddiymadferth
a ninnau ag eisiau gwŷr arnom yn ein trafferth.
Priaf, ein brenin reiol,
na fyddwch ansynhwyrol:
ein meddwl ni a'n cyngor
i chwi ddewis Antenor.

Priaf
Ni a glywson, Diomedes, ddeisyfiad Agamemnon;
i gyflawni hyn o'i ewyllys yr ydym yn fodlon,
a thrwy rym y Senedd hon a'i chyngor
yn cyfnewidio â chwi Cresyd am Antenor.
A phan ddygoch yma
Antenor i Droea,
chwithau gewch Cresyd:
hyn yw ein addewid.


Mae Troelus yn cyrraedd ar ddiwedd y cytundeb, Pandar yn ei dal yn ôl a sibrwd yn ei glust beth ddigwyddodd, gadawai pawb ond y ddau ohonynt:

Troelus
O ffortun anffortunus, beth yr owran a'th gyffrôdd?
Beth a wneuthum yn dy erbyn, nac o'm bodd nac o'm anfodd?
Pa fodd y gellid fy siomi rhag pechodrwydd?
Oes dim trugaredd ynot na gonestrwydd?
Os clywi arnat hyn yma -
ddwyn Cresyd oddi arna -
anrhugarog a chreulon
ydyw meddwl dy galon.

Oni ddarfu im dy anrhydeddu hyd yn hyn o'm bywyd
yn fwy na'r holl dduwiau eraill i gyd?
Paham yr wyt yn ymgolledu o'm holl ddifyrrwch?
O Troelus, pa fodd y'th elwir bellach ond tristwch?
Pawb ath eilw di yn fydredd
wedi colli dy anrhydedd;
nes colli it dy fywyd,
nis coll trymder trwm am Gresyd.

O Ffortun, os wyt yn dwyn i mi genfigen
o ran fy mod yn dwyn fy mynd yn llawen,
dwyn einioes y brenin a'm tad a ellyd;
dwyn einioes y mrodyr, am einioes innau hefyd.
Sy'n trwblio yr owran y byd i gyd a'i gwynfan,
am farwolaeth yn nychu,
a marw yn iawn heb fedru.

O Cresyd, pe buaswn i heb dy weled,
Ffortun nis gallase imi mor niwed;
trwy'r golwg hwn i cafodd arna fantais,
yr owran fy nifeddiannu or fwy a gerais.
Ai gorchafiaeth gennyd
nychu gwan am i fywyd?
Gad i ffordd hyn yma
a gwna i mi dy eitha!

Beth a wnaf ym prudd-der a caethiwed?
Ai ymadael a Chresyd a brynais cyn ddruted?

Onid ef, mi wnaf y peth allaf ei wneuthud -
byw'n unig mewn prudd-der a chreulon benyd,
achwyn fy hunan ar fy anffortunus ddigwyddiad,
lle ni ddaw na glaw na haul na lleuad.
Fy niwedd a fydd amlwg
fel Edipws, mewn tywyllwch,
dwyn prydd-der yn fy mywyd
a mawr o'r diwedd mewn adfyd.

O'r trymion lygaid, erioed bu eich difyrrwch
i edrych ar Cresyd, ei glendid a'i hawddgarwch.
Beth a wnewch, bod yn anghysurus i minnau,
ai sefyll am ddim i ollwng heilltion ddagrau?
Ewch ymaith, trymion lygaid,
nid oes obaith i chwi amnaid,
nid oes mo'r rhinwedd arnoch,
eich rhinwedd a gollasoch.

O Cresyd, Cresyd, o arglwyddes anrhydeddus,
pwy im a rydd unwaith un gair cysurus?
Neb nid oes pan ddarffo i'm calon dorri,
yn lle'r corff, gad i'm ysbryd dy wasanaethu.
I'm corff anrhugarog y buost,
anrhugaredd mawr a wnaethost.
O hyn allan, Cresyd,
bydd drugarog i'm ysbryd.

Pandar
Oes o fewn y byd un dyn ar a aned
a welodd i'w oes ryfeddod cyn ddieithred?
Pwy all ochel y pethau a fynn fod?
Wel, dyma fel y mae'r byd yn dyfod.
Gwae a gwae i'r undyn
a roddo ei goel mewn ffortun;
yr owran fe welir
y drwg a'r da a gyrchir.

Troelus
Chwychwi gariadau, sy'n aros ar dop yr olwyn beraidd,
duw a drefno i chwi eich cariadu'n dduraidd,
fel y gallo bod eich bywyd mewn hir ddifyrrwch;
Ar fy medd pen y deloch, amdanafi meddyliwch,
a doedwch: 'yn hwn fedd
mae'n cydymaith ni'n gorwedd;
i garu bu ei ddigwyddiad,
er nas rhyglyddodd cariad.'

Pandar
Dywed im, Troelus, paham rwyt cyn ynfyted
ag ymroi dy hunan i drymder a chaethiwed?
Ti a gefaist dy ewyllys arni yn gwbwl;
fe a ddylai hyn esmwythau dy feddwl.

Hefyd, hyn a wyddost yn dda ddigon,
fod o fewn y dref ymaf arglwyddesau gwychion,
a chyn laned mewn pryd a glendid
ac y gallaf merch gyrheuddud.
Mae rhai o'r rhain cyn llawened
am gael odd yma ei gwared,
os colli hon yn angall,
di a ynilli un arall.

Troelus
Och i'r henddyn anheilwng cyn ei amser wedi ei eni;
och i'r hen Galcas, pa beth a ddarfod i ti?
Yr owran yn Roegwr, Torean eriod y'th gwelwyd.
O Calchas, mewn amser drwg i mi y'th aned.
Gwae fi na chawn afael
arnat, Calchas, mewn cornel;
mi a wnawn i ti na chyrchid
ym mysg Groegwyr mo Cresyd.

Pandar
Ni ad Duw bod dyn bob amser yn llawenychu
mewn un peth ac mewn dim ond hynny.
Un a fedr ganu, arall dawnsio a chwarae,
mae hon yn lan, mae'r llall yn dda ei chyneddfe.
Troelus, na feddwl
fod mewn un dyn y cwbwl;
pob un a fyddo a rhinwedd
a ddyle gael anrhydedd.

Beth a ddywed Zansis, ddysgedig ei ymddiddan?
Fod cariad newydd yn gwthio'r hen allan.
Achos newydd a fynn gyfraith newydd i'w farnu;
y tân yma mewn amser mae'n arferol o ddiffoddi.
Gan nad yw ond digwyddiad
o lawenydd ddyfodiad,
rhyw achosion a'i dwg.
Allan o gof, allan o olwg.

Troelus
Cynt y caiff marwolaeth allan o'm calon wthio
y fywoliaeth a fu cyd mewn trymder yn trigo
nag y caiff Cresyd â'm henaid byth ymadael.
Gyda Proserpina y byddwn i mewn gafael,
achwyn y byddaf yno
trwy ochain mawr ac wylo,
y modd y darfu i minne
glymu fy hunan yn yr unlle.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19