g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 4

GOLYGFA 4

Rhagddoedydd
Wrth rwyfo ar hyd y tonnau môr peryglus,
O gwynt! Mae'r tymyr yn esmwythau'n dynerus;
y llong o'm cyfarwyddyd sydd boenus yn nofio,
wrth hwylbren anobaith rwy'n deall ei bod yn ysmudo.
Fel y mae'r calendr yn nechreuad y llyfrau,
felly mae gobaith calandr i Troelus ar ddechrau.
O arglwyddes Clio, dy brysur help yr owran,
i'm tafod dod rwydd-deb i orffen hyn allan.
Myfi fy hun a'm esgusodaf wrth gariad-ddyn aniddig
nad fy nyfais i mo hyn ond gwaith gŵr dysgedig,
a minnau, er mwyn yr ewyllys da i chi a ddygais,
a'i trois i'r iaith Gymraeg yn orau ag y medrais.
Am hyn nid wyf yn disgwyl na diolch nac anfodd,
ond eich ewyllys da, a hynny o'ch wirfodd.
Na fernwch arnaf os wyf ddiffygiol o eiriau,
canlyn nesaf y gallwyf y dysgedig rwyf innau.
Ac ar fy amcan yr ydwyf o gariad yn traethu;
mae'n anodd i ŵr dall o liwiau allu barnu.
Os oes gennych rhyfeddod wrth glywed hyn o hanes,
pa fodd i ennillodd Troelus gariad ei arglwyddes,
neu gymryd rhyfeddod wrth eu foddion yn caru,
nid oes gennyf ddim rhyfeddod wrtho am hynny.
Odid cael tri o fewn y byd o'r un deunydd,
yn gwneuthud ac yn dywedyd un ffunud â'i gilydd;
rhai mewn prennau a gerfia, eraill mewn cerrig,
y gwirionedd a ganlynaf i. Atolwg, byddwch ddiddig.

Pandar
Fy arglwyddes, Duw fo'n geidwad
ar eich llyfr a'ch holl gwmpeini.

Cresyd
Croeso, fy ewythr; amser da yw i'ch dyfodiad.
A ddowch chwi yn nes, i'r goleuni,
i ddywedyd chwedlau newydd i mi?
Newyddion a gaf glywed;
anfynwch rwy'n eich gweled.

Pandar
Fy nith, gwell a allai ddigwyddo
os Duw a roddai gennad.
Gwneuthum ar fai eich trwblio
oddi wrth eich llyfr a'ch bwriad.
Ydy e'n sôn ddim am gariad?

Cresyd
Mae'n ysgrifennu am ryfel Thebes:
nid yw'n sôn am eich meistres.
Mae yn ysgrifennu'n eglur
am ddigwyddiad yr holl ryfel
ac am esgob yn dostur.
Amffiorac aeth yn ddigrel
i uffern gyda'r cythrel,
a'r modd bu farw Laiws
trwy waith ei fab Edipws.

Mae hyn yn ddifyrrwch
i fwrw amser heibio
ac i esmwythau tosturwch,
lle mae fel arfer yn gwreiddio.
Ni a ollyngwn hyn mewn ango.
Pa newydd am y Groegwyr?
Ydy Hector yn brysur?

Pandar
Mae'n iach: i Dduw y diolchaf,
ond bwrio peth o'i wyneb.
Mae Troelus, ei frawd ieuaf
ail i Hector mewn gwroldeb,
neu mewn rhinwedd synhwyroldeb;
a'r dyn glanaf ar ei galon
yw hwn o'r holl feibion.

Cresyd
Y mae'n dda gennyf glywed
eu bod yn wychion ill deuwedd;
yn wir mae'n anodd gweled
i fab brenin gymaint rhinwedd
a bod mor foneddigaidd.
Rhinweddol yw naturiaeth
lle bo uchel enedigaeth.

I Hector mae anrhydedd -

Pandar
Am Hector ni rhaid ei grybwyll,
na siarad gormod geiriau.
Ef yw unig farchog didwyll
mewn llawer mwy o rinweddau
na'i holl gryfdwr mewn arfau.
Mi a wn y gallaf ddywedyd
am Troelus yr un ffunud.
Torelus ydi … Troelus!

Cresyd
I Hector mae anrhydedd,
I Troelus mae cariad,
rhai yn sôn mewn gwirionedd
ei fod bob dydd dros ei wlad
yn ymladd yn wastad.
Mae'n dda gennyf glywed
eu canmoliaeth cyn fynyched.

Pandar
Y gwroldeb ddoe a wnaeth Troelus!
Gwae fi nas buasech yn gweled.
Nid oes o'r help lle cyrraedd,
a'r Groegwyr cyn amled
yn ffoi rhag caffael niwed
a'r cri ym mhen gwrageddos:
"Y mae Troelus yn agos!"

Rhai'n ffoi yma, rhai'n ffoi acw,
y Groegwyr i gyd yn waedlyd
a rhai eraill wedi marw,
a rhai yn syn, heb fedryd
na ffoi ymhell na dywedyd;
a'r diwrnod y dwg arfau,
nis gwelir ond eu sodlau.

Mae'n garedicaf ar a aned
lle y byddo ganddo duedd.
Ond madws i mi fyned
i fendio ar eich annedd.
Oes a fynnwch, o'r diwedd?

Cresyd
Ni chewch yr owran mo'r gennad:
mae i mi chwaneg siarad.

Pandar
Gwyliwch, gan eich bod yn atal,
rhag i mi eich trwblio wrth ddywedyd pethau gwamal.
Mi allwn i eich digio
a'ch gyrru chwi mewn cyffro.

Cresyd
Os bydd y meddwl o'r gorau,
diniwed a fydd geiriau.
Atolwg, gadewch glywed
beth yw meddwl eich siarad.

Pandar
Fy ngeiriau sydd ddiniwed
a'm meddwl sydd heb fwriad:
Beth pe soniwn am gariad?
Ond gwaetha rhoddi ateb
rhag cafael rhyw wrthwyneb.

Cresyd
Yr un a ofno ddoedyd,
ofned gael ei geisio;
yr un a wyr ei glefyd,
o'i glefyd mae'n haws ei helpio.

Pandar
Fy nith, myn y ddysgedig Juno,
ac myn Minerfa y dduwies,
myn Jubiter, a wnaeth i'r daran ruo,
myn Fenws fwynaidd gynnes,
os gwrandewch chi ar fy neges,
Nes dowed ange ym erbyn,
mi a fydda tan ych gorchymyn.

Cresyd
Mi wrandawaf ar eich geiriau.
Bellach cerddwch rhagoch,
gwyliwch siarad rhyw bethau
yn erbyn hyn a wyddoch.
Fydd merch ac ysgymun
os gwneir gormod yn ei herbyn.

Pandar
Fy nith, mae Troelus yn annwyl fab y brenin;
atoch chwi ganwaith fe arches ei orchymyn;
i chwi mae'n dwyn y fath ewyllys caredig,
onis caiff eich trugaredd nid yw ond gŵr colledig.
Y gwir sydd rhaid ei ddywedyd
am ei drymder a'i benyd:
nid oes gen i mo'r rhyfeddod,
mae'n eich caru chwi yn ormod.

Os gadewch i hwn farw, fy hoedl fi a derfydd;
ar fy ngwir wirionedd ni ddoedai i chwi mo celwydd
os ateb trugarog nis rhoddwch yma,
ar y cleddyf blaenllym fy einioes a ddiwedda.
Os o'n achos yn deuwedd
yn hoedl a ddiwedd,
yr ydych yn helaeth
yn euog o'm marwolaeth.

Ym drud annwyl gydymaith onis byddwch trugarog,
hwn yw'r cywir ddyn a'r glanrinweddol farchog;
a hwn nid yw'n erfyn ond rhowiogaidd olwg
i droi heibio marfwolaeth oddi wrth wirion diddrwg.
Beth a ddoedir amdanoch
ymhob man ar y cerddoch?
"Can och yr glendid
a ddwc einioes a bywyd."

Dalltwch nad ydwyf arnoch yn dymuno
mewn dim anonestrwydd ych rhwymo chwi iddo,
ond bod mor drugarog ar ych gair a'ch meddwl
ac achub ei einioes, dyna'r cwbwl.
Trwy fod i hoedel
a'i iechyd mewn gafael,
mae yn deg ych anrheg;
nis dymunwn i ychwaneg.

Cresyd
O fy ewythr, yr oeddwn erioed yn coelio
pes buaswn trwy fy anap wedi digwyddo
i garu Troelus, Achilles, neu Hector
na fuasech i unig drugarog o'ch cyngor,
eithr fy rhegi
trwy gwbwl wrthwynebu.
Ni wyddis i bwy y coelir
yn y byd anghywir.


Troelus yn dyfod arnynt.

Pandar
Edrych pwy sydd yma i'th weled —
nid y neb sydd achos o'th hir gaethiwed.
Mae Troelus mewn gofal a thithau mewn meddylie:
Duw! Na baech eich deuwedd i gwyno yn yr unlle.

Troelus
O Pandar, fy anwylyd,
na saf rhyngof a Cresyd,
ar liniau yn dyfod
i wneuthur fy ufudd-dod.

Cresyd
Da yw'r byd os anwylfab brenin Asia
aiff ar ei liniau i ferch amddifad o Droea.

Troelus
Yr anwylferch! O Cresyd drugarorg!
Trugaredd, trugaredd i wylofus farchog!

Cresyd
A fo drugarog unwaith
a gaiff drugaredd eilwaith.
A drigarha wrth weiniaid,
trugaredd Duw i'w enaid!

Troelus
Y peth a'ch trefnodd yma i'm cysuro,
yr un peth a ganiata i chwi fy ngwrando
a deall y pethau, hir yn guddiedig,
a rhoddi i mi unwaith olwg caredig
a bod ohonoch fodlon
i wir ewyllys calon
er gofal, er adfyd,
i'ch gwasanaeth fy nghymryd.

Fel fy nghyfiawn arglwyddes a'm beunydd gyrchfa,
trwy gwbwl o'm synnwyr a'm ufudd-dod i'r eithaf,
a chaffael cyfiawnder y modd y rhyglydda,
y da am y gorau, y drwg am y gwaethaf,
a gwneuthur o'ch mawredd
un cymaint trugaredd,
a thrwy fy nymuniad
fy ngorchymyn yn wastad.

A minnau i fod i chwi yn ostyngedig ddidifar
i'ch gwasanaethu beunydd fel cyfrinachwr diodefgar,
bob dydd bigilydd yn chwanegu,
fy mhoen a'm wyllys yn ych gwasanaethu.
Er fy mod yn gwybod
y dygaf hir nychod,
gorchmyna yngwasanaeth
i'ch unig feistrolaeth.

Pandar
Nid yw hyn Cresyd, yn anghyfreithol ddymuniad,
na chwaith anrhesymol, eich gwasanaethu trwy gariad.

Cresyd
O Pandar. Mae eto i'm cof fynediad Calchas,
mae eto i'm cof pwy amddiffynnodd fy urddas.
Oni bai Hector a'i rywiogrwydd,
merch a fuaswn i wedi tramgwydd.
Gwasanaeth neb pe'i mynnwn,
ei wasanaethu ef a ddylwn,
trwy gadw ohono fy urddas.
Croeso wrth ei gymdeithas.

Dymuno yr wyf arnoch, er mwyn y gwir arglwydd,
ac er anrhydedd y gwirionedd a boneddideiddrwydd,
fod hyn yn tyfu heb ddichelgar feddylie,
a'ch wyllys chwi i mi, fel y mae fy wyllys i, i chwithe.
Gwna gwbwl o'm gallu
beunydd ich llawenychu,
trwy na bo arwydd
o ddim anonestrwydd.

Er hyn i gyd rwy'n eich rhybuddio chwi, Troelus,
er eich bod yn anwylfab i frenin Priamus,
na feddyliwch allu fod arnaf fi'n rheolwr
mewn cariad, yn amgenach nag a berthyn i wasanaethwr.
Hawdd yw gennym ddigio
o gellweirir ddim a'n briwo.
Eich taledigaeth chwi a fydd
fel y byddo eich rhyglydd.

O hyn allan, fy nghywir farchog dedwydd,
trowch heibio drymder, cofleidiwch lawenydd;
mewn hyn o obaith, eich hunan ymsicrhewch,
i gwna fi yngore ar droi hyn i ddifyrrwch.
Am bob trymder a chytsydd,
e daw bellach lawenydd.
Croeso wrth wamal naturiaeth
mewn gwasnaethwr i'm gwasanaeth.

Pandar
Y moliannus Dduwiau, mewn uchelder llawenyddwch!

Fy nygosa arglwydd, a'm anwyl frawd cyfiawn,
fo wyr duw, a chwithe, faint a ddygem o ofalon
pan welais chwchwi yn hir nychu mewn cariad,
a thrymder gofalon yn chwanegu'n wastad.
Rhois fy mryd yn gwbwl
am esmwythau ych meddwl,
a throi ych tristwch
i hyn o ddifyrrwch.

Yr anrhydeddus bobloedd ar y ddaear, gwnewch ddifyrwch!

Fy nghywir dduw cyfiawn, yn dyst yr wyf yn dy alw,
nas gwneuthum i hyn er mwyn chwant na elw,
ond yn unig er esmwythau dy brudd-der ath gledi,
achos yr hwn bethau bu dy einioes ar golli.
Er mwyn Duw, yr owran,
cadw ei henw yn ddiogan;
synhwyrol yw dy gymdeithas,
a chadw yn lan ei hurddas.

Da i gwyddost fod i henw da hi mor barchedig
y mysg y bobl, megis morwyn fendigedig;
ni aned un dyn a wyr i hamau
ne wyr ar hon unwaith feiau.
Can och ym a erchais
fy anwyl nith a dwyllais,
yr ewyrth yw anwylyd
yn gwneuthur twyll a bradfyd!

Meddwl, Troelus, pa ddrygau fu ar gerdded
am wneuthur bost o'r cyffelyb weithred;
a pha gamddigwyddiad sydd beunydd yn digwyddo,
o ddydd i ddydd, am y weithred honno.
Am hyn i doeth yn dduwiol
y ddihareb ddwys synwhyrol:
"Cynta rhinwedd ydiw gwybod,
yr ail yw dal y tafod."

O yr tafod! Rhy fynych yr wyt yn rhy helaeth;
pa sawl gwaith y gwnaethost i lawer arglwyddes loywbleth
ddoedyd, "gwae fy fi o'r diwrnod trist im ganed!"?
Ac i lawer morwyn ddwyn trymder trwch oi thynged?
Ar cwbl yn ddychymig
o waith calon wenwynig;
ni thal bostiwr ddim i garu,
ond y doeth a fedyr gelu.

Bellach, fy anwyl frawd, ni a syrthiwn ir achosion,
a chymer yth helpu a ddoedais o gynghorion;
cadw hyn yn ddirgel, bydd lawen dy galon;
dros fy holl ddyddiau mi a fydda it yn ffydlon.
Gobeithia di yr hyn gore —
ar obaith dda mae gwyrthie;
y pethau hyn sydd i ddowad
fel y mae dy ddymuniad.

Troelus
Myn fy nghywir Dduw cyfiawn, yr wyf i yn tyngu,
hwn fel y mynn yr hollfyd sy'n llyfodraethu,
os celwydd y ddoeda, Achilles a'i weiw ffon,
a bod ym fywyd tragwyddol, a hyllt fy nghalon,
Os byth i'r addefa
y dirgel chwedlau yma,
i un dyn bydol
ar coweth daearol.

Cresyd
O Dduw! Pa beth yw'r glendid bydol?
Hwn mae dysg ar gam yn ei alw yn beth dedwddol?
Cymysg yw a llawer o chwerwder beunydd,
yn llawn ofer anwadalaidd lawenydd.
Os oes lawenydd,
pwy heddiw a wyr i ddeunydd?
Oes a wyr yn wastadol
oddi wrth lawenydd bydol?

O y frau olwyn i lawenychu dyn, yn anwadol,
i bara ddyn bynnag i bych di yn arddal,
naill ai fo a wyr oddi wrth dy lawenydd darfodedig,
ai nis gwyr ddim oddi wrth dy gylenic.
Os gwyr, i mae yn gelfydd;
mor anwadal yw'r llawenydd
sydd yn tyfu oi ysturiaeth
o dywyllwch anywbodaeth!

O gwyddys fod llawenydd a thramgwyddiad diffygiol,
y modd y mae yr holl bethau daerol,
am bob gwaith y bydd yn ofnus yn ei feddwl i golli,
dros hynny o amser y bydd sicr o'i feddiannu.
Nis gall undyn wneuthur deunydd
ar dwyllodrus lawenydd;
wrth ei gadw, mae'n ofalus;
wrth ei golli, mae'n beryglus.

Troelus
O Mercuriws, er mwyn cariad ar ddyn dirion,
achos hon bu Palas wrth Aglawros yn ddicllon,
moes i'm help Diana - arnat rwy'n dymuno
nad i hyn o siwrnai yn ofer fyned heibio.
Chwithau'r tair chwiorydd hefyd
sydd yn tynnu edau'r bywyd,
moeswch i mi eich help yn amser,
na adwch hyn o swirnai'n ofer.

Cresyd
Beth a all yr Hedyd truan i wneuthur
pan fo yng ngrafanc y gwalchaidd eryr?
Beth all morwyn wan ond ochain
pan fo cryfder mawr yn harwain?
Cyn sicred ac ym ganed,
mae'n rhaid ymroi i dynged;
a'th dynged titheu, Cresyd,
ydiw dwyn y gofalfyd.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19