g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 3

GOLYGFA 3

Priaf
Fy meibion, fy arglwyddi
a'm hyderus gwmpeini,
yn eich cyngor a'ch gweithred
mae fy holl ymddiried.
Y mae trigain brenin
yn barod yn ein herbyn,
bob awr yn disgwyl llosgi
ein holl wledydd a'n trefi,
a difetha o'r diwedd
nyni, ein plant a'n gwragedd.
A'r achos oll am ddewis
o Helen chwychwi Paris.

Eich cyngor, pa un orau,
ai rhoddi Helen adre
ac ymadael â thristwch
a byw mewn diofalwch,
ai trwy drawster ei dala
a gofyn byth y gwaetha,
a byw fel y gellir
er bygythion y Groegwyr?
Atolwg i chwi ddwedyd
beth a fynnwch chwi ei wneuthyd.

Yn gyntaf doedwch, Hector;
beth yw eich meddwl a'ch cyngor?
Ai rhyfel ai heddwch?

Hector
Yr wyf, fy anrhydeddus frenin,
yn ufudd i'ch gorchymyn.
Nid yw reswm i'r Groegwyr,
trwy i dichell a'i synwyr,
a'i geiriau bugyl duon,
gael o honyn a fynon.
Nid ydyn ond dieithred;
mae'n ddigon hawdd i gwaredd.
Fy meddwl i a'm cyngor amcan —
nis can ond a enillan.

Antenor
Fy naturiol dad a'm brenin,
mae hyn i gyd yn erbyn
y pethau a ddylem ni eu gwneuthyd
er mwyn achub ein bywyd
a dirywstro ein dynion
a byw y modd y buom
a rhoddi Helen adre
i'r colledwr a'i pia —
er cael ohonom ein heddwch,
ein esmwythdra a'n diofalwch,
a gollwng y dieithriaid
'rhyd yr un ffordd i fyned.

Paris
Fy annwyl frenin cyfiawn,
fy mrodyr a'n cymdeithion,
trwy eich cyngor ac ewyllys
mi a wneuthum fy newis;
a hynny faentumiaf
er y Groegwyr a'u gwaethaf.

Antenor
Meddyliwch chwi, o'ch synnwyr,
pes gorchfygem ni'r Groegwyr
nid oes dim i'w gaffael
ond Helen yn ein gafael;
ac nis gellid mo hynny
heb golli rhai o bobtu.

Paris
Mae'n esmwyth iddynt siarad
yn eu gwychder a'u dillad;
aiff dros gôf y geiriau mawrion
cyn gwisgo eu harfau gwynion;
eu gwychder oll a'u crefydd
sydd ar tafod-leferydd.

Antenor
Dyna ennill gorchestol!
Cael argwlyddes annaturiol
a werthai ei gŵr priod
er mwyn dilyn pechod;
a ganlynai dieithriaid
a gwrthod y fan y'i ganed!
Ei meddwl yw oferedd,
ei bryd sy i gyd ar faswedd.
Nis gall na ddaw gwrthwyneb
o hir ddilyn godineb.
Fy meddwl a'm cyngor innau
yw rhoddi i bawb a ddylai.

Troelus, fy annwyl frawd,
na amddifynwch mo bechawd.

Troelus
Fy ngrasol dad, fy mrenin uchel,
fy nghydymdeithion rhyfel,
hebryngwch fy mrawd Antenor
at ei gydymaith Meneläws;
mae fe'n siarad yn debyg,
a'i ddull fel gŵr bonheddig
a fyddai wedi ei elïo
'rhyd cledrau ei ddwylo.
Mae'r eli o gymhendod
yn sawrio ar ei dafod.
Nis gwêl ef mo'r niwed
er dal mewn hir gaethiwed
Fy modryb Hesion
sydd gystal merch â hithe.
Moeswch wneuthur ein meddwl,
na choeliwn iddo'n gwbwl,
sy'n dewinio y gwaetha
dros oes a chenedl Troea.
Glynwn yn ein gafael:
croeso wrth ffrotun rhyfel!

Priaf
Fy ymddiffynwyr o'm blinder,
trwy eich synnwyr a'ch gwychder,
i'm henaint llawenydd
trwy eich moliant tragywydd,
fy nghytsain cywiriad
a'm hyderus ymddiriaid,
eich geiriau cytson
a ddefrôdd fy nghalon
trwy adrodd fy modlondeb
i ufuddhau i'ch cytundeb.
A chymerwch feddyliau
Antenor i'r gorau.

Efo yn siwr a aned
tan rhyw fanach blaned
fel nad yw cyn gryfed
yn ei feddwl a'i weithred
ag ydyw Hector a Troelus.
Am y cam a wnaethon
â'm chwaer Hesion,
Helen a gadwa'
o fewn caerau Troea.

Sinon
O rhyglydd bodd i'ch gras,
fe ffôdd yr arglwydd Calchas
yn ddisymwth neithiwr
i gymdeithas y Groegwyr!

Paris
Calchas? Y traetur!

Antenor
Fy arglwyddi, rhaid gwylied
rhag eich twyllo trwy ymddiried.

Sinon
Un ferch ac anwylyd
i Calchas ydyw Cresyd.
Nid yw yn cymryd ati
na'i cholled na'i ddrygioni.
Cyffelybrwydd y gwyddai
oddiwrth ei fynediad yntau.

Priaf
Dos ymaith yn brysur;
cyrch ferch y traetur
i gael cosbedigaeth
am gelu traeturiaeth.


Sinon yn ymadael. Priaf yn troi at ei feibion:

Priaf
Oni edrychir, fy meibion,
i'r pethau hyn yn greulon,
a'r tân parod a enynnodd
mewn amser i'w ddiffodd,
onide fe geir gweled
ormod traeturiaid.
Rhaid gwneuthur yn helaeth
am hyn gosbedigaeth,
onide rwyf yn ofni
y bydd gormod drygioni.
a Antenor a welir
yn dywedyd y caswir.


Cresyd yn cyrraedd.

Cresyd
Fy ngrasusol arglwyddi,
gyrrasoch i'm cyrchu
mewn digofaint a dicllondeb;
rwy'n ofni gwrthwyneb.

Priaf
Ati ti yw unferch Calchas,
yr hen siwrl anghyweithas,
a werthai ei holl fraint
yn niwedd ei henaint
er bod yn dwyllodrus
i'w wlad anrhydeddus
a mynd mewn caethiwed
ym mysg dieithriaid?

Dy gydwybod a'th arfer
sy'n cyhuddo dy ffalster
ac euog wyt ti
o'i gwbwl ddrygioni.

Am ei fawrddrwg a'i draha
ei genedl a ddistrywia.
Arnat ti yn gyntaf,
Cresyd y dechreuaf.
Dy waed, dy einioes,
dy benyd, dy fawrloes,
a'th farwolaeth greulon
a esmwytha fy nghalon.
Beth a ddywedwch, fy arglwyddi;
pa farwolaeth a rown arni?

Paris
I'w llosgi hebryngwch
am ei ffalster a'i diffeithwch,
a hynny yw marwolaeth.
Cyflawnwch y gyfraith.

Antenor
Perwch i'w thaflu
i bydew dyfndu,
Rhy lân yw y llosgi
am y fath ddrygioni.

Troelus
I'r gwirion na wnewch ddialedd
dros yr euog a'i gamwedd,
ac na fyddwch rhy greulon;
fe ddichon hon fod yn wirion.

Cresyd
Fy arglwyddi trugarog,
na fyddwch chwi rhy chwannog
i golli gwaed gwirionddall
dros ddrwg beiau arall.
Os gwnaeth fy nhad Calchas i chwi benyd,
diflais ydoedd Cresyd;
efe mewn euog ateb
a minnau mewn gwiriondeb;
y tad yn gwneuthud camwedd
a'r ferch yn dwyn y dialedd —
Dyna gyfraith rhy atgas,
ymhell yn erbyn eich urddas.

Pes gwnaethai fi'n gydnabyddus
â'i ddichell frad twyllodrus,
nis buaswn i mewn gafael
yn aros ym mysg y rhyfel,
na rhyfelwyr yn tramwy
cyn fynyched lle y byddwy.

Ef a wyddai, fy arglwyddi,
nas gallai ymddiried i mi,
a hynny a barodd iddo
mor ddisymwth ymado.

Gwae fi na byddai f'einioes
yn iawn abl i ddigywio
yr uthr weithred honno
ac na liwid, er aros,
i un o'm cenedl mo'r achos,
fy arglwyddi, ni ddymunwn
i chwi yr awron mo'm pardwn.


Troelws yn dywedyd yn isel yng nghlust ei frawd Hector.

Troelus
Hector, fy annwyl frawd,
ymddiffynnwr gwiriondlawd,
Erfyn yr wy ich mawredd
ymddiffyn gwirionedd.
Ymddiffynwch i Gresyd,
i heinioed, a'i bywyd.

Hector
Elusen i i chwi wrando
ar riddfanys wylo,
a thrugarhau wrth achwyn
y wirionaidd forwyn.
Pe base yn gydnabyddys
ai fynediad twyllodrys,
dyledys naturiol
gadw yn gyfrinachol
y pethau drwy fawrloes
a gelle iw thad i einioes.

Os byddir mor gerulon a'i lladd,
beth a ddywaid y gelynion?
"Lle bo'r fath greulondeb,
na gall fod gwroldeb."

Troelus
Rho fy einioes drosti
o bu yn hon un drygioni,
nac erioed yn arfer
â thwyll neu ffalster.
Yr ydym yn atolwg i chwi
roi maddeuant iddi,
ac o'r awr hon allan,
yr wyf i, Troelus, fy hunan
yn caethiwo fy rhyddid
dros gywirdeb Cresyd.

Priaf
Eich dymuniad ni gwrthneba'
dros golli tir yr Asia.
Cewch, Cresyd, yn wirion
a diolchwch i'm meibion.
Awn i mewn i fyfyr
beth sydd chwaneg i'w wneuthur.


Priam, Paris and Menelews yn gadael.

Hector
I'ch cartref hwnt cerddwch,
trymder mawr na ddygwch.
Cymrwch ych rhyddid
yn llawen, a'ch bywyd;
Ac am gymaint ac a alla,
rhowch ych hyder arna.


Troelus yn troi at Sinon, yr hwn a'i chyhuddasai hi, ac yn dywedyd wrtho yn isel:

Troelus
Tydi, fudredd celwyddog,
i bob achwyn yn chwannog,
dy rodresus ddyfeisiau
ydyw arwain celwyddau
a bwrw beiau ar wirion
trwy faleisus ddychmygion
ac esgusodi camwedd
ac anafus fuchedd
er mwyn ysgwyd dy gynffon
ar bob math ar ddynion.
Oni bai fod yn bresennol
fy ngwir dad naturiol,
myn yr holl Dduwiau
rhown drwyddot fy nghleddau!


Gadawa pawb ond Troelus:

Troelus
Onid oes gariad, o Dduw, pa beth sy'm trwblio,
os oes gariad, pa fodd, pa sut sydd arno?
Os da cariad, o ble mae'n dyfod i'm blino?
Os drwg cariad, mae'n rhyfedd iawn ei drino!
Rhwng poen, cyffro a thynged,
er maint yr wyf yn ei yfed,
mwyfwy im yw'r syched.

Os wŷf â thi gytûn mewn cariad
mae beiau mawr am achwyn arnad.
Mewn llong foel rwyf yn amddifad,
rhwng dau wynt, gwrthwyneb dreiglad.
O Dduw, pa fath ryfeddod
sydd mor ddisymwth i'm gorfod?
Rhag gwres mewn oerfel dwyn nychdod,
rhag oerfel mewn gwres rwy'n darfod.

O'r uchelfraint arglwyddes cariad,
fy nhrafferthus ysbryd derbyn atat,
neu ddod im rinwedd ddianynad
i ufuddhau meistres ddigwyddiad.
Ei gwas a'i gwasanaethwr
a'i dirgel ewyllysiwr,
nes fy rhoddi mewn amdo
nis caiff wybod oddi wrtho.

O Troelus, druan tuchanllyd,
mae tynged it i ddwyn penyd.
Pes gwyddai dy feistres dy ofid
nid oes fodd nas trugarhau wrthyd.
Mal rhew yw'r ddyn feindlos
ar eglur leuad gaeafnos;
tithau yw'r eira oerfelog
yn toddi wrth eirias dân gwresog.

I borth marfwolaeth, Duw, na bawn wedi'n rheiglo!
Prudd-der, o'r diwedd, a'm dwc i yno!


Pandar yn ymddangos.

Pandar
Pa anghytûn ddisymwth benyd
a drwm ddigwyddodd i'th fywyd?

Troelus
Oddi yma y byddwn gysurus i ymado
ar blinder trallodrys beunydd sy'm cystyddo.

Pandar
O fy arglwydd, pa dynged
a ddigwyddodd it ddrwg weithred?
A wnaeth y Groegiaid cyn gynted
dy liw a'th bryd cyn waeled?

Troelus
Pa rhyw beth a'th trefnodd di i glywed
fy meddwl trwblus a'm anoddefus gaethiwed,
yr hyn mae pawb yn orthrwm ganddynt ei weled?
Atolwg it oddi yma fyned!

Pandar
Dy drymion eiriau a'm gwnaeth i'n drymach,
dy afiachus ochneidiau a'm gwnaeth yn afiach,
dy lesgrwydd a'th wendid a'm gwnaeth i'n llesgach.

Troelus
Erfyn i ti fyned ymaith!

Pandar
Er y cariad fy rhyngom dywed im dy gyfrinach.
Dyledus i'th anwylgar
gael clywed dy garchar.
Oni adwaenost dy gymar?
Myfi ydyw - Pandar.

Troelus
Os wyt yn meddwl mai ofn gwŷr ac arfau
sydd ddychryn i'm corff a'm trwblus feddyliau,
mae rhywbeth arall sydd drymach i'm gruddiau
nac ofni'r Groegiaid a'u mawrion eiriau.
A'r achos hwn sydd farwol
trwy drymder naturiol;
na ddod arnaf fai anianol
am gelu hyn; mae'n weddol.

Pandar
Onis gallaf it help na chysur,
byddaf rannog o'th boen a'th ddolur.
Anghenrhaid i gymdeithion wneuthur
y naill i'r llall yr hyn a ellir.
Cyn fodloned i ddwyn cystudd
ag a fyddwn i lawenydd;
ac am hynny na rydd arwydd
im i dybied angharedigrwydd.

Troelus
Cariad, po fwya rhagddo amddiffynnwy',
bydd fy mhoen a'm penyd fwyfwy,
heb obaith ond trymder mawrglwy
a marwolaeth drom lle y byddwy.

Pandar
A gedwaist di yn cyd mor guddiedig
oddi wrth dy annwyl gymdymaith caredig?
Gellit ddwyn dolur gorthrwm briwedig,
a minnau yn gallu it help am feddyg.
Nid ochain ac wylo
fel brenhines Niobo.
Y mae dagrau honno
i'w gweled eto.

Troelus
Y sôn am ddagrau Niobe'r frenhines;
Nis gellwch im les, na help am fesitres.


Troelus yn gafael yn ei gleddyf

Pandar
O Dduw, o ble gall hyn ddigwyddo?

Troelus
Mae'ch geiriau mawrion, erchyll,
yn chwedlau y'm cewyll;
nid yw hon wamal na thrythyll,
nid oes fodd i allu ei hennill.

Pandar
Gwranda, Troelus, fy anwylyd,
er nad wyf y gorau'n doedyd,
gwelais gyngor yr ynfyd
yn helpu'r doeth mewn adfyd.
Gwelais gwympio wrth fyned
y neb a fydde'n gweled;
a'r dall i'r un fan yn cerdded
heb gael na chwymp na niwed.


Troelus yn bygwth lladd ei hunan.

Troelus
Gadewch hen chwedl i orwedd i'ch mynwes,
cynhyrchol farwolaeth i mi sydd gynnes.

Pandar
Beth o'th farwolaeth a feddylir
os achosion, hon nis gwyddir?
Os byw yw hon hi all dy helpio,
neu mae anras mawr i'th dwyllo.

Ti a elli ymgwyno, wylo a thuchan
heb un dyn yn gwybod oddi wrth dy riddfan,
a cholli'r peth, mae hyn yn drwstan,
a allai it ei gael pes gwneuthit dy gwynfan.
Mae llawer yn caru,
lawer blwyddyn o'r unty,
heb gael o fewn hynny
unwaith ymgusanu.

A fyn di i'r rhain am hyn o ddigwyddiad
ymroi eu hun mewn modd anynad,
a thrwy anras mawr a bwriad
i lladd ei hun wrth glun ei cariad?
Na wnan, peidian;
os mynan, bygythian;
i'w cariad, ymroddan;
ac yn ufudd, gwasanaethan.

Troelus, pes fy chwaer naturiol fyddai
yn drwm achos o'th gaeth feddyliau,
onis gwnai pob peth i'r gorau
y llaw hon yn wir a'i lladdai.
Datod galon blethedig
mewn meddyliau gorthrymedig;
nid oes dim help gan feddyg
lle bo'r briwio'n guddiedig.

Troelus
Os rhaid i minnau bellach ddywedyd
pwy ydyw'r ferch a'm rhoes mewn penyd,
y mae pawb yma yn adwaenyd,
hon yw'r lân arweddaidd Cresyd.
Er nych, er poen, er galar,
er dwyn marwolaeth gynnar,
ni chaiff ar y ddaear
wybod hyn onid Pandar.

Pandar
O Troelus, er hyd y triniaist ofid
fe wnaeth cariad â thydi lendid.
Am synnwyr, rhinwedd, gwedd a phryd
dy gymhares yw Cresyd.

Meddwl, Troelus, trwy lawenydd naturiol,
fel y mae Cresyd yn ddaionus rinweddol,
felly y bydd i ti'n drugaror synhwyrol,
os medri oddi wrthi mewn pethau anghenrheidiol.
A medryd peidio
â rhoi dy waed mewn cyffro.
Ni all rhinwedd, lle y byddo,
â chywilydd gytuno.

Y tir sy'n dwyn y gwyg a'r chwyn yn chwannog;
yr tir sy'n dwyn iachus lysiau gwresog;
nesaf i'r boeth ddanhadlen bigog
mae'n tyfu yr eswmyth rosyn rhowiog.
I'r dyffryn, nesa yw'r mynydd;
i'r tywyllnos, nesa yw'r gloywddydd;
nes yw'r doeth na'r ffŵl yn gelfydd;
nesa i drymder yw llawenydd.

Edrych, am dy fod yn dyner wedi dy ffrwyno,
i'th helpu mewn amser gad i'r traeth dreio,
onide ofer yw'r boen sydd i'th helpio;
y synhwyrol a erys yw'r un[neb] a brysuro.
Bydd gywir dy ymddygiad,
bydd ddyfal a chaead,
bydd ufudd a gwastad
i wasanaethu dy gariad.

Troelus
Pandar, Pandar, nis medraf draethu fy meddwl!
Synhwyrol wyt, ti a wyddost y cwbwl.
I'r ych a gerddo ni raid un swmbwl;
i amddiffyn fy einioes ti a ddaethost mewn trwbwl.
Gorchymyn y cwestiwn
at un ferch a garwn;
fy hoedl pe'i collwn,
ei digio nis mynnwn.

Pandar
Fy llaw, fy mywyd,
fy ngore i ti wneuthud,
fy nith, fy anwylyd,
fy nghares yw Cresyd.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19