g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 15

GOLYGFA 15

Troelus
(i Cassandra)
Am fi'n cysgu, noswaith, yn syrn flin, Cassandra,
mi a freuddwydiais yn y modd i chwi y ddoeda:
mi am gwelwn mewn forest yn rhodio ac wylo y byddwn
o gariad ar ryw ferch ryw amser a adwaewn.
Gwelwn, wrth rodio am gylchion,
ryw faedd ac yscithredd creulon;
a'r baedd ydoedd yn cysgu
a'r haul arno yn llewyrchu.

Yn cusanu y baedd yma, mi a welwn Cresyd,
ac ai deufraych yn bleth amdano y gwelwn hefyd.
Trwy chwithder a dychryn ei gweled yn y fath fodd
ac felly yr ofn yma o'n cyntyn a'm deffrodd.
Er pan welais y breuddwyd,
yr wyf mewn gofal ac arswyd,
yr wyf fi yn erfyn ac yn damuno
i chwi roddi deallt arno.

Cassandra
F'anwylyd Troelus, os deallt y breuddwyd yma a fynwch,
a chlywed y gwirionedd amdana a chwnychwch,
mae'n rhaid i chwi glywed hen ystoriau lawer
a hanes argwlyddi perthynasol i hyn o fater.
Ac felly y cewch chi wybod
o ble mae'r baedd yn dyfod,
a phwy ydiw'r baedd hefyd,
fel y mae hen lyfre yn doedyd.

Diane, hon sy mewn digofaint mawr a diclloni
wrth Roegwyr ar achos am na aberthen iddi,
a phan welodd y dduwies y llyn yma ei dirmygu,
hi a fagodd greulondeb ac a weithiodd drygioni.
Trwy faedd creulon ffyrnig
yn gimyn ac ych pascedic;
hwn yw distriwio ei gwinydd,
ei hyde a'i perllanwydd.

I ladd y baedd yma, fo goded pobl lawer;
y mysg y rhain, fo ddoeth arglwydd Meleager.
Hwn oedd yn cari rhyw ferch lan, anianol,
hon oedd yn aros yn y wlad yn wastadol.
I'r baedd y doeth gwrthwyneb
trwy nerth a grym gwroldeb;
y baedd ei hun a laddodd,
a'i ben i hon a hebryngodd.

A'r baedd hwn sy'n arwyddo Diomedes mab Tideus;
hwn sy'n dowod o Feleager fel y clywsoch, Troelus.
Ble bynnag y mae Cresyd, dy arglwyddes anwyl dithe,
mae hi yn eiddo Diomedes, a Diomedes yn ei heiddo hithe.
Hawdd y gelli fynd yn drymgla
allan o ddadl yw hyn yma;
Diomed sy'n ei meddwl yr owran
a thithe, Troelus, y sydd allan.

Troelus
Celwydd, gyfarwyddes, yw dy drafferthus eirie gweigion,
a'th holl anuwiol broffodoliaethu ffeilsion!
Di a fynni fod dy fuchedd a'th chwedle di'n dduwiol
a thithe'n codi chwedlau ar arglwyddesau rhinweddol.
Duw a drefno i ti brudder —
ffwrdd o'm golwg mewn amser;
yn wir, nid hwyrach y byddi
yn gelwyddog, cyn yfory.

Cyn hawsed y gelli ddoedyd y celwydd yma
ar rinweddol Alceste, ei ddoedyd ar Gresyda;
gwr hon, pan oedd mewn perygl mawr amdano,
naill ai gorfod marw ei hunan a'i rhoi un i farw drosto,
Hon a ddewisodd gydfod
a marfolaeth droes ei phriod.
Gwn mae felly y gwnai Cresyd
cyn colli Troelus ei fywyd.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19