g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 16

GOLYGFA 16
BRWYDR FFYRNIG RHWNG TROEA A GROEG.

Deiffobws
Edrych, Troelus, mi a ddugum arfau gwynion Diomedes,
er hyn y gŵr yn ddifriw gennym a ddienges.
Fe fu acw ymladd creulon dros ychydig amser;
fe frifwyd yn ddrwg sypyn, ac a las llawer.

Milwr
Beth yw'r tegan yma a'r gwychder
sydd yn rhwym o fewn ei goler?
Dyma arwydd fod Diomedes
yn gwasanaethu rhyw arglwyddes.

Troelus
O Cresyd, f'anwylyd, o f'arglwyddes eurbleth,
ble mae'r owran eich addewid, na phle mae'r crediniaeth?
Ble mae'r cariad? Ble mae'r gwirionedd, Cresyd?
Diomedes sydd yr owran yn cael arnoch chwi ei wynfyd.
Hyn yma a ddygaswn,
a hyn drosot a dyngaswn,
er dywedyd ohonot anwir
na buesit byth anghywir.

Pwy o hyn allan i'th lyfau di, Cresyd, a goelia?
Gwae fi, tyngaswn nas gwneuthit byth hyn yma.
Pwy a feddyliai fod ynddot ti feddwl cyn anwadaled,
na phwy a dybiai fod dy galon di cyn greuloned
â lladd dyn truan diniwed
trwy dwyll a thrwy ymddiried?
Gwae fi erioed o ddigwyd
i ti, Cresyd, anonestrwydd.

Oedd yr un arwydd gennyt ti i'w roddi
i'th newydd gariad ond hwn i'w lawenychu?
Ar hwn llawer heilltion ddagrau a wylais;
i ti er mwyn dwyn cof amdanaf y rhoddais,
a thithau er cas arnaf
i Diomedes rhoist hwn yma.

Wrth hyn y gwn fy mod yn rhy drwstan,
gan ddarfod i chwi fy mwrw o'ch meddwl allan.
Er yr holl fyd eich bwrw chwi nis medraf,
allan o'm meddwl un chwarter awr nis gallaf.
Ar amser drwg y'm ganed,
pawb a ŵyr hyn wrth glywed:
chwychwi dwyllodrus i mi,
a minnau er hyn i'ch caru.

Trefna im, Arglwydd, er dwyn mawr artaith,
gyfarfod â Diomedes yma unwaith;
trefna im nerth ac amser eilwaith;
mi a wnaf i'w galon waedu am draeturiaeth.
Atolwg ti, Arglwydd, edrych
am y pethau hyn yn fynych:
os gadewch chwi hyn heb dramgwydd,
y cyffelyb a all ddigwydd.

O, Pandar, ti a erchaist im na choeliwn i freuddwydion;
gwêl modd y digwyddod hyn yn rhy unuion;
gwêl mor gywir yw dy annwyl nith Cresyd;
meddi ti "er dim hi a gywirai dy addewid"!
Mynych y mae'r duwiau
yn dangos hyn o wyrthiau
ac yn rhybydd o'n cyntun
o'r pethau sydd i'n herbyn.

Ar y gwir wirionedd heb chwaneg o eiriau y dywedaf:
o'r dydd hwn allan, cyn gynted ag y gallaf,
fy marwolaeth greulon ar flaen yr arfau a gyrchaf,
a'm trafferthus flinder ar unwaith a diweddaf.
O hyn allan fe ddywedir
dy fod, Cresyd, yn anghywir.
Ni chaiff undyn byth ddywedyd
fod Troelus yn ffals i Cresyd.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19