g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 13

GOLYGFA 13

Troelus
Bellach mae yn canlyn y goleubryd siriol Fenws
rhyd y cynefin lwybr y disgynes ar i wared Phebws;
bellach, mae Citherea ai chyfle i gwagen yn tynny
ac yn troi allan o'r llew hyd y mae ei gallu.
Mae signiffer yn gole
y ddaear a'i chanwylle;
bellach, mai rhyfeddod
am Cresyd yma yn dywod!

O arglwydd Ciwpid, mawr fi i mi dy anrugaredd,
pan atgoffaf fy hun o'm holl ddrwstan fuchedd,
ac fel y blinaist bob dydd yn waeth na'i gilydd:
fy muchedd i yn ystori i'r byd i gyd a ddigwydd.
Pa oruchafiaeth sydd i ti
bob amser fy ngorchfygu?
Mi a ymrois i ti yn ffyddlon,
er dy gael yn arglwydd creulon.

Planna yng nghalon Cresyd y fath ewyllys ddyfod cyn gynted fel y rhoddaist i mi hiraeth a chwant am ei gweled.

Y diwrnodiau a'r nosweithiau a fu'n hwy o lawer
nag y byddai y rhain arferol o fod bob amser;
yr haul a gerddes ei gwmpas ar gam yn bellach,
neu mae'n myned i'w siwrnai yn annibennach.
Y degfed ddydd aeth heibio,
Y ddegfed nos yw heno;
yn llawen bellach y'm gwelir
os yw'r byd i gyd yn gywir.


Troelus yn cerdded i'r man cyfarfod trwy'r olygfa nesaf, yn disgwyl yno.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19