g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 5

GOLYGFA 5

Rhagddoedydd
Yn yr amser yma y digwyddodd y Groegwyr wrth fod yn wastadol wrth ymladd tan walie Troea, yn garcharur, Antenor, un o uchelwyr Troea.
Yn hyn, fo godes hiraethmawr ar Galchas am ei ferch Cresyd ac ofn rhag dyfod tramgwydd i'r dref Troea mewn amser disymwth, ac yn hyn colli ei ferch, y fo a syrthies ar ei linie ger bron Agamemnon un o frenhinoedd Groeg i ddeisyf cael Antenor i'w roddi yn gyfnewid am Gresyd.

Calchas
Gwybyddwch, f'arglwyddi, mai Troean y'm genedigaeth;
gwybyddwch mai myfi a ddwg i chwi gyntaf oruchafiaeth;
gwybyddwch mai myfi yw'r arglwydd Calchas,
yn eich holl flinder a wnaeth i chwi urddas.
Mi a fum yn proffwydo
bob amser i'ch cysuro
y dinistriech chwi â rhyfel
tref Troea cyn ymadael.

Deuthum fy hun atoch mewn malais
i roddi i chwi fy holl gyngor a'm dyfais,
heb edrych unwaith am ddim ar a wyddoch
ond rhoddi i gyd fy ymddiried ynddoch.
Y cwbwl i gyd y gollais
o fewn Troea ar a feddais;
diwgyn gennyf, trwy feddwl,
er eich mwyn chwi, golli'r cwbwl.

Pan fum yn aberthu i Apolo ddiwaetha,
o'r rhyfel gofynais a'i ateb oedd hyn yma:
fod y "dialedd yn agos ar ddigwyddo iddi" —
hyn a wn hefyd trwy reol Astronomi —
y bydd tân a gwreichion
dros Droea yn greulon,
a'r dialedd hyn sydd agos,
cyn pen y nawfed wythnos.

Hefyd mae Neptun a Ffebws, y duwiau
y rhain a wnaeth o bobtu y caerau,
yn ddicllon iawn wrth genedl Troea,
oblegid hyn bydd haws eu difetha.
Oherwydd nas talent
i rhain y pethau a ddylent,
caerau hon a losgir
a'i phobl a distrywir.

Ond unferch, hon yn wirion, gartref a adewais
(pan gollais i o Droea) yn ei gwely'n ddifalais.
Annaturiol dad a chreulon iddi oeddwn,
hon gyda mi yn ei huncrys nas dygaswn.
Gan hiraeth a gofalon
a hir ddygais i'm calon
nis gallaf, fy arglwyddi,
yr owran mo'r byw hebddi.

Llawer yr owran o garcharwyr a ddalied
o'r Troeans - mae'r rhain mewn mawr gaethiwed.
Pes cawn un o'r rhain yma i gyfnewid
â brenin Priaf am fy unferch Cresyd:
atolwg i mi gaffael
un o'r rhain yn fy ngafael
a deisyf cael Antenor -
hwn nid hawdd mo'i hepgor.

Agamemnon
Diomedes, i Droea, at Frenin Priaf cerddwch,
deisyfwch arno roddi in tair wythnos o heddwch
fel y gallwn ninnau ein carcharwyr gyfnewid.
Ni a rown iddynt Antenor ar cael Cresyd.
Llai o amser nis gwasnaetha,
trwm fu'r ymladd diwaetha,
i feddyginiaethu'r rhai a frifwyd
ac i gladdu'r rhai a laddwyd.

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19