g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19

Troelus a Chresyd (1590)

Anyhysbys
add. Steffan Donnelly

Ⓗ 2017 Steffan Donnelly
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Golygfa 17

GOLYGFA 17
Mae gweiddi bod byddin Troea yn nesau at y ddinas a bod sawl marwolaeth ar y ddau ochr, mae cynnwrf mawr.
Diomedes yn paratoi i ail-ymuno a'r brwydr, yn gwthio Cresyd oddi wrtho.
Mae rhai yn edrych a'n clywed hyn:

Diomedes
(wrth Cresyd)
Ti yw butain i'r Troeaid erioed er pan y'th aned,
dos ymaith o'm golwg, na ad im byth dy weled!
Yr owran ym mysg Groegwyr fwyfwy'n puteinia:
os doi di byth lle y byddwyf, â'r cledd hwn y'th laddaf.
Y neb a wnelo ddeunydd
ar butain ffals ei deurudd!
Dos ymaith i buteinia:
na ad dy weled mwy ffordd yma.


Diomedes yn mynd ymaith.

Cresyd
Fenws a Ciwpid, chwi a roesoch im ysbrydol atebion,
mai myfi a fyddai flodeuyn o fewn Troea dirion.
Fy nglendid i a'm llawenydd a droed i ofalon:
yr wyf fel dyn anrhyglyddus o gymdeithas dynion.
Pwy bellach a'm hymgeledda?
Pa ryw ddiwedd a ddaw arna?
Diomedes a'm gwrthododd
a Troelus wrthyf a sorrodd.

Gwnaethoch im goelio fod cariad yn fy wyneb yn tyfu,
ac y cedwych chwi bob amser y cariad hyn heb ddiflannu.
Tydi, fachgen anheilwng, dy eiriau a'm rhoes byth mewn gofal,
efo dy fam Fenws, y dduwies ddall anwadal.
Ond yr owran y rhew a'i llosgodd,
a'r had i mi nis ffynnodd.
Anghywirdeb ydyw'r achos
nis gall cariad-ddyn mo'm haros.

Rhagddoedydd
Mae Cresyd ar hyn yn llesmeirio a Ciwpid yn tincio cloch arian ac yn galw y duwiau i'r un lle.


Yn gyntaf mae Sadwrn yn dyfod megis carl anserchus; ei wyneb yn grych un lliw ar blymen; ei ddannedd yn ysgydwyd a'i en yn crynu a'i lygaid yn eithaf ei ben.
Allan o'i drwyn y dwr yn rhedeg; ei wefyle yn fawr ac yn chwythlyd, ei ruddie yn gulion ac wrth ei wallt y pibonwy ia yn ysgydwyd.
Ei ddillad yn llwydion ac wedi i'r gwynt ei gwisgo allan; yn dwyn yn ei law fwa anferth a than ei wregis yr oedd saethau ac esgill o ia a penned o rew.
A hwn yw duw a llywodraethwr y gwynt.

Yn nesaf y doeth Mars, duw y diclloneb, yr ymladd, y rhyfeloedd, a'r creulondeb; mewn arfau gwnion, cledion, ac yn ei law yr oedd hen gleddyf rhydlyd a'i ysgydwyd.
Ei wyneb yn danllyd a'i lygaid fel y marwow, ac wrth ei safn yr ewyn yn burmo fel y baedd, ac mewn corn yn chwythu onid oedd y creigiau yn darstian ar ddaear yn crynu.

Y trydydd ydoedd Venus yn dyfod i fyntimio achos ei mab Ciwpid mewn mursenaidd wisg; ei gwallt yn felynwyn a'i lliw yn fynych yn cyfnewidio — weithie yn chwerthin, weithie yn wylo, y naill amser yn ddig a'r llall yn llawen; yn cymysg geiriau duon a mursendod, a'r naill lygad yn chwerthin a'r llygad arall wylo, yn arwydd fod pob cariad cnowdol, hwn sydd tan ei rheolaeth hi, weithie yn felus, weithie yn chwerw, weithie yn frwd, weithie yn oer, weithie yn llawen, weithie yn brudd, yn owran cyn wyrdded a'r ddeilen, ac yn y fan wedi pallu a diflannu.

Y pedwerydd ydoedd Mercwri; hwn oedd ei lyfr yn ei llaw; yn drwyadl ac yn fwythys o'i barabl ac yn gall o'i resymau a chantho bin a chorn du yw atgoffau a'r pethe a glywe.
Yr oedd yn arwain blyche a llawer a felysaidd gyffuriau, a'i wisg oedd fel athro o bysygwriaeth, mewn gown o gra coch wedi rhoi pan ynddo yn gynes ac yn glyd; ac heb fedryd siarad mor celwyddau.

Y pumed a'r diwethaf oedd arglwyddes Synthia; hon a elwir y lleuad, ei lliw yn ddu a megis dau gorn yn tyfu ohoni; a'r nos yr oedd yn llewyrchu yn olau; ei heglwrdeb mae yn ei fenthygio gan ei brawd Teitan.
Ei lliw yn las yn llawn o fryche duon, a lun gwr a baych o ddrain ar ei gefn yn ei chanol, hwn am ei ladrad nis galle ddringo nesach na hynny at y nefoedd.

Yno, pan gyfarfu y pum duw yma yn yr un lle —

Ciwpid
(wrth y Duwiau)
Syrs, y sawl a ddirmygo ei dduw ei hun yn annuwiol
ar ei air neu ar ei weithred er trwstaneiddrwydd bydol,
i'r duwiau eraill i gyd mae'n gwneuthur cywilydd a cholled
a hwn a ddylai ddwyn cosbedigaeth galed.
Hyn a wnaeth y ffilog yma, Cresyd,
a fu gynt yn ben ar lendid.
Yr owran mae yn rhoi beiau
ar waith Fenws a minnau,

yn dywedyd ac yn achwyn am ei rhyglyddus ddrygioni
mai fy mam a minnau oedd yn achos o hynny;
yn galw Fenws yn dduwies ddall, anwadal,
a llawer o ddrwg eiriau anosbarthus, gwamal.
Hi a fynn fwrw atom ninnau
ei godinebus fuchedd hithau.
I hon erioed dangosais
gymaint o help ag y gellais.

Ac yn gymaint â bod hyn atoch chwi eich pump yn perthyny,
a chwithau'ch pump yn rhannog o'r holl ysbrydol allu,
y neb a wnaeth gam i'ch uchel alwedigaeth
a ddylech chwi ei gosbi â thrwm gosbedigaeth.
Ni chawsoch, mi a wrantaf,
y fath gamfraint â hyn yma.
Cytunwch am y dialedd
a rowch arni am y camwedd.

Rhagddoedydd
Fe ddarfu y Duwiau ddewis Mercuriws i siarad trostynt yn y cymanfa a'r senedd hon.

Mercuri
Syr Ciwpid, fy nyfais a'm cyngor yr owran i chwi
yw rhoddi hyn i'w lywodraethu at yr uchaf a'r isaf sy'n rheoli.
Hwy a dymherant hyn o greulon achos
ac a rônt ar Cresyd benyd, fel y gallo hi ei aros.
Barnedigaeth hyn yma
sydd arnoch, Sadwrn a Synthia.
Bernwch ar odineb
ar ôl rhyglydd anghywirdeb.


Cresyd mewn cwsg eto, a Sadwrn uwch ei phen yn dyweyd fel hyn:

Sadwrn
Am dy annuwiol siarad yn erbyn dy rasusol dduwiau,
am dy annheilwng fuchedd a'th anniolchgar rinweddau,
am dy fod mor wrthwynebus i'r drugarog Fenws,
am dy fod mor anghywir i gywir farchog Troelus,
dy bryd, dy wedd, dy lendid,
dy rinwedd a'th holl olud
o'r awr hon allan, Cresyd,
yr wyf i'w ddwyn i gyd oddi wrthyd.

Yr wyf yn cyfnewid dy lawenydd i felancoli bob amser,
hon sydd fam i bob tristwch trwm a phrudd-der;
dy wres, dy wlybwr i oerfel a sychdwr poenus,
dy nwyf, dy chwarae i glefydau annioddefus,
dy holl wychder trafferthus
i eisiau mawr, anghenus,
ac felly fyw yn ddiwres
a marw yn fegeres.


Cresyd yn deffroi yn gweled a gwrando ar hyn:

Synthia
Yn lle iechyd corfforol cymer dragwyddol ddoluriau;
ni all meddyg na physgwr byth help i'th gleddyfau.
Bob dydd bwygilydd ychwanega dy brudd-der,
dy galon o'r diwedd a dyrr wrth hir drymder.
A phob dyn drwg ei dafod
â'th enw a fynn gydnabod.
Fe a'th drewir di ar ddannedd
pob merch am dy anwiredd.

Dy risial olwg a fydd yn waedlyd gymysgiad;
dy eglur lais melys a droir yn oerddrygnad;
'rhyd dy ddeurudd wastad y tardd byrchau duon diffaith;
i ble bynnag y delych pawb a ffy oddi yno ymaith.
Dy fywyd fydd hyn yma
o dŷ i dŷ cardota
â'th gwpan di a'th glaper
o hyn allan fydd dy arfer.


Cresyd yn cymryd drych i weled ei chysgod a hitheu wedi ei chyfnewid.

Cresyd
Barned pob dyn a'm gwelodd oes achos i mi o brudd-der,
hyn yw'r daledigaeth am gyffroi y duwiau uchelder
ac am fod yn anghywir i farchog ufudd parod.
Pob llawenydd bydol, o hyn allan rwy'n dy wrthod.
Gwae i'r awr a gwae i'r diwrnod
ac ugain gwae i'r tafod
a chan wae i fab Tideus
a chan hawddmor fyddo i Troelus!

g1g2g3g4g5g6g7g8g9g10g11g12g13g14g15g16g17g18g19